Cynulliad Cenedlaethol Cymru
The National Assembly for Wales

 


Cofnod y Trafodion

The Record of Proceedings

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth, 4 Hydref 2011

Tuesday, 4 October 2011


Cynnwys
Contents

 

3......... Cwestiynau i’r Prif Weinidog

........... Questions to the First Minister

 

30....... Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

 

36....... Datganiad: Y Gyllideb Ddrafft
Statement: Draft Budget

 

61....... Datganiad: Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru Statement: Access to Welsh Laws and Developing a Welsh Statute

 

76....... Datganiad: Rhaglenni Ewropeaidd yn y Dyfodol yng Nghymru

........... Statement: Future European Programmes in Wales

 

86....... Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth Supplementary Legislative Consent Motion on the Localism Bill

 

89....... Yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy
The Sustainable Development Annual Report

 

112..... Cyfnod Pleidleisio

........... Voting Time

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn ogystal, cynhwysir cyfieithiad Saesneg o gyfraniadau yn y Gymraeg.

 

In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In addition, an English translation of Welsh speeches is included.


 

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.

The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

 

Y Llywydd: Prynhawn da. Galwaf Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

The Presiding Officer: Good afternoon. I call the National Assembly for Wales to order.

 

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

 

 

Tlodi

Poverty

 

1. Christine Chapman: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddileu tlodi yng Nghymru. OAQ(4)0146(FM)

 

1. Christine Chapman: Will the First Minister provide an update on what the Welsh Government is doing to eradicate poverty in Wales. OAQ(4)0146(FM)

The First Minister (Carwyn Jones): Tackling poverty is a fundamental priority for the Welsh Government, and an anti-poverty action plan is currently being developed.

 

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Mae mynd i’r afael â thlodi yn flaenoriaeth sylfaenol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae cynllun gweithredu gwrthdlodi yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

 

Christine Chapman: Despite that progress, there is still an unacceptably high number of Welsh children living in poverty, which is exacerbated by the catastrophic cuts made by the UK Government. The indicators by which we assess child poverty have changed from those of a generation ago, and that is part of the challenge. Sometimes, there is a lack of understanding of the true nature of child poverty. What more can we do to ensure that child poverty, and the consequences of not solving it, remain at the forefront of both public awareness and the awareness of the agencies that have a role to play?

 

Christine Chapman: Er gwaethaf y cynnydd hwnnw, ceir nifer annerbyniol o uchel o blant Cymru yn byw mewn tlodi, a waethygir gan y toriadau trychinebus a wnaed gan Lywodraeth y DU. Mae’r dangosyddion yr ydym yn defnyddio i asesu tlodi plant wedi newid i’r rhai cenhedlaeth yn ôl, ac mae hynny’n rhan o’r her. Weithiau, ceir diffyg dealltwriaeth o wir natur tlodi plant. Beth yn rhagor y gallwn ni ei wneud i sicrhau yr erys tlodi plant, a’r canlyniadau o beidio’i ddatrys, ar flaen y gad o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ymwybyddiaeth yr asiantaethau sydd â rôl i’w chwarae?

The First Minister: The child poverty strategy, which was published on 3 February, gives a clear account of what we can achieve as a Government in helping to reduce poverty. It contains, of course, three new strategic objectives for tackling child poverty for the period 2011 to 2014.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r strategaeth tlodi plant, a gyhoeddwyd ar 3 Chwefror, yn rhoi cyfrif clir o’r hyn y gallwn ei gyflawni fel Llywodraeth i helpu i leihau tlodi. Mae’n cynnwys, wrth gwrs, tri amcan strategol newydd ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant ar gyfer y cyfnod 2011 i 2014.

Mark Isherwood: The report, ‘Children in severe poverty in Wales: an agenda for action’, published by Save the Children in February, said that Wales has the highest proportion of severe child poverty of the four UK nations. In July, the Joseph Rowntree Foundation report, ‘Monitoring poverty and social exclusion 2010’ found that improvement in the child poverty rate between the mid 1990s and mid 2000s in Wales had been lost in the previous five years. The Welsh Government’s new child poverty target requires the rate to fall four times as fast over the next 10 years as it has over the last 10. How, therefore, do you respond to the call in the Save the Children report for joint action at a UK and devolved level, with the two Governments working together to devise a plan to tackle severe child poverty?

 

Mark Isherwood: Dywed yr adroddiad, ‘Plant mewn tlodi difrifol yng Nghymru: agenda ar gyfer gweithredu’, a gyhoeddwyd gan Achub y Plant ym mis Chwefror, bod gan Gymru’r gyfran uchaf o dlodi plant difrifol o bedair gwlad y DU. Ym mis Gorffennaf, canfu adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree, ‘Monitro tlodi ac allgau cymdeithasol 2010’ bod gwelliant yn y gyfradd tlodi plant rhwng canol y 1990au a chanol y 2000au yng Nghymru wedi’i golli yn y pum mlynedd flaenorol. Mae targed tlodi plant newydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am y gyfradd i ostwng pedair gwaith mor gyflym dros y 10 mlynedd nesaf ag yw hi wedi’i wneud dros y 10 mlynedd diwethaf. Sut, felly, ydych yn ymateb i’r galw yn adroddiad Achub y Plant am weithredu ar y cyd ar lefel y DU a lefel ddatganoledig, gyda’r ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i lunio cynllun i fynd i’r afael â thlodi plant difrifol?

 

The First Minister: We are happy to work with the UK Government when it comes to dealing with child poverty, and we expect a commitment from it that it will continue to take child poverty seriously.

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn hapus i weithio gyda Llywodraeth y DU pan ddaw i ymdrin â thlodi plant, ac rydym yn disgwyl ymrwymiad ganddi y bydd yn parhau i ystyried tlodi plant o ddifrif.

Lindsay Whittle: In the Western world, poverty is very much a relative term. If you have no roof over your head, that, in my opinion, is real poverty. What steps is the Government taking to ensure that local authorities are meeting their full obligations to provide housing to those who desperately need it and are in priority need?

 

Lindsay Whittle: Yn y byd gorllewinol, mae tlodi yn derm cymharol iawn. Os nad oes gennych do dros eich pen, hynny, yn fy marn i, yw tlodi gwirioneddol. Pa gamau ydy’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn bodloni eu rhwymedigaethau llawn i ddarparu tai i’r rhai sy’n daer eu hangen ac mewn angen blaenoriaethol?

 

The First Minister: Local authorities have their responsibilities in terms of providing housing, and you will know that we have targets with regard to the number of houses that we wish to see built every year. We know that good progress was made in the previous four years of Government, particularly with the Government of the day, and we want to build on that progress.

 

Y Prif Weinidog: Mae gan awdurdodau lleol eu cyfrifoldebau o ran darparu tai, a byddwch yn gwybod bod gennym dargedau o ran nifer y tai y dymunwn weld wedi’u hadeiladu bob blwyddyn. Rydym yn gwybod y gwnaed cynnydd da yn ystod pedair blynedd diwethaf y Llywodraeth, yn enwedig gyda Llywodraeth y dydd, ac yr ydym am adeiladu ar y cynnydd hwnnw.

Peter Black: First Minister, you will know that one of the best ways of dealing with poverty is to give young people opportunities in terms of better education and skills. How will your forthcoming budget, which will be published later this afternoon, target in particular those young people who are growing up in poverty to ensure that they have those opportunities and get the education and skills needed to apply for decently paid jobs and therefore get out of poverty?

 

Peter Black: Brif Weinidog, byddwch yn gwybod mai un o’r ffyrdd gorau o ymdrin â thlodi yw i roi cyfleoedd o ran well addysg a sgiliau i bobl ifanc. Sut bydd eich cyllideb sydd i ddod, a gyhoeddir yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn targedu yn arbennig y bobl ifanc hynny sydd yn tyfu i fyny mewn tlodi i sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd hynny ac yn cael yr addysg a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud cais am swyddi gyda chyflogau da ac felly yn dod allan o dlodi?

The First Minister: I do not want to pre-empt the budget statement, but you will be aware that it is a manifesto commitment of this Government to increase education funding by 1 per cent a year, when taking into account the size of the block grant that we receive from Westminster.

 

Y Prif Weinidog: Nid wyf am achub y blaen ar y datganiad cyllideb, ond byddwch yn ymwybodol ei fod yn ymrwymiad maniffesto’r Llywodraeth hon i gynyddu cyllid addysg 1 y cant y flwyddyn, gan ystyried maint y grant bloc a gawn gan San Steffan.

Lefelau Cyflogaeth

Employment Levels

 

2. Gwyn R. Price: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau cyflogaeth yng Nghymru. OAQ(3)0143(FM)

2. Gwyn R. Price: Will the First Minister make a statement on employment levels in Wales. OAQ(3)0143(FM)

 

 

The First Minister: The latest employment data show that there were 1.3 million people in employment in Wales, but we also know that the economy remains in a fragile state.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r data diweddaraf ar gyflogaeth yn dangos fod 1.3 miliwn o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru, ond gwyddom hefyd fod yr economi yn parhau mewn cyflwr bregus.

 

Gwyn R. Price: Thank you for that answer, First Minister. The advent of 24-hour news means that we are literally seeing the Tories sucking away prospects for growth on a minute to minute basis. That is hitting communities such as my own hard, making it increasingly difficult for young people in particular to find work. First Minister, the next time that you meet the UK Government, can you stress to it that plan A is not working?

 

Gwyn R. Price: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Mae dyfodiad newyddion 24-awr yn golygu ein bod yn llythrennol yn gweld y Torïaid yn sugno i ffwrdd rhagolygon ar gyfer twf ar sail funud i funud. Mae hynny’n taro’r cymunedau megis fy nghymuned i’n galed, sy’n ei wneud yn gynyddol anodd i bobl ifanc yn arbennig i ddod o hyd i waith. Brif Weinidog, y tro nesaf eich bod yn cwrdd â Llywodraeth y DU, a allech bwysleisio iddi nad yw cynllun A yn gweithio?

 

 

The First Minister: It is quite clear that plan A is not working; unfortunately, there does not seem to be a plan B, which I greatly regret.

 

Y Prif Weinidog: Mae’n eithaf clir nad yw cynllun A yn gweithio; yn anffodus, nid yw’n ymddangos fod cynllun B, yr wyf yn gresynu hynny’n fawr.

Darren Millar: First Minister, I listened carefully to your answer, and what you did not say is that Wales has the least competitive business rates regime in the United Kingdom, and that that is contributing to uncertainty, particularly for small business that could do so much better if they were taken out of paying business rates altogether. Will you give careful consideration to our party’s proposals to exempt businesses whose rateable value is under £12,500 from paying business rates, in order to give them the confidence to create new jobs in the Welsh economy?

 

Darren Millar: Brif Weinidog, gwrandewais yn ofalus ar eich ateb, a’r hyn na ddywedasoch yw bod gan Gymru’r drefn ardrethi busnes lleiaf cystadleuol yn y Deyrnas Unedig, a bod hynny’n cyfrannu at ansicrwydd, yn enwedig ar gyfer busnesau bach y gallai wneud yn well o lawer os nad oeddent yn gorfod talu ardrethi busnes o gwbl. A roddwch ystyriaeth ofalus i gynigion ein plaid i eithrio busnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £12,500 rhag talu ardrethi busnes, er mwyn rhoi hyder iddynt greu swyddi newydd yn economi Cymru?

The First Minister: You will know that the small business rate relief scheme is in place until September of next year. Unfortunately, we do not have the magic money tree that seems to grow in Conservative party headquarters. Conservatives like to come up with uncosted policies that they know full well cannot be afforded.

 

Y Prif Weinidog: Byddwch yn gwybod bod y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn ei le tan fis Medi’r flwyddyn nesaf. Yn anffodus, nid oes gennym y goeden arian hud sydd fel petai’n tyfu ym mhencadlys y Blaid Geidwadol. Mae’r Ceidwadwyr yn hoffi llunio polisïau heb eu costio y gwyddant yn iawn na allwn fforddio.

Kenneth Skates: This morning, the credit card giant, MBNA, announced that it will cut 400 jobs at its Chester centre, despite announcing a profit of £348 million last week. Bank of America, of which MBNA is a part, says that most of the jobs losses will be voluntary. However, this will be a body blow to many families in north-east Wales. Do you agree that that is an example of the worst kind of short-term thinking that pervades the banking sector at the moment? Will you also examine how retraining support could be offered to those banking sector workers who live in north-east Wales?

 

Kenneth Skates: Y bore yma, fe wnaeth  gawr cardiau credyd, MBNA, gyhoeddi y bydd yn cwtogi 400 o swyddi yn ei ganolfan yng Nghaer, er gwaethaf cyhoeddi elw o £348 miliwn yr wythnos diwethaf. Dywed Banc America, y mae MBNA yn rhan ohono, y bydd y rhan fwyaf o golledion swyddi yn wirfoddol. Fodd bynnag, bydd hyn yn ergyd drom i lawer o deuluoedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. A ydych yn cytuno bod hynny’n enghraifft o’r math gwaethaf o feddwl tymor byr sy’n treiddio trwy’r sector bancio ar hyn o bryd? A wnewch chi hefyd edrych ar sut y gellid cynnig cymorth ailhyfforddi i’r gweithwyr hynny yn y sector bancio sy’n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru?

 

The First Minister: As you will know, we have invested heavily in retraining over the past three or four years. Many people working at the Bank of America work on this side of the border, but I agree that it is important that, where business decisions are taken, they are not taken on a short-term basis. Rather, they should be planned for the longer term. 

 

Y Prif Weinidog: Fel y gwyddoch, yr ydym wedi buddsoddi’n helaeth mewn ailhyfforddi dros y tair neu bedair blynedd diwethaf. Mae llawer o bobl sy’n gweithio yn Banc America yn gweithio ar yr ochr hon i’r ffin, ond cytunaf ei fod yn bwysig, lle y cymerir penderfyniadau busnes, na chânt eu gwneud wneir ar sail tymor byr. Yn hytrach, dylid eu cynllunio ar gyfer yr hirdymor.

Bethan Jenkins: A yw’r Llywodraeth wedi comisiynu neu gasglu unrhyw ymchwil ynglŷn â’r swyddi a gollwyd yn barod yn y sectorau sy’n rhan o gynllun adfywio economaidd y Llywodraeth, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf? Mae’r sectorau hyn yn bwysig, ond os oes swyddi wedi eu colli hoffwn gael syniad am y mannau lle gallwn gydweithredu i sicrhau bod y bylchau hyn yn cael eu llenwi yn y dyfodol.  

 

Bethan Jenkins: Has the Government commissioned or compiled any research into the jobs that have already been lost in those sectors included in the Government’s economic renewal scheme, especially over the past two years? These sectors are important, but if jobs have been lost, I would like an idea of where we can collaborate to ensure that these gaps are filled in future.

Y Prif Weinidog: Mae ystadegau’r farchnad lafur yn cael eu cyhoeddi bob chwarter. O fewn yr ystadegau hynny, mae’n bosibl edrych ar ba sectorau a gafodd eu bwrw. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl canfod yn union lle mae pob swydd wedi cael eu colli.

 

The First Minister: Labour market statistics are published every quarter. Within those statistics, it is possible to look at which sectors have been hit. However, it is not possible to find out exactly from which sector every job has been lost.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

 

Questions Without Notice from the Party Leaders

Arweinydd Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): A yw’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen pecyn i hybu’r economi, ac felly fod angen chwistrelliad o gyfalaf? Yr ydych yn dweud yn y rhaglen lywodraethu eich bod am archwilio ffyrdd arloesol a chydweithredol i godi cyfalaf i fuddsoddi yn y seilwaith gwasanaethau cyhoeddus. Gan nad yw’r ddogfen yn dweud sut y byddwch yn cyflawni hyn, sut y byddwch yn mynd ati i wireddu’r amcan hwnnw?

 

The Leader of Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Does the First Minister agree that a package is needed to boost the economy, and that an injection of capital is therefore required? You say in the programme for government that we want to explore innovative and collaborative means of raising capital to invest in public service infrastructure. Given that the document does not say how you will achieve this, how will you go about delivering that objective?

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn cyd-fynd â’r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddweud; dyna pam yr ydym am sicrhau bod pwerau benthyca yn dod i Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl, o gofio am y trafod a fydd yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd yn broses a gefnogir gan bob plaid yn y Cynulliad.

 

The First Minister: I would go along with what the leader of Plaid Cymru says; that is why we want to ensure that borrowing powers come to the Welsh Government as soon as possible, bearing in mind the discussions that will take place between the Welsh Government and the UK Government, which is a process that is supported by every party in the Assembly.

Ieuan Wyn Jones: Pan fo eich dogfen yn sôn am archwilio ffyrdd arloesol, yr wyf yn cymryd eich bod yn golygu rhywbeth sy’n mynd ymhellach na benthyca. Mae benthyca yn rhywbeth yr ydym i gyd yn cytuno arno, ond a fyddech yn cytuno bod yn rhaid inni fynd ymhellach na hynny? Mae diffyg arian cyfalaf yn sialens enfawr—bydd y Llywodraeth yn colli £800 miliwn mewn termau real erbyn 2014, sy’n cyfateb i doriad o dros 46 y cant o gymryd chwyddiant i ystyriaeth. O ran y rhaglen ddrafft yr ydych eisoes wedi ei chyhoeddi, bydd gostyngiad yn y cyllidebau addysg ac iechyd o tua 50 y cant. Felly, bydd gostyngiad sylweddol. Os ydych yn dweud eich bod am fynd ar ôl yr hawl i fenthyca—ac yr ydym yn cytuno â chi ar hynny—beth yn ychwanegol y byddwch yn ei wneud? Er enghraifft, bu trafod ar fenthyca gan ddefnyddio llywodraeth leol. Yr ydym ar ddeall nad oes trafodaethau wedi digwydd rhyngoch chi ac awdurdodau lleol. Beth yr ydych wedi’i wneud yn y maes hwnnw? Yr ydym yn gwybod am y cynllun a gyflwynwyd gennym, sef Adeiladu dros Gymru. A ydych yn bwriadu edrych ar y rhychwant eang hwnnw, neu a ydych yn dibynnu’n llwyr ar gael pwerau benthyg?

 

Ieuan Wyn Jones: When your document mentions exploring innovative means, I assume that you mean something that goes further than borrowing. Borrowing is something that we all agree on, but would you agree that we have to go further than that? The shortage of capital funding is an enormous challenge—the Government will lose £800 million in real terms by 2014, which is equivalent to a cut of over 46 per cent taking inflation into consideration. With regard to the draft programme that you have already published, the education and health budgets will be reduced by about 50 per cent. The reduction will therefore be significant. If you are saying that you want to seek the right to borrow—and we agree with you on that—what will you do in addition? For example, the use of local government powers to borrow has been discussed. We are given to understand that no discussions have taken place between you and the local authorities. What have you done in this regard? We know about the scheme that we introduced, namely Build for Wales. Do you intend to look at the broad span of that scheme, or are you going to depend entirely on getting borrowing powers?

Y Prif Weinidog: Nac ydwyf’ yw’r ateb; byddwn yn ystyried pob ffordd i godi cyfalaf yn y dyfodol. Mae’n bwysig bod y cynlluniau yr ydym yn eu hystyried yn rhai ymarferol. Y cam cyntaf yw sicrhau bod gan y Llywodraeth yr hawl i fenthyca, a sicrhau ein bod yn cael ein rhan deilwng o ran cyllid, gan gofio gwaith comisiwn Holtham. Yr ydym yn edrych ar sawl ffordd i sicrhau mwy o gyfalaf i gyllideb Cymru, ac mae benthyca’n un rhan o hynny.

 

The First Minister: ‘No’ is the answer to that; we will consider all ways of raising capital in future. It is important that the schemes that we consider are practical. The first step is to ensure that the Government has the right to borrow, and ensure that we have our proper share with regard to funding, bearing in mind the work of the Holtham commission. We are considering several ways of ensuring more capital for Wales’s budget, and borrowing is a part of that.

Ieuan Wyn Jones: Brif Weinidog—rhoddaf gyfle arall i chi—soniais am y trafodaethau posibl rhyngoch chi a llywodraeth leol i weld a fyddai modd defnyddio pwerau benthyg llywodraeth leol ar gyfer cynlluniau’r Llywodraeth, er enghraifft, ar gyfer ysgolion neu adeiladu ffyrdd. A oes trafodaethau wedi digwydd? Mae hi’n bwysig ein bod ni’n cael gwybod ble mae eich trafodaethau wedi cyrraedd. Yr ydym yn gwybod bod yn rhaid i chi fod yn uchelgeisiol ac yn rhagweithiol er mwyn i bethau symud yn eu blaen. Cwestiwn arall yr wyf am ei ofyn, yn ychwanegol at yr un am lywodraeth leol, yw: pa bwysau yr ydych wedi’i roi ar y Trysorlys i sicrhau, pe byddai chwistrelliad o gyfalaf yn dod i’r Deyrnas Gyfunol, fod Cymru’n cael rhan deg o’r arian hwnnw?

 

Ieuan Wyn Jones: First Minister—I will give you another chance—I mentioned the possible negotiations between you and local government to see whether it would be possible to use local government’s borrowing powers for the Government’s plans, for example, for schools or to build roads. Have you had any such negotiations? It is important that we know how far those negotiations have progressed. We know that you need to be ambitious and proactive if you are to take matters forward. Another question that I wish to ask, in addition to the one about local government, is: what pressure have you brought to bear on the Treasury to ensure that, if a capital injection were to be made at a UK level, Wales would receive a fair proportion of that money?

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn gwneud hynny gyda’r Trysorlys bob amser. Yr ydym wedi sefyll cornel Cymru gyda’r Trysorlys yn wythnosol, yn ddyddiol bron, ers sefydlu’r Llywodraeth hon ym mis Mai. Ynglŷn â’r trafodaethau gyda llywodraeth leol, yr ydym yn trafod materion ariannol gyda llywodraeth leol drwy’r amser. Fel y dywedais, yr ydym yn ystyried pob ffordd ymarferol o sicrhau cyfalaf i Gymru yn y dyfodol. Un ffordd fyddai sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi i Gymru yr un hawliau ag y mae’n eu rhoi i’r Alban ac i Ogledd Iwerddon.

 

The First Minister: We always do that in relation to the Treasury. We have stood up for Wales with the Treasury every week, almost every day, since the establishment of this Government back in May. On discussions with local government, we discuss financial matters with local government continuously. As I said, we are considering every practical means of ensuring capital for Wales for the future. One way would be to ensure that the United Kingdom Government gives Wales the same rights as Scotland and Northern Ireland.

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, the budget this afternoon is an opportunity for you to show us where your priorities lie. Under Labour, Wales spends £604 less per head on education than is spent in England. Wales is slipping backwards in its international rankings for reading, mathematics and science. For the last four years, Welsh children have fallen behind their English counterparts in their GCSE achievements. If this performance does not persuade you to prioritise education in your budget this afternoon, what will?

 

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, mae’r gyllideb y prynhawn yma’n gyfle i chi ddangos i ni ble mae eich blaenoriaethau. O dan Lafur, mae Cymru’n gwario £604 yn llai y pen ar addysg nag a werir yn Lloegr. Mae Cymru’n llithro yn ôl yn ei safle rhyngwladol ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae plant Cymru wedi cwympo tu ôl i’w cymheiriaid yn Lloegr yn eu cyraeddiadau TGAU. Os nad yw’r perfformiad hwn yn eich perswadio chi i flaenoriaethu addysg yn eich cyllideb y prynhawn yma, beth fydd?

 

The First Minister: You know that the Government prioritises education; you have seen our manifesto commitment with regard to funding. We will keep to that. I emphasise that spending more does not necessarily mean better delivery. The two do not run together. The education authority that spends the most on education is Blaenau Gwent, and we have seen what happened there; it is subject to special measures. Yes, extra funding is important, but so is better delivery.

 

Y Prif Weinidog: Gwyddoch chi fod y Llywodraeth yn blaenoriaethu addysg; rydych chi wedi gweld ein hymrwymiad maniffesto o ran cyllid. Byddwn yn cadw at hynny. Pwysleisiaf nad yw gwario mwy o reidrwydd yn golygu gwell darpariaeth. Nid yw’r ddau yn rhedeg gyda’i gilydd. Yr awdurdod addysg sy’n gwario fwyaf ar addysg yw Blaenau Gwent, ac rydym wedi gweld beth ddigwyddodd yno; mae’n destun mesurau arbennig. Ie, mae arian ychwanegol yn bwysig, ond felly darparu gwell.

 

Kirsty Williams: The performance of schools across Wales needs to improve. Let us consider the performance of the worst-off children in Wales. Only one in five children who receive free school meals, our poorest children, get five GCSEs at grades A* to C. Surely, you agree that that is a dreadful record for your Government. Do you not agree that we should direct extra resources to those children that need the most to help them succeed?

 

Kirsty Williams: Mae perfformiad ysgolion ar draws Cymru angen gwella. Gadewch inni ystyried perfformiad y plant tlotaf yng Nghymru. Dim ond un o bob pump o blant sydd yn cael prydau ysgol am ddim, ein plant tlotaf, sy’n cael pump TGAU graddau A* i C. Siawns eich bod yn cytuno bod hynny’n record ofnadwy ar gyfer eich Llywodraeth. A ydych yn cytuno y dylem gyfeirio adnoddau ychwanegol at y plant sydd angen fwyaf i’w helpu i lwyddo?

The First Minister: We are looking to ensure that the budget for schools is at least protected in these difficult financial times. You have heard me mention the commitment that the Government has given publicly on many occasions. I do not accept that every school in Wales is somehow not doing well; some of them are doing very well. The key is to ensure better consistency in performance across Wales.

 

Y Prif Weinidog: Rydym am sicrhau bod y gyllideb ar gyfer ysgolion yn cael ei diogelu o leiaf mewn cyfnod ariannol anodd. Yr ydych wedi clywed imi sôn am yr ymrwymiad y mae’r Llywodraeth wedi’i roi i’r cyhoedd ar sawl achlysur. Nid wyf yn derbyn nad yw pob ysgol yng Nghymru rywsut yn gwneud yn dda; mae rhai ohonynt yn gwneud yn dda iawn. Y peth allweddol yw sicrhau gwell cysondeb o ran perfformiad ledled Cymru.

 

Kirsty Williams: First Minister, two years ago you were implementing Rhodri Morgan’s budget, and last year you were implementing your coalition’s budget. This year it is your budget. Surely, the legacy of your budget this afternoon should be additional help for our poorest children to give them the skills that they need to succeed in life.

 

Kirsty Williams: Brif Weinidog, ddwy flynedd yn ôl roeddech yn gweithredu cyllideb Rhodri Morgan, a llynedd roeddech chi’n gweithredu cyllideb eich clymblaid. Eleni eich cyllideb chi ydyw. Siawns, dylai etifeddiaeth eich cyllideb y prynhawn yma fod yn help ychwanegol ar gyfer ein plant tlotaf i roi iddynt y sgiliau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.

 

The First Minister: Unless she has had the advantage of seeing the budget, the leader of the Liberal Democrats will have to wait and see what the budget statement contains.

 

Y Prif Weinidog: Oni bai ei bod hi wedi cael y fantais o weld y gyllideb, bydd yn rhaid i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol aros i weld beth yw cynnwys y datganiad ar y gyllideb.

 

1.45 p.m.

 

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): First Minister, will you be freezing council tax next year?

 

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Brif Weinidog, a fyddwch yn rhewi’r dreth gyngor y flwyddyn nesaf?

The First Minister: That is a matter for local authorities.

 

Y Prif Weinidog: Mae hynny’n fater i awdurdodau lleol.

Andrew R.T. Davies: Do you not think that, with the new money being made available to you from Westminster, it would be a sensible move by the Welsh Government to assist hard-pressed Welsh households with a freeze on council tax, bearing in mind that, in Scotland, it is being frozen for four years and that this is the second year that this is happening in England?

 

Andrew R.T. Davies: Onid ydych yn credu, gyda’r arian newydd fydd ar gael i chi o San Steffan, y byddai’n gam synhwyrol gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo aelwydydd yng Nghymru sydd dan bwysau drwy rewi’r dreth gyngor, gan gofio, yn yr Alban, ei bod yn cael ei rhewi am bedair blynedd ac mai dyma’r ail flwyddyn i hyn ddigwydd yn Lloegr?

The First Minister: For weeks and weeks, the leader of the opposition has been saying that any extra money should go to health, but now he has changed his mind and flip-flopped. Why? It is because he has been told to do so by the Secretary of State. It is unbelievable. We looked at this and the benefit for most people or most families in Wales would be £3 to £5 a month. That is all. The reason this money is being given to local authorities in England is because they have been hammered by the local government settlement, whereas we in Wales have not done that. I must say to the leader of the opposition that we will look to use this money constructively and as part of an economic package, because we believe that investment in jobs and skills is important with the economy as it is. He must understand that he is the leader of the Welsh Conservatives, not the servant of the Secretary of State. The leader of the Welsh Liberal Democrats has her own mind; she often stands up and criticises those at Westminster. His predecessor did the same. He should lead the Welsh Tories, not follow the London ones.

 

Y Prif Weinidog: Am wythnosau ac wythnosau, mae arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn dweud y dylai unrhyw arian ychwanegol fynd at iechyd, ond erbyn hyn mae wedi newid ei feddwl yn gyfan gwbl. Pam? Oherwydd bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi dweud wrtho am wneud. Mae’n anghredadwy. Edrychom ni ar hyn a byddai’r budd i’r rhan fwyaf o bobl neu y rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru yn £3 i £5 y mis. Dyna i gyd. Y rheswm y mae’r arian hwn yn cael ei roi i awdurdodau lleol yn Lloegr yw oherwydd eu bod wedi cael eu bwrw’n wael gan y setliad llywodraeth leol, ond nid ydym ni yng Nghymru wedi gwneud hynny. Rhaid imi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid y byddwn yn edrych i ddefnyddio’r arian hwn yn adeiladol ac fel rhan o becyn economaidd, oherwydd ein bod yn credu bod buddsoddi mewn swyddi a sgiliau yn bwysig gyda’r economi fel y mae. Rhaid iddo ddeall mai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ydyw, nid gwas yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae gan arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ei meddwl ei hun; mae’n aml yn sefyll i fyny ac yn beirniadu’r rheini sydd yn San Steffan. Gwnaeth ei ragflaenydd yr un fath. Dylai arwain y Torïaid Cymreig, nid yn dilyn y rhai yn Llundain.

 

Andrew R.T. Davies: First Minister, you are acting like a petulant child in your description. [Assembly Members: ‘Oh.’] Maybe we should buy you a romper suit and a rattle. No-one tells me what to do—[Interruption.]

 

Andrew R.T. Davies: Brif Weinidog, rydych yn bihafio fel plentyn pwdlyd yn eich disgrifiad. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’] Efallai y dylem brynu siwt ‘romper’ i chi a ratl. Nid oes neb yn dweud wrthyf beth i’w wneud—[Torri ar draws.]

The Presiding Officer: Order. I am interested in hearing what the leader—[Interruption.] Order. I am interested in what the leader of the opposition is saying, but I cannot hear him.

Y Llywydd: Trefn. Mae gennyf ddiddordeb clywed yr hyn y mae arweinydd—[Torri ar draws.] Trefn. Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud, ond ni allaf ei glywed.

 

Andrew R.T. Davies: It is a fact that we provided our budget last year. We would have protected health spending, and we itemised how that would happen. This is new money that is being made available to you as a Government. You were behind the curve on enterprise zones, you have presided over a failure in the education system, you are failing to protect health spending and you will not deliver a cancer drugs fund for Wales. When will you start delivering for Welsh households?

 

Andrew R.T. Davies: Mae’n ffaith ein bod ni wedi darparu ein cyllideb y llynedd. Byddem wedi diogelu gwariant ar iechyd, ac fe wnaethom eitemeiddio sut y byddai hynny’n digwydd. Mae hwn yn arian newydd fydd ar gael i chi fel Llywodraeth. Roeddech ar ei hôl hi ar barthau menter, yr ydych wedi llywyddu dros fethiant yn y system addysg, yr ydych yn methu â diogelu gwariant ar iechyd ac ni fyddwch yn cyflwyno cronfa cyffuriau canser ar gyfer Cymru. Pryd fyddwch chi’n dechrau cyflawni ar gyfer aelwydydd yng Nghymru?

 

The First Minister: I noticed yesterday that the leader of the opposition described himself as a farmyard barracker who rants and raves. [Laughter.] I praise him for that. Self-awareness is a wonderful thing in a politician. The reality of the situation is this: people in Wales in March and May voted as they did to get protection against him and his party. We know full well that, when it comes to the health service in Wales, we do not have doctors and health professionals telling us that irreparable damage will be done to the NHS. His party has. We know that more money is spent on cancer drugs in Wales than in England. We know that, in June, those people waiting for more than 52 weeks for treatment increased by 60 per cent in England. We know that, if you wait more than 36 weeks for treatment, the situation is far worse in England than in Wales. We have nothing to learn from his party when it comes to the health service. We have nothing to learn from his party when it comes to budgeting, because he talks about council tax, but in its budget last year, his party wanted to cut local government funding by 12.5 per cent. He said that we had not gone far enough and now he says that he wants to see a freeze in council tax. If we could get back the £400 million in end-year flexibility that we have lost, I would be more than pleased to consider such a move.

 

Y Prif Weinidog: Sylwais ddoe fod arweinydd yr wrthblaid yn disgrifio’i hun fel heclwr o’r buarth sy’n rafio a morio. [Chwerthin.] Rwy’n ei ganmol am hynny. Mae hunanymwybyddiaeth yn beth gwych mewn gwleidydd. Realiti’r sefyllfa yw hyn: ym mis Mawrth a mis Mai, pleidleisiodd pobl Cymru fel y gwnaethant er mwyn cael eu hamddiffyn rhagddo ef a’i blaid. Rydym yn gwybod yn iawn, pan ddaw at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, nad oes gennym feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol yn dweud wrthym y bydd difrod anadferadwy yn cael ei wneud i’r GIG. Mae gan ei blaid ef rai yn dweud hynny wrthi. Rydym yn gwybod bod mwy o arian yn cael ei wario ar gyffuriau canser yng Nghymru nag yn Lloegr. Rydym yn gwybod bod nifer y bobl oedd yn aros am fwy na 52 wythnos am driniaeth wedi cynyddu gan 60 y cant yn Lloegr ym mis Mehefin. Rydym yn gwybod, os ydych yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth, fod y sefyllfa yn llawer gwaeth yn Lloegr nag yng Nghymru. Nid oes gennym ddim i’w ddysgu oddi wrth ei blaid pan ddaw at y gwasanaeth iechyd. Nid oes gennym ddim i’w ddysgu oddi wrth ei blaid pan ddaw i gyllidebu, oherwydd mae’n sôn am y dreth gyngor, ond yn ei gyllideb y llynedd, roedd ei blaid am dorri cyllid llywodraeth leol gan 12.5 y cant. Dywedodd nad oeddem wedi mynd yn ddigon pell, ac yn awr mae’n dweud ei fod eisiau gweld y dreth gyngor yn cael ei rhewi. Pe gallem gael y £400 miliwn mewn hyblygrwydd diwedd blwyddyn yr ydym wedi’u colli yn ôl, buaswn yn fwy na hapus i ystyried cam o’r fath.

 

 

Y Diwydiant Amaeth

The Agriculture Industry

 

3. Llyr Huws Gruffydd: Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant amaeth. OAQ(4)0141(FM)

 

3. Llyr Huws Gruffydd: What are the Welsh Government’s plans for the agriculture industry. OAQ(4)0141(FM)

 

Y Prif Weinidog: Helpu a hybu’r diwydiant i’r dyfodol.

 

The First Minister: To assist and promote the industry for the future.

 

Llyr Huws Gruffydd: O gofio ymrwymiad Llafur yn eich maniffesto diweddar i barhau i ymladd dros ffermwyr mewn ardaloedd llai ffafriol, ac o gofio bod costau ychwanegol sylweddol i ffermio ardaloedd llai ffafriol yng Nghymru, a ydych yn siomedig â chyhoeddiad eich Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig na fydd yn cynnig unrhyw gefnogaeth benodol i gynorthwyo ffermwyr mewn ardaloedd llai ffafriol?

 

Llyr Huws Gruffydd: Bearing in mind Labour’s recent manifesto commitment to continue to fight for farmers in less favoured areas, and considering the significant additional costs for farming in less favoured areas in Wales, are you disappointed by the announcement by your Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes that Wales will be the only nation in the United Kingdom that will not provide any specific support to assist farmers in the less favoured areas?

 

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn deall y ddadl hon. Bydd pob ffermwr yng Nghymru yn cael mwy o arian oherwydd y newidiadau sydd wedi eu cyhoeddi—bydd llawer mwy o arian nag oedd ar gael drwy Tir Mynydd. Nid wyf yn deall y ddadl hon. Bydd pob ffermwr yn elwa yn y dyfodol.

 

The First Minister: I do not understand this argument. Every farmer in Wales will receive more money because of the changes that have been published—there will be much more money than was available under Tir Mynydd. I do not understand this argument. Every farmer will benefit in the future.

Paul Davies: Mae’n rhaid i ni wneud popeth a allwn i helpu’r diwydiant amaeth. Un ffordd o wneud hynny yw sicrhau bod rheolau’r Llywodraeth i ffermwyr mor ysgafn â phosibl. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod nad yw ffermwyr bellach yn cael aredig o fewn 1m i gloddiau er mwyn ceisio eu diogelu. Yn anffodus, effaith hyn yw bod chwyn yn tyfu yn sylweddol i’r cae, sy’n cael effaith ar gynhyrchu. A wnaiff y Prif Weinidog a’r Llywodraeth ailystyried y rheol hon, a chyflwyno mwy o hyblygrwydd i’r system?

 

Paul Davies: We have to do everything we can to help the agriculture industry. One way of doing that is to ensure that Government regulations for farmers are as light as possible. The First Minister will know that farmers currently are not allowed to plough to within 1m of hedgerows to try to protect them. Unfortunately, the effect of this is that weeds grow considerably into the field, which in turn effects production. Will the First Minister and the Government reconsider this rule, and introduce more flexibility into the system?

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn ddigon hapus i ailedrych ar rywbeth os oes problem wedi’i chreu.

 

The First Minister: I am quite happy to revisit something if a problem has been created.

Mick Antoniw: First Minister, in light of the UK Government’s decision to abolish the Agricultural Wages Board, could you comment on the implications of that for Wales and how we might do things a bit differently and with more respect for agricultural workers?

 

Mick Antoniw: Brif Weinidog, yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, a allech chi roi sylwadau ar oblygiadau hynny i Gymru a sut y gallem wneud pethau ychydig yn wahanol a chyda mwy o barch i weithwyr amaethyddol?

The First Minister: A Wales-only public consultation will be conducted towards the end of this year on the future of the AWB, the agricultural wages committee and the agricultural dwelling house advisory committee.

 

Y Prif Weinidog: Bydd ymgynghoriad cyhoeddus Cymru yn unig yn cael ei gynnal tua diwedd eleni ar ddyfodol y BCA, y pwyllgor cyflogau amaethyddol a’r pwyllgor cynghori anheddau amaethyddol.

William Powell: In recent times, the sector of Welsh agriculture that has been under the greatest pressure is arguably the organic sector. What commitment will the First Minister make to support the sustaining and development of that important sector?

 

William Powell: Yn ddiweddar, mae modd dadlau mai’r sector organig yw’r sector sydd wedi bod o dan y straen mwyaf o ran amaethyddiaeth yng Nghymru. Pa ymrwymiad wnaiff y Prif Weinidog ei roi o ran cefnogi cynhaliaeth a datblygiad y sector pwysig hwn?

 

The First Minister: Over the years, the organic farming scheme has been helping with convergence in particular. We see that there is a robust market for organic produce. There have been occasions in the past when prices have see-sawed quite dramatically, but the long-term prospects for growth in the organic market—particularly for organic dairy, I suspect—are good.

 

Y Prif Weinidog: Dros y blynyddoedd, mae’r cynllun ffermio organig wedi bod yn helpu gyda chydgyfeirio yn arbennig. Rydym yn gweld bod yna farchnad gadarn ar gyfer cynnyrch organig. Bu achlysuron yn y gorffennol pan newidiodd prisiau yn ddramatig, ond mae’r rhagolygon hirdymor ar gyfer twf yn y farchnad organig—yn enwedig ar gyfer llaeth organig, yr wyf yn amau—yn dda.

 

 

Blaenoriaethau

Priorities

 

4. Andrew R.T. Davies: Beth yw blaenoriaethau’r Prif Weinidog ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru. OAQ(4)0148(FM)

 

4. Andrew R.T. Davies: What are the First Minister’s priorities for the South Wales Central region. OAQ(4)0148(FM)

The First Minister: They are to be found in our programme for government.

Y Prif Weinidog: Maent i’w cael yn ein rhaglen lywodraethu.

 

Andrew R.T. Davies: Thank you, First Minister, for that answer. I have asked you several times about the Government’s intentions for Cardiff Airport and the support that it is able to afford the airport to develop new routes. I hope that your Government is now in a position to have discussions with Cardiff Airport. Could you tell us today how those discussions have proceeded, and, in particular, about your own personal support for that? When I asked you about that in May, you expressed your personal concern about the situation in Cardiff airport.

 

Andrew R.T. Davies: Diolch, Brif Weinidog, am yr ateb hwnnw. Yr wyf wedi gofyn i chi sawl gwaith am fwriad y Llywodraeth o ran Maes Awyr Caerdydd a’r gefnogaeth y mae’n gallu ei rhoi i’r maes awyr i ddatblygu llwybrau newydd. Gobeithiaf fod eich Llywodraeth yn awr mewn sefyllfa i gael trafodaethau gyda Maes Awyr Caerdydd. A allech chi ddweud wrthym heddiw sut aeth y trafodaethau hynny ac, yn benodol, am eich cefnogaeth bersonol ar gyfer hynny? Pan ofynnais ichi am hynny ym mis Mai, fe wnaethoch chi fynegi eich pryder personol am y sefyllfa ym maes awyr Caerdydd.

 

The First Minister: There are still concerns about the airport, particularly the way that it operates. There has been a large increase in the number of complaints about it—certainly in my own postbag. That is worrying and the airport needs to deal with that. Discussions are ongoing with a number of airlines, and we need to ensure that those discussions are fruitful. I cannot reveal which airlines they are, for reasons of commercial confidentiality.

 

Y Prif Weinidog: Mae pryderon o hyd am y maes awyr, yn enwedig y ffordd y mae’n gweithredu. Bu cynnydd mawr yn nifer y cwynion am y peth—yn sicr yn fy mag post i. Mae hynny’n peri pryder ac mae angen i’r maes awyr ddelio â hynny. Mae trafodaethau ar y gweill gyda nifer o gwmnïau hedfan, ac mae angen inni sicrhau bod y trafodaethau hynny’n dwyn ffrwyth. Ni allaf ddatgelu pa gwmnïau hedfan ydynt, am resymau cyfrinachedd masnachol.

Vaughan Gething: First Minister, would you agree with me that the new constructive approach outlined by Andrew R.T. Davies in last week’s Sharp End—in that he wants to see a constructive opposition and dialogue with all parties—is to be welcomed?

 

Vaughan Gething: Brif Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi bod y dull adeiladol newydd a amlinellwyd gan Andrew R.T. Davies ar Sharp End yr wythnos diwethaf—ei fod am weld gwrthwynebiad adeiladol a deialog gyda phob plaid—i’w groesawu?

 

The Presiding Officer: Order. This is not about Cardiff Airport.

 

Y Llywydd: Trefn. Nid yw hyn yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd.

Vaughan Gething: The question was about priorities for South Wales Central.

 

Vaughan Gething: Roedd y cwestiwn ynghylch blaenoriaethau ar gyfer Canol De Cymru.

 

The Presiding Officer: I did not hear a question there, First Minister, so you need not answer.

 

Y Llywydd: Ni chlywais gwestiwn yno, Brif Weinidog, felly nid oes angen i chi ateb.

Leanne Wood: First Minister, last week, I raised the issue of the two Remploy factories that are in the South Wales Central region that are under threat and I asked you to explore the possibility of getting the budget for Remploy devolved to Wales, and I asked to undertake a commitment that, if the budget is devolved, those jobs would be safeguarded. You agreed last week to explore the matter with the Minister for Education and Skills. Given that the Remploy workers are on the brink of losing their jobs and livelihood, time is of the essence, so can you update us on your discussions, please?

 

Leanne Wood: Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, codais fater y ddwy ffatri Remploy sydd yn y rhanbarth Canol De Cymru sydd o dan fygythiad a gofynnais i chi edrych ar y posibilrwydd o ddatganoli’r gyllideb ar gyfer Remploy i Gymru, a gofynnais ichi ymrwymo, os caiff y gyllideb ei ddatganoli, y byddai’r swyddi hynny yn cael eu diogelu. Bu ichi gytuno yr wythnos diwethaf i archwilio’r mater gyda’r Gweinidog Addysg a Sgiliau. O ystyried bod gweithwyr Remploy ar fin colli eu swyddi a’u bywoliaeth, mae amser yn brin, felly a yw’n bosibl ichi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am eich trafodaethau, os gwelwch yn dda?

 

The First Minister: The Minister for education and I are both aware of the situation at Remploy and have discussed the situation many times in the past. I cannot pretend that getting the budget for Remploy devolved is going to be easy, or that the UK Government would acquiesce to that, but we will continue to press the case. In answer to the issue raised previously about the constructiveness of the leader of the opposition’s approach, I think that the Member for Cardiff South and Penarth was rather harsh on him. I think that he is being constructive by his own standards.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r Gweinidog dros addysg a minnau yn ymwybodol o’r sefyllfa yn Remploy ac wedi trafod y sefyllfa lawer gwaith yn y gorffennol. Ni allaf esgus bod sicrhau datganoli’r gyllideb ar gyfer Remploy yn mynd i fod yn hawdd, neu y byddai Llywodraeth y DU yn cydsynio i hynny, ond byddwn yn parhau i bwyso’r achos. I ymateb i’r mater a godwyd yn flaenorol am ymagwedd adeiladol arweinydd yr wrthblaid, credaf i’r Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth fod yn llym. Yr wyf yn meddwl ei fod yn adeiladol yn ôl ei safonau ei hun.

 

Gwasanaethau Rheilffyrdd

Rail Services

 

5. Mark Isherwood: Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i wella gwasanaethau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0149(FM)

 

5. Mark Isherwood: What plans does the First Minister have to improve rail services in North Wales. OAQ(4)0149(FM)

The First Minister: We are currently prioritising the national transport plan, and this will be published in the autumn.

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym ar hyn o bryd yn blaenoriaethu’r cynllun trafnidiaeth cenedlaethol, a chyhoeddir hwn yn yr hydref.

 

Mark Isherwood: I have previously questioned you about the north Wales express service from Holyhead to Cardiff, and we understand that announcements will be made by the Minister when he announces his revised delivery plan for the national transport plan, hopefully this autumn. However, I am advised that already one locomotive is being repainted in the appropriate livery and that two more are expected to be repainted, yet the clock is ticking for the current timetable for when the current contract will end. Therefore, could we please have some indication of where we are going with this, not so much for ourselves as for the industry and passenger representatives?

 

Mark Isherwood: Yr wyf wedi eich holi o’r blaen am wasanaeth cyflym gogledd Cymru o Gaergybi i Gaerdydd, ac yr ydym yn deall y bydd cyhoeddiadau yn cael eu gwneud gan y Gweinidog pan fydd yn cyhoeddi ei gynllun cyflenwi diwygiedig ar gyfer y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol, yn yr hydref, gobeithio. Fodd bynnag, rwyf wedi clywed bod un locomotif yn cael ei ailbaentio yn y lifrai priodol a disgwylir y bydd dau arall yn cael eu hailbaentio, ac eto mae’r cloc yn tician ar gyfer yr amserlen bresennol ar gyfer diwedd y contract presennol. Felly, a allwn ni os gwelwch yn dda gael rhyw syniad o’r ble’r ydym yn mynd â hyn, nid yn gymaint i ni ein hunain ond ar gyfer cynrychiolwyr y diwydiant a theithwyr?

 

 

The First Minister: As I said, the national transport plan will contain our proposals for taking transport and the rail network forward in the future.

 

Y Prif Weinidog: Fel y dywedais, bydd y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol yn cynnwys ein cynigion ar gyfer cymryd trafnidiaeth a’r rhwydwaith rheilffyrdd ymlaen yn y dyfodol.

Alun Ffred Jones: A yw’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gadw’r gwasanaethau rheilffordd rhwng y de a’r gogledd, gan gynnwys cysylltiad Y Gerallt Gymro sydd wedi bod yn gymaint o fudd i deithwyr rhwng de a gogledd?

 

Alun Ffred Jones: Has the Government committed to keeping rail services between the north and the south, including the Gerallt Gymro connection that has proved so beneficial for passengers between north and south? 

Y Prif Weinidog: Byddwn yn cadw’r gwasanaethau rhwng y de a’r gogledd, gan gofio nad oedd yr un gwasanaeth rhwng y de a’r gogledd 10 mlynedd yn ôl. Yr ydym yn sylweddoli mor bwysig yw sicrhau bod trenau yn rhedeg mor gyflym â phosibl rhwng Caerdydd a Chaergybi.

 

The First Minister: We will keep services between the north and the south, bearing in mind that there was no north-south service 10 years ago. We realise how important it is to ensure that trains run as quickly as possible between Cardiff and Holyhead.

Aled Roberts: Pryd gallwn ddisgwyl cyhoeddiad pellach ynglŷn â dyblu’r trac rhwng Wrecsam a Chaer?

 

Aled Roberts: When can we expect a further announcement about the doubling of the track between Wrexham and Chester?

Y Prif Weinidog: Mae hyn yn rhan o’r cynllun trafnidiaeth genedlaethol, a bydd manylion am ddyfodol y rhwydwaith rheilffordd yng nghynnwys y ddogfen honno.

 

The First Minister: This is part of the national transport plan, and details about the future of the rail network will be included in that document.

 

Cael Gafael ar y Rhyngrwyd

Access to the Internet

 

6. Jenny Rathbone: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yng Nghymru sy’n dymuno cael gafael ar y rhyngrwyd yn gallu gwneud hynny. OAQ(4)0150(FM)

 

6. Jenny Rathbone: What plans does the Welsh Government have to make sure that everyone in Wales who wants to, is able to get access to the internet. OAQ(4)0150(FM)

 

The First Minister: Anyone who cannot currently access the internet is able to make an application to our broadband support scheme.

 

Y Prif Weinidog: Bydd unrhyw un sy’n methu cael mynediad at y rhyngrwyd ar hyn o bryd yn gallu gwneud cais i’n cynllun cymorth band lydan.

Jenny Rathbone: My constituency has a broadband not-spot of some significance, not in a remote rural area, but in Pen-y-lan, just 3 miles from Cardiff city centre. Can the First Minister confirm that Government activity to remedy not-spots will apply, regardless of the location?

 

Jenny Rathbone: Mae gan fy etholaeth i fan gwan sylweddol o ran band llydan, nid mewn ardal wledig anghysbell, ond ym Mhen-y-lan, dim ond 3 milltir o ganol dinas Caerdydd. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn gweithio i  ddatrys mannau gwan, waeth beth yw’r lleoliad?

 

The First Minister: Yes. We want to ensure that we have as many people as possible with access to next generation broadband. We have made commitments for 2015 in that regard. The situation in Pen-y-lan is complicated by the fact that there is a difficulty with the way that area is connected to the exchange. It is not something that cannot be remedied. In the meantime, residents can contact BT to see whether re-parenting to Llanedeyrn is an option for them, and where re-parenting is not an option, the broadband support scheme can help.

 

Y Prif Weinidog: Gallaf. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl â mynediad at fand llydan y genhedlaeth nesaf. Rydym wedi gwneud ymrwymiadau ar gyfer 2015 yn hynny o beth. Mae’r sefyllfa ym Mhen-y-lan yn cael ei chymhlethu gan y ffaith bod anhawster o ran y modd y mae’r ardal honno wedi’i chysylltu â’r gyfnewidfa. Nid yw’n rhywbeth na ellir ei ddatrys. Yn y cyfamser, gall trigolion gysylltu â BT i weld a yw cysylltu â Llanedern yn opsiwn iddynt, a, lle nad yw hynny’n opsiwn, gall y cynllun cymorth band llydan helpu.

Russell George: One of the key issues that the mid Wales tourism partnership raised with me during the summer was the need to improve broadband infrastructure and to increase small businesses’ access to it to ensure that the tourism industry has the ability to fully market itself as widely as possible. I am aware of your Government’s commitment to deliver next generation broadband to businesses and households by 2015, but in relation to the roll-out of the next generation project, will you commit to improving broadband capacity in rural areas such as mid Wales first, where they are not well served or have no service at all, to ensure that small businesses remain competitive?

 

Russell George: Un o’r materion allweddol y cododd partneriaeth twristiaeth y canolbarth â mi yn ystod yr haf oedd yr angen i wella seilwaith band llydan ac i wella mynediad busnesau bach iddo er mwyn sicrhau bod y diwydiant twristiaeth y gallu marchnata ei hun mor eang â phosibl. Yr wyf yn ymwybodol o ymrwymiad eich Llywodraeth i gyflwyno band llydan y genhedlaeth nesaf i fusnesau a chartrefi erbyn 2015, ond o ran y broses o gyflwyno prosiect y genhedlaeth nesaf, a wnewch chi ymrwymo i wella capasiti band llydan mewn ardaloedd gwledig fel y canolbarth yn gyntaf, lle nad oes gwasanaeth da neu ddim gwasanaeth o gwbl, i sicrhau bod busnesau bach yn parhau’n gystadleuol?

 

The First Minister: Yes. That is a matter for the discussions regarding the tendering process and the contract. We are looking to ensure that the process to secure a provider to deliver this target is in place soon.

 

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Mae hynny’n fater i’r trafodaethau ynghylch y broses dendro a’r contract. Rydym am sicrhau bod y broses i sicrhau darparwr i gyflawni’r targed hwn yn ei lle cyn bo hir.

 

Simon Thomas: Gan fod pawb wedi trosglwyddo i deledu digidol bellach, mae sbectrwm sylweddol ar gael a fydd yn mynd i arwerthiant o dan ganllawiau Ofcom. Bydd y sbectrwm ar gael i 4G, a bydd yn gallu cyrraedd nifer o ardaloedd yng nghefn gwlad Cymru nas cyrhaeddir gan fand eang yn y modd traddodiadol. A fydd y Prif Weinidog a’i Lywodraeth yn rhoi pwysau ar Ofcom i sicrhau y bydd y sbectrwm, o’i arwerthu, yn gallu cyrraedd o leiaf 98 y cant o boblogaeth Cymru, yn hytrach na’r 95 y cant sydd wedi ei grybwyll hyd yn hyn?

 

Simon Thomas: Given that everyone has by now switched to digital television, a substantial spectrum is available that will be auctioned under Ofcom guidelines. The spectrum will be open to 4G, and it will be able to reach several rural areas in Wales that broadband does not reach in the traditional way. Will the First Minister and his Government press Ofcom to ensure that the spectrum, when it is auctioned, is able to reach at least 98 per cent of Wales’s population, rather than the 95 per cent that has so far been mentioned?

Y Prif Weinidog: O’r hyn a ddeallaf, mae problemau â 4G dros y Deyrnas Unedig o safbwynt faint o arian sydd ar gael i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflwyno. Mae ffordd arall o ddelio â hyn. O’r hyn yr wyf yn ei ddeall, mae ffordd o wella signal ffonau symudol drwy sicrhau bod system band eang newydd yn cael ei rolio allan i gefn gwlad. Felly, yr ydym eisiau i bobl allu defnyddio’u ffonau symudol a chael band eang cyflym gyda’i gilydd. Mae ffordd dechnegol o wneud hynny, fel yr wyf yn deall.

 

The First Minister: From what I understand, there is a problem with 4G across the UK with regard to the amount of funding available to ensure that it is rolled out. There is another way of dealing with this. My understanding is that mobile phone signals can be improved by ensuring that the new broadband system is rolled out to rural areas. Therefore, we want people to be able to use their mobiles and access fast broadband at the same time. There is a technical way of doing that, as I understand it.

2.00 p.m.

 

Eluned Parrott: Obviously, we welcome the roll-out of fast broadband and we understand that it is in procurement at the moment. However, residents in urban not-spots across Wales have been at a disadvantage for a number of years now. How quickly will the procurement contract for fast broadband be awarded and when can the residents of places like Pen-y-lan in Cardiff expect to see improvement work beginning?

 

Eluned Parrott: Yn amlwg, yr ydym yn croesawu’r broses o gyflwyno band eang cyflym, ac rydym yn deall ei fod yn destun  caffael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae trigolion mewn ardaloedd trefol digyswllt ar draws Cymru wedi bod o dan anfantais am nifer o flynyddoedd bellach. Pa mor gyflym y bydd y contract caffael ar gyfer band eang cyflym yn cael ei ddyfarnu a phryd y gall trigolion lleoedd fel Pen-y-lan yng Nghaerdydd ddisgwyl gweld gwaith gwella yn dechrau?

 

The First Minister: We aim to award the contract by March of next year.

Y Prif Weinidog: Ein nod yw dyfarnu’r contract erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

 

Blaenoriaethau

Priorities

 

7. Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Tor-faen. OAQ(4)0140(FM)

 

7. Lynne Neagle: Will the First Minister give an update on Welsh Government priorities for Torfaen. OAQ(4)0140(FM)

 

 

The First Minister: Yes, they are outlined in our programme for government.

Y Prif Weinidog: Gwnaf, maent wedi eu hamlinellu yn ein rhaglen lywodraethu.

 

Lynne Neagle: I know that many of my constituents will be deeply worried by the Conservative plans that were announced yesterday to extend the qualification period for unfair dismissal claims and to charge workers who wish to take their employer to tribunal. Would you agree that this is typical of the Tories, and that instead of attacking the hard-won rights of ordinary working people, they should be focusing their efforts on getting our economy moving again?

Lynne Neagle: Gwn y bydd llawer o fy etholwyr yn poeni’n fawr am gynlluniau’r Ceidwadwyr a gyhoeddwyd ddoe i ymestyn y cyfnod cymhwyso ar gyfer hawliadau diswyddo annheg ac i godi tâl ar weithwyr sy’n dymuno cymryd eu cyflogwr i dribiwnlys. A fyddech yn cytuno bod hyn yn nodweddiadol o’r Torïaid, ac yn lle ymosod ar hawliau pobl gyffredin sy’n gweithio a enillwyd drwy ymdrechion mawr, dylent ganolbwyntio eu hymdrechion ar gael ein heconomi i symud eto?

 

The First Minister: I do not understand the logic that, at a time when people are afraid for the security of their jobs, the Government should take the step of making them even more insecure. I do not think that that is the right way forward.

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn deall rhesymeg y Llywodraeth, ar adeg pan fydd pobl yn poeni am ddiogelwch eu swyddi, o ran cymryd y cam i’w gwneud hyd yn oed yn fwy ansicr. Nid wyf yn credu mai dyna’r ffordd iawn ymlaen.

 

Mohammad Asghar: First Minister, NHS waiting times are a key concern for people in Torfaen. In a BBC interview, you recently boasted about Wales’s success on waiting times beyond 36 weeks, and you made the same point earlier to the leader of the opposition. Why, therefore, does your programme for government not include a mention of a 36-week target? Why does your programme not include a reference to how the meeting of this target will indicate to the people of Wales that your actions are on track? Is this because, on your watch, the number of people waiting more than 36 weeks to start hospital treatment within the Aneurin Bevan Local Health Board area has risen by an incredible 3,125 per cent? Do you accept that this 3,125 per cent rise since you became First Minister is something the people of Gwent should not be prepared to accept?

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, mae amseroedd aros y GIG yn bryder allweddol i bobl yn Nhorfaen. Mewn cyfweliad BBC diweddar, bu i chi ymffrostio am lwyddiant Cymru o ran amseroedd aros y tu hwnt i 36 wythnos, a gwnaethoch yr un pwynt yn gynharach i arweinydd yr wrthblaid. Pam, felly, nad yw eich rhaglen ar gyfer llywodraethu yn cynnwys sôn am darged 36-wythnos? Pam nad yw eich rhaglen yn cynnwys cyfeiriad at sut y bydd cwrdd â’r targed hwn yn dangos i bobl Cymru bod eich gweithredoedd ar y trywydd iawn? A yw hyn oherwydd, dan eich goruchwyliaeth chi, mae nifer y bobl a fu’n aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth ysbyty o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan wedi codi 3,125 y cant, sydd yn gynnydd anhygoel? A ydych yn derbyn bod y cynnydd hwn o 3,125 cant ers i chi ddod yn Brif Weinidog yn rhywbeth na ddylai bobl Gwent fod yn barod i’w dderbyn?

 

The Presiding Officer: There were four questions there, First Minister, so you can choose to answer some of them.

Y Llywydd: Yr oedd pedwar cwestiwn yno, Brif Weinidog, felly gallwch ddewis ateb rhai ohonynt.

 

The First Minister: There is an issue with orthopaedics, as we know. That is why we allocated money to orthopaedic surgery across Wales in the earlier part of this year, and we are now seeing the effect of that money, because the rise has come almost entirely in orthopaedics, and in no other specialism.

Y Prif Weinidog: Mae problem gyda gwasanaethau orthopedig, fel y gwyddom. Dyna pam yr ydym wedi neilltuo arian ar gyfer llawdriniaeth orthopedig ar draws Cymru yn rhan gyntaf y flwyddyn hon, ac rydym bellach yn gweld effaith yr arian hwnnw, gan fod y cynnydd wedi bod bron yn gyfan gwbl mewn gwasanaethau orthopedig, a dim mewn arbenigedd arall.

 

In terms of targets, the reality is that if you look at waiting times past 36 weeks, there are far more people waiting in England than there are in Wales, and there is a far greater percentage of patients waiting in England than in Wales. There are always challenges in the NHS and we are meeting the challenge with regard to orthopaedics, but we still compare well with other parts of the UK.

O ran targedau, y gwir amdani yw, os edrychwch ar amseroedd aros heibio 36 wythnos, ceir llawer mwy o bobl yn aros yn Lloegr nag yng Nghymru, ac mae canran uwch o lawer o gleifion yn aros yn Lloegr nag yng Nghymru. Ceir heriau bob amser yn y GIG ac rydym yn cwrdd â’r her o ran gwasanaethau orthopedeg, ond rydym yn dal yn cymharu’n dda â rhannau eraill o’r DU.

 

Lindsay Whittle: The economic figures for Torfaen present a worrying picture. The proportion of working-age people deemed to be economically inactive is now 27 per cent, which is 6 per cent higher than the national figure. This has not happened overnight and it is time that we stopped blaming other people. What steps will your Government take to tackle this sort of deprivation in Torfaen?

Lindsay Whittle: Mae’r ffigurau economaidd ar gyfer Tor-faen yn cyflwyno darlun pryderus. Mae cyfran y bobl o oedran gweithio yr ystyrir eu bod yn economaidd anweithgar yn awr yn 27 y cant, sef 6 y cant yn uwch na’r ffigwr cenedlaethol. Nid yw hyn wedi digwydd dros nos ac mae’n bryd i ni stopio beio pobl eraill. Pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r math hwn o amddifadedd yn Nhor-faen?

 

The First Minister: I do not think that that was a criticism of your party leader, who was our Minister for economic development in the last Government; I assume that it was not.

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn credu bod hynny’n feirniadaeth o arweinydd eich plaid, a oedd yn Weinidog dros ddatblygu economaidd yn y Llywodraeth ddiwethaf; yr wyf yn cymryd yn ganiataol nad oedd.

 

The reality is that we know that the economic situation is difficult and that is why we introduced ProAct and ReAct in previous years, and now Adapt. We are looking to bring forward an economic package and I have already mentioned the £40 million that we have had from the UK Government, which could best be used for investment and as part of that economic package.

Y gwir amdani yw ein bod yn gwybod bod y sefyllfa economaidd yn anodd, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno ProAct a ReAct yn y blynyddoedd blaenorol, ac Addasu yn awr. Rydym yn edrych i gyflwyno pecyn economaidd ac yr wyf eisoes wedi crybwyll y £40 miliwn a gawsom gan Lywodraeth y DU, y gellid ei ddefnyddio orau ar gyfer buddsoddi ac fel rhan o’r pecyn economaidd hwnnw. 

 

Busnesau Bach a Chanolig eu Maint

Small and Medium-sized Enterprises

 

8. Joyce Watson: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig. OAQ(4)0152(FM)

 

8. Joyce Watson: Will the First Minister outline the Welsh Government’s plans to support SMEs. OAQ(4)0152(FM)

 

The First Minister: Our plans are set out in the programme for government.

Prif Weinidog: Mae ein cynlluniau wedi’u nodi yn y rhaglen lywodraethu.

 

Joyce Watson: Thank you for that answer, First Minister. Much has been said already today about the broadband roll-out scheme that your Government is match funding and the procurement process to deliver high-speed services to those parts of Wales that commercial operators have not provided for—two schemes that will particularly benefit small businesses and social enterprises in my region. Can you therefore update Members on that scheme and the proposed broadband roll-out?

Joyce Watson: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Mae llawer wedi cael ei ddweud eisoes heddiw am y cynllun cyflwyno band eang y mae eich Llywodraeth yn ei ariannu’n gyfatebol a’r broses gaffael i ddarparu gwasanaethau cyflym i’r rhannau hynny o Gymru nad yw’r gweithredwyr masnachol wedi darparu ar eu cyfer—dau gynllun a fydd o fudd yn arbennig i fusnesau bach a mentrau cymdeithasol yn fy rhanbarth i. Felly, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynllun ac am gyflwyno’r band eang arfaethedig?

 

 

The First Minister: As I said, we aim to have the contract in place by March. We want to ensure that all businesses and residences in Wales have access to high-speed broadband by 2015, with at least 50 per cent having access to speeds of 100Mbps.

Y Prif Weinidog: Fel y dywedais, rydym yn anelu at gael y contract yn ei le erbyn mis Mawrth. Rydym am sicrhau bod gan bob busnes a chartref yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym erbyn 2015, gydag o leiaf 50 y cant yn cael mynediad at gyflymder o 100Mbps.

 

Janet Finch-Saunders: The Welsh Conservatives have proposed to abolish national non-domestic rates for many SMEs and to simplify regulations following complaints from business leaders. We want to open up more public services and general procurement to SMEs. What steps are you taking to help SMEs maximise their potential, instead of wasting valuable time and money on red tape, regulation and disproportionate levels of NNDR, particularly in the first few years of a business start-up?

Janet Finch-Saunders: Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cynnig diddymu’r trethi annomestig cenedlaethol ar gyfer llawer o fusnesau bach a chanolig ac i symleiddio rheoliadau yn dilyn cwynion gan arweinwyr busnes. Rydym yn awyddus i agor mwy o wasanaethau cyhoeddus a chaffael cyffredinol i fusnesau bach a chanolig. Pa gamau yr ydych yn eu cymryd i helpu busnesau bach a chanolig amlhau i’r eithaf eu potensial, yn hytrach na gwastraffu amser ac arian gwerthfawr ar fiwrocratiaeth, rheoleiddio a lefelau anghymesur o NNDR, yn enwedig yn y blynyddoedd cyntaf o ddechrau busnes?

 

The First Minister: I was not aware that it was the Conservatives’ plan to abolish non-domestic rates; that is news to most of us. You asked about small companies and, of course, we have the microbusiness strategy, for which a task and finish group has been set up. We are looking to have business entrepreneurship champions and a recruitment process has been undertaken to recruit people for those roles. We are also looking to continue to improve procurement for small and medium-sizes enterprises, in particular to help them to gain more in terms of public sector contracts than has perhaps been the case in the past.

Y Prif Weinidog: Nid oeddwn yn ymwybodol mai cynllun y Ceidwadwyr oedd diddymu ardrethi annomestig; mae hynny’n newyddion i’r rhan fwyaf ohonom. Gofynasoch am gwmnïau bach ac, wrth gwrs, mae gennym y strategaeth microfusnesau, y mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi’i sefydlu ar ei gyfer. Rydym am gael hyrwyddwyr entrepreneuriaeth busnes a chynhaliwyd proses recriwtio er mwyn recriwtio pobl ar gyfer y rolau hynny. Rydym hefyd am barhau i wella caffael ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint, yn enwedig er mwyn eu helpu i ennill mwy o ran contractau sector cyhoeddus nag efallai sydd wedi bod yn wir yn y gorffennol.

 

Kenneth Skates: Building a thriving creative industries sector is crucial to the future economy of our country and to the wider media base in Wales. As the Communities, Equality and Local Government Committee commences its short review of the media landscape in Wales, what work is the Welsh Government doing to help Wales’s creative industries sector and to strengthen the wider media base in Wales?

Kenneth Skates: Mae creu sector diwydiannau creadigol ffyniannus yn hanfodol i economi ein gwlad yn y dyfodol ac i sylfaen y cyfryngau ehangach yng Nghymru. Fel y mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cychwyn ei adolygiad byr o dirwedd y cyfryngau yng Nghymru, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu’r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru ac i gryfhau sylfaen ehangach y cyfryngau yng Nghymru?

 

The First Minister: I recognise that the creative industries sector is a key area for growth in the Welsh economy, and we have already implemented a number of the Hargreaves recommendations. Other projects are being created to support that sector specifically and these will be announced shortly.

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn cydnabod bod y sector diwydiannau creadigol yn faes allweddol ar gyfer twf yn economi Cymru, ac yr ydym eisoes wedi gweithredu nifer o’r argymhellion Hargreaves. Mae prosiectau eraill yn cael eu creu i gefnogi’r sector hwnnw’n benodol a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Elin Jones: Gwnaethoch sôn yn gynharach y prynhawn yma am eich bwriad i barhau gyda’r cynllun lleihau ardrethi busnes tan fis Medi’r flwyddyn nesaf. Nid oes cyfeiriad at ardrethi busnes o gwbl yn eich rhaglen lywodraethu. Beth, felly, yw eich bwriad dros bum mlynedd y Llywodraeth hon o ran adrethi busnes?

 

Elin Jones: You mentioned earlier this afternoon your intention to continue with the business rate relief scheme until September of next year. There is no reference to business rates in your programme for government. What, therefore, is your intention regarding business rates for the five years of this Government?

Y Prif Weinidog: Fel sydd eisoes wedi’i ddweud yn gyhoeddus, mae’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn ystyried hyn ar hyn o bryd a’r system ardrethi busnes yn ei chyfanrwydd. Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi dros y misoedd nesaf.

 

The First Minister: As has already been stated publicly, the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science is currently considering this and the whole business rate system. A report will be published over the next few months.

 

Hyrwyddo Rhanbarthau Dinasoedd Cymru

 

Promoting the City Regions of Wales

 

9. Julie Morgan: Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i hyrwyddo rhanbarthau dinasoedd Cymru. OAQ(4)0147(FM)

 

9. Julie Morgan: What plans does the First Minister have to promote the city regions of Wales. OAQ(4)0147(FM)

The First Minister: We are currently considering the benefits of a city-region approach as part of our efforts to encourage a sustainable economy.

Y Prif Weinidog: Yr ydym wrthi’n ystyried manteision ymagwedd dinas-ranbarth fel rhan o’n hymdrechion i annog economi gynaliadwy.

 

Julie Morgan: I thank the First Minister for that reply. Does he agree that the single most important item of infrastructure that would help the Cardiff city region to be truly competitive is the electrification of the Valleys lines?

Julie Morgan: Diolch i’r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. A yw’n cytuno mae’r un eitem bwysicaf o seilwaith a fyddai’n helpu dinas-rhanbarth Caerdydd i fod yn wirioneddol gystadleuol yw trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd?

 

The First Minister: In principle, that is something that we would support. There is a significant cost attached to it, but we hope to work towards a position where such a project will become viable in the future.

Y Prif Weinidog: Mewn egwyddor, mae hynny’n rhywbeth y byddem yn ei gefnogi. Mae yna gost sylweddol ynghlwm wrtho, ond rydym yn gobeithio gweithio tuag at sefyllfa lle bydd prosiect o’r fath yn dod yn hyfyw yn y dyfodol.

 

William Graham: In a spring Plenary, I asked you to outline the success of the Ryder Cup in attracting new firms to South Wales East and to Newport in particular. You kindly replied that there had been some promising leads, but that they had to remain private due to commercial sensitivity. Are you satisfied with those inquiries and would you publish a list of the successes?

William Graham: Mewn Cyfarfod Llawn yn y gwanwyn, gofynnais i chi amlinellu llwyddiant y Cwpan Ryder o ran denu cwmnïau newydd i Ddwyrain De Cymru ac i Gasnewydd yn benodol. Buoch gystal ag ateb y bu rhywfaint o ddiddordeb gan gwmnïau a oedd yn addawol, ond bod yn rhaid cadw’r manylion yn breifat oherwydd sensitifrwydd masnachol. A ydych chi’n fodlon gyda’r ymholiadau hynny ac a fyddech yn cyhoeddi rhestr o’r llwyddiannau?

 

The First Minister: A number of leads are still being followed; these things can take time. However, we do know that Wales was very favourably positioned with regard to tourism, particularly golf tourism.

 

Y Prif Weinidog: Rydym yn parhau i ddilyn y pethau hyn yn agos; gall y pethau hyn gymryd amser. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod Cymru mewn sefyllfa ffafriol iawn o ran twristiaeth, yn enwedig twristiaeth golff.

 

Vaughan Gething: As you know, many of us across the Chamber, across parties, acknowledge that the success of the south Wales economy is tied in to improving transport infrastructure. Can you confirm whether the Government is in favour, in principle, should we succeed with the electrification of the Valleys lines, of the sorts of proposals that have been drawn up around a south Wales metro idea to improve and increase the amount of track and potential tram infrastructure that would benefit communities from Bridgend to Monmouth and across the Valleys and two of our cities in south Wales?

 

Vaughan Gething: Fel y gwyddoch, mae llawer ohonom ar draws y Siambr, ar draws y pleidiau, yn cydnabod bod llwyddiant economi de Cymru ynghlwm wrth wella’r seilwaith trafnidiaeth. A allwch gadarnhau a yw’r Llywodraeth o blaid, mewn egwyddor, os llwyddwn gyda thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, y mathau o gynigion a luniwyd o gwmpas syniad metro de Cymru i wella a chynyddu’r trac a seilwaith tram posibl a fyddai o fudd i gymunedau o Pen-y-bont ar Ogwr i Drefynwy ac ar draws y Cymoedd a dau o’n dinasoedd yn y de?

 

 

The First Minister: As I said earlier, we would be in favour of a south Wales metro system in principle. There is a significant cost that is attached to that; nevertheless, it is a system of transport that would benefit not just the city of Cardiff, but the much wider area.

Y Prif Weinidog: Fel y dywedais yn gynharach, byddem o blaid system metro ar gyfer de Cymru mewn egwyddor. Mae yna gost sylweddol  ynghlwm wrth hynny; serch hynny, mae’n system o drafnidiaeth a fyddai o fudd nid yn unig i ddinas Caerdydd, ond i’r ardal ehangach hefyd.

 

Leanne Wood: First Minister, I have concerns about the concept of city regions and their effectiveness. I find it difficult to understand how money can trickle up the Valleys from Cardiff, for example. That is a point that I have made in this document, ‘A Greenprint for the Valleys’. First Minister, have you read this document? If you have, what are your views on it? If you have not read it, will you?

Leanne Wood: Brif Weinidog, mae gennyf bryderon am y cysyniad o ddinas-ranbarthau a’u heffeithiolrwydd. Rwy’n ei chael hi’n anodd deall sut y gall arian rhaeadru i fyny i’r Cymoedd o Gaerdydd, er enghraifft. Mae hwnnw’n bwynt yr wyf wedi’i wneud yn y ddogfen hon, ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’. Brif Weinidog, a ydych wedi darllen y ddogfen hon? Os ydych, beth yw eich barn arno? Os nad ydych wedi ei ddarllen, a wnewch chi?

 

The First Minister: No, is the simple answer; it is the first that I have seen of it. Nevertheless, I take note of the plug that has been given to it and there is no doubt that I will now read it. It is important, where we have a city such as Cardiff, and a situation where many thousands of people commute into it every day from every direction, that the transport system is as swift and modern as possible to enable commuting to take place.

Y Prif Weinidog: Na, yw’r ateb syml; dyma’r tro cyntaf i mi ei weld. Er hynny, yr wyf yn cymryd sylw o’r cyhoeddusrwydd a roddwyd iddo ac nid oes amheuaeth y byddaf yn awr yn ei ddarllen. Mae’n bwysig, lle mae gennym ddinas fel Caerdydd, a sefyllfa lle mae miloedd o bobl yn cymudo i mewn iddo bob dydd o bob cyfeiriad, bod y system drafnidiaeth mor gyflym a modern ag y bo modd er mwyn galluogi cymudo i ddigwydd.

 

Jenny Rathbone: Cardiff is now the fifth most car-dependant capital city in Europe. Therefore, while I welcome the creation of a new financial enterprise zone in the middle of our capital city, what plans does the Government have to ensure that it will not increase the problem that we already have with air pollution?

Jenny Rathbone: Caerdydd sydd nawr yn y pumed safle o ran prifddinasoedd yn Ewrop sydd â’r dinyniaeth fwyaf ar geir. Felly, er fy mod yn croesawu creu parth menter ariannol newydd yng nghanol ein prifddinas, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau na fydd yn cynyddu’r broblem sydd gennym eisoes â llygredd aer?

 

The First Minister: Continuing to improve the rail network is important, although the eastern side of the city is not well served by the rail network—it tends to run north-west and south. There are other opportunities that are being pursued, particularly with regard to cycling, for example. Cardiff, as a city, is a prime site for cycling because much of it is flat, yet not much has been done to promote cycling in years gone by. That is why taking cycling seriously as a mode of transport and promoting it in a city that really is right for it are two ways of ensuring that more people cycle and fewer people use the car.

Y Prif Weinidog: Mae parhau i wella’r rhwydwaith rheilffyrdd yn bwysig, er nad yw ochr ddwyreiniol y ddinas yn cael ei wasanaethu’n dda gan y rhwydwaith rheilffyrdd—mae’n tueddu i redeg o’r gogledd i’r gorllewin a’r de. Mae cyfleoedd eraill yn cael eu dilyn, yn enwedig o ran beicio, er enghraifft. Mae Caerdydd, fel dinas, yn safle delfrydol ar gyfer beicio gan fod llawer ohono yn wastad, ac eto nid oes llawer wedi’i wneud i hyrwyddo beicio yn y blynyddoedd a fu. Dyna pam y mae cymryd beicio o ddifrif fel dull o deithio a’i hyrwyddo mewn dinas sydd wir yn iawn ar ei gyfer yn ddwy ffordd o sicrhau bod mwy o bobl yn seiclo a llai o bobl yn defnyddio’r car.

 

 

Blaenoriaethau

Priorities

 

10. Angela Burns: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Cymru wledig. OAQ(4)0139(FM)

 

10. Angela Burns: Will the First Minister outline his priorities for rural Wales. OAQ(4)0139(FM)

The First Minister: Those priorities are to be found in the programme for government. 

Y Prif Weinidog: Mae’r blaenoriaethau hynny i’w gweld yn y rhaglen lywodraethu.

 

Angela Burns: I would like to raise, once again, the running sore that is the issue of brown signs in the countryside, originally raised with the Minister for tourism and then bounced into the department that deals with roads. There was a consultation on this earlier this year. I wrote to the Minister some time ago, but have not yet received a reply. I know that you do not have direct control over that. It is an issue. In rural communities, we have businesses that are trying to make a go of it but cannot get people to come to see them because the county councils do not allow them to put up ordinary signs and they cannot erect brown signs either. The issue is falling between so many stools, including safety, tourism and so on. First Minister, as the leader of a combined Cabinet, could you finally get to grips with this issue?  I have read a list of people who have raised this issue with you during the last four years and that list includes Members from all parties. This matter is so small that we ought to be able to sort it out once and for all. 

Angela Burns: Hoffwn godi, unwaith eto, y broblem cyson o arwyddion brown yng nghefn gwlad, a godwyd yn wreiddiol gyda’r Gweinidog dros dwristiaeth ac a gafodd ei wthio i’r adran sy’n ymdrin â ffyrdd. Roedd ymgynghoriad ar hyn yn gynharach eleni. Ysgrifennais at y Gweinidog beth amser yn ôl, ond nid wyf wedi cael ateb eto. Gwn nad oes gennych reolaeth uniongyrchol dros hynny. Mae’n broblem. Mewn cymunedau gwledig, mae gennym fusnesau sy’n ceisio gwneud cynnig arni hi ond ni allant gael pobl i ddod i’w gweld oherwydd nad yw’r cynghorau sir yn caniatáu iddynt osod arwyddion cyffredin ac ni allant godi arwyddion brown ychwaith. Mae’r mater yn methu oherwydd ei fod yn ymwneud â chynifer o feysydd, gan gynnwys diogelwch, twristiaeth ac yn y blaen. Brif Weinidog, fel arweinydd Cabinet cyfunol, a allech fynd i’r afael â’r mater hwn yn derfynol?  Rwyf wedi darllen rhestr o bobl sydd wedi codi’r mater hwn gyda chi yn ystod y pedair blynedd diwethaf, ac y mae’r rhestr yn cynnwys Aelodau o bob plaid. Mae’r mater hwn mor fach, dylem allu datrys y broblem unwaith ac am byth.

 

The First Minister: I will pursue this matter and will give you a full response in writing.

Y Prif Weinidog: Byddaf yn mynd ar drywydd y mater hwn a rhoddaf ymateb llawn i chi yn ysgrifenedig.

 

Rebecca Evans: Access to support groups and specialist services for young people with mental health difficulties in rural Wales is particularly problematic. How will the Welsh Government seek to ensure that the needs of young people with mental ill health in rural Wales are met?

Rebecca Evans: Mae mynediad at grwpiau cymorth a gwasanaethau arbenigol i bobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl yng Nghymru wledig yn arbennig o broblemus. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod anghenion pobl ifanc sydd ag afiechyd meddwl yng Nghymru wledig yn cael eu bodloni?

 

The First Minister: We know that the provision of public services in rural Wales is always more problematic than in urban areas, due to the large areas involved and the sparsity of the population. However, we have a commitment to provide equitable services across Wales and, in recognising that, we have established a specialist child and adolescent mental health services planning network that covers the Mid and West Wales area. 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn gwybod bod darparu gwasanaethau cyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru bob amser yn fwy o broblem nag mewn ardaloedd trefol, oherwydd yr ardaloedd mawr dan sylw a natur wasgaredig y boblogaeth. Fodd bynnag, mae gennym ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau teg ledled Cymru ac, wrth gydnabod hynny, rydym wedi sefydlu rhwydwaith gynllunio ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed arbenigol sy’n cwmpasu ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

 

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Wrth ateb y trydydd cwestiwn i’m cydweithiwr yn flaenorol, dadleuodd y Prif Weinidog ynglŷn â diweddu cynllun Tir Mynydd, fod talu mwy i bawb yn well na thalu yn ychwanegol i rai a allai fod mewn mwy o angen. Mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol o’r math o amaethyddiaeth yr wyf yn ei gynrychioli yn Nwyfor Meirionnydd. A yw’r Llywodraeth yn edrych am fesurau eraill i gefnogi ffermwyr a fydd yn dioddef o golli Tir Mynydd yn yr ucheldir? 

 

Lord Elis-Thomas: In responding to the third question to my colleague earlier about bringing the Tir Mynydd scheme to an end, the First Minister argued that paying more to everyone was better than paying more to those who could be in greater need. He is aware of the type of agriculture that I represent in Dwyfor Meirionnydd. Is the Government looking at other means of supporting farmers who will suffer as a consequence of losing Tir Mynydd from the uplands?

Y Prif Weinidog: O edrych ar y ffigurau, y realiti yw y bydd pawb yn elwa. Nid wyf yn gweld sefyllfa lle mae pawb yn cael mwy o arian yn waeth na sefyllfa lle mae pawb yn cael llai o arian. Mae’n wir dweud, o dan yr hen Dir Mynydd, fod gwahaniaeth yn lefel y taliadau. Y gwir yw y bydd pob ffermwr yn cael mwy o arian o dan y drefn newydd. 

The First Minister: Having looked at the figures, the reality is that everyone will benefit. I do not see how a situation where everyone gets more money can be worse than a situation where everyone gets less money. It is true to say that under the old Tir Mynydd there was a difference in the level of payments. The truth is that, under the revised system, every farmer will receive more money.

 

 

2.15 p.m.

 

 

Materion Trawsffiniol

Cross-Border Issues

 

11. Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am faterion trawsffiniol rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru. OAQ(4)0145(FM)

11. Mike Hedges: Will the First Minister make a statement on cross-border issues between local authorities in Wales. OAQ(4)0145(FM)

 

The First Minister: As you know, the Welsh Government’s new footprint for public service delivery provides a clear framework for collaboration between local authorities and, indeed, with other partners.

 

Y Prif Weinidog: Fel y gwyddoch, mae ôl-troed newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yn darparu fframwaith clir ar gyfer cydweithio rhwng awdurdodau lleol ac, yn wir, gyda phartneriaid eraill.

 

Mike Hedges: As I am sure you are aware, a number of taxis, Hackney carriages and private-hire vehicles are registering in one local authority area and touting for business in another. When they go into the second local authority area, the licensing authority cannot take any action against them as they are not licensed there. Could collaboration between local authorities address this issue?

 

Mike Hedges: Fel yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol, mae nifer o dacsis, cerbydau Hacni a cherbydau hurio preifat yn cofrestru mewn un ardal awdurdod lleol a thowtio am fusnes mewn un arall. Pan fyddant yn mynd i mewn i ardal yr ail awdurdod lleol, ni all yr awdurdod trwyddedu gymryd unrhyw gamau yn eu herbyn gan nad ydynt wedi’u trwyddedu yno. A allai cydweithio rhwng awdurdodau lleol mynd i’r afael â mater hwn?

 

The First Minister: The problem is with the law. This is not a devolved matter, so it is a matter for the UK Government. However, the Law Commission has recently announced that it is to carry out a wide-ranging review of the law on taxis and private-hire vehicles. We will, of course, be working with the Law Commission on its review.

 

Y Prif Weinidog: Y broblem yw’r gyfraith. Nid yw hwn yn fater datganoledig, felly mae’n fater i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Comisiwn y Gyfraith wedi cyhoeddi’n ddiweddar ei fod am gynnal adolygiad eang o’r gyfraith ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat. Byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith ar ei adolygiad.

 

Janet Finch-Saunders: First Minister, as you may be aware, we have local service boards, regional partnerships, partnership councils and collaboration boards, and we now have the public services leadership group. I have real concerns that these are not sufficiently joined up in their approach. First Minister, will you work with the Minister for Local Government and Communities to ensure that these groups and boards provide the best possible strategic links and value for local authorities for the benefit of the people of Wales and to further the overall aims of the true collaboration agenda?

 

Janet Finch-Saunders: Brif Weinidog, fel yr ydych efallai’n ymwybodol, mae gennym fyrddau gwasanaeth lleol, partneriaethau rhanbarthol, cynghorau partneriaeth a byrddau cydweithredu, a bellach mae gennym y grŵp arwain gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennyf bryderon gwirioneddol nad yw’r rhain wedi’u cydgysylltu’n ddigonol yn eu dull. Brif Weinidog, a wnewch weithio gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i sicrhau bod y grwpiau a’r byrddau hyn yn darparu’r cysylltiadau strategol gorau posibl a gwerth ar gyfer awdurdodau lleol er budd pobl Cymru ac i hyrwyddo nodau cyffredinol yr agenda cydweithio gwirioneddol?

 

The First Minister: Yes.

 

Y Prif Weinidog: Gwnaf.

Yr Economi

The Economy

 

12. Alun Ffred Jones: Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi. OAQ(4)0142(FM)

 

12. Alun Ffred Jones: What are the Welsh Government’s plans for the economy. OAQ(4)0142(FM)

 

Y Prif Weinidog: Mae’r cynlluniau yn y rhaglen lywodraethu, ac yr wyf wedi ychwanegu manylion y prynhawn yma ynglŷn â rhai o’r pethau sy’n cael eu hystyried.

 

The First Minister: The plans are in my programme for government, and I have added additional plans this afternoon for things that are under consideration. 

 

Alun Ffred Jones: Yn y sefyllfa anodd sydd ohoni, yr wyf yn siŵr eich bod yn cytuno bod gwarchod swyddi yr un mor bwysig â chreu swyddi yn yr economi. Un cynllun sy’n cael effaith uniongyrchol ar fusnesau bach yw’r cynllun rhyddhad trethi, yr oedd Elin Jones yn cyfeirio ato. Wrth ystyried dyfodol y cynllun hwnnw, a ydych yn fodlon ystyried ei ehangu i gwmnïau canolig eu maint—sef asgwrn cefn yr economi mewn llawer o rannau o Gymru?

Alun Ffred Jones: In the difficult situation that we currently face, I am sure that you agree that safeguarding jobs is as important as creating jobs in the economy. One scheme that has a direct impact on small businesses is the business rate relief scheme, which Elin Jones mentioned. In considering the future of that scheme, are you willing to consider expanding it to medium-sized enterprises, which are the backbone of the economy in many parts of Wales?

 

Y Prif Weinidog: Mae adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Yr wyf yn fodlon ystyried beth bynnag mae’r adolygiad yn ei ddangos, gan gofio faint o arian sydd ar gael yn y gyllideb.

 

The First Minister: A review is ongoing. I am willing to consider whatever conclusions come out of that review, bearing in mind how much money is available within the budget.

 

Darren Millar: First Minister, one of the other concerning statistics regarding our economy in Wales is that, in 2009, we had the lowest business birth rate of all the UK nations and regions. What action is your Government taking to improve entrepreneurship in Wales by encouraging people to step out and establish their own businesses to help our economy along?

 

Darren Millar: Brif Weinidog, un o’r ystadegau pryderus eraill ynghylch ein heconomi yng Nghymru yw, yn 2009, roedd gennym y gyfradd genedigaethau busnes isaf o holl wledydd y DU a rhanbarthau. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i wella entrepreneuriaeth yng Nghymru drwy annog pobl i gamu allan a sefydlu eu busnesau eu hunain i helpu ein heconomi?

The First Minister: Four examples: the micro-business strategy; the fact that we have business entrepreneurship champions; the youth entrepreneurship strategy; and the start-up service that will help so many new businesses.

 

 Y Prif Weinidog: Pedair enghraifft: y strategaeth microfusnesau; y ffaith bod gennym hyrwyddwyr entrepreneuriaeth busnes; y strategaeth entrepreneuriaeth ieuenctid; a’r gwasanaeth cychwyn busnes a fydd yn helpu cynifer o fusnesau newydd.

 

 

Gwasanaethau Trenau

Train Services

 

13. Paul Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau trenau yn sir Benfro. OAQ(4)0144(FM)

 

13. Paul Davies: Will the First Minister make a statement on train services in Pembrokeshire. OAQ(4)0144(FM)

 

Y Prif Weinidog: Mae trigolion sir Benfro bellach yn elwa o bum gwasanaeth trên ychwanegol y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, i borthladd Abergwaun. Mae’r gwasanaethau ychwanegol hyn yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

 

The First Minister: Pembrokeshire residents now benefit from five additional train services per day, from Monday to Saturday, to Fishguard harbour. These additional services are funded by the Welsh Government.

 

Paul Davies: Yr wyf yn ddiolchgar i’r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, mae fy etholwyr yn ddiolchgar bod y gwasanaethau ychwanegol hyn wedi dod i sir Benfro. Ond, yn ddiweddar, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â gorlenwi ar drenau. Mae achosion o bobl yn methu â defnyddio’r toliedau gan eu bod yn methu â’u cyrraedd. Yr wyf yn deall nad oes rheolau pendant ynglŷn â gorlenwi trenau ac yr wyf yn derbyn mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal ag i’ch Llywodraeth chi yw iechyd a diogelwch. Fodd bynnag, pa gynlluniau sydd gennych chi a’ch Llywodraeth i daclo’r problemau hyn? Pa drafodaethau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn?

 

Paul Davies: I am grateful to the First Minister for that answer. Of course, my constituents are extremely grateful that these additional services have come to Pembrokeshire. However, recently, a number of constituents have contacted me about overcrowding on trains. There are cases of people being unable to use the toilets because they cannot actually get to them. I understand that there are no definite rules or regulations on train capacities. I also understand that health and safety issues are matters for the United Kingdom Government and your Government. However, can you tell us what plans you and your Government have to tackle these problems? What discussions, if any, has the Welsh Government had with the United Kingdom Government on this matter?

 

Y Prif Weinidog: Yn gyntaf, mae’n rhaid inni gael tystiolaeth. Yna, byddwn yn hapus i edrych ar y dystiolaeth honno, pe gallech ysgrifennu ataf.

 

The First Minister: First, we need the evidence. I would be happy to review that evidence if you could write to me with it.

 

 

Simon Thomas: Tra’n croesawu’r gwasanaethau newydd i Abergawun, gwasanaethau dros dro yw’r rhain ac mae’n bwysig bod pobl yn eu defnyddio er mwyn sicrhau eu bod yn parhau—er nad wyf eisiau gweld gorlenwi ychwaith. Mae un ddolen ar goll ar hyn o bryd yn y gwasanaethau o Abergwaun i weddill Cymru, sef y posibiliad o ddefnyddio gorsaf Wdig. Nid oes angen i bob trên fynd i ben y daith, ar gyfer y fferi, er enghraifft. Efallai fod modd creu hub bach lleol er mwyn i fysys integreiddio gyda’r trenau yn Wdig. Pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau y bydd hwn yn bosibiliad yn y dyfodol?

 

Simon Thomas: While I welcome the new services to Fishguard, they are temporary services, and it is important that people use them in order to ensure that they continue—not that I want to see overcrowded trains. One link is missing at the moment in the services between Fishguard and the rest of Wales, namely the possibility of using Goodwick station. Not all trains need to reach the end of the line, at the ferry, for example. It might be possible to create a local hub at Goodwick, where buses could integrate with the trains. What steps are being taken to ensure that this is a possibility for the future?

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn deall bod Consortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru yn ystyried hwn ar hyn o bryd, i weld a fyddai’n ymarferol.

The First Minister: I understand that the South West Wales Integrated Transport Consortium is currently considering the practicality of this issue.

 

 

Gwasanaethau Cyhoeddus

Public Services

 

14. Sandy Mewies: A yw Llywodraeth Cymru wedi asesu effaith newidiadau’r DU i fudd-daliadau tai ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0151(FM)

14. Sandy Mewies: Has the Welsh Government made any assessment of the impact UK changes in housing benefits are having on public services in Wales. OAQ(4)0151(FM)

 

The First Minister: I am concerned about the potential implication that welfare reform will have on public services, particularly with the introduction of universal credit from 2013.

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn pryderu am oblygiadau posibl y diwygiadau lles ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gyda chyflwyno credyd cynhwysol o 2013.

Sandy Mewies: Shelter recently surveyed councillors about the effect that housing benefit changes would have on their areas. Sixty-six per cent said that there would be significant knock-on cost to local councils, due to reductions in housing benefits. Significantly, 49 per cent of Lib Dem councillors in Wales believed that the coalition Government’s decision will lead to an increase in homelessness. Even 20 per cent of Tory councillors believed the same. Do you agree that these reductions to housing benefit will create extra pressure on all public services, like schools, hospitals and advice and support services?

 

Sandy Mewies: Fe wnaeth Shelter arolygu cynghorwyr yn ddiweddar am yr effaith y byddai newidiadau i’r budd-dal tai yn cael ar eu hardaloedd. Dywedodd 66 y cant y bydd cost ganlyniadol sylweddol i gynghorau lleol, oherwydd gostyngiadau mewn budd-daliadau tai. Yn arwyddocaol, roedd 49 y cant o gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn credu y bydd penderfyniad y Llywodraeth glymblaid yn arwain at gynnydd mewn digartrefedd. Roedd hyd yn oed 20 y cant o gynghorwyr Torïaidd yn credu’r un peth. A ydych yn cytuno y bydd y gostyngiadau hyn i fudd-dal tai yn creu pwysau ychwanegol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus, megis ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyngor a chymorth?

 

The First Minister: There is no doubt about that. There is an additional concern for the Welsh Government, namely that this appears to be a cost-saving measure for the UK Government, but an extra burden on the Welsh Government, because of our responsibilities with regard to housing.

 

Y Prif Weinidog: Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ceir pryder ychwanegol dros Lywodraeth Cymru, sef bod hyn yn ymddangos i fod yn fesur arbed costau ar gyfer Llywodraeth y DU, ond yn faich ychwanegol ar Lywodraeth Cymru, oherwydd ein cyfrifoldebau o ran tai.

Mark Isherwood: A key component of this is local housing allowance and the dialogue is often confusing. This allowance applies only to claimants in the private rented sector. What dialogue has your Government been having with the National Landlords Association? It has already done work on what property is required and how and where landlords need to invest in the future, but it needs to work closely with local authorities to identify that local need and adjust supply to ensure appropriateness in the future. So, what action are you taking to address that with the National Landlords Association, local authorities and other providers to ensure that the best property is available in the future for the claimants affected?

 

Mark Isherwood: Elfen allweddol o hyn yw’r lwfans tai lleol ac mae’r ddeialog yn aml yn ddryslyd. Mae’r lwfans hwn yn gymwys yn unig i hawlwyr yn y sector rhentu preifat. Pa ddeialog y mae eich Llywodraeth wedi bod yn cael gyda Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid? Mae eisoes wedi gwneud gwaith ar ba eiddo sy’n ofynnol a sut a ble mae angen i landlordiaid i fuddsoddi yn y dyfodol, ond mae angen iddo weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i nodi’r angen lleol hwnnw ac addasu’r cyflenwad i sicrhau priodoldeb yn y dyfodol. Felly, pa gamau yr ydych yn eu cymryd i ymdrin â hynny gyda Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid, awdurdodau lleol a darparwyr eraill i sicrhau bod yr eiddo gorau ar gael yn y dyfodol ar gyfer yr hawlwyr yr effeithir arnynt?

 

The First Minister: I know that local authorities are looking to ensure that there is adequate accommodation available in the future. It will be difficult for them, given the financial situation in which they find themselves. Nevertheless, we will look to work with local authorities and any outside organisation to ensure that there is sufficient good-quality private rented accommodation available.

 

Y Prif Weinidog: Gwn fod awdurdodau lleol yn edrych i sicrhau bod llety digonol ar gael yn y dyfodol. Bydd yn anodd iddynt, o ystyried y sefyllfa ariannol y cânt eu hunain. Serch hynny, byddwn yn edrych i weithio gydag awdurdodau lleol ac unrhyw gorff allanol i sicrhau bod digon o lety rhent preifat o ansawdd da ar gael.

Jenny Rathbone: Even before these housing benefit changes came in, last week Cardiff Council had the highest ever number of people on the housing waiting list, at 12,024 people. Given the pressure on people to downsize because their housing benefit will no longer cover the rent of the property that they are in, how are we going to support local authorities to deal with this incoming crisis?

 

Jenny Rathbone: Hyd yn oed cyn i’r newidiadau i’r budd-dal tai dod i rym, yr wythnos diwethaf Cyngor Caerdydd oedd yr uchaf erioed yn nifer y bobl ar y rhestr aros am dai, yn 12,024 o bobl. O ystyried y pwysau ar bobl i symud oherwydd ni fydd eu budd-dal tai mwyach yn talu rhent yr eiddo y maent ynddo, sut y byddem ni’n cefnogi awdurdodau lleol i ddelio â’r argyfwng newydd hwn?

 

The First Minister: We look to support local authorities in any way we can, not just with this but with other responsibilities that they have. That is why, in Wales, local authorities are funded proportionately far better than elsewhere in the UK.

 

Y Prif Weinidog: Rydym yn edrych i gefnogi awdurdodau lleol mewn unrhyw ffordd y gallwn, nid yn unig gyda hyn ond â chyfrifoldebau eraill sydd ganddynt. Dyna pam, yng Nghymru, mae awdurdodau lleol yn cael eu hariannu yn ôl cyfran llawer gwell na mewn mannau eraill yn y DU.

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

 

 

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): I have one change to report to this week’s business. Tomorrow, the First Minister will be making an oral statement on the Welsh language commissioner. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

 

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Mae gennyf un newid i’w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Yfory, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar ar y comisiynydd iaith Gymraeg. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg y papurau agenda sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

The Presiding Officer: Thank you, Minister. I will always seek to accommodate the Government in making important statements to Plenary, and I also appreciate that there will be occasions when the need to do so arises at short notice. Equally though, we have a well-established procedure for considering Plenary business through the Business Committee, and I take a dim view of any attempt to bypass that process, except in exceptional circumstances. I am very grateful to the opposition party business managers for their willingness to be flexible in relation to the announcement. I therefore agree to allow the Government to bring forward that statement.

 

Y Llywydd: Diolch ichi, Weinidog. Byddaf bob amser yn ceisio neilltuo amser ar gyfer y Llywodraeth i wneud datganiadau pwysig i’r Cyfarfod Llawn, a sylweddolaf y bydd achlysuron pan fydd yr angen i wneud hynny yn codi ar fyr rybudd. Serch hynny, mae gennym weithdrefn sefydledig ar gyfer ystyried busnes y Cyfarfod Llawn drwy’r Pwyllgor Busnes, ac yr wyf yn anghymeradwyo unrhyw ymgais i osgoi’r broses honno, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Yr wyf yn ddiolchgar iawn i reolwyr busnes y gwrthbleidiau am eu parodrwydd i fod yn hyblyg o ran y cyhoeddiad. Felly, cytunaf i ganiatáu i’r Llywodraeth gyflwyno’r datganiad hwnnw.

I have 14 speakers on this item, so I request earnestly that Members are as succinct as possible, or we will not be able to get through everyone.

 

Mae gennyf 14 o siaradwyr ar yr eitem hon, felly gofynnaf yn daer fod Aelodau mor gryno â phosibl, neu ni fyddwn yn gallu galw pawb.

William Graham: Thank you for your statement, Leader of the House. Will you make time for a statement on a matter of great concern in the South Wales East region regarding the purported closure of minor injuries units in the Aneurin Bevan Local Health Board, particularly those in Panteg, the new hospital at Chepstow and the new hospital at Monmouth?

 

William Graham: Diolch i chi am eich datganiad, Arweinydd y Tŷ. A wnewch amser ar gyfer datganiad ar fater o bryder mawr yn rhanbarth Dwyrain De Cymru ynghylch y cau unedau mân anafiadau honedig ym Mwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, yn enwedig y rheini ym Mhanteg, yr ysbyty newydd yng Nghas-gwent a’r ysbyty newydd yn Nhrefynwy?

Jane Hutt: This is obviously an important issue for the Member for South Wales East. The Minister for Health and Social Services has her oral questions tomorrow, giving you an opportunity to raise that with her.

 

Jane Hutt: Mae hyn yn amlwg yn fater pwysig ar gyfer yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru. Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb cwestiynau llafar yfory, a fyddai’n rhoi cyfle i chi godi hynny gyda hi.

 

Julie Morgan: Following the launch of ‘Travelling to a Better Future’ last week, will the Minister consider timetabling a debate so that an assessment can be made of the progress towards better access to services for Gypsy and Traveller people?

 

Julie Morgan: Yn dilyn y lansiad ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’ yr wythnos diwethaf, a fydd y Gweinidog yn ystyried amserlennu dadl fel y gellir gwneud asesiad o’r cynnydd tuag at well mynediad i wasanaethau ar gyfer pobl Sipsiwn a’r Teithwyr?

Jane Hutt: I am aware of the Member for Cardiff North’s interest in the Gypsy and Traveller communities and policy issues. I believe that she was involved in launching an initiative at the weekend for this important community. I will certainly look to timetabling a debate in the Assembly to consider progress on ‘Travelling to a Better Future’.

 

Jane Hutt: Yr wyf yn ymwybodol o ddiddordeb yr Aelod dros Ogledd Caerdydd yn y cymunedau Sipsiwn a’r Teithwyr a materion polisi. Credaf yr oedd hi’n ymwneud â lansio menter dros y penwythnos ar gyfer y gymuned bwysig hon. Byddaf yn sicr yn edrych i amserlennu dadl yn y Cynulliad i ystyried y cynnydd ar ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’.

Simon Thomas: The Minister for Education and Skills has, in the past, made statements to the Assembly on the University of Wales. Yet more attention has been given to the University of Wales in the press this week, and a number of students are now uncertain about the value or the future of their degrees. That, perhaps, includes those of those who hold University of Wales degrees. Will the Minister talk to her colleague, and ask him to bring forward a statement as soon as possible within the confines of the news in the media this week, so that all of us have a chance to ask the Minister about the future of this institution, and how we can ensure that the good name of Wales as a place of learning and research and higher education is maintained through a very difficult time?

 

Simon Thomas: Mae’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau wedi, yn y gorffennol, gwneud datganiadau i’r Cynulliad ar Brifysgol Cymru. Rhoddwyd hyd yn oed mwy o sylw i Brifysgol Cymru yn y wasg yr wythnos hon, ac mae nifer o fyfyrwyr yn awr yn ansicr am werth neu ddyfodol eu graddau. Mae hynny, efallai, yn cynnwys y rhai sydd â graddau Prifysgol Cymru. A wnaiff y Gweinidog siarad â’i chydweithiwr, a gofyn iddo i gyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl o fewn cyfyngiadau’r newyddion yn y cyfryngau’r wythnos hon, fel bod pob un ohonom yn cael cyfle i ofyn i’r Gweinidog am ddyfodol y sefydliad hwn, a sut y gallwn sicrhau bod enw da Cymru fel lle dysgu ac ymchwilio ac addysg uwch yn cael ei gynnal drwy gyfnod anodd iawn?

Jane Hutt: This is an important issue, but it is for higher education institutions to determine their degree-awarding arrangements, not the Government. However, I am sure that your good name in terms of educational achievements is bearing fruit as you speak today.

 

Jane Hutt: Mae hwn yn fater pwysig, ond mater i sefydliadau addysg uwch ydyw i benderfynu ar eu trefniadau dyfarnu graddau, nid y Llywodraeth. Fodd bynnag, yr wyf yn siŵr bod eich enw da o ran cyflawniadau addysgol yn dwyn ffrwyth wrth i chi siarad heddiw.

Kirsty Williams: Will the Minister make time for a statement on Glastir? The decision by the Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes last week means that, for the first time in 60 years, the additional challenges of farming in less favoured areas will not be recognised. In that statement, the Deputy Minister could explain why the Ministers for agriculture in England, Northern Ireland and Scotland have all convinced the European Union to back farming in the LFA, when it seems that the Welsh Deputy Minister is unable to do so.

 

Kirsty Williams: A fydd y Gweinidog yn gwneud amser ar gyfer datganiad ar Glastir? Golyga penderfyniad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, am y tro cyntaf mewn 60 mlynedd, ni chaiff yr heriau ychwanegol o ffermio mewn ardaloedd llai ffafriol ei gydnabod. Yn y datganiad hwnnw, gallai’r Dirprwy Weinidog egluro pam fod y Gweinidogion amaeth yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi argyhoeddi’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi ffermio yn yr ALFf, pan mae’n ymddangos bod Dirprwy Weinidog Cymru yn methu â gwneud hynny.

 

Jane Hutt: I think that the leader of the Liberal Democrats is aware that the Government announced in the previously published payment rates that a single rate of £34 per hectare per annum would apply under the all-Wales element of the Glastir scheme. However, I am sure that this is an issue that you would want to raise with the Deputy Minister.

 

Jane Hutt: Credaf fod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi yn y cyfraddau talu a gyhoeddwyd yn flaenorol y byddai cyfradd o £34 yr hectar y flwyddyn yn gymwys o dan elfen Cymru gyfan y cynllun Glastir. Fodd bynnag, yr wyf yn siŵr bod hwn yn fater y byddech am godi gyda’r Dirprwy Weinidog.

Mark Isherwood: I call for a statement on a Scope-funded research paper undertaken by Demos that was published last week, entitled ‘Coping with the Cuts. Less money doesn’t have to mean a poorer service for disabled people...’ It said that

 

Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad ar bapur ymchwil a ariennir gan Scope gan Demos a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, dan y teitl ‘Coping with the Cuts. Less money doesn’t have to mean a poorer service for disabled people...’ Dywedodd

‘Wales has made a conscious decision not to adopt the personalisation agenda as defined by English policy makers so while direct payments exist, take-up is very low’.

 

Mae Cymru wedi gwneud penderfyniad ymwybodol i beidio â mabwysiadu’r agenda personoli fel y diffinnir gan wneuthurwyr polisi yn Lloegr, felly tra bod taliadau uniongyrchol yn bodoli, nid oes llawer o bobl yn eu defnyddio.

 

It also reported on its findings from a small number of forward-thinking local authorities, identifying common strategies, including a commitment to personalisation, not as a cost-cutting measure, but as a foundation on which other strategies can be built. Given the findings of the report, that the best outcomes are being delivered where a personalisation agenda is maximised, could we have a statement in the context of the Welsh Government’s agenda for this Assembly term?

 

Roedd hefyd yn adrodd ar ei ganfyddiadau o nifer fach o awdurdodau lleol blaengar, ac yn nodi strategaethau cyffredin, gan gynnwys ymrwymiad i bersonoli, nid fel mesur torri costau, ond fel sylfaen i adeiladu strategaethau eraill. O ystyried canfyddiadau’r adroddiad, bod y canlyniadau gorau’n cael eu darparu lle mae bob cyfle i fanteisio ar agenda bersonoli, a allwn ni gael datganiad yng nghyd-destun agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Cynulliad hwn?

Jane Hutt: Mark Isherwood will be aware that papers such as this from Demos, as well as from Engage and Scope, are important in the way forward with regard to feeding through into policy evidence. However, we are proud of our direct payment scheme, and I recently met Disability Wales to talk about a way forward for our strategy and framework for independent living.

 

Jane Hutt: Bydd Mark Isherwood yn ymwybodol bod papurau fel hyn gan Demos, yn ogystal â rhai gan Engage a Scope, yn bwysig o ran y ffordd ymlaen ynghylch bwydo i mewn i dystiolaeth polisi. Fodd bynnag, rydym yn falch o’n cynllun taliad uniongyrchol, a chyfarfûm yn ddiweddar ag Anabledd Cymru i siarad am y ffordd ymlaen ar gyfer ein strategaeth a fframwaith ar gyfer byw’n annibynnol.

 

2.30 p.m.

 

Alun Ffred Jones: Galwaf am amser i gynnal dadl ar ddatblygiad cynlluniau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae trafod wedi bod yn y lle hwn ers 10 mlynedd a mwy ynglŷn â phwysigrwydd y maes hwn yn wyneb y newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, gwyddom ein bod wedi methu yn gyson â chyrraedd y targedau hynny. Mae’r ffigurau diweddaraf ynglŷn â chapasiti cynhyrchu dan gynllun y tariff newydd ar gyfer bwydo i mewn yn arddangos tueddiadau peryglus ac anffodus iawn i Gymru. Er enghraifft, mae’r Alban yn cynhyrchu tair gwaith yn fwy o ynni o ffynhonellau adnewyddadwy nag y mae Cymru yn ei wneud, felly hefyd de-orllewin Lloegr, ac mae nifer o ardaloedd yn Lloegr yn gwneud yn well na ni yng Nghymru, er bod gennym fanteision amlwg iawn. Mae’n bwysig bod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn—mwy nag un Gweinidog, a dweud y gwir—yn dod i’r Siambr i esbonio cynlluniau’r Llywodraeth a sut y bydd yn cyrraedd y targedau uchelgeisiol sydd wedi’u gosod.

 

Alun Ffred Jones: I call for time for a debate on the development of renewable energy schemes in Wales. There has been discussion in this place for 10 years and more about the importance of this field in the face of climate change. However, we know that we have consistently failed to meet those targets. The latest figures on production capacity under the feed-in tariff scheme show very dangerous and unfortunate trends for Wales. For example, Scotland produces three times more energy from renewable sources than Wales does, as does south-west England, and a number of areas in England are doing better than we are in Wales, although we have very obvious advantages. It is important that the Minister with responsibility in this field—more than one Minister in fact—comes to the Chamber to explain the Government’s plans and how it will meet the ambitious targets that have been set.

Jane Hutt: Clearly, this is not only a matter for the Minister for Environment and Sustainable Development. Alun Ffred Jones is quite right; it goes across the Government in terms of economic opportunities, as well as environmental and sustainability prospects, and the Minister is, clearly, considering renewable energy opportunities with his colleagues.

 

Jane Hutt: Yn amlwg, nid yw’n fater yn unig i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. Mae Alun Ffred Jones yn llygad ei le: mae’n mynd ar draws y Llywodraeth o ran cyfleoedd economaidd, yn ogystal â rhagolygon amgylcheddol a chynaliadwyedd, ac mae’r Gweinidog, yn amlwg, yn ystyried cyfleoedd ynni adnewyddadwy gyda’i gydweithwyr.

The Presiding Officer: I call Aled Roberts.

 

Y Llywydd: Galwaf ar Aled Roberts.

Aled Roberts: As another worried graduate of the University of Wales, Simon Thomas has already asked my question.

 

Aled Roberts: Fel rhywun pryderus arall a raddiodd o Brifysgol Cymru, mae Simon Thomas eisoes wedi gofyn fy nghwestiwn.

The Presiding Officer: Well, there we are. I call Leanne Wood.

 

Y Llywydd: Wel, dyna ni, felly. Galwaf ar Leanne Wood.

Leanne Wood: Earlier in questions to the First Minister, I asked for a progress update on the discussions about Remploy. The situation is urgent, but the First Minister seemed more interested in giving a pre-prepared answer to the previous question than in saying what he has done about Remploy. I would like to know whether the case for devolution has been made to Westminster or not. Can we please have a statement on this, as a matter of urgency?

 

Leanne Wood: Yn gynharach yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog, gofynnais am adroddiad cynnydd ar y trafodaethau am Remploy. Mae’r sefyllfa’n fater o frys, ond ymddangosai’r Prif Weinidog â mwy o ddiddordeb mewn rhoi ateb parod i’r cwestiwn blaenorol na dweud beth a wnaeth am Remploy. Hoffwn wybod a wnaed achos dros ddatganoli i San Steffan neu beidio. A gawn ddatganiad ar hyn, fel mater o frys?

Jane Hutt: The First Minister answered this point very clearly, and it is a matter of concern for all of us, particularly those of us who have Remploy factories in our constituencies.

 

Jane Hutt: Atebodd y Prif Weinidog y pwynt hwn yn glir iawn, ac mae’n fater o bryder i bob un ohonom, yn enwedig y rhai ohonom sydd â ffatrïoedd Remploy yn ein hetholaethau.

Darren Millar: I call for a statement from the Minister for Local Government and Communities on the north-south air link. There were considerable concerns when the £1.2 million of subsidy was granted for a further four years at the tail end of 2010. The new Government has an opportunity to review the decision of the previous One Wales Government with regard to this subsidy. It is concerning that at a time when environmental matters should be a priority for this institution, such a significant subsidy is being given to an air service, while, at the same time, subsidies for bus routes in my own constituency, particularly in the rural parts, are being reduced. I ask that a statement be made as soon as possible.

 

Darren Millar: Galwaf am ddatganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de. Roedd yna bryderon sylweddol pan roddwyd yr £1.2 miliwn o gymhorthdal ar gyfer y rhaglen pedair blynedd ar ddiwedd 2010. Mae gan y Llywodraeth newydd gyfle i adolygu penderfyniad y Llywodraeth flaenorol Cymru’n Un o ran y cymhorthdal hwn. Mae’n destun pryder ar adeg pan ddylai materion amgylcheddol fod yn flaenoriaeth ar gyfer y sefydliad hwn, rhoddir cymhorthdal sylweddol o’r fath i wasanaeth awyr, tra, ar yr un pryd, mae cymorthdaliadau ar gyfer llwybrau bysiau yn fy etholaeth, yn enwedig yn y rhannau gwledig, yn cael eu lleihau. Gofynnaf am datganiad cyn gynted â phosibl.

 

Jane Hutt: The national transport plan is the vehicle for all policy development in this respect.

 

Jane Hutt: Y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol yw’r cyfrwng i bob datblygiad polisi yn hyn o beth.

Bethan Jenkins: Will the Government make a statement to congratulate the youth Commonwealth team on its recent fantastic success? It brought home 26 medals and finished fifth overall in the medals table. I have looked on the Government website and I cannot see anything congratulating it, so I would welcome a statement on that. My other request, which I also made last week, is for a debate in Government time on the future of broadcasting in Wales. You suggested that I ask a question of the Minister, Huw Lewis, but there was no appropriate opportunity in his question session to discuss broadcasting—questions to Ministers are a lottery at the end of the day, and I do not think that we should be relying on the lottery of questions to the Minister to learn about progress and proactivity from the Government in this particular area. Again, I call for a debate on broadcasting in Wales.

 

Bethan Jenkins: A wnaiff y Llywodraeth yn ddatganiad i longyfarch tîm ieuenctid y Gymanwlad ar ei lwyddiant gwych yn ddiweddar? Daeth adref â 26 o fedalau a gorffennodd yn bumed yn gyffredinol yn y tabl medalau. Yr wyf wedi edrych ar wefan y Llywodraeth ac ni allaf weld unrhyw beth yn ei longyfarch, felly byddwn yn croesawu datganiad ar hynny. Mae fy nghais arall, a wneuthum yr wythnos diwethaf hefyd, am ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddyfodol darlledu yng Nghymru. Awgrymasoch fy mod yn gofyn cwestiwn i’r Gweinidog, Huw Lewis, ond nid oedd cyfle priodol yn ei sesiwn gwestiynau i drafod darlledu—mae cwestiynau i Weinidogion yn loteri ar ddiwedd y dydd, ac nid wyf yn credu y dylwn fod yn dibynnu ar y loteri o gwestiynau i’r Gweinidog i ddysgu am gynnydd a gweithredu rhagweithiol gan y Llywodraeth yn y maes penodol hwn. Unwaith eto, galwaf am ddadl ar ddarlledu yng Nghymru.

 

Jane Hutt: I thank Bethan Jenkins for bringing to the attention of the Chamber, if Members were not already aware, the success of the Commonwealth youth team. I am sure that the Minister for Housing, Regeneration and Heritage will send, or possibly already has sent, his congratulations, and we will ensure that that goes on our Government website. The importance of broadcasting is clearly indicated by the fact that there is now an Assembly task and finish group, chaired by Ken Skates, on broadcasting. We need to look to the outcome of that in terms of the Government bringing something forward to the Chamber.

 

Jane Hutt: Diolch i Bethan Jenkins am dynnu sylw’r Siambr, os nad oedd Aelodau eisoes yn ymwybodol, at lwyddiant tîm ieuenctid y Gymanwlad. Yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn anfon, neu, o bosibl, eisoes wedi anfon, ei longyfarchiadau, a byddwn yn sicrhau fod hynny’n mynd ar ein gwefan Llywodraeth. Mae pwysigrwydd darlledu’n cael ei amlinellu’n glir gan y ffaith bod bellach grŵp gorchwyl a gorffen gan y Cynulliad, a gadeirir gan Ken Skates, ar ddarlledu. Mae angen inni edrych ar y canlyniad o hynny o ran y Llywodraeth yn cyflwyno rhywbeth i’r Siambr.

Janet Finch-Saunders: Minister, this week the UK coalition Government announced an £805 million council tax payments package for England next year, and we know that the Welsh Government is to receive a Barnett consequential as a result. This is a very welcome announcement, with the provision of sufficient funding to extend the scheme to Wales and those who pay council tax here. Can we have a statement from the Minister for Finance on council tax explaining how the Welsh Government intends to support Welsh pensioners and families, whose bills have more than doubled over 12 years of Labour Welsh rule?

 

Janet Finch-Saunders: Weinidog, yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth glymblaid y DU becyn taliadau treth gyngor £805 miliwn ar gyfer Lloegr y flwyddyn nesaf, ac yr ydym yn gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn cael swm canlyniadol Barnett o ganlyniad i hynny. Mae hwn yn gyhoeddiad i’w groesawu’n fawr, gyda digon o gyllid i ymestyn y cynllun i Gymru a’r rheini sy’n talu’r dreth gyngor yma. A gawn ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid ar y dreth gyngor yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cefnogi pensiynwyr Cymru a theuluoedd, sydd wedi gweld eu biliau’n fwy na dyblu dros 12 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru?

 

Jane Hutt: A statement on the draft budget is forthcoming this afternoon, and so that matter will be dealt with shortly.

 

Jane Hutt: Bydd datganiad ar y gyllideb ddrafft yn dod gerllaw’r prynhawn yma, ac felly delir â’r mater hwnnw cyn bo hir.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Yn wahanol i ddau Aelod arall, fel person graddedig ac uwchraddedig o brifysgol Cymru, mae gennyf lwyr ymddiriedaeth yn safon y graddau, gan fy mod wedi eu derbyn—fel y Gweinidog Addysg a Sgiliau—ym Mhrifysgol Bangor. Mae fy niddordeb cyfredol yn y lle hwnnw wedi ei gofrestru eisoes. Gwahoddaf y Gweinidog i drefnu yn fuan ddadl ar addysg uwch yng Nghymru, fel y gallwn longyfarch yr is-ganghellor, Medwin Hughes, ar gymryd gafael o ddifrif am y tro cyntaf ar sefydliad honedig cenedlaethol a fu’n gwbl ddiffygiol ei lywodraethiad gan ddwyn anfri ar Gymru ers degawdau.

 

Lord Elis-Thomas: Unlike two other Members, as a graduate and postgraduate of the University of Wales, I have full confidence in the quality of the degrees, as I received them—as did the Minister for Education and Skills—from Bangor University. My current interest in that place is already registered. I invite the Minister to organise soon a debate on higher education in Wales, so that we can congratulate the vice-chancellor, Medwin Hughes, on getting a serious grip for the first time on a so-called national institution that has been entirely deficient in its governance and thus has brought Wales into disrepute for decades.

Jane Hutt: I am sure that we would all wish to join Dafydd Elis-Thomas in congratulating Medwin Hughes on the leadership that he has demonstrated in higher education in Wales. I am sure that it will lead to debate in due course.

 

Jane Hutt: Yr wyf yn siŵr y byddem oll yn dymuno ymuno â Dafydd Elis-Thomas i longyfarch Medwin Hughes ar yr arweiniad y mae wedi ei ddangos yn addysg uwch yng Nghymru. Yr wyf yn siŵr y bydd yn arwain at drafod maes o law.

Eluned Parrott: Minister, I have raised the question of hydraulic fracturing, or fracking, in the Chamber previously, because it is of great concern to residents in my region. I believe that several applications for test drilling are now being considered, not least of which is the application for a site in Llandow in your constituency, the decision on which was deferred last week because, as I understand it, the Minister for Environment and Sustainable Development refused to call in that application. Will the Minister please request an urgent statement from her colleague, the Minister for environment, on this issue in order to give clear direction to our local authorities as they struggle with this technically difficult area?

 

Eluned Parrott: Weinidog, rwyf wedi codi’r cwestiwn o hollti hydrolig, neu ffracio, yn y Siambr o’r blaen, oherwydd mae’n peri pryder mawr i breswylwyr yn fy rhanbarth. Credaf fod nifer o geisiadau ar gyfer drilio prawf erbyn hyn, yn cynnwys cais am safle yn Llandŵ yn eich etholaeth chi, gohiriwyd y penderfyniad arno yr wythnos diwethaf oherwydd, fel y deallaf, gwrthododd y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i alw i mewn y cais hwnnw. A wnaiff y Gweinidog os gwelwch yn dda ofyn am ddatganiad brys gan ei chyd-Aelod, y Gweinidog amgylchedd, ar y mater hwn er mwyn rhoi cyfeiriad clir i’n hawdurdodau lleol wrth iddynt ymdrechu â’r maes technegol anodd hwn?

Jane Hutt: It is an important issue, and not just in south-east Wales and the South Wales Central region that you represent. We would welcome the UK Government working with us as a devolved administration to put in place a robust and evidence-based policy framework for shale gas extraction in the UK.

Jane Hutt: Mae’n fater pwysig ac nid yn unig yn ne-ddwyrain Cymru a’r rhanbarth Canol De Cymru yr ydych yn eu cynrychioli. Byddem yn croesawu Llywodraeth y DU i weithio gyda ni fel gweinyddiaeth ddatganoledig i sefydlu fframwaith polisi cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer echdynnu nwy siâl yn y DU.

 

Datganiad: Y Gyllideb Ddrafft
Statement: Draft Budget

 

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): I have today published the Government’s spending plans for the next three years. These plans equip us to deliver a budget for growth and jobs and our ambitious programme for government. I am pleased to present this budget to the Assembly on the day of its publication. That is a first, and I hope that it demonstrates my continuing commitment to openness and transparency.

 

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Yr wyf heddiw wedi cyhoeddi cynlluniau gwariant y Llywodraeth ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae’r cynlluniau hyn yn ein galluogi ni i gyflawni cyllideb ar gyfer twf a swyddi a’n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol. Yr wyf yn falch o gyflwyno’r gyllideb hon i’r Cynulliad ar ddiwrnod ei chyhoeddi. Ni ddigwyddodd hynny o’r blaen, a gobeithiaf ei fod yn dangos fy ymrwymiad parhaus i fod yn agored ac yn dryloyw.

This is the second year of the spending review cycle; we are not starting from scratch. The previous spending plans approved by the Assembly in February provided a firm basis on which to plan the delivery of our programme for government. We have a clear vision for Wales, recognising the imperatives for action to support the economic recovery. We want a more prosperous economy, and we want better and more efficient public services that equip people to fulfil their potential and maximise their contribution to society and the economy. That means improved education, health, social services, housing and equality—themes that run through the programme for government and shape our ‘five for a fairer future’ commitments and underpin the spending plans that I have published today.

 

Dyma ail flwyddyn y cylch adolygu gwariant; nid ydym yn dechrau o’r dechrau. Fe wnaeth y cynlluniau gwariant blaenorol a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Chwefror ddarparu sail gadarn i gynllunio cyflenwi’n rhaglen lywodraethu. Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer Cymru, gan gydnabod yr angen am weithredu i gefnogi adferiad economaidd. Rydym am economi fwy ffyniannus, a gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy effeithlon sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial a chyfrannu gymaint â phosibl at gymdeithas a’r economi. Mae hynny’n golygu gwell addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai a chydraddoldeb—themâu sy’n rhedeg drwy’r rhaglen lywodraethu ac yn ffurfio’n hymrwymiadau ‘pump ar gyfer dyfodol tecach’ ac yn sail i’r cynlluniau gwario hynny yr wyf wedi cyhoeddi heddiw.

In these difficult economic times, this is a budget for growth and jobs. Our successful ProAct and ReAct schemes have kept more people in work in Wales than has been the case in past recessions. We have helped thousands of people to retain their jobs or to return to work quickly. Building on our successful approach, we are extending our Adapt programme, which targets people who have lost jobs in the public sector and helps them to retrain and get back into work or to pursue their own enterprises. Tackling youth unemployment is vital for the health of our economy and of our society. We must do everything that we can to give young people the right opportunities and to avoid another lost generation. We are investing £75 million over the next three years in our new Jobs Growth Wales scheme. This scheme will support young people and businesses with tailored training and employment opportunities. Four thousand young people will benefit every year.

 

Yn yr amseroedd economaidd anodd hyn, mae hon yn gyllideb ar gyfer twf a swyddi. Mae ein cynlluniau ProAct a ReAct llwyddiannus wedi cadw mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru nag y bu mewn dirwasgiadau yn y gorffennol. Yr ydym wedi helpu miloedd o bobl i gadw eu swyddi neu i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. I adeiladu ar ein dull llwyddiannus, yr ydym yn ymestyn ein rhaglen Adapt, sy’n targedu pobl sydd wedi colli swyddi yn y sector cyhoeddus ac yn helpu i’w hailhyfforddi a chael yn ôl i mewn i waith neu i fynd ar drywydd eu mentrau eu hunain. Mae mynd i’r afael â diweithdra ieuenctid yn hanfodol ar gyfer iechyd ein heconomi a’n cymdeithas. Mae’n rhaid inni wneud popeth a allwn i roi’r cyfleoedd cywir i bobl ifanc ac i osgoi cenhedlaeth goll arall. Yr ydym yn buddsoddi £75 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn ein cynllun Twf Swyddi Cymru newydd. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi pobl ifanc a busnesau gyda chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant wedi’u teilwra. Bydd 4,000 o bobl ifanc yn elwa bob blwyddyn.

 

Effective support for Welsh businesses is another key element of this budget for growth and jobs. We will invest almost £90 million next year to provide targeted support for key sectors and industries to encourage investment, entrepreneurship and innovation. We will continue to support the JEREMIE fund, which has been so successful in helping small businesses to start up and grow across Wales. We are also introducing enterprise zones to strengthen the competitiveness of the Welsh economy.  

 

Mae cymorth effeithiol ar gyfer busnesau Cymru yn elfen allweddol arall o’r gyllideb hon ar gyfer twf a swyddi. Byddwn yn buddsoddi bron i £90 miliwn y flwyddyn nesaf i ddarparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer sectorau allweddol a diwydiannau i annog buddsoddi, entrepreneuriaeth ac arloesi. Byddwn yn parhau i gefnogi’r gronfa JEREMIE, sydd wedi bod mor llwyddiannus wrth helpu busnesau bach i ddechrau a thyfu ledled Cymru. Yr ydym hefyd yn cyflwyno ardaloedd menter i wneud economi Cymru yn fwy cystadleuol.

 

I have always been clear about the importance of capital investment. Effective capital investment is vital to modern public services, but it is also vital to supporting the economy. Departmental capital plans remain in line with the indicative plans. The bottom line is that, because of the UK Government cuts, our capital budget in 2014-15 will be half the level of that in 2009-10. Cuts on that scale will inevitably impact significantly on our ability to deliver our infrastructure plans, but we will do all that we can to boost capital investment. I have already lifted our investment by transferring revenue funding to capital funding, and this has helped to fund the £40 million Coleg Morgannwg development, which I visited today. I have also introduced a more strategic approach to allocations.

 

Yr wyf bob amser wedi bod yn glir ynglŷn â phwysigrwydd buddsoddi cyfalaf. Mae buddsoddiad cyfalaf effeithiol yn hanfodol i wasanaethau cyhoeddus modern, ond mae hefyd yn hanfodol i gefnogi’r economi. Mae cynlluniau cyfalaf adrannol yn parhau’n unol â chynlluniau dangosol. Y gwir amdani yw, oherwydd toriadau Llywodraeth y DU, bydd ein cyllideb cyfalaf yn 2014-15 yn hanner y lefel o hynny yn 2009-10. Yn anochel, bydd toriadau ar y raddfa hynny yn cael effaith sylweddol ar ein gallu ni i gyflawni ein cynlluniau seilwaith, ond byddwn yn gwneud popeth a allwn i hybu buddsoddi cyfalaf. Yr wyf eisoes wedi codi ein buddsoddiad drwy drosglwyddo cyllid refeniw i arian cyfalaf, ac mae hyn wedi helpu i ariannu datblygiad £40 miliwn Coleg Morgannwg, yr ymwelais ag ef heddiw. Yr wyf hefyd wedi cyflwyno agwedd fwy strategol ar ddyraniadau.

 

However, to achieve our infrastructure ambitions and support for the economy, we need to go further. I am spearheading the development of a national infrastructure plan for Wales, alongside innovative funding solutions.

 

Fodd bynnag, er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau seilwaith a chymorth ar gyfer yr economi, mae angen inni fynd ymhellach. Yr wyf yn arwain ar ddatblygu cynllun seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, ochr yn ochr ag atebion cyllid arloesol.

With the support gained from the Assembly in July, I continue to negotiate with the UK Government to secure fair funding and direct access to borrowing through constructive and ongoing intergovernmental talks. We are already working closely with local government and other partners to maximise existing borrowing capacity to boost investment over coming years. We are also exploring all potential mechanisms for levering in additional investment in infrastructure.

 

Gyda’r cymorth a gafwyd gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf, yr wyf yn dal i negodi â Llywodraeth y DU i sicrhau arian teg a mynediad uniongyrchol i fenthyca drwy’r trafodaethau rhynglywodraethol adeiladol parhaus. Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill i fanteisio i’r eithaf ar y capasiti benthyca presennol i hybu buddsoddiad dros y blynyddoedd nesaf. Rydym hefyd yn ystyried pob mecanwaith posibl ar gyfer ysgogi buddsoddiad ychwanegol yn y seilwaith.

The link between education and the economy is clear, but education is also fundamental to building a just, inclusive and fair society. Thanks to the funding protection that we gave to schools in the last budget, local authorities have increased expenditure per pupil this year despite the big cuts in our overall budget. We will continue to protect front-line school budgets; they will grow faster than the Welsh budget as a whole, which means an extra £27 million for schools in 2014-15 on top of the previous growth that we announced. I have also allocated £55 million over three years to extend the successful Flying Start scheme. A further 18,000 pre-school children will benefit from the best possible start in life. That underpins our investment in schools and communities.

 

Mae’r cysylltiad rhwng addysg a’r economi yn glir, ond mae addysg hefyd yn hanfodol i adeiladu cymdeithas gyfiawn, gynhwysol a theg. Diolch i’r amddiffyniad cyllid a roesom i ysgolion yn y gyllideb ddiwethaf, mae awdurdodau lleol wedi cynyddu gwariant fesul disgybl eleni er gwaethaf y toriadau mawr yn ein cyllideb gyffredinol. Byddwn yn parhau i warchod cyllidebau ysgolion rheng flaen; byddant yn tyfu’n gyflymach na chyllideb Cymru gyfan, sy’n golygu £27 miliwn ychwanegol i ysgolion yn 2014-15 ar ben y twf blaenorol a gyhoeddwyd gennym. Yr wyf hefyd wedi dyrannu £55 miliwn dros dair blynedd i ymestyn y cynllun Dechrau’n Deg llwyddiannus. Bydd 18,000 mwy o blant cyn ysgol yn elwa ar y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Mae hynny’n sail ein buddsoddiad mewn ysgolion a chymunedau.

 

A strong NHS, delivering high-quality services for the people of Wales, is a key element in our programme for government. Without good health or the support to manage chronic conditions, none of us could play a full part in our society and economy. That is why we are investing an additional £288 million in the NHS over this budget period. We will continue to prioritise the NHS.

 

Mae GIG cryf, sydd yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl Cymru, yn elfen allweddol ein rhaglen lywodraethu. Heb iechyd da neu’r cymorth i reoli cyflyrau cronig, gallai unrhyw un ohonom chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas a’n heconomi. Dyna pam rydym yn buddsoddi £288 miliwn ychwanegol yn y GIG dros gyfnod y gyllideb. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu’r GIG.

Our programme for government commits us to strengthening our communities. We are providing the investment required to recruit an additional 500 police community support officers across Wales, making our communities stronger and safer. Effective local authorities, equipped to deliver our public services agenda, are essential to our vision of stronger communities. Our settlement for local government ensures that it continues to be better funded than in England. The settlement is not without challenge, but we are working closely with local authorities to support the delivery of the Simpson agenda.

 

Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i gryfhau’n cymunedau. Yr ydym yn darparu’r buddsoddiad sydd ei angen i recriwtio 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol ledled Cymru, gan wneud ein cymunedau’n gryfach a mwy diogel. Mae awdurdodau lleol effeithiol, sydd mewn sefyllfa i gyflawni ein hagenda gwasanaethau cyhoeddus, yn hanfodol i’n gweledigaeth o gymunedau cryfach. Mae ein setliad ar gyfer llywodraeth leol yn sicrhau ei fod yn parhau i gael eu hariannu’n well nag yn Lloegr. Nid yw’r setliad heb her, ond rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi darpariaeth yr agenda Simpson.

 

The spending plans that I have published today set the tone for the term of this Assembly: a responsible Government with a credible budget, investing in the fabric of our society and economy, maintaining investment in housing and providing support for the third sector. They reflect our commitment to sustainability and fairness. These commitments are at the heart of everything that we do. They make important new allocations to build on our successes, and they continue the focus on efficiency, reform and innovation in public services to maintain delivery within falling budgets. These plans provide the support that we need to deliver jobs and economic growth. Through them, we will deliver our programme for government.

 

Mae’r cynlluniau gwariant a gyhoeddais heddiw yn gosod naws ar gyfer tymor hwn y Cynulliad: Llywodraeth gyfrifol gyda chyllideb gredadwy, yn buddsoddi yng ngwead ein cymdeithas a’n heconomi, ac yn cynnal buddsoddiad mewn tai a darparu cymorth ar gyfer y trydydd sector. Maent yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a thegwch. Mae’r ymrwymiadau hyn wrth wraidd popeth a wnawn. Maent yn gwneud dyraniadau newydd bwysig i adeiladu ar ein llwyddiannau, ac maent yn parhau i ffocysu ar effeithlonrwydd, diwygio ac arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus i gynnal darpariaeth o fewn cyllidebau sy’n gostwng. Mae’r cynlluniau hyn yn darparu’r cymorth sydd angen arnom inni sicrhau swyddi a thwf economaidd. Drwyddynt, byddwn yn cyflwyno ein rhaglen lywodraethu.

 

2.45 p.m.

 

Paul Davies: I thank the Minister for her statement today outlining the Welsh Government’s spending priorities for the next financial year. I welcome the fact that the Welsh Government has produced an oral statement at the start of this process and I believe that this sets an important precedent for future governments in Wales. As the leader of the opposition has pledged in the last few weeks, we want to work constructively with the Government, and I hope that the Minister will bear that in mind before finalising the Government’s budget in the next few weeks.

 

Paul Davies: Diolchaf i’r Gweinidog am ei datganiad heddiw yn amlinellu blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Croesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu datganiad llafar ar ddechrau’r broses hon, a chredaf fod hyn yn gosod cynsail bwysig i Lywodraethau’r dyfodol yng Nghymru. Fel y mae arweinydd yr wrthblaid wedi addo yn yr ychydig wythnosau diwethaf, yr ydym am weithio’n adeiladol gyda’r Llywodraeth, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cadw hynny mewn cof cyn cwblhau cyllideb y Llywodraeth yn yr ychydig wythnosau nesaf.

 

We are facing difficult economic times, not only in Wales, but across the entire United Kingdom, and we need to ensure that every pound is spent efficiently, delivering real outcomes and opportunities for the Welsh people. We all accept that, given the national debt and the structural deficit, difficult decisions have to be made; Ed Miliband confirmed that at his party’s conference last week. It will not be a surprise to the Minister that we on this side of the Chamber believe that the Welsh Government should concentrate hard-earned taxpayers’ resources mainly on health, education and the economy. We believe that they are the main priorities for the Welsh people. Concentrating on the economy must be a priority, because, quite simply, if we have a successful economy, money will become available to pay for the public services that we all care about.

 

Yr ydym yn wynebu cyfnod economaidd anodd, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig, ac mae angen inni sicrhau bod pob punt yn cael ei wario’n effeithlon, gan ddarparu canlyniadau a chyfleoedd go iawn i bobl Cymru. Yr ydym oll yn derbyn, o ystyried y ddyled genedlaethol a’r diffyg strwythurol, y bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd; cadarnhawyd hynny gan Ed Miliband yng nghynhadledd ei blaid yr wythnos diwethaf. Ni fydd yn syndod i’r Gweinidog ein bod ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio adnoddau haeddiannol trethdalwyr yn bennaf ar iechyd, addysg a’r economi. Credwn mai nhw yw prif flaenoriaethau pobl Cymru. Rhaid i ganolbwyntio ar yr economi fod yn flaenoriaeth, oherwydd, yn syml iawn, os oes gennym economi lwyddiannus, daw arian ar gael i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym oll yn poeni yn eu cylch.

 

On that note, I will turn to some of the points in this draft budget. First, I will look at the Welsh Government’s health budget. It is clear that local health boards are telling us that their finances are currently in a grave state. Now more than ever, the NHS needs our support. The Minister will be aware that, during the Assembly election campaign, we were the only party in Wales that pledged to protect NHS expenditure in real terms, each and every year for four years. It is clear from today’s draft budget that health spending will be cut in real terms. Therefore, does the Minister regret that Wales will now be the only part of the United Kingdom in which health spending is being cut in real terms? Will the Minister also confirm whether this draft budget will be sufficient to fund our health service? Last year, the First Minister made it absolutely clear that it was, but then, additional funds of £65 million were made available to stem the tide of soaring waiting lists. The Welsh Government intends to extend GP opening hours and therefore to ask GPs to work longer. It is essential that the Welsh Government explains how it intends to pay for this laudable policy. Can she confirm that this policy has been fully costed in this draft budget?

 

Ar y nodyn hwnnw, hoffwn droi at rai o’r pwyntiau yn y gyllideb ddrafft hon. Yn gyntaf, byddaf yn edrych ar gyllideb iechyd Llywodraeth Cymru. Mae’n amlwg bod byrddau iechyd lleol yn dweud wrthym fod eu harian ar hyn o bryd mewn cyflwr difrifol. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen ein cefnogaeth ar y GIG. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, yn ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad, mai ni oedd yr unig blaid yng Nghymru a wnaeth addo y byddem yn diogelu gwariant ar y GIG mewn termau real, bob blwyddyn am bedair blynedd. Mae’n amlwg o gyllideb ddrafft heddiw y bydd torri ar wariant ar iechyd mewn termau real. Felly, a yw’r Gweinidog yn gresynu mai Cymru fydd yr unig ran o’r Deyrnas Unedig lle mae gwariant ar iechyd yn cael ei dorri mewn termau real yn awr? A wnaiff y Gweinidog hefyd gadarnhau a fydd y gyllideb ddrafft hon yn ddigon i ariannu ein gwasanaeth iechyd? Y llynedd, fe’i gwnaed yn gwbl glir gan y Prif Weinidog yr oedd, ond wedyn, roedd arian ychwanegol o £65 miliwn ar gael i atal y llif o restrau aros rhag codi. Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu ymestyn oriau agor meddygon teulu ac felly gofyn iddynt i weithio am gyfnod hirach. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n esbonio sut mae’n bwriadu talu am y polisi canmoladwy hwn. A all hi gadarnhau bod y polisi hwn wedi’i gostio’n llawn yn y gyllideb ddrafft hon?

 

In relation to the budget for the economy, I remind the Assembly that Wales’s business birth rate was the third lowest of the UK’s nations and regions in 2009, so it is essential that the Welsh Government recognises the potential of small and medium-sized businesses. The Government must do all that it can to support the Welsh economy and create the conditions needed for increased enterprise in Wales. Given the Government’s recent announcement on enterprise zones, could the Minister confirm whether additional funding will be allocated to enterprise zones by the Welsh Government above the funding provided by the UK Government? One other lever at the Welsh Government’s disposal to support small businesses is business rates. Extending the business rate relief scheme would undoubtedly be an enormous help to small businesses. In answering questions last week, the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science stated that she intends to carry out a policy review in this area. Could the Minister confirm that consideration will therefore be given to extending the business rate relief scheme?

 

O ran y gyllideb ar gyfer yr economi, atgoffaf y Cynulliad mai cyfradd geni busnesau Cymru yn 2009 oedd y trydydd isaf ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r DU, felly mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod potensial busnesau bach a chanolig. Rhaid i’r Llywodraeth wneud popeth yn ei gallu i gefnogi economi Cymru a chreu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer cynyddu menter yng Nghymru. O ystyried cyhoeddiad diweddar y Llywodraeth ar ardaloedd menter, a all y Gweinidog gadarnhau a fydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ardaloedd menter gan Lywodraeth Cymru uwchlaw’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU? Lifer arall sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach yw ardrethi busnes. Yn ddi-os, byddai ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes o gymorth aruthrol i fusnesau bach. Wrth ateb cwestiynau’r wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ei bod yn bwriadu cynnal adolygiad polisi yn y maes hwn. A all y Gweinidog gadarnhau, felly, y rhoddir ystyriaeth i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes?

The Minister also mentioned in her statement that she will do all she can to boost capital investment. Will she therefore confirm that she will consider all options for doing this, including public-private partnerships?

 

Soniodd y Gweinidog hefyd yn ei datganiad y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i hybu buddsoddiad cyfalaf. A wnaiff gadarnhau, felly, y bydd yn ystyried pob opsiwn ar gyfer gwneud hyn, gan gynnwys partneriaethau cyhoeddus-preifat?

 

It is essential that money is spent on the front line in our education system, and I am pleased that the First Minister has pledged to increase education spending by at least 1 per cent above the block grant. Let us hope that this will contribute to closing the funding gap between England and Wales. The Minister will be well aware that I have been urging the direct funding of schools, which could save about £100 million a year that could be reinvested in the education system. Given today’s draft budget, is the Minister confident that the budget allocated to education will reverse what the education Minister himself says is the systemic failure of the Government’s education policy? With regard to the Government’s tuition fees policy, independent forecasters have suggested that that will cost £2.3 billion over the next nine years, based on fees of £9,000. However, I understand that the Welsh Government initially worked out the cost of the policy based on an average fee of £7,000. As we have seen, a number of universities in Wales are looking to charge up to £9,000, so will the Minister confirm that the Welsh Government has the funding to support this policy over the coming years?

 

Mae’n hanfodol y caiff arian ei wario ar y rheng flaen yn ein system addysg, ac yr wyf yn falch bod y Prif Weinidog wedi addo cynyddu gwariant ar addysg gan o leiaf 1 y cant uwchlaw’r grant bloc. Gadewch inni obeithio y bydd hyn yn cyfrannu at gau’r bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn fy mod wedi annog ariannu ysgolion yn uniongyrchol, a allai arbed tua £100 miliwn y flwyddyn y gellid ail-fuddsoddi yn y system addysg. O ystyried y gyllideb ddrafft heddiw, a yw’r Gweinidog yn hyderus y bydd y gyllideb a ddyrennir i addysg yn gwrthdroi’r hyn a ddywed y Gweinidog addysg ei hun yw methiant systemig polisi addysg y Llywodraeth? O ran polisi ffioedd dysgu’r Llywodraeth, mae rhagolygwyr annibynnol wedi awgrymu y bydd hynny’n costio £2.3 biliwn dros y naw mlynedd nesaf, yn seiliedig ar ffioedd o £9,000. Fodd bynnag, caf ar ddeall bod Llywodraeth Cymru, i ddechrau, wedi gweithio allan cost y polisi yn seiliedig ar ffi gyfartalog o £7,000. Fel yr ydym wedi gweld, mae nifer o brifysgolion yng Nghymru yn ystyried codi hyd at £9,000, felly a fydd y Gweinidog yn cadarnhau bod gan Lywodraeth Cymru’r arian i gefnogi’r polisi hwn dros y blynyddoedd nesaf?

 

We need to do everything that we can to help hard-pressed families in the current economic climate. The Welsh Government should be doing all it can to give back to Welsh families more of their hard-earned cash. One way of doing that is through freezing council tax. I understand that the Minister has not yet given consideration to this, in light of the Chancellor’s announcement yesterday, which will provide the Welsh Government with a Barnett consequential of around £40 million due to the freezing of council tax in England. Will the Minister confirm that she will give this proposal serious consideration, and if the money is not returned to hard-working families in this way, will she make a commitment to tell us in the near future what the money will be used for?

 

Mae angen inni wneud popeth y gallwn i helpu teuluoedd sydd dan bwysau yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth yn ei gallu i roi mwy o’u harian haeddiannol yn ôl i deuluoedd Cymru. Un ffordd o wneud hynny yw drwy rewi’r dreth gyngor. Deallaf nad yw’r Gweinidog eto wedi rhoi ystyriaeth i hyn, yng ngoleuni cyhoeddiad y Canghellor ddoe, a fydd yn darparu Llywodraeth Cymru gyda swm Barnett canlyniadol o tua £40 miliwn oherwydd rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd hi yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r cynnig hwn, ac os na ddychwelir yr arian i deuluoedd sy’n gweithio’n galed yn y modd hwn, a wnaiff hi ymrwymiad i ddweud wrthym yn y dyfodol agos beth y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer?

 

We hear a lot about collaboration these days, and how working in partnership will reap efficiency gains in the long term. Will the Minister detail how she intends to work more closely with key stakeholders and partners, including local health boards and local authorities, to ensure that the budget reflects priorities on the ground, in schools, hospitals and communities? Clearly, the Welsh Government needs to redouble its efforts to improve the performance of the Welsh economy and our public services. It must therefore ensure that any spending is efficient and effective, delivering key front-line services to the people of Wales. Last week, like many here in the Chamber, I was disappointed to note the lack of targets in the Welsh Government’s programme for government. I ask the Minister, how will the Government test outcomes and ensure value for money across portfolio areas if there are no targets to measure against?

 

Yr ydym yn clywed llawer am gydweithio’r dyddiau hyn, a sut y bydd gweithio mewn partneriaeth yn cynhyrchu enillion effeithlonrwydd yn yr hirdymor. A wnaiff y Gweinidog roi manylion am sut y mae’n bwriadu gweithio’n agosach gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol, gan gynnwys byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, i sicrhau bod y gyllideb yn adlewyrchu blaenoriaethau ar lawr gwlad, mewn ysgolion, ysbytai a chymunedau? Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i wella perfformiad ein gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Felly, rhaid iddi sicrhau bod unrhyw wariant yn effeithlon ac yn effeithiol, gan ddarparu gwasanaethau rheng flaen allweddol i bobl Cymru. Yr wythnos diwethaf, fel nifer o bobl yma yn y Siambr, yr oeddwn yn siomedig i nodi’r diffyg targedau yn rhaglen llywodraethu Llywodraeth Cymru. Weinidog, sut bydd y Llywodraeth yn profi canlyniadau a sicrhau gwerth am arian ar draws meysydd portffolio os nad oes unrhyw dargedau i fesur yn eu herbyn?

 

Finally, I thank the Minister again for today’s statement, and I look forward to scrutinising the draft budget further over the next few weeks.

 

Yn olaf, diolchaf i’r Gweinidog eto am y datganiad heddiw, ac edrychaf ymlaen at graffu ar y gyllideb ddrafft ymhellach dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Jane Hutt: Thank you, Paul Davies, as the opposition spokesperson for finance, for your constructive comments and your willingness to engage. I am glad that you welcome our focus on a budget for growth and jobs. We are clearly hitting all the right buttons as regards support for the economy, health and education. You started with questions on the health service. The £288 million that I announced today will go towards the delivery of core NHS services. It is crucial that we recognise that we should look at what that means to the delivery of core NHS services. It is £239 million to place the NHS on a sustainable financial footing, and £48.5 million to increase the capacity to deal with the significant increase in the demand for orthopaedic treatment. The Minister for health has been addressing those issues, and the allocation of that funding will be key. You asked about our commitment to improving access to GP surgeries. Around 10 per cent of Welsh GP practices already provide extended evening opening hours. This commitment is about spreading this best practice more widely.

 

Jane Hutt: Diolch ichi, Paul Davies, fel llefarydd yr wrthblaid dros gyllid, am eich sylwadau adeiladol a’ch parodrwydd i ymgysylltu. Yr wyf yn falch eich bod yn croesawu ein ffocws ar gyllideb ar gyfer twf a swyddi. Yn amlwg, rydym yn taro deuddeg o ran cymorth ar gyfer yr economi, iechyd ac addysg. Fe ddechreuoch chi gyda chwestiynau ar y gwasanaeth iechyd. Bydd y £288 miliwn a gyhoeddais heddiw yn mynd tuag at ddarparu gwasanaethau craidd y GIG. Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod y dylem edrych ar beth yw ystyr hynny i ddarparu gwasanaethau craidd y GIG. Mae’n £239 miliwn er mwyn gosod y GIG mewn sefyllfa ariannol gynaliadwy, a £48.5 miliwn i gynyddu’r capasiti i ddelio â’r cynnydd sylweddol yn y galw am driniaeth orthopedig. Mae’r Gweinidog iechyd wedi bod yn ystyried y materion hynny, a bydd y dyraniad cyllid hwnnw yn allweddol. Gofynasoch am ein hymrwymiad i wella mynediad i feddygfeydd meddygon teulu. Mae tua 10 y cant o bractisiau meddygon teulu Cymru eisoes yn darparu oriau agor estynedig gyda’r nos. Mae’r ymrwymiad hwn ynghylch lledaenu’r arferion gorau hyn yn fwy eang.

 

Your support for the economy is coming through clearly in your response and in the questions that you posed. You recognise that enterprise zones in Wales are dependent on the UK Government, not only for allocation, but also for capital allowances. You recognise that we are looking for more innovative ways of supporting sectorial interests in the enterprise zones established by the Minster for business. As has been said, the Minister for business is undertaking a policy review of business rates relief. Your questions on boosting capital are clearly answered in my statement today. We must look at all innovative ways of bringing in capital for investment in our infrastructure. In the past, I have mentioned the £13 million from the Principality Building Society towards the Welsh Housing Partnership. The private sector is playing a key role in waste management, and it is also engaging with us on land transfer and business management.

 

Mae’ch cefnogaeth i’r economi yn glir yn eich ymateb ac yn y cwestiynau a ofynasoch. Yr ydych yn cydnabod bod ardaloedd menter yng Nghymru yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU, nid yn unig ar gyfer dyrannu, ond hefyd ar gyfer lwfansau cyfalaf. Yr ydych yn cydnabod ein bod yn edrych am ffyrdd mwy arloesol o gefnogi buddiannau sectoraidd yn yr ardaloedd menter a sefydlwyd gan y Gweinidog busnes. Fel y dywedwyd, mae’r Gweinidog busnes yn cynnal adolygiad polisi o ryddhad ardrethi busnes. Atebir eich cwestiynau ar hybu cyfalaf yn glir yn fy natganiad heddiw. Rhaid inni edrych ar bob ffyrdd arloesol o ddwyn cyfalaf i mewn ar gyfer buddsoddi yn ein seilwaith. Yn y gorffennol, yr wyf wedi crybwyll y £13 miliwn gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality tuag at Bartneriaeth Tai Cymru. Mae’r sector preifat yn chwarae rhan allweddol mewn rheoli gwastraff, ac mae hefyd yn ymgysylltu â ni ar drosglwyddo tir a rheoli busnes.

 

The opposition’s spokesperson for finance had many questions, including questions on school funding. It is important that you recognise that, in terms of getting funding to the pupil, as part of our programme of government, the delegation rate is expected to rise to 80 per cent in two years. The delegation rate of funding from local education authorities to their schools will be up to 85 per cent in four years. This will align resources with schools’ priorities. I remind Members that education funding to local education authorities has increased 81.3 per cent since 1999. It is clear that we seek to address the issue of improving schools, standards and attainment levels. It is about targeting funding appropriately.

 

Yr oedd gan lefarydd yr wrthblaid dros gyllid llawer o gwestiynau, gan gynnwys cwestiynau ar ariannu ysgolion. Mae’n bwysig i gydnabod, o ran cael cyllid i’r disgybl, fel rhan o’n rhaglen lywodraethu, y disgwylir y bydd y gyfradd ddirprwyo yn codi i 80 y cant mewn dwy flynedd. Fe fydd y gyfradd ddirprwyo arian gan awdurdodau addysg lleol i’w hysgolion hyd at 85 y cant mewn pedair blynedd. Bydd hyn yn alinio adnoddau â blaenoriaethau ysgolion. Atgoffaf Aelodau fod cyllid addysg i awdurdodau addysg lleol wedi cynyddu 81.3 y cant ers 1999. Mae’n amlwg ein bod yn ceisio mynd i’r afael â’r mater o wella ysgolion, safonau a lefelau cyrhaeddiad. Mae’n ymwneud â thargedu’r arian yn briodol.

Finally, in answer to your point on local government and the so-called council tax freeze option, in the past 24 hours we, and commentators, have said that local government in Wales got a fairer settlement in our budget, which we approved in this Chamber in February this year. If you consider band 1 of council tax, levels are 18 per cent lower in Wales than they are in England. For the Government, and for me as the Minister for Finance, it is a question of how to deliver a responsible and credible budget for the set priorities. Those priorities are to put the economy and public services first.

 

Yn olaf, i ateb eich pwynt ar lywodraeth leol a’r opsiwn bondigrybwyll o rewi’r dreth gyngor, yn y 24 awr ddiwethaf, yr ydym ni, a sylwebyddion, wedi dweud bod llywodraeth leol yng Nghymru wedi cael setliad tecach yn ein cyllideb, a gymeradwywyd gennym yn y Siambr hon ym mis Chwefror eleni.  Os ydych yn ystyried band 1 y dreth gyngor, mae lefelau’n 18 y cant yn is yng Nghymru nag yn Lloegr. I’r Llywodraeth, ac i mi fel y Gweinidog Cyllid, mae’n gwestiwn o sut i ddarparu cyllideb gyfrifol a chredadwy ar gyfer pennu blaenoriaethau. Rhoi’r economi a gwasanaethau cyhoeddus yn gyntaf  yw’r blaenoriaethau hynny.

Mike Hedges: I welcome the speech and the presentation by Jane Hutt. This budget for growth and jobs is one that everyone will welcome. What we want in Wales is growth and jobs. I welcome your comments about young people, support for business, and investment in education and health services. Those are things that everyone in Wales is looking for. I have two questions. First, do you agree with the importance of spending every penny that Wales receives? We do not want to be in the situation, as we were with John Redwood, of giving millions of pounds back—and being proud of that. [Interruption.]

 

Mike Hedges: Croesawaf yr araith a’r cyflwyniad gan Jane Hutt. Mae’r gyllideb hon ar gyfer twf a swyddi yn un y bydd pawb yn ei chroesawu. Yr hyn yr hoffem yng Nghymru yw twf a swyddi. Croesawaf eich sylwadau am bobl ifanc, cymorth ar gyfer busnes, a buddsoddi yng ngwasanaethau addysg ac iechyd. Mae’r rheini’n bethau y mae pawb yng Nghymru yn chwilio amdanynt. Mae gennyf ddau gwestiwn. Yn gyntaf, a ydych yn cytuno â phwysigrwydd gwario pob ceiniog a gaiff Cymru? Nid ydym am fod mewn sefyllfa, fel yr oeddem ni gyda John Redwood, o roi miliynau o bunnoedd yn ôl —a bod yn falch o hynny. [Torri ar draws.]

 

The Presiding Officer: Order. Carry on with your questions.

 

Y Llywydd: Trefn. Parhewch i ofyn eich cwestiynau.

Mike Hedges: Secondly, will you consider using supported borrowing through local authorities as a means by which we can spend more money on building new schools?

 

Mike Hedges: Yn ail, a wnewch ystyried defnyddio benthyca â chymorth drwy awdurdodau lleol fel modd inni wario mwy o arian ar adeiladu ysgolion newydd?

Jane Hutt: Thank you for those two pertinent questions, Mike. We are concerned that the UK Government is keeping £400 million back from us that we are entitled to under end of year flexibilities. That £400 million would go some way to addressing the fair funding expectations that we have as a result of inter-governmental talks. Our financial management has been the best ever for the past financial year. It has taken us to 0.14 per cent for the financial management of the resource departmental expenditure limit; it has been the best for the past 12 years. We have to look for every opportunity for funding our capital infrastructure, particularly in relation to schools. Our twenty-first century schools programme is a partnership with local government, therefore local government borrowing prospects is an avenue that we are pursuing.

 

Jane Hutt: Diolch ichi am y ddau gwestiwn perthnasol hynny, Mike. Yr ydym yn pryderu bod Llywodraeth y DU yn cadw £400 miliwn yn ôl oddi wrthym ni y mae gennym hawl iddo o dan hyblygrwydd diwedd blwyddyn.   Byddai’r £400 miliwn hynny’n mynd cryn ffordd i fynd i’r afael â’r disgwyliadau cyllid teg sydd gennym o ganlyniad i’r trafodaethau rhynglywodraethol. Mae ein rheolaeth ariannol wedi bod y gorau erioed dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae wedi ein cymryd i 0.14 y cant ar gyfer rheoli ariannol y terfyn gwariant adrannol adnoddau; bu’r gorau dros y 12 mlynedd diwethaf. Rhaid inni edrych am bob cyfle i ariannu ein seilwaith cyfalaf, yn arbennig mewn perthynas ag ysgolion. Mae ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn bartneriaeth gyda llywodraeth leol, felly mae rhagolygon benthyca llywodraeth leol yn llwybr yr ydym yn ei ddilyn.

 

3.00 p.m.

 

Ieuan Wyn Jones: I thank the Minister for the statement and the provision of the paperwork. It may have been helpful to have had a little more time to read it, but nevertheless it is a welcome innovation to at least have a statement and an early discussion. I am sure that the Minister will be aware that there is a lot more that we would like to say about the budget, and today is just a first cut, as it were.

 

Ieuan Wyn Jones: Diolch i’r Gweinidog am y datganiad ac am ddarparu’r gwaith papur. Efallai y byddai wedi bod yn ddefnyddiol i gael ychydig mwy o amser i’w ddarllen, ond serch hynny croesawaf y cam arloesol  o gael o leiaf datganiad a thrafodaeth gynnar. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod yna lawer mwy yr hoffem ei ddweud am y gyllideb, ac megis dechrau ydym heddiw.

First, I was very pleased when I heard the Minister and the First Minister say that this was going to be a budget for business and growth. I expected, therefore, to see an increase in the budget of the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, but actually there is to be a reduction. I find that surprising in light of the statement, but we will come back to that in a minute.

 

Yn gyntaf, roeddwn yn falch iawn pan glywais y Gweinidog a’r Prif Weinidog yn dweud bod hon yn mynd i fod yn gyllideb ar gyfer busnes a thwf. Disgwyliais weld, felly, gynnydd yng nghyllideb y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, ond mewn gwirionedd bydd yna ostyngiad. Mae hynny’n fy synnu o ystyried y datganiad, ond dychwelwn at hynny yn y man.

There is recognition of the success of ProAct and ReAct, but there is no mention of the fact that, given that we are going into more difficult economic times, we need to increase the funding for ReAct. The ReAct budget has been cut and there is no indication that the budget will be looked at again. I therefore assume that the ReAct budget will remain cut throughout the lifetime of this Assembly, and I find that extremely surprising. You say that you will extend the Adapt scheme, which helps public sector workers who have lost their jobs. That is a good thing, but I understand that the take-up of Adapt has not been very good, so we would like to know how you will improve that.

Ceir cydnabyddiaeth o lwyddiant ProAct a ReAct, ond nid oes sôn am y ffaith, o ystyried ein bod yn mynd i mewn i gyfnod economaidd anos, fod angen i ni gynyddu cyllid ReAct. Mae cyllideb ReAct wedi cael ei thorri ac nid oes unrhyw arwydd y caiff y gyllideb ei hystyried eto. Felly, rwy’n cymryd yn ganiataol y bydd cyllideb ReAct yn parhau i fod wedi cael ei thorri drwy gydol oes y Cynulliad hwn, ac mae hynny’n fy synnu’n fawr. Rydych yn dweud y byddwch yn ymestyn cynllun Adapt, sy’n helpu gweithwyr sector cyhoeddus sydd wedi colli eu swyddi. Mae hynny’n dda o beth, ond rwy’n deall nad yw’r niferoedd sydd wedi  manteisio ar Adapt wedi bod yn uchel iawn, felly hoffem wybod sut y byddwch yn gwella hynny.

 

It is clear that you are giving an additional £75 million for your manifesto commitment on Jobs Growth Wales. It is clear that you are getting the money into the system there. What I find surprising is that, in the next line, you say that,

 

Mae’n amlwg eich bod yn rhoi £75 miliwn yn ychwanegol ar gyfer eich ymrwymiad maniffesto ar Twf Swyddi Cymru. Mae’n amlwg eich bod yn cael yr arian i mewn i’r system yno. Yr hyn sy’n fy synnu yw eich bod, yn y llinell nesaf, yn dweud,

 

‘Effective support for Welsh businesses is another key element of this Budget for Growth and Jobs. We will invest almost £90m next year to provide targeted support for key sectors’.

Mae cefnogaeth effeithiol i fusnesau Cymru yn elfen allweddol arall o’r Gyllideb ar gyfer Twf a Swyddi hon. Byddwn yn buddsoddi bron £90 miliwn y flwyddyn nesaf i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i sectorau allweddol.

 

That is not new money; it was already in the system. If you look at the budget itself, the final supplementary budget for the Minister for business is £185 million in revenue funding and, next year, it is going down to £182 million. How can this be a budget for growth and jobs when the budget of the Minister who delivers growth and jobs has been cut? I need an explanation for that. How can you justify such a cut? The £90 million is not additional funding; it is already in the system.

Nid yw hynny’n arian newydd; yr oedd eisoes yn y system. Os ydych yn edrych ar y gyllideb ei hun, mae’r gyllideb atodol derfynol ar gyfer y Gweinidog dros fusnes yn £185 miliwn mewn cyllid refeniw, a’r  flwyddyn nesaf bydd yn gostwng i £182 miliwn. Sut all hon fod yn gyllideb ar gyfer twf a swyddi pan fod cyllideb y Gweinidog sy’n ysgogi twf a swyddi wedi cael ei thorri? Mae arnaf angen esboniad am hynny. Sut allwch chi gyfiawnhau toriad o’r fath? Nid arian ychwanegol yw’r £90 miliwn; mae eisoes yn y system.

 

On the whole issue of capital investment, I have understood what you were trying to say, that you will ask for borrowing powers and that you will look to work closely with local government and other partners to maximise existing borrowing capacity. I twice asked this question to the First Minister earlier, but did not get an answer, so perhaps the Minister for Finance can tell us whether she has already had discussions with local government on this—not about other things, such as the general revenue support grant, but specifically on borrowing capacity. Have there been discussions on that? If not, they need to happen very soon indeed.

Parthed buddsoddiad cyfalaf, deallais yr hyn roeddech yn ceisio ei ddweud, sef y byddwch yn gofyn am bwerau benthyca ac y byddwch yn ceisio gweithio’n agos gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill i wneud y gorau o gapasiti benthyca presennol. Gofynnais y cwestiwn hwn i'r Prif Weinidog ddwywaith yn gynharach, ond ni chefais ateb, felly efallai y gall y Gweinidog dros Gyllid ddweud wrthym a yw hi eisoes wedi cael trafodaethau gyda llywodraeth leol ar hyn—nid am faterion eraill, megis y grant cynnal refeniw cyffredinol, ond yn benodol am gapasiti benthyca. A fu trafodaethau ar hynny? Os na fu, mae angen iddynt ddigwydd yn dra buan.

 

On education, what had been agreed previously, and seems to be coming through in the budget, was that there would be an additional 1 per cent in the education budget above the allocation for Wales as a whole. Can the Minister confirm that the £27 million allocated for 2014-15 simply maintains that position, and is not an extra sum for education as such? It just keeps the promise to provide 1 per cent over and above the sum allocated in the block grant.

O ran addysg, yr hyn a gytunwyd yn flaenorol, ac ymddengys bod y gyllideb yn ei ddarparu, oedd y byddai 1 y cant ychwanegol yn y gyllideb addysg uwchben y dyraniad ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. A all y Gweinidog gadarnhau bod y £27 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer 2014-15 yn syml yn cynnal y sefyllfa honno, ac nad yw’n swm ychwanegol ar gyfer addysg fel y cyfryw? Mae ond yn cadw’r addewid i ddarparu 1 y cant yn ychwanegol at y swm a ddyrannwyd yn y grant bloc.

 

On the £55 million for Flying Start, we understand the need for investing in pre-school children and you say that a further 18,000 will benefit. I am sure that no-one would argue with that, but we need to be satisfied that that is extra money that is going into the system.

O ran yr oddeutu £55 miliwn ar gyfer Dechrau’n Deg, rydym yn deall yr angen i fuddsoddi mewn plant oed cyn-ysgol ac rydych yn dweud y bydd 18,000 pellach yn elwa. Rwy’n siŵr na fyddai unrhyw un yn dadlau â hynny, ond mae angen inni fod yn fodlon mai arian ychwanegol sy’n mynd i mewn i’r system ydyw.

 

I find the figure on the NHS a little surprising, because there is no indication as to where that money has come from. What you are saying is that you are investing an additional £288 million in the NHS over this budget period, but ‘this budget period’ literally means next year. I cannot imagine that you are putting an extra £288 million in for next year; it would have to be over the period of the comprehensive spending review, presumably. If it is additional money over the CSR period, have you taken money out of other departments to cover that or have you taken it out of reserves? If you have taken it out of reserves, you are leaving your reserves pretty low in order to deliver. Therefore, we need to know where that money is coming from.

Mae’r ffigur ar y GIG yn fy synnu braidd, gan nad oes unrhyw arwydd o ble ddaeth yr arian hwnnw. Yr hyn rydych yn ei ddweud yw eich bod yn buddsoddi £288 miliwn ychwanegol yn y GIG dros gyfnod y gyllideb hon, ond mae ‘cyfnod y gyllideb hon’ yn llythrennol yn golygu’r flwyddyn nesaf. Ni allaf ddychmygu eich bod yn rhoi £288 miliwn ychwanegol i mewn ar gyfer y flwyddyn nesaf; byddai’n rhaid iddo fod dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, yn ôl pob tebyg. Os ydyw’n arian ychwanegol dros gyfnod yr adolygiad, a wnaethoch chi gymryd arian allan o adrannau eraill i dalu am hynny, neu a ydych chi wedi’i gymryd allan o gronfeydd wrth gefn? Os ydych chi wedi’i gymryd allan o gronfeydd wrth gefn, rydych yn gadael eich cronfeydd wrth gefn yn eithaf isel er mwyn cyflawni hynny. Felly, mae angen inni wybod o ble mae’r arian yn dod.

 

You say that you want to appoint an extra 500 police community support officers with a budget of £5 million, which I find difficult to swallow. I need to know how £5 million will deliver 500 extra police and community support officers. There is an indication in the other part of the budget document that you are going to recycle money from within the budget. We need to be clear about that, because it is not actually in your statement.

Rydych yn dweud eich bod am benodi 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu  gyda chyllideb o £5 miliwn, ac rwy’n cael hynny’n anodd ei chredu. Rwyf angen gwybod sut y bydd £5 miliwn yn cyflwyno 500 o heddlu a swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol. Awgrymir yn rhan arall y ddogfen gyllideb y byddwch yn ailgylchu arian oddi mewn i’r gyllideb. Mae angen inni fod yn glir ynglŷn â hynny, oherwydd nid yw mewn gwirionedd yn eich datganiad.

 

I have been asking questions of the First Minister for two or three weeks on the need to understand the crisis faced by the economy. There is a real issue about whether people are going to be losing their jobs, but I see no signs that this budget recognises the scale of that problem. I have given an indication as to where I think the money should be spent—it is not a substantial sum of money, but it could really help people at a time of economic crisis.

Rwyf wedi bod yn holi’r Prif Weinidog am ddwy neu dair wythnos am yr angen i ddeall yr argyfwng y mae’r economi yn ei wynebu. Mae yna broblem wirioneddol ynghylch a fydd pobl yn colli eu swyddi, ond ni welaf unrhyw arwyddion bod y gyllideb hon yn cydnabod maint y broblem honno. Rwyf wedi rhoi awgrym ynghylch lle rwy’n credu y dylai’r arian gael ei wario—nid yw’n swm sylweddol o arian, ond gallai wir helpu pobl ar adeg o argyfwng economaidd.

 

Finally, Minister, we would all agree with Paul Davies’s point that we must be sensible here. There is not enough money to go around in the way that we would like there to be, but, at the end of the day, politics is the language of priorities. I think that the priorities should be the protection of jobs and training, but I cannot see that that is included in this budget. Does the Minister therefore agree that if she wants this budget to pass through this Assembly, she must understand that that needs to be considered again?

Yn olaf, Weinidog, byddem ni i gyd yn cytuno â phwynt Paul Davies fod yn rhaid inni fod yn synhwyrol yma. Nid oes digon o arian i gael ei rannu yn y ffordd y byddem yn dymuno, ond, yn y pen draw, iaith blaenoriaethau yw gwleidyddiaeth. Rwy’n meddwl mai diogelu swyddi a hyfforddiant ddylai fod yn flaenoriaethau, ond ni allaf weld bod hynny wedi’i gynnwys yn y gyllideb hon. A yw’r Gweinidog yn cytuno, felly, os yw hi am i’r gyllideb hon basio drwy’r Cynulliad hwn, fod yn rhaid iddi ddeall bod angen ystyried hynny unwaith eto?

 

Jane Hutt: That was a useful contribution and a constructive response to the budget, within which the language of priorities, as you mentioned, is used, which is something that the former Deputy First Minister will remember full well from our One Wales Government days. As the leader of Plaid Cymru says, this is the first time that we have had an oral statement on a draft budget. I tried to get the papers to you as quickly as possible and it was important to me to bring the draft budget to the Chamber before speaking to the press, which I will be doing after this important event.

Jane Hutt: Roedd hwnnw’n gyfraniad defnyddiol ac yn ymateb adeiladol i’r gyllideb, lle y defnyddiwyd iaith blaenoriaethau, fel y soniasoch, sy’n rhywbeth y bydd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog yn ei gofio’n iawn o ddyddiau ein Llywodraeth Cymru’n Un. Fel mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud, dyma’r tro cyntaf inni gael datganiad llafar ar gyllideb ddrafft. Ceisiais sicrhau eich bod yn cael y papurau cyn gynted â phosibl ac roedd yn bwysig i mi fy mod yn dod â’r gyllideb ddrafft i’r Siambr cyn siarad â’r wasg. Gwnaf hynny ar ôl y digwyddiad pwysig hwn.

 

I am grateful that you drew attention to the importance of ProAct and to the fact that, of the £48 million allocated to it, approximately £20 million was allocated to its successor, Skills Growth Wales. The aim of Skills Growth Wales, as you will recall given that you were involved in Government as we took it forward, was to provide training and support, targeted specifically at companies with credible growth plans to help them to come out of recession. It was also to provide training for 4,300 employees within 80 companies. We must look at the relevance and importance of Skills Growth Wales as we go forward and recognise the key role that Adapt has to play in helping people who are coming out of the public sector as a result of redundancies. We have sought to protect the public sector, particularly local government, with our fairer settlement and to protect those coming out of the public sector’s non-devolved government bodies.

Rwy’n ddiolchgar y gwnaethoch chi dynnu sylw at bwysigrwydd ProAct ac at y ffaith, o’r £48 miliwn a ddyrannwyd iddo, fod tua £20 miliwn wedi cael ei ddyrannu i’w olynydd, Sgiliau Twf Cymru. Nod Sgiliau Twf Cymru, fel y byddwch yn cofio gan yr oeddech chi’n rhan o’r Llywodraeth wrth inni ei gymryd ymlaen, oedd darparu hyfforddiant a chefnogaeth wedi’u targedu'n benodol at gwmnïau gyda chynlluniau twf credadwy i’w helpu i ddod allan o’r dirwasgiad. Roedd hefyd i ddarparu hyfforddiant i 4,300 o weithwyr o fewn 80 o gwmnïau. Mae’n rhaid inni edrych ar berthnasedd a phwysigrwydd Sgiliau Twf Cymru wrth inni symud ymlaen a chydnabod y rôl allweddol sydd gan Adapt i’w chwarae o ran helpu pobl sy’n dod allan o’r sector cyhoeddus o ganlyniad i ddiswyddiadau. Rydym wedi ceisio amddiffyn y sector cyhoeddus, yn enwedig llywodraeth leol, gyda’n setliad tecach ac i amddiffyn y rhai sy’n dod allan o gyrff llywodraeth nad ydynt wedi’u datganoli yn y sector cyhoeddus.

 

In terms of the opportunities that we offer, you welcomed the Jobs Growth Wales scheme, which is to provide opportunities for our young people and employers, and which will also build on the work of the Future Jobs fund. We are tailoring it more effectively for the needs of our young people as well as the business sector, the third sector and the public sector.

 

O ran y cyfleoedd yr ydym yn eu cynnig, gwnaethoch groesawu cynllun Twf Swyddi Cymru, sydd i ddarparu cyfleoedd i’n pobl ifanc a chyflogwyr, ac a fydd hefyd yn adeiladu ar waith cronfa Swyddi’r Dyfodol. Rydym yn ei deilwra yn fwy effeithiol ar gyfer anghenion ein pobl ifanc yn ogystal â’r sector busnes, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

 

I can assure you that, in terms of the national infrastructure plan for Wales, this is a budget for growth and jobs and that we will use every possible lever to boost our support for business. The £90 million is for targeted support and will make a difference. It is therefore important that we focus on the outcomes of the targeting of that £90 million. I have already had discussions with the Minister for Local Government and Communities and those are reflected in the opportunities for building alliances with the Welsh Local Government Association regarding the borrowing powers of local government.

Gallaf eich sicrhau, o ran y cynllun seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, fod hon yn gyllideb ar gyfer twf a swyddi ac y byddwn yn defnyddio pob lifer posibl i roi hwb i’n cefnogaeth ar gyfer busnes. Mae’r £90 miliwn ar gyfer cymorth wedi’i dargedu a bydd yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n bwysig felly ein bod yn canolbwyntio ar ganlyniadau targedu’r £90 miliwn hwnnw. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ac fe’u hadlewyrchir yn y cyfleoedd ar gyfer adeiladu cynghreiriau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch pwerau benthyca llywodraeth leol.

 

We recognise the opportunities that we have for growth in school funding; we are giving that protection and making sure that that protection does not only mean an additional £27 million for schools in 2014-15, but that over the next three years the education and skills main expenditure group baseline will increase by 2.8 per cent in cash terms. That is a budget for growth and jobs.

Rydym yn adnabod y cyfleoedd sydd gennym ar gyfer twf mewn ariannu ysgolion; rydym yn rhoi’r amddiffyniad hwnnw a gwneud yn siŵr y bydd yr amddiffyniad yn golygu nid yn unig y bydd £27 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion yn 2014-15, ond dros y tair blynedd nesaf y bydd llinell sylfaen prif grŵp gwariant addysg a sgiliau yn cynyddu gan 2.8 y cant mewn termau arian parod. Mae hynny’n gyllideb ar gyfer twf a swyddi.

 

There will be detailed scrutiny of these budgets. I clarify that there will be an investment of £5 million each year for police community support officers, which is important. I am sure that the Minister will be able to clarify, when it comes to scrutiny, how that is going to be funded. I am sure that he will support that approach.

Bydd gwaith craffu manwl ar y cyllidebau hyn. Er eglurhad, bydd buddsoddiad o £5 miliwn bob blwyddyn ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, sy’n bwysig. Rwy’n sicr y bydd y Gweinidog yn gallu egluro, pan ddaw yn amser craffu, sut mae hynny’n mynd i gael ei ariannu. Rwy’n siŵr y bydd yn cefnogi’r dull hwnnw.

 

We have made an important contribution to sustaining the health service to enable reforms to take place and to address areas, such as orthopaedic services, that are under pressure. Yes, we have had to take money out of our reserves. You know how difficult that is and I will give you the figures for our reserves here today: we have set our fiscal resource reserves for 2012-13 at £126.7 million. That is 0.95 per cent of the fiscal resource departmental expenditure limit and we have set it at just over 1 per cent for the following two years. That is how transparent this budget is. I am confident that these reserves are sufficient to manage risks. I am probably described as a risk-averse Minister for Finance because I want to spend every Welsh £1 that we have—even if it is from our reserves I will use it. There are so many other reserves around this country that I would quite like to get my hands on as well, and I think that people know what I am talking about. 

Rydym wedi gwneud cyfraniad pwysig at gynnal y gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi diwygiadau i ddigwydd a mynd i’r afael â meysydd, megis gwasanaethau orthopedig, sydd o dan bwysau. Ydym, rydym wedi gorfod cymryd arian allan o’n cronfeydd wrth gefn. Gwyddoch pa mor anodd yw hynny a rhoddaf i chi’r ffigurau ar gyfer ein cronfeydd wrth gefn yma heddiw: bydd ein cronfeydd wrth gefn o ran adnoddau cyllidol ar gyfer 2012-13 yn £126.7 miliwn. Mae hynny yn 0.95 y cant o derfyn gwariant adrannol adnoddau cyllidol ac rydym wedi ei osod ar ychydig dros 1 y cant ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol. Dyna pa mor dryloyw yw’r gyllideb hon. Rwy’n hyderus bod y cronfeydd wrth gefn hyn yn ddigonol i reoli risgiau. Mae’n debyg fy mod yn cael fy nisgrifio fel Gweinidog dros Gyllid nad yw’n poeni am risgiau oherwydd fy mod am wario pob £1 Cymreig sydd gennym—hyd yn oed os daw o’n cronfeydd wrth gefn, byddaf yn ei ddefnyddio. Mae cymaint o gronfeydd wrth gefn eraill o gwmpas y wlad hon y byddwn yn eithaf hoffi eu rheoli, a chredaf fod pobl yn gwybod am beth yr wyf yn sôn. 

 

Finally, I will address your point about how this turns into a real new opportunity. This is the second year of a spending review period when we have a 6 per cent cut in our revenue DEL for the next three years and a 21 per cent real terms cut in our capital and you are asking me how we can make more of it. I think that there may be an opportunity with the consequential that might be winging our way, and I hope that we will get support from this side of the Chamber to ensure that that money will go to boost jobs, skills and opportunities for our economy.

Yn olaf, gwnaf drafod eich pwynt am sut mae hyn yn troi i mewn i gyfle newydd go iawn. Dyma ail flwyddyn cyfnod o adolygu gwariant pan fydd gennym doriad o 6 y cant yn ein DEL refeniw am y tair blynedd nesaf ac mae toriad o 21 y cant mewn termau go iawn yn ein cyfalaf, ac rydych fy holi sut y gallwn wneud mwy ohono. Rwy’n meddwl y gallai fod cyfle gyda’r arian canlyniadol a allai fod yn dod tuag atom, ac rwy’n gobeithio y cawn gefnogaeth gan yr ochr hon i’r Siambr i sicrhau y bydd yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio i hybu swyddi, sgiliau a chyfleoedd ar gyfer ein heconomi.

 

Peter Black: I welcome the fact that this budget is being presented by way of an oral statement. It gives gravitas to the statement and highlights the importance of this budget to the Assembly, whereas in previous years that was not the case, as it was given to the press outside the Chamber. It is important that we get the first chance to comment on the budget. We have five weeks to scrutinise this budget in some detail, therefore I will not go through it in detail, even if I had had enough time to work my way through the tables that I was given half an hour or so ago.

Peter Black: Croesawaf y ffaith bod y gyllideb hon yn cael ei chyflwyno ar ffurf datganiad llafar. Mae’n rhoi urddas i’r datganiad ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd y gyllideb hon i’r Cynulliad, pan nad oedd hynny’n wir mewn blynyddoedd blaenorol, gan y cafodd ei roi i’r wasg y tu allan i’r Siambr. Mae’n bwysig ein bod yn cael y cyfle cyntaf i roi sylwadau ar y gyllideb. Mae gennym bum wythnos i graffu ar y gyllideb hon yn fanwl, felly nid af drwyddo yn fanwl, ac ni wnawn i hynny hyd yn oed pe bawn wedi cael digon o amser i weithio fy ffordd drwy’r tablau a gefais ryw hanner awr yn ôl.

 

My first impression of this budget is that it is not very different to last year’s budget, except for a few minor changes that were in the Labour manifesto. The question therefore is: as last year’s budget did not deliver jobs or growth, why will this budget be any different? There is no extra money for the funding gap, beyond what was promised last year, and the £27 million that you referred to was for the third year of this budget. Therefore, although some progress is being made on that issue, no additional money is going into that, beyond what has already been pledged by the First Minister.

Fy argraff gyntaf o’r gyllideb hon yw nad yw’n wahanol iawn i gyllideb y llynedd, ac eithrio ychydig o newidiadau bach a oedd ym maniffesto’r Blaid Lafur. Y cwestiwn felly yw: gan nad oedd cyllideb y llynedd yn creu swyddi neu dwf, pam fydd y gyllideb hon yn wahanol? Nid oes unrhyw arian ychwanegol ar gyfer y bwlch cyllido, tu hwnt i’r hyn a addawyd y llynedd, ac roedd y £27 miliwn y cyfeiriasoch ato ar gyfer trydedd flwyddyn y gyllideb hon. Felly, er bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud ar y mater hwnnw, nid oes dim arian ychwanegol yn mynd i mewn i hynny, tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi cael ei addo gan y Prif Weinidog.

 

On the PCSOs, the First Minister said in the television debates during the National Assembly elections campaign that the money for this was already in the budget. We know now, from what we have in front of us, that that was not the case. In fact, on page 32 of the booklet that I have here, it says that an additional £5 million has been allocated in 2013-14 and 2014-15. Clearly, there is no money in next year’s budget for those extra PCSOs that you have promised. So, why is this funding not being provided straight away and why is the money not already in the budget, which was the First Minister’s undertaking to voters during the Assembly elections? We could do with some answers on that issue.

O ran swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, dywedodd y Prif Weinidog yn y dadleuon teledu yn ystod ymgyrch etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol fod yr arian ar eu cyfer eisoes yn y gyllideb. Rydym yn gwybod yn awr, o’r hyn sydd gennym ger ein bron, nad oedd hynny’n wir. Yn wir, ar dudalen 32 o’r llyfryn sydd gennyf yma, mae’n dweud y dyrannwyd £5 miliwn yn ychwanegol yn 2013-14 a 2014-15. Yn amlwg, nid oes unrhyw arian yng nghyllideb y flwyddyn nesaf ar gyfer y swyddogion ychwanegol hynny rydych wedi eu haddo. Felly, pam nad yw’r cyllid hwn yn cael ei ddarparu ar unwaith a pham nad yw’r arian eisoes yn y gyllideb, fel yr ymrwymodd y Prif Weinidog i bleidleiswyr yn ystod etholiadau'r Cynulliad? Byddai’n dda cael rhai atebion ar y mater hwnnw. 

 

3.15 p.m.

 

On protection for education, which I have referred to already, can the Minister say whether, in addition to that, the previous pledge to protect social services is also in this budget? That was very important for children’s services in particular and to address the growth in the number of vulnerable adults. I would be grateful if the Minister could confirm whether that is being pursued in this budget, as it was in the previous year.

 

Ar ddiogelu addysg, y cyfeiriais ato eisoes, a all y Gweinidog ddweud, yn ogystal â hynny, a yw’r addewid blaenorol i ddiogelu gwasanaethau cymdeithasol hefyd yn y gyllideb hon? Yr oedd hwnnw’n bwysig iawn ar gyfer gwasanaethau plant yn benodol ac i ymdrin â’r twf yn nifer yr oedolion sy’n agored i niwed. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog gadarnhau a yw hwnnw’n cael ei roi ar waith yn y gyllideb hon, fel yr oedd yn y flwyddyn flaenorol.

Minister, in your statement, you refer to the Adapt programme, which, as you pointed out, targets people who have lost jobs in the public sector. Why has that been limited entirely to the public sector? I understand that people in the public sector will be losing their jobs, but, of course, people in the private sector will also be losing jobs. In fact, in Wales, there is a clear trend that the private sector is effectively shrinking in comparison to the public sector, and that has not been turned around. We will also be looking at using your Adapt programme across all sectors to try to support people and help them to retrain if they lose their jobs.

 

Weinidog, yn eich datganiad, yr ydych yn cyfeirio at y rhaglen Adapt, sydd, fel y nodwyd gennych, yn targedu pobl sydd wedi colli swyddi yn y sector cyhoeddus. Pam y cyfyngwyd hynny’n gyfan gwbl i’r sector cyhoeddus? Deallaf y bydd pobl yn y sector cyhoeddus yn colli eu swyddi, ond, wrth gwrs, bydd pobl yn y sector preifat hefyd yn colli swyddi. Yn wir, yng Nghymru, mae tuedd glir bod y sector preifat yn crebachu o gymharu â’r sector cyhoeddus, ac nid yw hynny wedi cael ei droi o gwmpas. Byddwn hefyd yn edrych ar ddefnyddio eich rhaglen Adapt ar draws pob sector i geisio cynorthwyo pobl a’u helpu i ailhyfforddi os byddant yn colli eu swyddi.

 

I notice that you have £75 million in the budget for the Jobs Growth Wales scheme. I would be interested in some more detail on how this will work. Can you explain why this is targeted only at those not in education, employment or training rather than across the board? Will it be sector-oriented in relation to the economic development plan? As it is funded by Europe, is it available outside the Objective 1 areas, or is it limited to those areas identified as being in need of European aid?

 

Sylwaf fod gennych £75 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y cynllun Twf Swyddi Cymru. Byddai gennyf ddiddordeb mewn mwy o fanylder ar sut y bydd hyn yn gweithio. A allwch esbonio pam y targedir hyn dim ond ar y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn hytrach na’i gynnig yn gyffredinol? A fydd yn canolbwyntio ar sectorau o ran y cynllun datblygu economaidd? Gan ei fod yn cael ei ariannu gan Ewrop, a yw ar gael y tu allan i ardaloedd Amcan 1, neu a yw’n gyfyngedig i’r ardaloedd hynny a nodwyd fel rhai sydd angen cymorth Ewropeaidd?

 

On capital funding, again, you made a very strong point. Of course, other Ministers have made the point that they would like to see those who can borrow money doing so to try to bolster the capital spend that is available in Wales. As you are in negotiations with the UK Treasury on that issue—something that I think has the support of all parties in the Chamber—can you say whether you have considered supported borrowing for local councils to enable them to make up some of the gap, particularly in relation to the twenty-first century schools policy, which has now moved to a 50:50 basis and for which local councils now have to find more money? If you could provide supported borrowing in relation to that, we might be able to get that programme back on track. As things stand, I think that many school building projects are going to fall behind.

 

O ran cyllid cyfalaf, unwaith eto, gwnaethoch bwynt cryf iawn. Wrth gwrs, mae Gweinidogion eraill wedi gwneud y pwynt yr hoffent weld y rheini y gall fenthyg arian yn gwneud hynny, i geisio atgyfnerthu’r gwariant cyfalaf sydd ar gael yng Nghymru. Gan eich bod yn trafod y mater hwnnw gyda Thrysorlys y DU—rhywbeth y credaf sydd â chefnogaeth pob plaid yn y Siambr—a allwch chi ddweud a ydych wedi ystyried benthyca â chymorth ar gyfer cynghorau lleol i’w galluogi i gau peth o’r bwlch, yn enwedig o ran y polisi ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd bellach wedi symud i sail 50:50 ac y mae’n rhaid i gynghorau lleol bellach dod o hyd i fwy o arian ar ei gyfer? Pe gallech ddarparu benthyca â chymorth ar gyfer hynny, gallem gael y rhaglen honno yn ôl ar y trywydd iawn. Fel mae’r sefyllfa heddiw, credaf fod nifer o brosiectau adeiladu ysgolion yn mynd i syrthio ar ei hôl hi.

 

My penultimate point relates to the national infrastructure plan. Can you confirm whether that includes all departments of the Welsh Government, or is it limited just to highways and transportation? For example, will you be including the education capital spend in that? How will that be directed and who will be in charge of directing that infrastructure programme? I think that we all understand that infrastructure is more than just transport infrastructure—it also relates to community infrastructure, schools and communications infrastructure. It would be useful if you could confirm the points on that issue.

 

Mae fy mhwynt olaf ond un yn ymwneud â’r cynllun seilwaith cenedlaethol. A allwch gadarnhau a yw hwnnw’n cynnwys holl adrannau Llywodraeth Cymru, neu a yw wedi ei gyfyngu i briffyrdd a thrafnidiaeth yn unig? Er enghraifft, a fyddwch yn cynnwys gwariant cyfalaf addysg yn hynny? Sut y caiff hynny ei gyfarwyddo a phwy fydd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r rhaglen seilwaith honno? Credaf ein bod ni i gyd yn deall bod seilwaith yn fwy na dim ond seilwaith trafnidiaeth—mae’n ymwneud hefyd â seilwaith cymunedol, seilwaith ysgolion a chyfathrebu. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech gadarnhau’r pwyntiau ar y mater hwnnw.

 

Finally, I would be grateful, Minister, if you could give an indication of what you will be doing with the £40 million Barnett consequential from the announcement by Eric Pickles on the council tax freeze. The Welsh Liberal Democrats will not be pushing this on you. Given that there are elections next year, we are not expecting very high council tax rises. However, we would like to see some or all of that money being put towards the priorities that we, as Welsh Liberal Democrats, have and which you say you have in terms of training and education, getting people back to work and equipping them with the education and skills to enable them to take advantage of job opportunities as they arise.

 

Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech roi arwydd o beth fyddwch yn ei wneud gyda’r £40 miliwn o gyllid canlyniadol Barnett o gyhoeddiad Eric Pickles ar rewi’r dreth gyngor. Ni fydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gwthio hyn arnoch. O gofio bod etholiadau’r flwyddyn nesaf, nid ydym yn disgwyl codiadau treth gyngor uchel iawn. Fodd bynnag, hoffem weld bod peth o’r arian neu’r holl arian hwnnw yn cael ei roi tuag at y blaenoriaethau sydd gennym ni, fel Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac yr ydych chi’n dweud sydd gennych o ran hyfforddiant ac addysg, cael pobl yn ôl i weithio a’u harfogi gyda’r addysg a’r sgiliau i’w galluogi i fanteisio ar gyfleoedd swyddi wrth iddynt godi.

 

Jane Hutt: Thank you, Peter Black, finance spokesperson for the Liberal Democrats. It is understandable and right that education is at the forefront of your long list of questions. It is important that I can reassure you about the opportunities that we have for education in terms of this spend. It is important to recognise that spend on education will be a year-on-year allocation. That will be important not only for schools funding, but for how we target that fund. Over the next three years, the education and skills main expenditure group baseline will increase by 2.8 per cent in cash terms. We have maintained our commitment to increasing front-line spending and extending the protection that we afford to schools. As I said, this funding means an additional £27 million for schools in 2014-15. This is on top of the previous indicative allocations, meaning cash growth over three years of more than 5 per cent. Education funding within the revenue support grant will be £80 million higher in 2014 than in 2010-11—that is the sum that you wanted, Peter. The schools budget and the education and skills MEG will be £16.6 million higher in 2014-15 than in 2010-11. In addition, there will be opportunities from the £55 million extra funding for Flying Start. The extra 18,000 children who will benefit—the indicator that we are now using is children of families on income support—will do so before they get into education. That is money going to the pre-school child before they get to school.

 

Jane Hutt: Diolch i chi, Peter Black, llefarydd cyllid y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n ddealladwy ac yn iawn fod addysg ar frig eich rhestr hir o gwestiynau. Mae’n bwysig y gallaf eich sicrhau am y cyfleoedd sydd gennym ar gyfer addysg o ran y gwariant hwn. Mae’n bwysig cydnabod y bydd gwario ar addysg yn ddyraniad o flwyddyn i flwyddyn. Bydd hynny’n bwysig nid yn unig ar gyfer cyllid ysgolion, ond ar gyfer sut rydym yn targedu’r gronfa honno. Dros y tair blynedd nesaf, bydd llinell sylfaen prif grŵp gwariant addysg a sgiliau yn cynyddu 2.8 y cant mewn termau arian parod. Yr ydym wedi cynnal ein hymrwymiad i gynyddu gwariant rheng flaen ac ymestyn yr amddiffyniad a roddwn i ysgolion. Fel y dywedais, mae’r cyllid hwn yn golygu £27 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ysgolion yn 2014-15. Mae hyn ar ben y dyraniadau dangosol blaenorol, sy’n golygu twf mewn arian parod dros dair blynedd o fwy na 5 y cant. Bydd cyllid addysg o fewn y grant cynnal refeniw yn £80 miliwn yn uwch yn 2014 nag yn 2010-11—hwnnw yw’r swm yr oeddech ei eisiau, Peter. Fe fydd y gyllideb ysgolion a’r prif grŵp gwariant addysg a sgiliau yn £16.6 miliwn yn uwch yn 2014-15 nag yn 2010-11. Yn ogystal, bydd cyfleoedd o’r £55 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau’n Deg. Bydd y 18,000 o blant ychwanegol a fydd yn elwa—y dangosydd yr ydym bellach yn defnyddio yw plant o deuluoedd ar gymhorthdal incwm—yn gwneud hynny cyn iddynt fynd i mewn i addysg. Mae hynny’n arian sy’n mynd at y plentyn cyn-ysgol cyn iddynt fynd i’r ysgol.

 

I will leave the issue of funding for the police community support officers to the Minister for Local Government and Communities. However, it is clear that we have costed this and that the £5 million year-on-year funding that is being applied will deliver.

 

Byddaf yn gadael y mater o gyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Fodd bynnag, mae’n amlwg ein bod wedi prisio hwn a bydd y cyllid £5 miliwn flwyddyn-ar-flwyddyn sy’n cael ei roi ar waith yn cyflawni.

 

On your point about social services, the local government settlement means that we are still extending the same degree of protection to social services in 2012-13 and 2013-14 in this year’s budget. That is very important. We are putting more money into social services because of an equality impact assessment. This showed that, if we put all the money into health and not into social services, we would be creating more problems for local authorities, in terms of care packages and support for vulnerable people. So, that funding is going to social services through the local government settlement.

 

Ar eich pwynt ynghylch gwasanaethau cymdeithasol, mae’r setliad llywodraeth leol yn golygu ein bod yn dal i ymestyn yr un graddau o ddiogelwch i wasanaethau cymdeithasol yn 2012-13 a 2013-14 yn y gyllideb eleni. Mae hynny’n bwysig iawn. Yr ydym yn rhoi mwy o arian i wasanaethau cymdeithasol oherwydd asesiad effaith ar gydraddoldeb. Dangosodd hwn pe rhoddem yr holl arian i mewn i iechyd ac nid i mewn i wasanaethau cymdeithasol, byddem yn creu mwy o broblemau ar gyfer awdurdodau lleol, o ran y pecynnau gofal a chymorth i bobl sy’n agored i niwed. Felly, mae’r arian hwnnw’n mynd i wasanaethau cymdeithasol drwy’r setliad llywodraeth leol.

 

On the importance of Adapt, we tailored that scheme to the public sector because we needed to focus on the public sector due to job losses through voluntary redundancy as well as those lost through the non-devolved Government bodies. In terms of the private sector, we have ReAct, which is an important part of the budget at £3.891 million, which includes European structural fund income. That is for the private sector. All of us in the Chamber will know people who have benefited from ReAct training. Indeed, when jobs were lost at Bosch, the company put in some of its own funding to match ReAct funding from us. So, we can do innovative things as well.

 

Ar bwysigrwydd Adapt, gwnaethom deilwra’r cynllun hwnnw i’r sector cyhoeddus oherwydd roedd angen inni ganolbwyntio ar y sector cyhoeddus o ganlyniad i swyddi’n cael eu colli drwy ddiswyddiadau gwirfoddol yn ogystal â’r rhai a gollwyd drwy’r cyrff llywodraeth heb eu datganoli. O ran y sector preifat, mae gennym ReAct, sy’n rhan bwysig o’r gyllideb yn £3.891 miliwn, sy’n cynnwys incwm cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae hynny ar gyfer y sector preifat. Bydd pob un ohonom yn y Siambr yn adnabod pobl sydd wedi elwa o hyfforddiant ReAct. Yn wir, pan gollwyd swyddi yn Bosch, rhoddodd y cwmni ychydig o’i arian ei hun i gyfateb cyllid ReAct oddi wrthym ni. Felly, gallwn wneud pethau arloesol hefyd.

 

To reassure you about the Jobs Growth Wales programme—there will be a statement about this next week by the Minister for Education and Skills—it will create 4,000 job opportunities across Wales, within the first year of delivery, for unemployed young people aged 16-24, giving them work experience for six months. This will be paid at or above the national minimum wage for a minimum of 25 hours a week, ensuring that we reach some of those more hard-to-reach young people and those who could become NEET if we did not take this opportunity to give them that support. We have secured £75 million for this. Yes, it is tough on the reserves, but I would rather that that money went to young people to meet the needs of the people of Wales than stay in our coffers.

 

I’ch sicrhau am y rhaglen Twf Swyddi Cymru—bydd datganiad ar hyn yr wythnos nesaf gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau— bydd yn creu 4,000 o gyfleoedd swyddi ledled Cymru, o fewn y flwyddyn gyntaf, ar gyfer pobl ifanc ddi-waith rhwng 16-24 oed, ac yn rhoi profiad gwaith iddynt am chwe mis. Caiff hwn ei dalu ar neu’n uwch na’r isafswm cyflog cenedlaethol am o leiaf 25 awr yr wythnos, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd rhai o’r bobl ifanc mwyaf anodd eu cyrraedd a’r rhai y gallai ddod yn NEET os na chymerwyd y cyfle hwn i roi’r gefnogaeth honno iddynt. Yr ydym wedi sicrhau £75 miliwn ar gyfer hyn. Ydy, mae’n anodd ar y cronfeydd wrth gefn, ond byddai’n well gennyf fod yr arian hwnnw’n mynd at bobl ifanc i ddiwallu anghenion pobl Cymru nag yn aros yn ein coffrau.

 

I think that you and Mike Hedges are coming together very nicely from Swansea in support of the fact that we can support councils with the twenty-first century schools programme. So, there is some unanimity across the Chamber on more than one point. I welcome the contribution that you made and the questions that you raised about the national infrastructure plan. Of course, it goes back to priorities. We wrestled over priorities when we had our first cut in capital earlier this year—should the priority be the economy, schools or transport? That is what we do in Government. We also need your input in that consideration of priorities, but it looks to me as though your comments about the £40 million consequential for the focus on jobs, training and growth is, again, in accord with our thinking at this time. 

 

Credaf eich bod chi a Mike Hedges yn dod at eich gilydd yn dwt iawn o Abertawe i gefnogi’r ffaith y gallwn gefnogi cynghorau gyda’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Felly, mae ychydig o unfrydedd ar draws y Siambr ar fwy nag un pwynt. Croesawaf y cyfraniad a wnaethoch chi a’r cwestiynau a godwyd gennych am y cynllun seilwaith cenedlaethol. Wrth gwrs, mae’n mynd yn ôl i flaenoriaethau. Gwnaethom boeni dros flaenoriaethau pan gawsom ein toriad cyntaf mewn cyfalaf yn gynharach eleni-a ddylid blaenoriaethu’r economi, ysgolion neu drafnidiaeth? Dyna beth yr ydym yn ei wneud mewn Llywodraeth. Mae arnom angen hefyd eich mewnbwn wrth ystyried y blaenoriaethau, ond mae’n ymddangos imi fel bod eich sylwadau am y £40 miliwn ganlyniadol ar gyfer canolbwyntio ar swyddi, hyfforddiant a thwf, unwaith eto, yn unol â’n teithi meddwl ni ar hyn o bryd.

 

The Presiding Officer: We have had some eloquent contributions from the opposition spokespeople. They were very probing and, dare I say, quite lengthy. We have had some very detailed replies from the Minister. I ask the remaining contributors to ask succinct questions. I do not think that we need any preambles.

 

Y Llywydd: Yr ydym wedi cael rhai cyfraniadau huawdl gan lefarwyr y gwrthbleidiau. Yr oeddent yn dreiddgar iawn ac, mentraf ddweud, yn eithaf hir. Yr ydym wedi cael rhai atebion manwl iawn gan y Gweinidog. Gofynnaf i’r cyfranwyr sy’n weddill i ofyn cwestiynau cryno. Nid wyf yn credu ein bod angen unrhyw ragymadroddion.

 

Mark Isherwood: I have two items. [Laughter.] First, will the Minister comment on the supporting communities and people budget, which had already been cut in the indicative budget by some 11 to 12 per cent, and is now facing cuts of 14 per cent? This is critical in the context, for example, of the current consultation on the future of Communities First, which is, presumably, facing cuts of 14 per cent. I am not going to go into the issues—it is not the appropriate situation today—but funding for the future will be dependent on those resources being available.

 

Mark Isherwood: Mae gennyf ddwy eitem. [Chwerthin.] Yn gyntaf, a wnaiff y Gweinidog sylwadau ar y gyllideb cefnogi cymunedau a phobl, a oedd eisoes wedi ei thorri yn y gyllideb ddynodol gan ryw 11 y cant i 12 y cant, ac sydd yn awr yn wynebu toriadau o 14 y cant? Mae hyn yn hollbwysig, er enghraifft, yng nghyd-destun yr ymgynghoriad presennol ar ddyfodol Cymunedau’n Gyntaf, sydd yn, yn ôl pob tebyg, yn wynebu toriadau o 14 y cant. Nid wyf am fynd i mewn i’r materion—nid yw’n briodol heddiw—ond fe fydd arian ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar argaeledd yr adnoddau hynny.

 

Secondly, I look at the housing budget, another area—like supporting communities and people—that is critical in tackling the causes of the problems in Wales today. I note that it has stayed as was indicated in the indicative budget, reflecting, for example, a further 50 per cent cut in the social housing grant. The social housing grant not only delivers a supply of new social affordable housing but also ensures that rents are set at an affordable level. This situation will, potentially, lead to higher rents being charged by housing associations. I would be grateful if you could address those points, noting that we, in our indicative budget, would have left £10 million more in the supporting communities and people budget over three years, and £17 million more, plus the £12 million Barnett consequential from the Treasury, in the social housing budget.

 

Yn ail, edrychaf ar y gyllideb tai, ardal arall—fel cefnogi cymunedau a phobl—sy’n hollbwysig o ran mynd i’r afael ag achosion y problemau yng Nghymru heddiw. Nodaf ei bod wedi aros fel y nodwyd yn y gyllideb ddangosol, yn adlewyrchu, er enghraifft, toriad pellach o 50 y cant yn y grant tai cymdeithasol. Nid yn unig y mae’r grant tai cymdeithasol yn darparu cyflenwad o dai fforddiadwy cymdeithasol newydd ond hefyd yn sicrhau bod rhenti yn cael eu gosod ar lefel fforddiadwy. Bydd y sefyllfa hon o bosibl, yn arwain at renti uwch yn cael eu gosod gan gymdeithasau tai. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ymdrin â’r pwyntiau hynny, gan nodi y byddem ni, yn ein cyllideb ddangosol, wedi gadael £10 miliwn yn fwy yn y gyllideb cefnogi cymunedau a phobl dros dair blynedd, ac £17 miliwn yn fwy, ynghyd â’r £12 miliwn o gyllid canlyniadol Barnett gan y Trysorlys, yn y gyllideb tai cymdeithasol.

 

Jane Hutt: In response to the question about the Supporting People programme, we are continuing to invest over £130 million revenue a year in delivering housing-related support for vulnerable people. That is supporting 50,000 people a year, providing good value for each Welsh pound that we spend, and is a priority in combating the impact of welfare reforms and economic downturn. With regard to housing, compared with indicative plans published in the final budget, the total MEG allocation for housing, regeneration and heritage has increased by £0.4 million in 2012-13 and by £0.6 million in 2013-14. In terms of the focus not just on Supporting People, which is key, we are protecting in full the major repairs allowance at a figure of £188 million per annum. 

     

Jane Hutt: Mewn ymateb i’r cwestiwn am y rhaglen Cefnogi Pobl, rydym yn parhau i fuddsoddi refeniw o dros £130 miliwn y flwyddyn i ddarparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai i bobl sy’n agored i niwed. Mae hynny’n cefnogi 50,000 o bobl y flwyddyn, yn darparu gwerth da am bob punt Gymreig yr ydym yn ei gwario, ac yn flaenoriaeth wrth frwydro yn erbyn effaith y diwygiadau lles a’r dirywiad economaidd. O ran tai, o’i gymharu â chynlluniau dangosol a gyhoeddwyd yn y gyllideb derfynol, mae cyfanswm dyraniad y prif grŵp gwariant ar gyfer tai, adfywio a threftadaeth wedi cynyddu £0.4 miliwn yn 2012-13 a £0.6 miliwn yn 2013-14. O ran y ffocws nid yn unig ar Cefnogi Pobl, sy’n allweddol, yr ydym yn diogelu’n llawn y lwfans atgyweiriadau mawr ar ffigur o £188 miliwn y flwyddyn.

 

Alun Ffred Jones: Yr ydym yn deall bod hon yn gyllideb anodd iawn mewn amgylchiadau anodd. Mae gennyf ddau gwestiwn, un ynglŷn â’r Twf Swyddi Cymru. Yr ydych wedi cyfeirio at £75 miliwn, ac mae £25 miliwn o hwnnw yn dod o’r cronfeydd strwythurol. A yw’r ffigur ychwanegol, y £50 miliwn o arian newydd, wedi’i gynnwys, felly, yn y gyllideb addysg?

 

Alun Ffred Jones: We understand that this is a very difficult budget in difficult circumstances. I have two questions, one of which is about Jobs Growth Wales. You referred to £75 million, and £25 million of that comes from the structural funds. Is the additional figure, the £50 million of new money, included, therefore, in the education budget?

Yr ydych yn cyfeirio at bwysigrwydd arian cyfalaf, ac mae adroddiad heddiw yn dangos bod dirywiad gweithgarwch yn y diwydiant adeiladu wedi digwydd ym mhob chwarter ers 2008. Yr ydych yn gwneud dau ddatganiad:   

 

You refer to the importance of capital funds, and a report today shows that there has been a decline in activity in the construction industry in every quarter since 2008. You make two statements:

‘We will do all we can to boost capital investments’

 

Byddwn yn gwneud popeth a allwn i hybu buddsoddi cyfalaf

ac yr ydych yn dweud 

 

and you say

‘We are exploring all potential mechanisms for levering in additional investment in infrastructure’.

Rydym yn ystyried pob mecanwaith posibl ar gyfer ysgogi buddsoddiad ychwanegol yn y seilwaith.

 

A fyddech yn gallu dangos y prawf, yn y gyllideb hon, eich bod yn chwilio am ffyrdd ychwanegol o godi arian ar gyfer gwella ein hisadeiledd yng Nghymru ac, yn sgîl hynny, gwella gobeithion cwmnïau sydd yn cyflogi gweithwyr yma? 

 

Could you show us the proof, in this budget, that you are seeking additional ways of raising funds to improve our infrastructure in Wales and, in the wake of that, to improve the prospects of companies that employ workers here?

Jane Hutt: To clarify again with regard to a Jobs Growth Wales scheme, as you say, it is an additional £25 million per annum to support the delivery of that scheme. It is funded through the Welsh Government and European structural funds, creating 4,000 jobs for young people aged 16 to 24.

 

Jane Hutt: Er mwyn egluro unwaith eto o ran cynllun Twf Swyddi Cymru, fel y dywedwch, mae’n £25 miliwn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi cyflwyno’r cynllun hwnnw. Fe’i hariennir drwy Lywodraeth Cymru a’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, gan greu 4,000 o swyddi ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed.  

 

3.30 p.m.

 

On the proof in terms of whether we are seeking new ways to lever in investment for our infrastructure, clearly, in terms of the levers that we have, borrowing is key to that. On the use of any other funding, we have talked more than once this afternoon about the £40 million that is coming our way. The fact that we have already transferred over £56 million from revenue to capital for projects such as Coleg Morgannwg, which I visited today, demonstrates that we are prepared to transfer funding from revenue to capital, to lever in funding and use consequentials. This is about priorities, when we get that infrastructure plan under way, and I will bring more details to the Chamber shortly. However, we have already demonstrated that we are doing this with the Welsh housing partnership, with £12 million from the Principality Building Society. Progressive lending institutions such as that are on the doorstep waiting to come in and support us on other schemes, and the door is open to them.

 

Ynghylch y prawf o ran a ydym yn chwilio am ffyrdd newydd i ysgogi buddsoddiad ar gyfer ein seilwaith, mae’n amlwg, o ran yr ysgogiadau sydd gennym, bod benthyca yn allweddol i hynny. O ran y defnydd o unrhyw arian arall, rydym wedi sôn fwy nag unwaith y prynhawn yma am y £40 miliwn sy’n dod i’n cyfeiriad. Mae’r ffaith ein bod eisoes wedi trosglwyddo dros £56 miliwn o refeniw i gyfalaf ar gyfer projectau fel Coleg Morgannwg, yr ymwelais ag ef heddiw, yn dangos ein bod yn barod i drosglwyddo arian o refeniw i gyfalaf, er mwyn ysgogi arian a defnyddio cyllid canlyniadol. Mae hyn yn ymwneud â blaenoriaethau, pan fyddwn yn rhoi’r cynllun seilwaith hwnnw ar waith, a byddaf yn rhoi mwy o fanylion i’r Siambr yn fuan. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi dangos ein bod yn gwneud hyn gyda phartneriaeth tai Cymru, gyda £12 miliwn gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality. Mae sefydliadau benthyca blaengar fel hynny ar y stepen drws yn aros i ddod mewn a’n cefnogi ar gynlluniau eraill, ac mae’r drws ar agor iddynt.

 

Darren Millar: Thank you for your statement, Minister. I am delighted that you have caved in as a Government to our request for more support for the NHS in Wales. Clearly, the additional investment that you are making falls way short of the many hundreds of millions that the NHS in Wales would get under a Welsh Conservative Government. However, that said, will you confirm, Minister, that of the £288 million that you have headlined as being additional spend on health and social services, £48.5 million in terms of orthopaedic care has already been announced, way back in March, and that, in addition, the £55 million that you have announced for Flying Start would previously have sat in a completely different budget area, that of children, education and lifelong learning and skills? Therefore, the real terms increase is a rather smaller £180 million, still way short of the £1 billion in cuts that you were previously making in the budget that you announced last year.

 

Darren Millar: Diolch yn fawr am eich datganiad, Weinidog. Rwyf wrth fy modd eich bod wedi ildio fel Llywodraeth i’n cais am fwy o gefnogaeth i’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Mae’n amlwg bod y buddsoddiad ychwanegol yr ydych yn ei wneud yn brin iawn o’r cannoedd o filiynau o bunnoedd y byddai’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn ei gael o dan Lywodraeth Geidwadol Cymru. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, a wnewch chi gadarnhau, Weinidog, o’r £288 miliwn yr ydych chi wedi ei amlygu fel gwariant ychwanegol ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, bod £48.5 miliwn o ran gofal orthopedig eisoes wedi ei gyhoeddi, ymhell yn ôl ym mis Mawrth, ac, yn ogystal, y byddai’r £55 miliwn yr ydych wedi ei gyhoeddi ar gyfer Dechrau’n Deg wedi eistedd mewn maes cyllideb hollol wahanol, sef plant, addysg, dysgu gydol oes a sgiliau? Felly, y cynnydd mewn termau real yw £180 miliwn, sydd braidd yn llai, ac ymhell o’r £1 biliwn mewn toriadau yr oeddech yn eu gwneud yn y gyllideb y gwnaethoch ei chyhoeddi y llynedd.

 

Jane Hutt: That is such a churlish response from somebody whom I thought would have leapt to his feet to say, ‘Yes, we are going to back your budget’. We are a responsible Government with a credible budget. That is what the people of Wales want to hear today: we have a responsible Government, which is committed to growth and jobs and skills, to protecting the most vulnerable people in Wales, and to supporting our businesses, which are in the worst economic situation ever as a result of the failure of your Government in Westminster to have a credible plan for growth. There is no plan for growth; we heard nothing from the Chancellor yesterday, apart from something about credit easing, which he says we will hear more about at the end of November. We are fleeter of foot than your chancellor.

 

Jane Hutt: Dyna ymateb surbwch gan rywun y byddwn yn meddwl a fyddai’n neidio ar ei draed i ddweud ‘Gwnawn, fe wnawn ni gefnogi eich cyllideb’. Rydym yn Lywodraeth gyfrifol gyda chyllideb gredadwy. Dyna beth y mae pobl Cymru am ei glywed heddiw: bod gennym lywodraeth gyfrifol, sydd wedi ymrwymo i dwf a swyddi a sgiliau, i ddiogelu’r bobl mwyaf diamddiffyn yng Nghymru, ac i gefnogi ein busnesau, sydd yn y sefyllfa economaidd waethaf erioed o ganlyniad i fethiant eich Llywodraeth yn San Steffan i feddu ar gynllun credadwy ar gyfer twf. Nid oes cynllun ar gyfer twf; chlywsom ni ddim gan y Canghellor ddoe, ar wahân i rywbeth am liniaru credyd, y dywed y byddwn yn clywed mwy amdano ddiwedd mis Tachwedd. Rydym yn ysgafnach ar ein traed na’ch canghellor chi.

 

I clarify that the £48.5 million is to increase capacity in order to deal with the demand for orthopaedic treatment. Are you saying that you do not approve of that allocation? The £239 million is to place the NHS on a sustainable financial footing. You will have more opportunities to scrutinise these figures. The £55 million for Flying Start is a separate funding announcement. Let us make it clear: the £288 million is for the NHS, for its needs and pressures, because we recognise that the NHS is a priority for us in Wales.

 

Rwyf yn ei gwneud yn glir bod y £48.5 miliwn ar gyfer cynyddu capasiti er mwyn ymdrin â’r galw am driniaeth orthopedig. A ydych yn dweud nad ydych yn cymeradwyo’r dyraniad hwnnw? Mae’r £239 miliwn yn ei le i roi’r gwasanaeth iechyd gwladol ar sail ariannol gynaliadwy. Bydd gennych ragor o gyfle i graffu ar y ffigurau hyn. Mae’r £55 miliwn ar gyfer Dechrau’n Deg yn gyhoeddiad ariannol ar wahân. Gadewch i ni wneud hyn yn glir: mae’r £288 miliwn ar gyfer y GIG, ar gyfer ei anghenion a’r pwysau sydd arno, gan ein bod yn cydnabod bod y GIG yn flaenoriaeth i ni yng Nghymru.

 

Jocelyn Davies: I have taken the precaution of preparing a very brief question, as requested, Presiding Officer. Minister, you called this your budget for growth and jobs and you said in your statement that you continue to support the JEREMIE fund, but there is no mention of actual resources. Therefore, what does ‘continue to support’ mean in financial terms, and, as you have drawn our attention to it in your statement, can we assume that that means that there is a substantial increase?

 

Jocelyn Davies: Rwyf wedi cymryd gofal i baratoi cwestiwn byr iawn, fel y gofynnwyd amdano, Lywydd. Weinidog, gwnaethoch alw’r gyllideb hon yn un ar gyfer twf a swyddi a dywedasoch yn eich datganiad y byddwch yn parhau i gefnogi cronfa JEREMIE, ond nid oes sôn am adnoddau gwirioneddol. Felly, beth mae ‘parhau i gefnogi’ yn ei olygu mewn termau ariannol, a gan eich bod wedi tynnu ein sylw ato yn eich datganiad, a allwn ni gymryd bod hynny’n golygu bod cynnydd sylweddol?

 

Jane Hutt: With regard to the JEREMIE funds, those are ongoing allocations that we lever in from Europe. I will have to give you more detail in the budget scrutiny in terms of how much that actually means, but the commitment to the JEREMIE funds is clear in terms of support for business and skills. Finally on this point, this is about how we have used our European funds most effectively—and you will hear more shortly from the Deputy Minister about the next tranche of European funds—to support business, training, ProAct, and young people who are not in education, employment or training. JEREMIE has been critical and we have been one of the first administrations to use JEREMIE to back business effectively, particularly small and medium-sized enterprises.

 

Jane Hutt: O ran cronfeydd JEREMIE, dyraniadau parhaus yw’r rheiny, yr ydym yn eu hysgogi o Ewrop. Bydd yn rhaid i mi roi mwy o fanylion i chi yn y broses graffu ar y gyllideb o ran faint yn union y mae hynny’n ei olygu, ond mae’r ymrwymiad i’r cronfeydd JEREMIE yn glir o ran cymorth i fusnesau a sgiliau. Yn olaf ar y pwynt hwn, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym wedi defnyddio ein cronfeydd Ewropeaidd fwyaf effeithiol—a byddwch yn clywed cyn bo hir gan y Dirprwy Weinidog am y cyfran nesaf o gronfeydd Ewropeaidd—i gefnogi busnes, hyfforddiant, ProAct, a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Bu JEREMIE yn allweddol a ni yw un o’r gweinyddiaethau cyntaf i ddefnyddio JEREMIE i gefnogi busnes yn effeithiol, yn enwedig busnesau bach a chanolig.

 

Datganiad: Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru
Statement: Access to Welsh Laws and Developing a Welsh Statute

 

The Counsel General (Theodore Huckle): Good afternoon, everyone. I am very relieved that no-one shouts ‘Are there strangers here?’ when I come through the door.

 

Y Cwnsler Cyffredinol (Theodore Huckle): Prynhawn da, bawb. Mae’n gryn ryddhad nad oes unrhyw un yn gweiddi ‘Oes yna ddieithriaid yma?’ pan ddof drwy’r drws.

 

The Presiding Officer: I would not encourage them. [Laughter.]

 

Y Llywydd: Ni fyddwn yn eu hannog nhw. [Chwerthin.]

 

Theodore Huckle: And so to begin.

 

Theodore Huckle: Rhof gychwyn arni felly.

 

Foremost among many new challenges in the next stage of devolution is the enactment of primary legislation in the form of Assembly Acts. This place, the National Assembly for the people of Wales, may pass laws within devolved subjects without the constraints of the past. You, our legislators, are now, in effect, the guardians of a substantial part of the statute book of England and Wales. I call it the statute book of England and Wales because that is what it remains. We operate within a single legal jurisdiction and the majority of the laws that currently apply to Wales apply to England also. The laws made in this place for Wales only will continue to form part of the body of legislation applied by the unified court system of England and Wales.

 

Yn bennaf ymysg yr amryw o heriau newydd yng nghyfnod nesaf datganoli yw deddfiad deddfwriaeth sylfaenol ar ffurf Deddfau Cynulliad. Gall y lle hwn, y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pobl Cymru, basio cyfreithiau o fewn pynciau datganoledig heb gyfyngiadau’r gorffennol. Chi, ein deddfwyr, yw ceidwaid, i bob pwrpas, rhan sylweddol o lyfr statud Cymru a Lloegr. Rwy’n ei alw yn llyfr statud Cymru a Lloegr gan mai dyna beth ydyw o hyd. Rydym yn gweithredu o fewn awdurdodaeth gyfreithiol sengl ac mae’r rhan fwyaf o’r cyfreithiau sy’n gymwys i Gymru ar hyn o bryd hefyd yn gymwys i Loegr. Bydd y cyfreithiau a wneir yn y lle hwn i Gymru yn unig yn dal i fod yn rhan o’r corff o ddeddfwriaeth a gymhwysir gan system lysoedd unedig Cymru a Lloegr.

 

Part of my role in providing legal advice to the Welsh Government is to ensure that the Government’s responsibility for the integrity of the statute book is properly taken into account in the Bills it proposes and the subordinate legislation it makes. My priority is to seek to ensure that Welsh legislation is consistent with the rule of law and is effective. In order to do so, it is imperative that our laws are accessible and are intelligible, clear and predictable in their effect. I propose to highlight three issues that militate against this aim.

 

Rhan o’m rôl o ran darparu cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru yw sicrhau bod cyfrifoldeb y Llywodraeth am uniondeb cymeriad y llyfr statud yn cael ei ystyried yn briodol yn y Biliau y mae’n eu cynnig a’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei gwneud. Fy mlaenoriaeth yw ceisio sicrhau bod deddfwriaeth Gymreig yn gyson â rheol gyfreithiol ac yn effeithiol. Er mwyn gwneud hynny, mae’n bwysig bod ein cyfreithiau yn hygyrch ac yn ddealladwy, clir a rhagweladwy yn eu heffaith. Fy mwriad yw amlygu tri mater sy’n mynd yn groes i’r bwriad hwn.

 

The first is the sheer volume of legislation, with its plethora of interconnecting provisions, which at the moment create a patchwork of law with which, I am sure, you are all familiar. The second is the process of devolution itself, which can make legislation within the devolved areas more complex than would otherwise be the case. The third is the extent to which legislation in its updated form, in other words incorporating amendments made to existing provisions, is available to the public.

 

Y cyntaf yw’r crynswth o ddeddfwriaeth, gyda’i blethora o ddarpariaethau rhyng-gysylltiol, sydd ar hyn o bryd yn creu clytwaith o gyfraith y byddwch, rwy’n siŵr, yn gyfarwydd ag ef. Yr ail yw’r broses ddatganoli ei hun, sy’n gallu gwneud deddfwriaeth o fewn y meysydd datganoledig yn fwy cymhleth nag y byddai fel arall. Y trydydd yw’r graddau y mae deddfwriaeth ar ei ffurf ddiweddaraf, mewn geiriau eraill yn ymgorffori diwygiadau a wnaed i ddarpariaethau sy’n bodoli’n barod, ar gael i’r cyhoedd.

 

The number of statutes currently in force in the United Kingdom is vast—approximately 4,000 Acts. On many subjects, the law cannot be found in one place, but is in numerous statutory provisions, some of which have been in force for decades, sometimes many decades. Historically, there has been very little consolidation of legislation. Taking the subject of education alone, there are legislative provisions applicable to Wales in 21 extant Acts of Parliament and in four Assembly Measures. Add to the mix the fact that Welsh provisions that are different from those that apply in England will be scattered throughout and one can begin to understand the degree of complexity that we all face.

 

Mae’r nifer o statudau sydd ar waith ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig yn anferth—tua 4,000 o Ddeddfau. Mewn nifer o bynciau, ni ellir canfod y gyfraith mewn un lle, ond mewn amryw o ddarpariaethau statudol, y mae rhai ohonynt wedi bod mewn grym ers degawdau, weithiau sawl degawd. Yn hanesyddol, ychydig iawn o gydgrynhoi deddfwriaeth a fu. Gan ddefnyddio dim ond addysg fel enghraifft, mae darpariaethau deddfwriaethol sy’n gymwys i Gymru mewn 21 o Ddeddfau Seneddol sydd mewn bodolaeth ac mewn pedwar o Fesurau’r Cynulliad. Ychwanegwch at hynny y ffaith y bydd darpariaethau Cymreig sy’n wahanol i’r rhai sy’n gymwys yn Lloegr wedi eu gwasgaru drwyddi draw a gallwch ddechrau deall faint o gymhlethdod yr ydym i gyd yn ei wynebu.

 

Provisions in Acts of the UK Parliament that apply only to Wales can be difficult to find. In the best examples, they are set out in separate parts of an Act of Parliament, but in others they may be found in individual sections throughout the statute. That all impacts upon the accessibility of the law. In view of that plethora of interconnecting legislation and the frequency of legislation that amends existing legislation, it is vital that legislation is available in its amended form. There is currently no source of fully up-to-date, cost-free texts of legislation applicable to Wales, or, for that matter, to England. Updated versions of the Welsh-language text of Welsh legislation are not available at all, as it is not a service provided by the commercial publishers. As a result, it is difficult to use the Welsh-language text. This must be remedied if Welsh is to become an effective language of the law, as it must.

 

Gall darpariaethau mewn Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sydd ond yn gymwys i Gymru fod yn anodd dod o hyd iddynt. Yn yr enghreifftiau gorau, maent wedi eu hamlinellu mewn gwahanol rannau o Ddeddf Seneddol, ond mewn eraill gellir dod o hyd iddynt mewn adrannau unigol ar draws y statud. Mae hynny i gyd yn effeithio ar ba mor hygyrch yw’r gyfraith. O ystyried y plethora hwnnw o ddeddfwriaeth ryng-gysylltiol a pha mor aml y mae deddfwriaeth yn diwygio deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes, mae’n hanfodol bod y ddeddfwriaeth ar gael yn ei ffurf ddiwygiedig. Ar hyn o bryd, nid oes ffynhonnell o destunau wedi ei diweddaru’n llawn am ddim sy’n gymwys i Gymru, nac ychwaith, pe bai’n dod i hynny, i Loegr. Nid yw fersiynau wedi ei diweddaru o destunau Cymraeg o ddeddfwriaeth Gymreig ar gael i bawb, ac nid yw’n wasanaeth a ddarperir gan y cyhoeddwyr masnachol. O ganlyniad, mae’n anodd defnyddio’r testun Cymraeg. Rhaid cywiro hyn os yw’r Gymraeg i ddod yn iaith gyfreithiol effeithiol, fel y dylai.

 

There are limitations to what can be done to remedy these problems, which are both constitutional and practical, but much could be achieved. Access to the law could be improved significantly through an approach to legislation that incorporates more Wales-only text in Wales-only Acts in order to move gradually towards free-standing Welsh legislation. That would involve revising, codifying and consolidating the law. To the extent that it is possible, Welsh laws should be drafted afresh, instead of amending existing provisions, which is a practice that also prevents development of Welsh-language texts, because, as things stand, most of the existing text that can be amended is in English only.

 

Mae cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei wneud i ddatrys y problemau hyn, sydd yn rhai cyfansoddiadol ac ymarferol, ond gellid cyflawni llawer. Gellid gwella mynediad i’r gyfraith yn sylweddol drwy ymagwedd at ddeddfwriaeth sy’n ymgorffori mwy o destun Cymru’n unig mewn deddfau Cymru’n unig er mwyn symud yn raddol at ddeddfwriaeth Gymreig sy’n sefyll ar ei thraed ei hun. Byddai hynny’n golygu adolygu, codeiddio a chydgrynhoi’r gyfraith. I’r graddau bod hynny’n bosibl, dylid drafftio cyfreithiau Cymreig o’r newydd, yn hytrach na diwygio darpariaethau sy’n bodoli’n barod, sy’n arfer sy’n rhwystro datblygu testunau Cymraeg eu hiaith, oherwydd, fel mae pethau’n sefyll, mae’r rhan fwyaf o’r testun sy’n bodoli eisoes y gellid ei ddiwygio yn Saesneg yn unig.

 

Those of us who are becoming involved in the legislative process should assess the impact of new Bill proposals on the overall complexity of the legislation. Where practicable, new legislation should be drafted in a way that simplifies the statute book by consolidating Welsh legislation and separating it from legislation that also applies to England. I am therefore assessing the feasibility of developing a separate consolidation programme to run alongside your main legislative programme. If such a programme is to succeed, we would also need to develop an institutional infrastructure to facilitate the development and fast-tracking of Bills that simply clarify and consolidate rather than change the law. These initiatives would accelerate the development of a substantial stand-alone body of Welsh law, and enable us to talk realistically about developing a genuine ‘Welsh statute book’.

 

Dylai’r rhai ohonom sy’n dod yn rhan o’r broses ddeddfwriaethol asesu effaith y cynigion Bil newydd ar gymhlethdod cyffredinol y ddeddfwriaeth. Lle bo’n ymarferol, dylid drafftio deddfwriaeth newydd mewn modd sy’n symleiddio’r llyfr statud drwy gydgrynhoi deddfwriaeth Gymreig a’i gwahanu oddi wrth ddeddfwriaeth sydd hefyd yn gymwys i Loegr. Rwyf felly yn asesu pa mor ddichonol yw datblygu rhaglen gydgrynhoi ar wahân i redeg ochr yn ochr â’ch prif raglen ddeddfwriaethol, Os yw rhaglen o’r fath i lwyddo, byddem hefyd angen datblygu seilwaith sefydliadol er mwyn hwyluso datblygiad a phrysuro camau Biliau sydd ond yn symleiddio a chydgrynhoi yn hytrach na newid y gyfraith. Byddai’r mentrau hyn yn cyflymu datblygiad corff o gyfraith Gymreig ar wahân sylweddol, a’n galluogi i siarad yn realistig am ddatblygu ‘llyfr statud Cymru’ go iawn.

 

I believe that updated legislation should be available free of charge to the public, and given that both language versions are equal in law, and as a matter of principle, I believe that it should be available in Welsh as well as in English. Whatever they do, the people of Wales have a right to easy access, in readily understandable form, to the laws that govern their lives.

 

Credaf y dylai deddfwriaeth wedi ei diweddaru fod ar gael am ddim i’r cyhoedd, ac o ystyried bod fersiynau yn y ddwy iaith yn gyfartal mewn cyfraith, ac fel mater o egwyddor, credaf y dylai fod ar gael yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Beth bynnag y gwnânt, mae gan bobl Cymru hawl i gael mynediad hawdd, ar ffurf sy’n hawdd ei deall, i’r cyfreithiau sy’n llywodraethu eu bywydau.

 

The solution to all of this, in my opinion, lies with the further development of the legislation.gov.uk website, which is intended to provide authoritative texts of updated legislation free of charge. It has been many years in the making, and is widely considered to be a state-of-the-art, world-leading legislative publication facility. However, it is far from complete. A lack of resources means that there is a large backlog of updating work to be done, within which, I am afraid to say, Welsh legislation, and Welsh subordinate legislation in particular, is unlikely to be a priority. Additional resource dedicated to Wales is therefore to be provided to expedite the process.

 

Mae’r ateb i hyn oll, yn fy marn i, i’w ganfod yn natblygiad pellach y wefan legislation.gov.uk, sydd â’r bwriad o ddarparu testunau awdurdodol o ddeddfwriaeth wedi’i diweddaru yn rhad ac am ddim. Bu’n destun sawl blwyddyn o waith, a chaiff ei ystyried yn gyfleuster cyhoeddi deddfwriaeth o’r radd flaenaf o safon fyd-eang. Fodd bynnag, nid yw’n gyflawn o bell ffordd. Mae diffyg adnoddau yn golygu bod ôl-groniad o waith diweddaru i’w wneud, ac mae’n ddrwg gennyf ddweud na fydd deddfwriaeth Gymreig nac is-ddeddfwriaeth Gymreig yn debyg o fod yn flaenoriaeth yn hynny o beth. Felly, bydd adnoddau ychwanegol wedi eu hymrwymo i Gymru yn cael eu darparu er mwyn cyflymu’r broses.

 

To conclude, therefore, we can do things to promote clarity and improve access to the law. As a first priority, we must deal with long-standing publication deficiencies. Secondly, we must legislate in a way that consolidates and separates Welsh law, with the long-term goal of creating our own statute book. Finally, I urge us all in Wales to do more to discuss and debate these issues and to appreciate their significance. I would say that would I not, as the lawyer in the room? We share a responsibility to increase the people of Wales’s awareness of what is being done to reform Welsh laws and of the extent of our institution’s powers to do more. Legal Services officials and I are therefore working with the Wales Governance Centre and the Assembly Commission for the purpose of making changes to the Wales legislation online website. Our intention is to develop its existing content by adding narrative, explanation and analysis, with the goal of creating an encyclopaedia of Welsh law that is helpful to lawyers and non-lawyers alike. Accessing the law goes to the heart of the democratic process and the people of Wales’s understanding of the work done here on their behalf. I will make a further statement in the spring to outline the progress that we have been able to achieve.

 

I gloi, felly, gallwn wneud pethau i hybu eglurder a gwella mynediad i’r gyfraith. Fel blaenoriaeth gyntaf, rhaid i ni ymdrin â diffygion cyhoeddi hirsefydlog. Yn ail, mae’n rhaid i ni ddeddfu mewn ffordd sy’n cydgrynhoi a gwahanu cyfraith Gymreig, gyda’r nod hir-dymor o greu ein llyfr statud ein hunain. Yn olaf, rwy’n ein hannog ni i gyd yng Nghymru i wneud mwy i drafod a chynnal dadleuon ar y pynciau hyn a gwerthfawrogi eu harwyddocâd. Fe fyddwn i’n dweud hynny, oni fyddwn, fel y cyfreithiwr yn yr ystafell? Rydym yn rhannu cyfrifoldeb i gynyddu ymwybyddiaeth pobl Cymru am yr hyn sy’n cael ei wneud i ddiwygio cyfreithiau Cymru a hyd a lled pwerau ein sefydliad i wneud mwy. Mae swyddogion y Gwasanaethau Cyfreithiol a minnau felly yn gweithio gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru a Chomisiwn y Cynulliad er mwyn gwneud newidiadau i wefan ar-lein deddfwriaeth Cymru. Ein bwriad yw datblygu’r cynnwys sy’n bodoli eisoes drwy ychwanegu naratif, eglurhad a dadansoddiad, gyda’r nod o greu gwyddoniadur o gyfraith Cymreig sydd o ddefnydd i gyfreithwyr a’r rhai nad ydynt yn gyfreithwyr fel ei gilydd. Mae cael mynediad at y gyfraith yn mynd at wraidd y broses ddemocrataidd a dealltwriaeth pobl Cymru o’r gwaith a wneir yma ar eu rhan. Byddaf yn gwneud datganiad arall yn y gwanwyn i amlinellu’r cynnydd y llwyddasom i’w wneud.

 

Mark Isherwood: Thank you, Counsel General, for your statement. We share your goal of improving access to Welsh laws. As you say, the laws made in this place for Wales will continue to form a part of the body of legislation applied by the uniform court system of England and Wales. Of course, Wales has no legal jurisdiction of its own, and has instead operated as a distinct, but not separate, part of English law since 1830. Welsh Conservatives believe that the legal jurisdiction of Wales ought to be made more distinct and partly accountable to the National Assembly. There is a maturing legal architecture in Wales. Her Majesty’s Courts Service Wales was created in 2006, with a presiding judge for Wales and an identifiable Welsh judicatory and magistracy. There is an association of Welsh judges and an administrative court in Wales. All documentation produced by the courts in Wales, including summonses, orders and warrants, can now be produced in both English and Welsh. The debate on Wales’s legal jurisdiction is a debate that we need to have. There are good arguments for retaining Wales as a distinct, but not separate, part of the existing English and Welsh jurisdiction, and there are good arguments for a move to separate the two. We believe that a White Paper should be part of a process that allows all views and opinions to be heard, and I would be grateful if you could indicate whether you would support a White Paper on this matter.

 

Mark Isherwood: Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol, am eich datganiad. Rydym yn rhannu eich nod o wella mynediad at gyfreithiau Cymru. Fel y dywedwch, bydd y cyfreithiau a wneir yn y lle hwn ar gyfer Cymru yn parhau i fod yn rhan o’r corff o ddeddfwriaeth a gymhwysir gan system llysoedd unffurf Cymru a Lloegr. Wrth gwrs, nid oes gan Gymru awdurdodaeth gyfreithiol ei hun, ac yn hytrach mae wedi gweithredu fel rhan arbennig ond nid ar wahân, o gyfraith Lloegr ers 1830. Cred y Ceidwadwyr Cymreig y dylid gwneud awdurdodaeth ddeddfwriaethol Cymru yn fwy arbennig ac yn rhannol atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae yna bensaernïaeth gyfreithiol sy’n aeddfedu yng Nghymru. Cafodd Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi ei greu yn 2006, gyda barnwr llywyddol ar gyfer Cymru a thribiwnlys ac ynadaeth Gymreig hawdd ei nodi. Mae cymdeithas o farnwyr Cymreig a llys gweinyddol yng Nghymru. Mae pob dogfennaeth a gynhyrchir gan y llysoedd yng Nghymru, gan gynnwys gwysion, gorchmynion a gwarantau, yn gallu cael eu cynhyrchu yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r ddadl am awdurdodaeth gyfreithiol yn ddadl y mae angen i ni ei chael. Mae dadleuon da dros gadw Cymru yn rhan arbennig, ond nid ar wahân, o awdurdodaeth Cymru a Lloegr sy’n bodoli’n barod, ac mae dadleuon da dros symud i rannu’r ddau. Rydym o’r farn y dylai Papur Gwyn fod yn rhan o’r broses sy’n galluogi i bob barn gael ei chlywed, a byddwn yn ddiolchgar pe baech yn gallu dweud a fyddech yn cefnogi Papur Gwyn ar y mater hwn.

 

3.45 p.m.

 

As you rightly say, there has been very little consolidation of legislation—there is currently no source of fully up-to-date cost-free text of legislation applicable to Wales, and access to the law could be improved significantly, involving revised codifying and consolidation of the law and the development of Welsh-language texts. However, as things stand, most of the existing text that can be amended is in English only. Where do you believe this work should be done? Where do you believe the resource should come from? What dialogue, if any, have you had or will be having with your opposite numbers at Westminster, given the cross-cutting issues that this highlights?

 

Fel y dywedwch yn gywir, bu fawr ddim cydgrynhoi deddfwriaeth—nid oes ffynhonnell o destun deddfwriaeth wedi ei ddiweddaru’n llawn, sy’n rhad ac am ddim, yn gymwys i Gymru, a gellid gwella mynediad i’r gyfraith yn sylweddol, gan gynnwys codeiddio diwygiedig a chydgrynhoi’r gyfraith a datblygu testunau Cymraeg eu hiaith. Fodd bynnag, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn Saesneg yn unig y mae’r rhan fwyaf o’r testun sy’n bodoli’n eisoes y gellid ei ddiwygio. Ymhle y credwch chi y dylid gwneud y gwaith hwn? Pa ddeialog, os o gwbl, a gawsoch neu a fyddwch yn ei gael gyda’ch swyddogion cyfatebol yn San Steffan, o ystyried y materion trawsbynciol y mae hyn yn ei amlygu?

 

As you say, those of us involved in the legislative process should assess the impact of new Bill proposals on the overall complexity of legislation. You talked about the need to develop an institutional infrastructure to facilitate the fast-tracking of Bills that simplify and consolidate the law rather than change it. In the context of access to Welsh laws and developing a Welsh statute book, could you comment on the need for pre-legislative scrutiny, post-referendum, to replace the pre-legislative scrutiny that happened with the Legislative Competence Order process, potentially involving Green and White Papers, and the need to consult and scrutinise legislation at that pre-legislative level?

 

Fel y dywedwch, dylai’r rhai ohonom sy’n ymwneud â’r broses ddeddfwriaethol asesu effaith cynigion am Fil newydd ar gymhlethdod cyffredinol deddfwriaeth. Gwnaethoch sôn am yr angen i ddatblygu seilwaith sefydliadol er mwyn hwyluso’r gwaith o brysuro Biliau sy’n symleiddio a chydgrynhoi’r gyfraith yn hytrach na’i newid. Yng nghyd-destun mynediad i gyfreithiau Cymreig a datblygu llyfr statud Cymreig, a allech chi wneud sylwadau ar yr agen am graffu cyn y broses ddeddfu, ar ôl y refferendwm, i ddisodli’r craffu cyn y broses ddeddfu a oedd yn digwydd gyda’r broses Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, o bosibl yn cynnwys Papurau Gwyrdd a Gwyn, a’r angen i ymgynghori ar a chraffu ar ddeddfwriaeth ar y lefel cyn deddfu honno?

 

In terms of post-legislation Welsh Government regulation on Welsh Bills, Acts and Measures, as were, how should this be made transparent and accessible? For example, the Domestic Fire Safety (Wales) Measure 2011 was passed in the Chamber, but I understand that the Welsh Government has still not published regulations, as it is still awaiting guidance from the Building Research Establishment, the absence of which was highlighted pre-legislation.

 

O ran rheoleiddio ar ôl deddfu gan Lywodraeth Cymru ar Filiau, Deddfau a Mesurau Cymru, fel ag yr oeddynt, sut y dylid gwneud hyn yn dryloyw a hygyrch? Er enghraifft, cafodd y Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 ei basio yn y Siambr, ond rwy’n deall nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau o hyd, gan ei bod yn dal i aros am ganllawiau gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu, a chafodd absenoldeb hynny ei amlygu cyn y ddeddfwriaeth.

 

In terms of the speed of legislation, there was an instance at the end of the last Assembly when the Education (Wales) Measure 2011 was rushed through. I chaired the legislation committee that scrutinised it. At Stage 1 of legislative scrutiny, the only evidence sessions were with the Minister; there was no opportunity to take evidence from any other witnesses in committee. I am not commenting on whether the law was good law or bad law—I am saying that we did not have the opportunity to scrutinise it sufficiently and ensure accessibility to the consultation and scrutiny process by persons and agencies with an interest outside this place.

 

O ran cyflymder y ddeddfwriaeth, roedd enghraifft ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf pan gafodd y Mesur Addysg (Cymru) 2011 ei ruthro drwodd. Fi a gadeiriodd y pwyllgor deddfwriaeth a graffodd arno. Yn ystod Cyfnod 1 y craffu deddfwriaethol, yr unig sesiynau tystiolaeth a gafwyd oedd gyda’r Gweinidog; nid oedd unrhyw gyfle i gymryd tystiolaeth gan unrhyw dystion eraill yn y pwyllgor. Nid wyf yn dweud a oedd y gyfraith yn gyfraith dda neu beidio—dweud wyf i na chawsom y cyfle i graffu arni’n ddigonol a sicrhau hygyrchedd i’r broses graffu ac ymgynghori gan bobl ac asiantaethau â diddordeb y tu allan i’r lle hwn.

 

Finally, in terms of subordinate legislation, how should the process that you propose address matters such as delegated powers to Welsh Ministers and merits scrutiny of that subordinate legislation? I know that the Constitutional and Legislative Affairs Committee does a sterling job in endeavouring to fulfil that role, but it simply does not have the resource to scrutinise everything that this relates to this as it applies to Wales. As you say, whatever they do, the people of Wales have a right to easy access in readily understandable form to the laws that govern their lives, and you refer to the development of the website, which we would support. However, you say that additional resource dedicated to Wales is therefore to be provided to expedite the process. I would be grateful if you could clarify what that additional resource is and where it will come from.

 

Yn olaf, o ran is-ddeddfwriaeth, sut ddylai’r broses yr ydych yn ei chynnig ymdrin â materion fel pwerau wedi eu dirprwyo i Weinidogion Cymru ac sy’n teilyngu craffu ar yr is-ddeddfwriaeth honno? Rwy’n gwybod bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn gwneud gwaith clodwiw yn ceisio cyflawni’r rôl honno, ond, yn syml, nid oes ganddo’r adnoddau i graffu ar bopeth sy’n ymwneud â hyn fel ag y mae’n gymwys i Gymru. Fel y dywedwch, beth bynnag y maent yn ei wneud, mae gan bobl Cymru yr hawl i gael mynediad rhwydd mewn ffordd sy’n hawdd i’w ddeall i’r cyfreithiau sy’n rheoli eu bywydau, ac yr ydych y cyfeirio at ddatblygu’r wefan, y byddem yn ei gefnogi. Fodd bynnag, dywedwch y bydd adnoddau ychwanegol wedi eu hymrwymo i Gymru yn cael eu rhoi i gyflymu’r broses. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn bwrw goleuni ar beth yw’r adnoddau ychwanegol hynny ac ymhle y byddant yn dod.

 

To conclude—[Interruption.] This is the initial response; I am sure that further speakers will contain their response to shorter questions. The Welsh Conservatives would welcome the opportunity to contribute to a process that is committed to promoting clarity and improved access to the law in Wales, because we share a responsibility with the Welsh Government to increase the awareness among the people of Wales of what is being done to reform Welsh laws, and the extent of our institutions’ powers to do so.

 

I gloi—[Torri ar draws.] Dyma’r ymateb cychwynnol; mae’n siŵr gennyf y bydd siaradwyr eraill yn cwtogi eu hymateb i gwestiynau byrrach. Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at broses sy’n ymrwymedig i hybu eglurder a gwella mynediad i’r gyfraith yng Nghymru, gan ein bod yn rhannu cyfrifoldeb gyda Llywodraeth Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg pobl Cymru o’r hyn sy’n cael ei wneud i ddiwygio cyfreithiau Cymru, a hyd a lled pwerau ein sefydliadau i wneud hynny.

 

Theodore Huckle: I can see that it is sometimes hard to know who is making the statement and who is not. I will deal with those issues as quickly as I can, because time is short, but I am happy to deal with those issues that arise for me. Perhaps I can say straight away that there is always confusion, and it is still about, as to what my role is. My role is not to organise the business of the Assembly, for example. Therefore, I am not sure that I am the best person to ask about issues of pre-legislative scrutiny or post-legislative scrutiny mechanisms, except in very limited respects.

 

Theodore Huckle: Gallaf weld ei bod hi’n anodd gwybod weithiau pwy sy’n gwneud y datganiad a phwy sydd ddim. Gwnaf ymdrin â’r materion hynny mor gyflym ag y gallaf, gan fod amser yn brin, ond rwy’n hapus i ymdrin â’r materion hynny sy’n codi i mi. Efallai y gallaf ddweud yn syth fod dryswch bob amser, ac y mae o gwmpas o hyd, ynglŷn â beth yw fy rôl. Nid fy rôl i yw trefnu busnes y Cynulliad, er enghraifft. Felly, nid wyf yn siŵr ai fi yw’r person gorau i ofyn am faterion yn ymwneud a chraffu cyn deddfu na dulliau craffu ar ôl deddfu, ar wahân i rai achosion cyfyngedig iawn.

 

To deal with the points that you have raised in order, on the legal jurisdiction issues, of course, everyone is interested in where we will go with those sorts of developments. It would be precipitate of me to make any detailed statement about that at this stage. Members will be aware that I have limited the statement that I have made today to issues of legislative clarity and the access of the public to the work that is done in legislating as to the Acts of the Assembly. It is right to say that Members can expect a further announcement on the extent to which the Government proposes to take on questions of jurisdiction and by what means in the near future.

 

I ymdrin â’r pwyntiau a godwyd gennych yn eu trefn, o ran y materion awdurdodaeth gyfreithiol, wrth gwrs, mae gan bawb ddiddordeb yn lle byddwn yn mynd gyda’r mathau hynny o ddatblygiadau. Byddai’n fyrbwyll ohonof i wneud unrhyw ddatganiad manwl ar hynny ar hyn o bryd. Bydd Aelodau yn gwybod fy mod wedi cyfyngu’r datganiad a wneuthum heddiw i faterion yn ymwneud ag eglurder cyfreithiol a mynediad y cyhoedd i’r gwaith a wneir yn deddfu o ran Deddfau’r Cynulliad. Mae’n gywir dweud y gall Aelodau ddisgwyl cyhoeddiad pellach ar y graddau y mae’r Llywodraeth yn cynnig datrys cwestiynau awdurdodaeth a pha ddulliau y maent am eu defnyddio yn y dyfodol agos.

 

On the resources for what I am proposing in relation to issues such as publication and consolidation, resources are an ever-present issue for everyone. To say a little about what has happened to date, the Wales legislation online website has been funded by the Welsh Government and the Assembly Commission. There was initially match funding in relation to that, but when further funds were requested, the Welsh Government initially declined to advance them, pending a review of the service and its quality. The current situation is that we are trying to ensure that the money spent in that direction, whether funds that are already available or funds to be made available, will get a good return. That is part of the reason why we are keen to work with legislation.gov.uk, because it is already in place and it is good. The difficulty with it is that it is not fully up to date, particularly in relation to legislation emanating from Wales, and it is certainly not anywhere near being up to date in relation to Welsh-language texts of legislation emanating from Wales. However, the most cost-effective way that we can think of for achieving rapid publication of updated texts of legislative provisions is to work with legislation.gov.uk, which already, as we understand it, outsources different areas of the legislative programme in England and Wales and, for that matter, Scotland and is keen to work with interested parties. Therefore, the best way that we can think of dealing with that immediately is to work with it and ensure that the limited resources that we all worry about are used in the best and most effective way. I can assure Members that the question of resources is kept in mind, and it is not anticipated that the amount of resources that are being discussed will cause any stress in the budgets already agreed.

 

O ran yr adnoddau yr wyf yn eu cynnig o ran materion fel cyhoeddi a chydgrynhoi, mae adnoddau yn fater i bawb drwy’r adeg. I ddweud rhywfaint am beth sydd wedi digwydd hyd yma, cafodd gwefan ar-lein deddfwriaeth Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad. Roedd arian cyfatebol ar gyfer hynny ar y cychwyn, ond pan ofynnwyd am ragor o arian, gwrthododd Llywodraeth Cymru eu rhoi ar y cychwyn, gan aros am adolygiad o’r gwasanaeth a’i ansawdd. Y sefyllfa bresennol yw ein bod yn ceisio sicrhau y bydd arian a gaiff ei wario i’r cyfeiriad hwnnw, boed yn arian sydd eisoes ar gael neu arian a wneir ar gael, yn ein helwa. Dyna ran o’r rheswm pam ein bod yn awyddus i weithio gyda legislation.gov.uk, oherwydd y mae eisoes ar waith ac y mae’n dda. Yr anhawster gydag ef yw nad yw wedi cael ei ddiweddaru’n llawn, yn enwedig o ran deddfwriaeth sy’n dod o Gymru, ac nid yw, yn sicr, unlle yn agos at gael ei ddiweddaru o ran testunau Cymraeg o ddeddfwriaeth sy’n dod o Gymru. Fodd bynnag, y ffordd fwyaf cost-effeithiol y gallwn feddwl amdani er mwyn cyhoeddi testunau o ddarpariaethau deddfwriaethol yn gyflym yw drwy weithio gyda legislation.gov.uk sydd eisoes, yn ôl yr hyn yr ydym yn ei ddeall, yn allanoli meysydd gwahanol o’r rhaglen ddeddfwriaethol yng Nghymru a Lloegr, ac, yn hynny o beth, yr Alban ac y mae’n awyddus i weithio gyda’r rhai sydd â diddordeb. Felly, y ffordd orau y gallwn feddwl amdani o ymdrin â hynny yn syth yw gweithio gydag ef a sicrhau bod yr adnoddau cyfyngedig yr ydym oll yn pryderu yn eu cylch yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau a mwyaf effeithiol. Gallaf sicrhau Aelodau y bydd adnoddau yn cael eu cadw mewn cof, ac ni ragwelir y bydd y swm o adnoddau sy’n cael eu trafod yn rhoi pwysau ar y cyllidebau y cytunwyd arnynt eisoes.

 

As far as pre-legislative scrutiny and post-legislative regulation checking is concerned, as I said, I take the view that, at the moment, that is a matter for whoever is arranging the business of the legislative process. I am not in a position to say anything about that at the moment.

 

O ran gwirio craffu cyn deddfu a rheoleiddio ar ôl deddfu, fel y dywedais, rwyf o’r farn bod hynny ar hyn o bryd yn fater i bwy bynnag sy’n trefnu busnes y broses ddeddfu. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud mwy am hynny ar hyn o bryd.

 

The question of delegated powers comes into the matters that I have made a statement about, particularly in relation to the lack of any cohesive and comprehensive commentary on the legal position as it affects the citizen in Wales. We can and will do all we can to publish the legislative provisions, but it is difficult, even for experienced legislators, to understand the detail of much of the underlying powers emanating from either our legislation or the delegated powers under the general legislation of England and Wales. As I have said many times to those who will listen, I am personally appalled at the idea that one looks at a statute that refers to a Secretary of State, and one has to read ‘Welsh Ministers’. Those sorts of issues make the law incomprehensible. We will do all that we can to revise those so that it is clear. As for the Welsh Conservatives’ input, that is not a matter for me.

 

Mae’r cwestiwn am bwerau wedi eu dirprwyo yn dod i fewn i faterion y gwneuthum ddatganiad amdanynt eisoes, yn enwedig o ran diffyg unrhyw sylwebaeth gydlynus a chynhwysfawr ar y sefyllfa gyfreithiol fel ag y mae’n effeithio ar y dinesydd yng Nghymru. Gallwn a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyhoeddi’r darpariaethau deddfwriaethol, ond mae’n anodd, hyd yn oed i ddeddfwyr profiadol, i ddeall manylion y pwerau gwaelodol sy’n deillio naill ai o’n deddfwriaeth neu’r pwerau wedi eu dirprwyo o dan ddeddfwriaeth gyffredinol Cymru a Lloegr. Fel y dywedais sawl gwaith wrth y rhai sy’n fodlon gwrando, rwyf yn bersonol wedi fy mrawychu am y syniad bod rhywun yn edrych ar statud sy’n cyfeirio at Ysgrifennydd Gwladol, ac mae rhywun yn gorfod darllen ‘Gweinidogion Cymru’. Mae’r mathau hynny o faterion yn gwneud y gyfraith yn annealladwy. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiwygio’r rheiny fel eu bod yn glir. O ran mewnbwn y Ceidwadwyr Cymreig, nid yw hynny’n fater i mi.

 

The Presiding Officer: I would remind Members to avoid long preambles. It would be helpful if you would move straight to the questions.

 

Y Llywydd: Atgoffaf Aelodau i osgoi gwneud rhagymadroddion hir. Byddai’n help pe baech yn symud yn syth at y cwestiynau.

 

Mick Antoniw: I welcome the statement, because of the historic legal period that we are going through, creating a whole new realm of legal jurisprudence. Following on from your statement, I was wondering about the need to start engaging with the law schools of Welsh universities, and other institutions, so that we start having, as part of the curriculum, the teaching of those elements of Welsh law and the codifying to inform commentary and academic legal discussion on laws, as they come through case law, and the interesting issues that arise. For example, we may retain an agricultural wages board in Wales, but not in England, and so on. It seems to me that those are fundamental steps that need to be taken, as they would create a record of the developing jurisprudence in Wales.

 

Mick Antoniw: Rwy’n croesawu’r datganiad, oherwydd y cyfnod cyfreithiol hanesyddol yr ydym ynddo, yn creu teyrnas newydd o awdurdodaeth gyfreithiol. Yn dilyn eich datganiad, roeddwn yn meddwl am yr angen i ddechrau cysylltu ag ysgolion y gyfraith ym mhrifysgolion Cymru, a sefydliadau eraill, fel ein bod yn dechrau, fel rhan o’r cwricwlwm, addysgu rhai o’r elfennau hynny o gyfraith Cymru a’r codeiddio er mwyn hysbysu sylwebaeth a thrafodaeth gyfreithiol academaidd ar gyfreithiau, wrth iddynt ddod drwy gyfraith achos, a’r materion diddorol sy’n codi. Er enghraifft, efallai y gwnawn ni gadw bwrdd cyflogau amaethyddol yng Nghymru, ond nid yn Lloegr, ac yn y blaen. Ymddengys i mi mai’r rheiny yw’r camau sylfaenol y mae angen eu cymryd, gan y byddant yn creu cofnod o’r awdurdodaeth sy’n datblygu yng Nghymru.

 

Theodore Huckle: I can only agree. There is the institution known as Legal Wales, which I hope will be an increasing focus for developments of the kind that Mr Antoniw referred to. The annual Legal Wales conference will be held on Friday, at which the First Minister, the Solicitor General and I will be speaking. I also think that the Lord Chief Justice of England and Wales will speak there. It is well-attended by—and I excuse myself from these words—people of a high level. I hope that it will be an increasing focus for the development of the law in Wales. Its contacts include the universities, the academic fraternity and the legal world in Wales as it currently stands. Therefore, it is well-placed to fulfil that role, we hope. The only other point that occurs to me is that, as I mentioned in the statement, we could develop an encyclopaedia of the law of Wales, and that is an idea that is directed at the point made about the need for an understanding of the overall legal picture, and not just the statutory provisions.

 

Theodore Huckle: Ni allaf ond cytuno. Mae sefydliad o’r enw Cymru’r Gyfraith, yr wyf yn gobeithio y bydd yn dod yn ffocws cynyddol ar gyfer y math o ddatblygiadau yr oedd Mr Antoniw yn cyfeirio atynt. Bydd cynhadledd flynyddol Cymru’r Gyfraith yn cael ei chynnal ddydd Gwener, lle bydd y Prif Weinidog, y Cyfreithiwr Cyffredinol a minnau yn siarad. Rwy’n meddwl hefyd y bydd Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yn siarad yno. Caiff ei mynychu’n dda gan—ac rwy’n esgusodi fy hun o’r geiriau hyn—bobl ar lefel uchel. Rwy’n gobeithio y bydd yn dod yn ffocws cynyddol ar gyfer datblygu’r gyfraith yng Nghymru. Mae ei chysylltiadau yn cynnwys y prifysgolion, y gymuned academaidd a’r byd cyfreithiol yng Nghymru fel ag y mae ar hyn o bryd. Felly, mae mewn sefyllfa dda i gyflawni’r rôl honno, gobeithiwn. Yr unig bwynt arall sy’n fy nharo yw y gallwn, fel y soniais yn y datganiad, greu gwyddoniadur o’r gyfraith yng Nghymru, ac mae hwnnw’n syniad sydd wedi ei gyfeirio at y pwynt am yr angen i ddeall y darlun cyfreithiol cyfan, ac nid dim ond y darpariaethau statudol.

 

Jocelyn Davies: I welcome this statement and fully support its aims. It is often said that ignorance of the law is no defence, but as Mark Isherwood mentioned earlier, that assumes a number of things—that the law is available to you and that it is easy to find, easy to read and easy to understand. Therefore, I support the idea of improving access for the public and others to the laws that affect them. I think that everybody here would agree that the Welsh Government has some way to go on this. After all, recently, as we are all aware, the Electoral Commission did not even know that the law had changed in Wales—and that body is not members of the public. Are you aware that students in Wales are often advised not to waste their time using the Welsh Government’s website if they are looking up guidance and so on, but to use other search engines? I think that you will also agree that it is a poor site if you have to know where something is before you can find it. I do not know whether you are aware that the Welsh Government’s website is notoriously difficult to navigate, because if you are, you did not mention that as your fourth barrier.

 

Jocelyn Davies: Rwy’n croesawu’r datganiad hwn ac yn llwyr gefnogi ei amcanion. Dywedir yn aml nad yw anwybodaeth yn unrhyw amddiffyniad, ond fel y soniodd Mark Isherwood yn gynharach, mae hynny yn rhagdybio nifer o bethau—bod y gyfraith ar gael i chi a’i bod yn hawdd i’w chanfod, hawdd i’w darllen a hawdd i’w deall. Felly, rwy’n cefnogi’r syniad o wella mynediad i’r cyhoedd ac eraill i’r cyfreithiau sy’n effeithio arnynt. Credaf y byddai pawb sydd yma yn cytuno bod gan Lywodraeth Cymru rywfaint o waith i’w wneud ar hyn. Wedi’r cyfan, fel y gwyddom i gyd, nid oedd y Comisiwn Etholiadol yn gwybod bod y gyfraith wedi newid yng Nghymru—ac nid aelodau’r cyhoedd yw’r corff hwnnw. A wyddoch fod myfyrwyr yn aml yn cael eu cynghori i beidio â gwastraffu eu hamser yn defnyddio gwefan Llywodraeth Cymru os ydynt yn chwilio am ganllawiau, ac ati, ond i ddefnyddio chwilotwyr eraill? Rwy’n meddwl y byddech chi hefyd yn cytuno ei fod yn safle gwael os oes rhaid i chi wybod ymhle mae rhywbeth cyn i chi allu ei ganfod. Nid wyf yn gwybod a wyddoch fod gwefan Llywodraeth Cymru yn arbennig o anodd i fynd o’i chwmpas, oherwydd os ydych, ni wnaethoch sôn am hynny fel eich pedwerydd rhwystr.

 

4.00 p.m.

 

I was interested that you mentioned education in your statement—you took that subject as your example—because this morning, I thought that I would go to the Welsh Government’s website and type in ‘education law’. I did expect to find ‘education law’ because the search results were sorted by relevance. Of the first 20 hits—and there were 807 hits, so I will not go through them all, Presiding Officer, you will be delighted to hear—only eight were about education, and three of those were the same announcement. Included in that top 20 were several announcements that Peter Law made, a description of how to tackle child poverty, a list of the academic journals read by the Welsh Ministers, three hits on the referendum results, one on fireworks, one on fire safety, guidance on placing a child with relatives abroad, and the rate relief scheme announcement—that was another of Peter Law’s, when he was a Minister, which is an exceedingly long time ago.

 

Roedd gennyf ddiddordeb eich clywed yn sôn am addysg yn eich datganiad—gwnaethoch ddefnyddio’r pwnc hwnnw fel eich enghraifft—oherwydd y bore yma, meddyliais y byddwn yn mynd at wefan Llywodraeth Cymru a theipio ‘cyfraith addysg’ i mewn. Roeddwn yn disgwyl gweld ‘cyfraith addysg’ gan fod y canlyniadau chwilio wedi eu trefnu yn ôl perthnasedd. O’r 20 trawiad cyntaf—ac yr oedd 807 o drawiadau, felly nid af drwyddynt i gyd, Lywydd, byddwch yn falch o glywed—dim ond wyth oedd am addysg, a’r un cyhoeddiad oedd tri o’r rheiny. Yn yr 20 uchaf hynny oedd nifer o gyhoeddiadau a wnaeth Peter Law, disgrifiad o sut i fynd i’r afael â thlodi plant, rhestr o gyfnodolion academaidd a ddarllenwyd gan Weinidogion Cymru, tri thrawiad ar ganlyniadau’r refferendwm, un ar dân gwyllt, un ar ddiogelwch tân, arweiniad ar leoli plentyn gyda pherthnasau dramor, a’r cyhoeddiad ar y cynllun rhyddhad ardrethi—un arall gan Peter Law, pan oedd yn Weinidog, sy’n amser maith iawn yn ôl.

 

Of the second 20, only 10 were about education. There were hits for carrier bags, farmers, dog welfare, alcohol, the law on the end of life of vehicles, Jenny Randerson’s appointment of two members of National Museum and Galleries Wales, and the EU waste framework directive. It is not a site where normal, ordinary people can find education law. Is that another barrier for you, on top of the complexity that you have already outlined, which I absolutely accept? The link to the online resource that you mentioned would be incredibly useful.

 

O’r ail 20, dim ond 10 oedd am addysg. Roedd trawiadau ar gyfer bagiau siopa, ffermwyr, lles cŵn, alcohol, y gyfraith ar ddiwedd oes cerbydau, penodiad Jenny Randerson o ddau aelod o Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru, a chyfarwyddeb fframwaith gwastraff yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw’n safle lle gall pobl normal, gyffredin ganfod cyfraith addysg. A ydyw hynny’n rhwystr arall i chi, ar ben y cymhlethdod yr ydych eisoes wedi ei amlinellu, yr wyf yn llwyr dderbyn? Byddai cyswllt i’r adnodd ar-lein y soniasoch amdano yn ddefnyddiol iawn.

 

This is going to be a never-ending project for us. You mentioned that you expect to bring another statement to the Chamber in the spring, so do you expect to have made significant progress by then? I noticed that Mark Isherwood mentioned the question of a separate legal jurisdiction, and obviously this is a topic of great interest and great importance, but is perhaps for another time rather than for a statement here. I also want to ask you about the issue of language and how you can ensure that the law that applies to Wales, including statutory instruments, is available in both languages. I have just one final point, Presiding Officer: if an oral statement is worth making, then it is worth scrutinising, and if the Counsel General makes an oral statement, we will definitely scrutinise it.

 

Mae hwn yn mynd i fod yn broject diddiwedd i ni. Gwnaethoch sôn eich bod yn rhagweld dod â datganiad arall i’r Siambr yn y gwanwyn, felly a ydych yn disgwyl y byddwch wedi gwneud cynnydd sylweddol erbyn hynny? Sylwais bod Mark Isherwood wedi sôn am y cwestiwn o awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân, ac mae hyn yn amlwg yn bwnc o gryn ddiddordeb a phwysigrwydd, ond efallai ar gyfer amser arall yn hytrach na datganiad yn y fan hon. Rwyf hefyd eisiau eich holi am iaith a sut y gallwch sicrhau bod y gyfraith sy’n gymwys i Gymru, gan gynnwys offerynnau statudol, ar gael yn y ddwy iaith. Mae gennyf un pwynt olaf, Lywydd: os yw datganiad llafar yn werth ei wneud, yna mae’n werth craffu arno, ac os yw’r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad llafar, byddwn yn bendant yn craffu arno.

 

Theodore Huckle: I certainly have no complaints about scrutiny. I will deal with the points in order. Do I know that students are told not to use the Welsh Government website? No, I did not know that, but I would not be surprised, particularly if they were law students, because I would not expect law students to look to such a website for legal resources. I am possibly dealing with a different subject matter in relation to the availability of legislative provisions on the one hand and commentary on the law on the other. It is to that which our efforts in this respect will be directed. I entirely agree that it might well be that a member of the public would, in the first instance, go to a site such as the Welsh Government’s to make general inquiries, and although it is not a matter for me to design that website, it certainly ought to direct people to the sort of resources that we are talking about. The problem at the moment is that they are not there in readily accessible form and that is what we want to address. However, I certainly agree with you on the matter of design.

 

Theodore Huckle: Yn bendant, nid oes gennyf gwynion am graffu. Gwnaf ymdrin â’r pwyntiau yn eu trefn. A ydwyf yn gwybod bod myfyrwyr yn cael eu cynghori i beidio â defnyddio gwefan Llywodraeth Cymru? Na, ni wyddwn mo hynny, ond ni fyddwn yn synnu, yn enwedig os oeddent yn fyfyrwyr y gyfraith, oherwydd ni fyddwn yn disgwyl i fyfyrwyr y gyfraith edrych ar wefan o’r fath am adnoddau cyfreithiol. Rwyf o bosibl yn ymdrin â phwnc gwahanol o ran argaeledd darpariaethau cyfreithiol ar un llaw a sylwebaeth ar y gyfraith ar y llaw arall. Dyna lle bydd cyfeiriad ein hymdrechion yn mynd yn hyn o beth. Cytunaf yn llwyr mai aelod o’r cyhoedd a fydd efallai yn mynd yn y lle cyntaf i wefan fel un Llywodraeth Cymru i wneud ymholiadau cyffredinol, ac er nad fy lle i yw dylunio’r wefan honno, fe ddylai yn sicr gyfeirio pobl at y math hynny o adnoddau yr ydym yn siarad amdanynt. Y broblem ar hyn o bryd yw nad ydynt yno ar ffurf sy’n hawdd i’w ddefnyddio a dyna beth yr ydym yn dymuno ei ddatrys. Fodd bynnag, cytunaf yn sicr â chi am y dylunio.

 

Do I expect to make progress? Yes, I do. As far as the language issues are concerned, of course, it is difficult; there is a lot of legislation there, much of which is in English and, as you will be aware, there is a huge resource implication in relation to trying to put all of that into Welsh in its current form. However, part of what I am talking about today is a desire to achieve a situation where we are consolidating—and you are consolidating—legislation that affects the people of Wales and, in doing so, that consolidated legislation will be available in English and in Welsh. However, it is not easy and I do not disagree that it is a longer rather than a short-term project.

 

A ydwyf yn disgwyl gwneud cynnydd? Ydw. O ran y materion am iaith, wrth gwrs, mae’n anodd; mae llawer o ddeddfwriaeth yno, llawer ohono yn Saesneg, ac, fel y gwyddoch, mae goblygiadau sylweddol o ran adnoddau er mwyn ceisio rhoi hynny i gyd yn Gymraeg ar ei ffurf bresennol. Fodd bynnag, rwyf yn sôn yn rhannol heddiw am y dymuniad i gyrraedd sefyllfa lle’r ydym yn cydgrynhoi—ac yr ydych chi yn cydgrynhoi—deddfwriaeth sy’n effeithio ar bobl Cymru ac, wrth wneud hynny, bydd y ddeddfwriaeth honno wedi ei chydgrynhoi ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd ac nid wyf yn anghytuno mai project tymor hir ydyw, nid tymor byr.

 

Julie James: I also welcome the statement by the Counsel General. As a lawyer who practised in Wales for some considerable time, but who also practised in England, I can tell you that the difficulty of finding out what is in force in Wales is extreme, and I echo all the sentiments that have been expressed today about that. I would also like to bring to the Counsel General’s attention one other matter, which is related to his purview and has a bearing on this. It is to do with Legal Wales and the capacity of Welsh law firms to deal with legislation and advice arising from Welsh legislation and, in particular, legislation made in the Welsh language, which is of particular concern.

 

Julie James: Rwyf hefyd yn croesawu’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol. Fel cyfreithiwr sydd wedi ymarfer yng Nghymru ers amser maith, ond sydd hefyd wedi ymarfer yn Lloegr, gallaf ddweud wrthych bod dod o hyd i beth sydd mewn grym yng Nghymru yn anodd iawn, ac rwy’n adleisio popeth a ddywedwyd am hynny heddiw. Hoffwn hefyd dynnu sylw’r Cwnsler Cyffredinol at un mater arall, sy’n ymwneud â’i faes ac sy’n berthnasol i hyn. Mae’n ymwneud â Chymru’r Gyfraith a chapasiti cwmnïau cyfreithiol o Gymru i ymdrin â deddfwriaeth a chyngor sy’n deillio o ddeddfwriaeth ac, yn benodol, deddfwriaeth a wneir yn y Gymraeg, sy’n destun pryder arbennig.

 

There are two issues on this. The first is the difficulty that small and medium-sized Welsh firms have in accessing Government contracts in the first place, given the Office of Government Commerce’s frameworks and the prequalification problems that those firms encounter, which exacerbates the difficulty of commentary and learned discussion in Wales, because only very large law firms can get onto those frameworks. Therefore, practice is not developed in various issues of Welsh law, which would give rise to the sort of academic and practical discussion that you would have in other areas of law in the UK. Secondly, do you have any plans to build capacity among small and medium-sized law firms, with a view to getting that conversation going? You could perhaps invite them to put the commentaries that we have heard about into the public domain, and assist with the codification suggestions and practicalities that go with any such codifications, so that we can get the codified law right. We would therefore not have the issue that we sometimes have with consolidated laws that although the law does not intend to change, it actually does in practice.

 

Mae dau fater yn ymwneud â hyn. Y cyntaf yw’r anhawster y mae busnesau bach a chanolig o Gymru yn ei gael o ran cael mynediad at gontractau Llywodraeth yn y lle cyntaf, o ystyried fframweithiau Swyddfa Masnach y Llywodraeth a’r problemau cyn cymhwyso y mae’r cwmnïau hynny yn eu cael, sy’n ei gwneud yn anodd i gael sylwebaeth a thrafodaeth ddysgedig yng Nghymru, achos dim ond cwmnïau mawr iawn sy’n gallu mynd ar y fframweithiau hynny. Felly, nid yw arfer wedi ei ddatblygu o ran amryw o faterion cyfraith Cymru, a fyddai’n esgor ar y math o drafodaeth academaidd ac ymarferol y byddech yn ei chael mewn rhannau eraill o’r gyfraith yn y Deyrnas Unedig. Yn ail, a oes gennych unrhyw gynlluniau i adeiladu capasiti ymysg cwmnïau cyfreithiol bach a chanolig, gyda’r bwriad o roi cychwyn ar y sgwrs honno? Efallai y gallech eu gwahodd i roi’r sylwebaethau y clywsom amdanynt ar gael yn gyhoeddus, a helpu gyda’r awgrymiadau codeiddio ac unrhyw faterion ymarferol sy’n mynd gyda chodeiddio o’r fath, fel ein bod yn cael y gyfraith godeiddio yn iawn. Ni fyddai gennym felly y broblem sydd gennym weithiau gyda chyfreithiau wedi eu cydgrynhoi y mae’r gyfraith yn eu newid yn ymarferol, er nad yw’n bwriadu hynny.

 

Theodore Huckle: With regard to your first question, it is implicit in what I said about seeking to achieve an encyclopaedia of Welsh law that we are concerned that we do everything that we can to ensure that the people of Wales—including people outside larger law firms, the public, and, for that matter, lawyers who may not be in specialist fields of work—have access to good commentary on the law as it affects the people of Wales, in whatever area of endeavour one is considering. However, that is not easy. One of the options for developing such an encyclopaedia is to invite voluntary contributions. I hesitate to use the word ‘wiki’, but one gets the impression that, if properly edited and if people were prepared to assist with that work, that might be a way, which needs limited resource, of building a proper series of expert commentaries on different areas of law. Therefore, we are considering that as much as we can; the resource implications are clear to us and we will take it as fast as we can, in the stages that we can.

 

Theodore Huckle: O ran eich cwestiwn cyntaf, ymhlyg yn yr hyn a ddywedais am geisio creu gwyddoniadur o gyfraith Cymreig yw ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl Cymru—yn cynnwys pobl y tu allan i’r cwmnïau cyfraith mawr, y cyhoedd a, phe bai’n dod i hynny, cyfreithwyr nad ydynt o bosibl mewn maes arbenigol o waith—yn cael mynediad at sylwebaeth dda ar y gyfraith fel ag y mae’n effeithio ar bobl Cymru, ym mha bynnag faes y mae rhywun yn ei ystyried. Fodd bynnag, nid yw hynny’n hawdd. Un o’r opsiynau ar gyfer datblygu gwyddoniadur o’r fath yw gwahodd cyfraniadau gwirfoddol. Rwy’n gyndyn o ddefnyddio’r gair ‘wiki’, ond caf yr argraff fod hynny yn un ffordd, os caiff ei olygu’n briodol ac os yw pobl yn barod i helpu gyda’r gwaith hwnnw, er mwyn adeiladu cyfres briodol o sylwebaethau arbenigol ar feysydd cyfreithiol gwahanol. Rydym felly yn ystyried hynny gymaint ag y gallwn; mae’r goblygiadau o ran adnoddau yn amlwg i ni a byddwn yn ei wneud mor gyflym ag y gallwn, yn y camau y gallwn.

 

With regard to what lawyers or persons in particular law firms are prepared to do, then that is a matter for them. There are such things as trade secrets and knowledge; we may all be open about publicising the work of Government and the Assembly, but that does not necessarily apply to private business entities. Therefore, there is not much that we can do in that regard, other than to ask them what they are prepared to do. However, as far as that is concerned, as I have already said, we hope that Legal Wales will develop as a focus for the discussion and publication of information that will enable the citizen to know what we are all doing.

 

O ran yr hyn y mae cyfreithwyr neu bobl mewn cwmnïau cyfraith penodol yn barod i’w wneud, mater iddynt hwy yw hynny. Mae yna’r fath beth â chyfrinachau a gwybodaeth fasnachol; efallai ein bod ni gyd yn agored ynghylch hyrwyddo gwaith y Llywodraeth a’r Cynulliad, ond nid yw hynny o anghenraid yn wir am fusnesau preifat. Felly, nid oes llawer y gallwn ei wneud yn hynny o beth, ar wahân i ofyn iddynt beth y maent yn barod i’w wneud. Fodd bynnag, o ran hynny, fel y dywedais eisoes, gobeithiwn y bydd Cymru’r Gyfraith yn datblygu fel ffocws ar gyfer trafod a chyhoeddi gwybodaeth a fydd yn galluogi’r dinesydd i wybod beth y mae pob un ohonom yn ei wneud.

 

Eluned Parrott: First, I would like to thank the Counsel General for his statement. We all welcome the announcement and recognise the significant barriers that he faces in trying to make the law in Wales more clear and accessible to the public. The Liberal Democrats are obviously strong supporters of devolution, and one of the fundamentals of that belief is that if people are to be involved in our democracy, they must have full and clear access to the results of that democracy, which, in this case, is legislation. It is a matter of great concern to me that this issue has not been addressed by previous Counsel Generals, particularly the tracking of powers that pass to Ministers as a consequence of legislation, particularly legislation from Westminster. However, I am delighted that you hope to put right some of those past failings.

 

Eluned Parrott: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Rydym i gyd yn croesawu’r cyhoeddiad ac yn cydnabod y rhwystrau sylweddol y mae’n eu wynebu o ran gwneud y gyfraith yng Nghymru yn fwy clir a hygyrch i’r cyhoedd. Mae’n amlwg bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gefnogwyr cryf o ddatganoli, ac un o sylfeini’r gred honno yw os yw pobl am fod yn rhan o’n democratiaeth ni, rhaid iddynt gael mynediad llawn a chlir i ganlyniadau’r ddemocratiaeth honno, sef deddfwriaeth yn yr achos hwn. Mae’n destun pryder mawr i mi nad ymdriniwyd â’r mater hwn gan y Cwnsleriaid Cyffredinol blaenorol, yn enwedig olrhain y pwerau sy’n trosglwyddo i Weinidogion o ganlyniad i ddeddfwriaeth, yn enwedig deddfwriaeth o San Steffan. Fodd bynnag, rwy’n falch iawn eich bod yn gobeithio unioni rhai o gamau’r gorffennol.

 

I have three questions that I want to ask of you. The first question is on the comprehensiveness of the capture that you are planning, given that the Wales Governance Centre said in evidence to the Constitutional and Legislative Affairs Committee yesterday that there were significant problems with the communication channels in Westminster and with capturing things that are happening there. The second question is on the duplication of work and the efficiency of the work that is being done. Given that the Assembly Commission and the Welsh Government are already paying towards Wales Legislation Online, I would like some clarification as to how you intend Wales Legislation Online to work with legislation.gov.uk to ensure that there is no conflict or unnecessary duplication. The third question is on delivery. You have mentioned the importance of Welsh-language provision to ensure accessibility for everyone, but although Wales Legislation Online is a bilingual website, legislation.gov.uk is not: none of the navigation tools are available in Welsh and only a limited amount of the legislation is available in Welsh. Do you have any plans for the work that you intend to do with legislation.gov.uk to create a bilingual framework and make bilingual papers available on the website? If you do not, I would query if this is an appropriate mechanism for delivering Wales’s statute book.

 

Mae gennyf dri chwestiwn yr wyf am eich holi arnynt. Mae’r cwestiwn cyntaf ar ba mor gynhwysfawr yw beth yr ydych yn bwriadu ei gwmpasu, o ystyried bod Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud mewn tystiolaeth wrth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddoe bod problemau sylweddol gyda’r sianelau cyfathrebu yn San Steffan a chwmpasu’r pethau sy’n digwydd yno. Mae’r ail gwestiwn am ddyblygu gwaith ac effeithiolrwydd y gwaith sy’n cael ei wneud. O ystyried bod Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru eisoes yn talu tuag at Ddeddfwriaeth Cymru Ar-lein, hoffwn rywfaint o eglurhad ar sut yr ydych yn bwriadu i Ddeddfwriaeth Cymru Ar-lein weithio gyda legislation.gov.uk i sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro na dyblygu di-angen. Mae’r trydydd cwestiwn ar ddarparu. Yr ydych wedi sôn am bwysigrwydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg i sicrhau hygyrchedd i bawb, ond er bod Deddfwriaeth Cymru Ar-lein yn wefan ddwyieithog, nid yw legislation.gov.uk: nid oes yr un o’r dulliau chwilio ar gael yn Gymraeg a dim ond ychydig o’r ddeddfwriaeth sydd ar gael yn Gymraeg. A oes gennych unrhyw gynlluniau i’r gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud gyda legislation.gov.uk i greu fframwaith ddwyieithog a darparu bod papurau dwyieithog ar gael ar y wefan? Os nad ydych, byddwn yn cwestiynu a ydyw hon yn ffordd addas ar gyfer darparu llyfr statud Cymru.

 

Theodore Huckle: Thank you for those questions. First, we, as well as the Wales Governance Centre, understand the problems created by this. It is intended that, insofar as we can do it, these developments will be comprehensive. It is difficult to say more than that at the moment. There are mechanical issues about how one precisely deals with matters. That leads me to the question on duplication of effort: I understand the point of your question and perhaps I have not been clear enough on the matter. Wales Legislation Online, as it currently exists, is funded by the Welsh Government and the Assembly Commission. It is subject to review, but the intention is that it will be used as a vehicle for developing the commentary side, alongside the work that we hope to do with legislation.gov.uk. I understand the concerns regarding legislation.gov.uk, but it is not as bad as you may fear: there are some provisions on there, but I agree that there are no Welsh access mechanisms. We have already raised the issue with the National Archives, the body behind legislation.gov.uk—we are on it, if I may put it that way. It is all part of the negotiations and discussions with legislation.gov.uk as to how we develop that part of its site that contains Welsh legislation.

 

Theodore Huckle: Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Yn gyntaf, rydym ni, yn ogystal â Chanolfan Llywodraethiant Cymru, yn deall y problemau sy’n cael eu creu gan hyn. Y bwriad, gyhyd ag y gallwn, yw y bydd y datblygiadau hyn yn gynhwysfawr. Mae’n anodd dweud mwy na hynny ar hyn o bryd. Mae yna broblemau mecanyddol o ran sut i ymdrin, yn union, â materion. Mae hynny’n fy nhywys at y cwestiwn am ddyblygu ymdrech: rwy’n deall pwynt eich cwestiwn ac efallai na fûm i’n ddigon clir ar y mater. Mae Deddfwriaeth Cymru Ar-lein, fel ag y mae ar hyn o bryd, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad. Bydd yn cael ei adolygu, ond y bwriad yw ei ddefnyddio fel cyfrwng i ddatblygu’r ochr sylwebaeth, ochr yn ochr â’r gwaith y gobeithiwn ei wneud gyda legislation.gov.uk. Rwy’n deall y pryderon am legislation.gov.uk, ond nid yw cyn waeled ag yr ydych yn ei dybio: mae ambell i ddarpariaeth yno, ond cytunaf nad oes mecanweithiau mynediad Cymraeg. Rydym eisoes wedi codi’r mater gyda’r Archifau Gwladol, y corff y tu ôl i legislation.gov.uk—rydym yn datrys y broblem, os caf ei roi felly. Mae’r cyfan yn rhan o’r negodiadau a’r trafodaethau gyda legislation.gov.uk o ran sut yr ydym yn datblygu’r rhan honno o’r safle sy’n cynnwys deddfwriaeth Gymreig.

 

Datganiad: Rhaglenni Ewropeaidd yn y Dyfodol yng Nghymru
Statement: Future European Programmes in Wales

 

The Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes (Alun Davies): This afternoon, I will outline the Welsh Government’s approach to future European programmes as we enter the opening phase of the various European and domestic debates that will shape the future use of European funding. This funding contributes significantly to the overall socioeconomic and environmental wellbeing of Wales. For the first time in Government in Wales, all the main European funding programmes have been brought together under a single portfolio. I will use this opportunity to consider the programmes in a holistic way, with the overriding aim of securing the best possible outcome for Wales.

 

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd (Alun Davies): Y prynhawn yma, byddaf yn amlinellu ymagwedd Llywodraeth Cymru at raglenni Ewropeaidd yn y dyfodol wrth i ni fynd i mewn i gyfnod agoriadol yr amryw o ddadleuon Ewropeaidd a domestig a fydd yn siapio’r ffordd y caiff arian Ewropeaidd ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae’r arian hwn yn cyfrannu’n sylweddol at les economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Am y tro cyntaf mewn Llywodraeth yng Nghymru, mae pob un o’r prif raglenni o safbwynt cyllid Ewropeaidd wedi eu dwyn ynghyd o dan un portffolio. Byddaf yn defnyddio’r cyfle hwn i ystyried y rhaglenni mewn ffordd holistaidd, gyda’r prif fwriad o sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru.

 

At a recent Enterprise and Business Committee meeting, I outlined the Government’s priorities for future European programmes, emphasising the need for continued success with our current programmes while also planning for the next funding period. As a part of this, I want to see the structural funds, rural development and fisheries programmes working together more closely to help deliver the Welsh Government’s programme for government within the framework of the Europe 2020 strategy for smart, sustainable and inclusive growth.

 

Mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Menter a Busnes, amlinellais flaenoriaethau y Llywodraeth ar gyfer rhaglenni Ewropeaidd yn y dyfodol, a phwysleisio’r angen am lwyddiant parhaus gyda’n rhaglenni cyfredol tra’n cynllunio hefyd ar gyfer y cyfnod ariannu nesaf. Fel rhan o hyn, rwyf eisiau gweld y rhaglenni cronfeydd strwythurol, datblygu gwledig a physgodfeydd yn cydweithio’n llawer agosach i helpu i gyflawni rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru o fewn fframwaith strategaeth Ewrop 2020 ar gyfer twf clyfar, cynaliadwy a chynhwysol.

 

I am already putting forward our case, and will continue to do so, in discussions with the UK Government as well as at European Union level. I have held discussions with Commissioner Hahn and will meet Commissioner Ciolos again later next month. I have also met key officials in the European Commission, as well as Welsh Members of the European Parliament and the UK’s permanent representative to the EU. The Welsh Government, Welsh MEPs, and Welsh stakeholders are united—as the National Assembly for Wales has also shown itself to be—in seeking to achieve the best possible outcomes for Wales.

 

Rwyf eisoes yn dadlau ein hachos, a byddaf yn dal ati i wneud hynny, mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal ag ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda Chomisiynydd Hahn a byddaf yn cwrdd â Chomisiynydd Ciolos eto yn hwyrach y mis hwn. Rwyf hefyd wedi cwrdd â swyddogion allweddol yn y Comisiwn Ewropeaidd, yn ogystal ag Aelodau Senedd Ewrop o Gymru a chynrychiolydd parhaol y Deyrnas Unedig i’r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru, Aelodau Senedd Ewrop Cymreig a rhanddeiliaid Cymru yn unedig—fel ag y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dangos ei fod—o ran ceisio’r canlyniadau gorau posibl i Gymru.

 

Preparations for future programmes are beginning to gain momentum. In June, the Commission published its draft multi-annual financial framework for 2014 to 2020. I am expecting draft regulatory packages for cohesion policy and the CAP to be published by the Commission over the next two weeks. I intend to make written statements on our initial reaction to these regulations as soon as I have had a chance to review them.

 

Mae paratoadau ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol eisoes yn ennill momentwm. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Comisiwn ei fframwaith ariannol aml-flynyddol drafft ar gyfer 2014 hyd at 2020. Rwy’n disgwyl i becynnau rheoleiddio drafft ar gyfer polisi cydlyniant a’r polisi amaethyddol cyffredin gael eu cyhoeddi gan y Comisiwn wythnos nesaf. Rwy’n bwriadu gwneud datganiadau ysgrifenedig ar ein hymateb cyntaf i’r rheoliadau hyn cyn gynted ag yr wyf wedi cael y cyfle i’w hadolygu.

 

4.15 p.m.

 

It is a matter of public record that the Welsh Government does not share the UK Government’s view on reducing the size of the budget overall or its budgetary stance on structural funds or the CAP. Despite this difference, I am committed to working constructively with Ministers in London and my counterparts in Scotland and Northern Ireland to deliver a viable outcome for the UK—and for Wales. I will ensure that Wales will play a positive and constructive role in shaping the overall UK position and approach. I have already made it clear to UK Government Ministers that Wales’s ambition is to be a UK team player. In addition, I want to give this undertaking to Members: we will ensure that all Members are kept fully involved and informed as the Government formalises its response to these proposals. I hope that the response will be seen as not simply the Government’s response, but Wales’s response.

 

Mae’n wybodaeth gyhoeddus nad yw Llywodraeth Cymru yn rhannu barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig am leihau maint cyffredinol y gyllideb na’i safbwynt cyllidebol ar gronfeydd strwythurol a’r polisi amaethyddol cyffredin. Er gwaethaf y gwahaniaeth hwn, rwyf wedi ymrwymo i gydweithio’n adeiladol gyda Gweinidogion yn Llundain a’m cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i gael canlyniad hyfyw i’r Deyrnas Unedig—ac i Gymru. Byddaf yn sicrhau bod Cymru yn chwarae rhan gadarnhaol ac adeiladol wrth siapio barn ac ymagwedd gyffredinol y Deyrnas Unedig. Rwyf eisoes wedi ei gwneud yn glir i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig mai uchelgais Cymru yw bod yn rhan o dîm y Deyrnas Unedig. At hynny, rwyf am addo hyn i Aelodau: byddwn yn sicrhau bod pob Aelod yn cael eu cynnwys a’u hysbysu’n llawn wrth i’r Llywodraeth lunio ei hymateb i’r cynigion hyn. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymateb yn cael ei weld nid fel ymateb y Llywodraeth, ond ymateb Cymru.

 

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 4.16 p.m.
The Deputy Presiding Officer took the Chair at 4.16 p.m.

 

We will provide time for a Plenary debate. I know that the Environment and Sustainability Committee has established a task and finish group to examine the CAP proposals. The Government will work with the committee to help facilitate this inquiry and provide all necessary information to Members to help them in their work. In addition, I will make regular written and oral statements to ensure that all Members are informed as the process unfolds over the coming years.

 

Byddwn yn darparu amser ar gyfer dadl Cyfarfod Llawn. Rwy’n gwybod bod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i archwilio’r cynigion ar gyfer y polisi amaethyddol cyffredin. Bydd y Llywodraeth yn cydweithio gyda’r pwyllgor i helpu i hwyluso’r ymchwiliad hwn a darparu pob gwybodaeth y mae ei hangen i Aelodau i’w helpu yn eu gwaith. Yn ogystal, byddaf yn gwneud datganiadau ysgrifenedig a llafar yn rheolaidd i sicrhau bod pob Aelod yn cael eu hysbysu wrth i’r broses fynd rhagddi dros y blynyddoedd i ddod.

 

In addition to discussions here, it is important to reach out across Wales to involve people in this debate. To that end, I have now put in place partnership arrangements to encourage an open discussion and help inform programme development. Partnership with Welsh businesses, institutions and organisations from the public, third and higher and further education sectors will be vital to ensure that the programmes are designed with a clear focus on delivery on the ground from the outset. I want our partnership working to be genuine and meaningful, providing Welsh partners with opportunities to influence and shape programmes from the very beginning.

 

Yn ogystal â’r trafodaethau yn y fan hon, mae’n bwysig ymestyn dros Gymru i gynnwys pobl yn y ddadl hon. I’r perwyl hwnnw, rwyf bellach wedi rhoi trefniadau partneriaeth ar waith i annog trafodaeth agored a helpu i hysbysu datblygiad rhaglenni. Bydd partneriaeth gyda busnesau, sefydliadau a chwmnïau o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector, a’r sectorau addysg uwch a phellach yn hanfodol i sicrhau bod y rhaglenni wedi eu cynllunio gyda ffocws clir ar ddarparu ar lawr gwlad o’r cychwyn cyntaf. Rwyf eisiau i’n gwaith partneriaeth fod yn ddiffuant ac ystyrlon, gan roi cyfle i bartneriaid o Gymru ddylanwadu a siapio rhaglenni o’r cychwyn cyntaf.

 

A European programmes partnership forum for 2014 to 2020 has been established, chaired by Mark Drakeford AM, the chair of the current all-Wales programme monitoring committee for structural funds. I have sought a balanced membership for this group that reflects experience across the main European programmes in Wales while significantly increasing the proportion of private sector representation. This will enable a more holistic approach whereby all programmes will be considered together. It will look to deliver on common goals wherever possible.

 

Mae fforwm bartneriaeth rhaglenni Ewropeaidd ar gyfer 2014 i 2020 wedi cael ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth Mark Drakeford AC, cadeirydd y pwyllgor monitro rhaglenni Cymru gyfan cyfredol ar gyfer cronfeydd strwythurol. Rwyf wedi ceisio cael aelodaeth gytbwys ar gyfer y grŵp hwn sy’n adlewyrchu profiad ar draws y prif raglenni Ewropeaidd yng Nghymru tra’n cynyddu cynrychiolaeth o’r sector preifat yn sylweddol. Bydd hyn yn galluogi ymagwedd fwy holistig lle caiff pob un rhaglen eu hystyried gyda’i gilydd. Bydd yn edrych i gyflawni nodau cyffredin lle bynnag y bo modd.

 

At the forum’s first meeting last week, members were introduced to the economic and policy context in which new programmes will be developed and the broader plans for partnership working, which will involve a reflection period later this year to help our Welsh partners influence the development of the programmes’ strategy to deliver EU and Welsh policy priorities and what those priorities should be. My aim is to come back to Plenary for a debate in January, during this reflection period, to hear your thoughts on these issues.

 

Yng nghyfarfod cyntaf y fforwm wythnos diwethaf, cafodd aelodau eu cyflwyno i’r cyd-destun economaidd a pholisi y bydd y rhaglenni newydd yn gweithio ynddynt a’r cynlluniau ehangach ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, a fydd yn cynnwys cyfnod adlewyrchu yn ddiweddarach eleni er mwyn helpu ein partneriaid yng Nghymru ddylanwadu ar ddatblygu strategaeth y rhaglenni i gyflawni blaenoriaethau polisi yr UE a Chymru a beth ddylai’r blaenoriaethau hynny fod. Fy mwriad yw dod yn ôl i’r Cyfarfod Llawn i gael dadl ym mis Ionawr, yn ystod y cyfnod adlewyrchu hwn, i glywed eich barn ar y materion hyn.

 

I believe that our approach is working well and that there have been very real benefits for the people of Wales that would not have happened had we not had the funding, particularly in the current fiscal climate. I will build on this success and continue, in partnership, to identify areas where any new programmes for Wales can help to build our economic base, transform our communities and improve the life opportunities of people across the country.

 

Credaf bod ein hymagwedd yn gweithio’n dda ac y bu manteision gwirioneddol iawn i bobl Cymru na fyddai wedi digwydd pe na byddem wedi cael yr arian, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Byddaf yn adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn dal ati, mewn partneriaeth, i nodi meysydd lle gall unrhyw raglenni newydd i Gymru helpu i wella ein sylfaen economaidd, trawsnewid ein cymunedau a gwella cyfleoedd bywyd pobl ar draws y wlad.

 

William Graham: Thank you, Deputy Minister, for your very welcome statement this afternoon. In particular, I urge you to make as many oral statements as possible, as these provide a much better way of engaging with your intentions and learning about the way in which you intend to take forward the programmes that are so vital for the future of Wales. We also welcome the fact that you will provide time for a Plenary debate, and we look forward to that with great interest. With regard to the partnership arrangements that you intend to put in place, we encourage you to make these particularly wide and relevant consultations so that business can really engage with what is a vital element of the future economic development of much of Wales.

 

William Graham: Diolch i chi, Ddirprwy Weinidog, am eich datganiad mawr ei groeso y prynhawn yma. Yn benodol, rwyf yn eich annog i wneud cymaint o ddatganiadau llafar ag y bo modd, gan fod y rhain yn ffordd llawer gwell o wybod am eich bwriadau ac o ddod i wybod am y ffordd y bwriadwch ddatblygu’r rhaglenni sydd mor allweddol i ddyfodol Cymru. Rydym yn croesawu’r ffaith y byddwch yn darparu amser ar gyfer dadl Cyfarfod Llawn, ac edrychwn ymlaen at hynny gyda chryn ddiddordeb. O ran y trefniadau partneriaeth y bwriadwch eu rhoi ar waith, rydym yn eich annog i wneud y rhain yn ymgynghoriadau eang a pherthnasol fel bod busnesau yn gallu ymwneud yn wirioneddol â’r hyn sydd yn elfen allweddol o ddatblygiad economaidd sawl rhan o Gymru yn y dyfodol.

 

We hope that this is not simply an aspiration, but a meaningful partnership. We have great confidence in the Member for Cardiff West to perform the duties of the chair of the programme monitoring committee on structural funds. We are also grateful that it is your intention to come back to Plenary for a debate in January. We look forward to that with interest, and hope that, as your statements progress, we will learn more of your intentions.

 

Gobeithiwn nad dyhead yn unig yw hwn, ond partneriaeth ystyrlon. Mae gennym gryn ffydd yn yr Aelod dros Orllewin Caerdydd i gyflawni dyletswyddau cadeirydd y pwyllgor monitro rhaglen ar gronfeydd strwythurol. Rydym hefyd yn ddiolchgar ei fod yn fwriad gennych ddod yn ôl i’r Cyfarfod Llawn i gael dadl ym mis Ionawr. Edrychwn ymlaen at hynny gyda diddordeb, gan obeithio, wrth i’ch datganiadau fynd yn eu blaen, y byddwn yn dod i wybod mwy am eich bwriadau.

 

Alun Davies: I thank the Conservative spokesperson for those kind remarks. At this point, since he is in his place, I thank the leader of the opposition for his readiness to ensure that Wales was represented at the agriculture Council of Ministers in Brussels two weeks ago. Some of these meetings are extraordinarily important and it is important that we are able to attend. Given the current mathematics, that can only happen with co-operation and support from across the Chamber. So, I put on record my thanks to the leader of the opposition for enabling that to happen on this occasion.

 

Alun Davies: Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau caredig hynny. Ar y pwynt yma, gan ei fod yn ei gadair, diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei barodrwydd i sicrhau bod Cymru wedi ei chynrychioli yng Nghyngor y Gweinidogion amaethyddol ym Mrwsel bythefnos yn ôl. Mae rhai o’r cyfarfodydd hyn yn hynod o bwysig ac yr oedd yn bwysig ein bod yn gallu bod yno. O ystyried y fathemateg bresennol, dim ond gyda chydweithrediad a chefnogaeth ar draws y Siambr y gall hynny ddigwydd. Felly, rwyf yn rhoi ar goedd fy niolch i arweinydd yr wrthblaid am alluogi hynny i ddigwydd y tro hwn.

 

In terms of engagement with this place and more widely, I will say quite clearly from the outset that I want to encourage as much debate as possible on the programmes and how we approach our priorities for the future. It is my intention to keep Members informed by written and oral statement wherever that is possible. We expect the draft regulations to be published on Thursday for cohesion funds and next Wednesday for the new CAP. I will provide Members with a written statement when the Welsh Government is in a position to review its position on both those areas of policy. The European Commission will then allow a period of reflection over a number of months, which will enable us to respond to these proposals in far more detail. I can give Members a clear undertaking that there will be an opportunity to discuss the proposals in Plenary in Government time before the end of that period. In that way, I hope that we will be able to ensure that, when we respond to these proposals, it is a Welsh response and not simply a Government response. I also give the relevant spokespeople an undertaking that I will ensure that they are informed about our proposals and, as we continue to develop our response to Commission proposals, I will ensure that spokespeople are fully involved in the whole process.

 

O ran yr ymwneud gyda’r lle hwn ac yn ehangach, dywedaf yn eithaf clir o’r cychwyn fy mod eisiau annog cymaint o drafodaeth â phosibl ar y rhaglenni ac ar sut yr ydym yn ystyried ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Fy mwriad yw hysbysu Aelodau drwy ddatganiad ysgrifenedig neu lafar lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Rydym yn disgwyl i’r rheoliadau drafft gael eu cyhoeddi ddydd Iau ar gyfer yr arian cydlyniant a dydd Mercher nesaf ar gyfer y PAC newydd. Byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig i Aelodau pan fo Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i adolygu ei safbwynt ar y ddau faes polisi hynny. Bydd y Comisiwn Ewropeaidd wedyn yn caniatáu cyfnod adlewyrchu dros nifer o fisoedd, a fydd yn ein caniatáu i ymateb i’r cynigion hyn yn llawer mwy manwl. Rhof addewid clir i Aelodau y bydd cyfle i drafod y cynigion hyn yn y Cyfarfod Llawn yn amser y Llywodraeth cyn diwedd y cyfnod hwnnw. Felly, rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau, pan fyddwn yn ymateb i’r cynigion hyn, mai ymateb Cymreig ydyw, ac nid ymateb y Llywodraeth yn unig. Rwyf hefyd yn addo i’r llefarwyr perthnasol y byddant yn cael eu hysbysu am ein cynigion, ac wrth i ni ddatblygu ein hymateb i gynigion y Comisiwn, byddaf yn sicrhau bod y llefarwyr yn chwarae rhan lawn yn yr holl broses.

 

On wider partnerships, I fully agree with the point that you make. We are fortunate to have someone with Mark Drakeford’s background and knowledge able to chair not only the current programme monitoring committee, but to lead the work of the forum that is looking at programmes in the post-2013 world. It is important to have someone who can lead that process with Mark’s knowledge and background, and I put on record my thanks to him for that work. I hope to attend meetings of those committees regularly in order to inform them of my work in Government, and I will ensure that those reports are circulated to Members.

 

O ran y partneriaethau ehangach, cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnewch. Rydym yn ffodus i gael rhywun sydd â chefndir a gwybodaeth Mark Drakeford yn gallu cadeirio nid yn unig y pwyllgor monitro arian cyfredol, ond i arwain gwaith y fforwm sy’n edrych ar raglenni yn y cyfnod ar ôl 2013. Mae’n bwysig cael rhywun sy’n gallu arwain y broses honno sydd â gwybodaeth a chefndir Mark, a rhof ar goedd fy niolch iddo am y gwaith hwnnw. Rwy’n gobeithio gallu mynychu cyfarfodydd y pwyllgorau hyn yn aml er mwyn rhoi gwybod iddynt am fy ngwaith mewn Llywodraeth, a byddaf yn sicrhau bod yr adroddiadau hynny yn cael eu dosbarthu i’r Aelodau.

 

Alun Ffred Jones: Diolch am y datganiad heddiw, gan edrych ymlaen at allu dilyn y datblygiadau yn ystod y misoedd nesaf. Yr wyf eisiau gofyn cwestiwn am y fforwm partneriaeth yr ydych wedi’i sefydlu. Yr wyf yn cymryd bod aelodaeth y fforwm i’w chael yn gyhoeddus yn rhywle. Os nad ydyw, a allwch ddweud wrthym pwy yw’r aelodau ac ar ba sail y cawsant eu dewis?

 

Alun Ffred Jones: Thank you for today’s statement. We look forward to being able to follow developments over the coming months. I want to ask a question about the partnership forum that you have established. I take it that the forum’s membership is available publicly somewhere. If not, can you tell us who the members are and on what basis they were chosen?

 

Yr ydych yn sôn hefyd eich bod yn gobeithio gweithio’n gadarnhaol gyda Llywodraeth Llundain wrth ddatblygu eich syniadaeth a syniadaeth y Llywodraeth. Fodd bynnag, pa mor hyderus ydych y gallwch wneud hynny, a pha mor hyderus ydych ynghylch y cyfarfodydd yr ydych wedi’u cael, gan gofio bod agwedd y Llywodraeth yn Llundain gryn dipyn yn wahanol i’ch agwedd chi? Wedi’r cwbl, mae datganiadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru dros yr wythnos diwethaf yn awgrymu ei bod yn credu bod y Llywodraeth hon wedi gwneud llanast o bethau hyd yn hyn. Felly, mae’n amlwg bod gennych waith anodd o’ch blaen i berswadio Llywodraeth Llundain y bydd eich ffordd o weithio, a’n ffordd o weithio yng Nghymru, yn effeithiol.

 

You also say that you hope to work positively with the London Government in developing your views and the Government’s views. However, how confident are you that you will be able to do that, and how confident are you about the meetings that you have had, given that the attitude of the Government in London is very different to yours? After all, the statements made by the Secretary of State for Wales over the past week suggest that she believes that this Government has made a mess of things to date. So you obviously have your work cut out to persuade the London Government that your way of working, and our way of working in Wales, is effective.

 

Mae’r wybodaeth sy’n dod o Ewrop yn awgrymu y bydd y targedau ar gyfer y rhaglen nesaf yn eithriadol o heriol. Mae sôn, er enghraifft, ei bod yn debygol y bydd disgwyl i bob ardal anelu at lefel gyflogaeth o 75 y cant. Gwyddom i gyd fod y ffigur ar gyfer gorllewin Cymru a’r Cymoedd ar hyn o bryd oddeutu 64 y cant. Mae hefyd yn debygol y gosodir targedau uchel ar gyfer ymchwil a datblygu, sydd eto yn ffigur isel iawn ar hyn o bryd. Felly, er mwyn sicrhau na fyddwn yn colli arian, oherwydd mae’n debyg y cosbir ardaloedd os na fyddant yn cyrraedd eu targedau, pa mor hyderus ydych y gallwn gyrraedd y targedau, o gofio y bu i ni fethu’r targedau hyd yma?

 

The information coming out of Europe suggests that the targets for the next programme will be extremely challenging. There is talk, for example, of the likelihood of all areas having to aim for employment levels of 75 per cent. We all know that the figure for west Wales and the Valleys currently stands at around 64 per cent. It is also likely that high targets will be set for research and development, which is also currently at a very low level. Therefore, in order to ensure that we do not lose money, as it is likely that areas that do not reach the targets will be penalised, how confident are you that we can achieve those targets, bearing in mind that we have failed to date?

 

Yn olaf, yr wyf yn croesawu eich datganiad eich bod eisiau i’r cronfeydd Ewropeaidd weithio gyda’i gilydd. Wedi dweud hyn, maent wedi eu creu yn gronfeydd ar wahân er mwyn cyflawni amcanion gwahanol. Un pryder sydd ynghlwm wrth y cynllun datblygu gwledig, er enghraifft, yw nad yw ardaloedd lle mae pob ward yn wledig yn elwa llawer mwy nag ardaloedd megis Abertawe, lle ceir dim ond tair neu bedair ward a ystyrir yn wledig. A ydych yn credu bod hynny’n rhesymol ac yn deg? Sut y byddwch yn sicrhau bod pob ardal yng Nghymru yn elwa o’r manteision sy’n ddyledus yn y rhaglenni hyn?

 

Finally, I welcome your statement that you want the European funds to work together. Having said that, they have been created as separate funds in order to fulfil different aims. One concern with the rural development plan, for example, is that areas where all wards are classified as rural do not benefit much more than areas such as Swansea, where there are only three or four wards considered to be rural. Do you believe that that is reasonable and fair? How will you ensure that all parts of Wales benefit from the advantages of these programmes?

 

Alun Davies: Diolch yn fawr am hynny. I ateb eich cwestiwn cyntaf, yr wyf yn hapus iawn i gyhoeddi enwau aelodaeth y fforwm hwn. Ysgrifennaf at Aelodau gyda’r wybodaeth hon.

 

Alun Davies: Thank you for that. To answer your first question, I am happy to announce the names of those who are members of the forum. I will write to Members with that information.

 

Bu i chi orffen eich cyfraniad drwy drafod targedau’r Comisiwn ar gyfer rhaglenni. Nid wyf eisiau camu’n rhy bell i’r drafodaeth hon sy’n ymwneud â’r rhaglenni eu hunain. Bydd digon o amser i wneud hynny. Yr oeddech yn y pwyllgor ychydig ddyddiau’n ôl pan gawsom drafodaeth am y targedau yn y rhaglenni presennol. Yr wyf yn credu imi drafod hynny gyda chi, gan esbonio sut yr wyf yn disgwyl gweld y rhaglenni Cymreig presennol yn cael eu targedu. O ran y dyfodol, a’r rhaglenni ar gyfer y cyfnod nesaf, yr wyf eisiau eu gweld yn cydweithio â’i gilydd gan integreiddio i raddau helaethach nag a wnânt ar hyn o bryd. Mae cymhlethdod wrth wneud hynny, ac yr wyf yn deall y cymhlethdod hwnnw. Yr amcan, fel polisi, yw sicrhau bod y cydweithio rhwng y rhaglenni yn well nag ydyw ar hyn o bryd. Mae’r cynllun datblygu gwledig yn enghraifft dda o’r modd nad ydym yn gwneud hynny bob tro ar hyn o bryd. Felly, byddaf yn hapus i gael y drafodaeth hon gyda chi pan fyddwn wedi gweld y rheolau newydd a fydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau a’r wythnos nesaf. Wedyn, byddwn mewn sefyllfa well i drafod y math o newidiadau yr ydym eisiau eu gweld ar gynigion y Comisiwn i gyrraedd ein nod.

 

You closed by discussing the Commission’s targets for its programmes. I do not wish to wander too far into the discussion on the programmes themselves. There will be plenty of time to do that. You were at the committee meeting a few days ago when we debated the targets of the current programmes. I believe that I discussed that with you, explaining how I expect to see the current Welsh programmes being targeted. Looking to the future, and the programmes for the next period, I want to see them working together, with more integration than is currently the case. There are complexities in doing that, which I understand. The policy aim is to ensure that current levels of co-operation between schemes are improved. The rural development plan is a good example of us not doing that at all times now. Therefore, I will be happy to have this discussion with you when we have seen the new rules, which will be published on Thursday and next week. We will then be in a better position to discuss the kind of changes that we want to see in Commission proposals in order to achieve our aims.

 

O safbwynt y berthynas â’r Llywodraeth yn Llundain, yr wyf yn ymwybodol o’r hyn y mae pobl yn ei ddweud mewn cynadleddau ac ati. Fodd bynnag, yng nghyfarfodydd cyd-bwyllgor y Gweinidogion, cyfarfodydd dirprwyaeth y DU a chyfarfodydd preifat gyda Gweinidogion o Lundain, yr wyf wedi canfod eu bod yn fodlon gwrando ar beth sydd gennym i’w ddweud, a bod cyfle i ni drafod amcanion Llywodraeth Cymru gyda nhw. Yn amlwg, mae ffordd i fynd, a byddaf yn mynd i gyfarfod cyd-bwyllgor y Gweinidogion yr wythnos nesaf. Byddaf yn trafod sut y gallwn, yn y Llywodraeth hon ac yn y Cynulliad hwn, gyfrannu’n well at greu polisi, megis yn y pwyllgor materion Ewropeaidd, mewn trafodaethau sy’n digwydd rhwng y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, er enghraifft, neu’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, o safbwynt cronfeydd strwythurol. Ar hyn o bryd nid wyf yn siŵr bod hynny’n gweithio’n arbennig o dda. Mae ffyrdd y gallwn wella hynny. Serch hynny, rhaid i mi ddweud, mewn trafodaethau â Gweinidogion San Steffan, yr wyf wedi gweld bod gennym gyfle arbennig nid yn unig i gael gwrandawiad ond i lywio polisïau a dulliau’r Deyrnas Unedig.

 

With regard to the relationship with the Government in London, I am aware of what people say in conferences and so on. However, in joint ministerial committee meetings, UK delegation meetings and private meetings with Ministers in London, I have found them to be willing to listen to what we have to say. We get an opportunity to discuss Welsh Government aims with them. There is clearly some way to go, and I will attend a joint ministerial committee meeting next week. I will discuss how we, in this Government and this Assembly, can better contribute to policy creation, such as in the European affairs committee, in discussions between the Foreign and Commonwealth Office and the Department for Environment, Food and Rural Affairs, for example, or the Department for Business, Innovation and Skills, on structural funds. At the moment, I am not convinced that that is working very well. There are ways in which it can be improved. However, I must say that, in discussions with Westminster Ministers, I have seen that we have a real opportunity not only to be heard but to steer United Kingdom policies and methods.

 

Eluned Parrott: I also thank you, Deputy Minister, for the statement that you have made today. I am particularly pleased by your commitment to involving the Chamber and your colleagues across the Chamber in your deliberations when the new regulations are published on Thursday. I hope that that is a sign of things to come in relation to all of the discussions that we will have on European issues.

 

Eluned Parrott: Rwyf hefyd yn diolch i chi, Ddirprwy Weinidog, am y datganiad y gwnaethoch heddiw. Rwy’n arbennig o falch am eich ymrwymiad i gynnwys y Siambr yn eich trafodion pan gaiff y rheoliadau newydd eu cyhoeddi dydd Iau. Gobeithio bod hynny’n arwydd o’r hyn sydd i ddod o ran yr holl drafodaethau y byddwn yn eu cael ar faterion Ewropeaidd.

 

4.30 p.m.

 

I am also very glad to see the development of a partnership approach. However, I ask that you recognise that true partnerships—good, valuable partnerships—require an investment of time and money by all of the partners involved. While that might be easy for us to provide, it might be difficult for a small enterprise or a small charitable organisation. I hope that you will look at ways of supporting people to become partners in projects such as this where barriers might otherwise prevent them from doing so.

 

Yr wyf hefyd yn falch iawn o weld datblygiad dull partneriaeth. Fodd bynnag, gofynnaf eich bod yn cydnabod bod partneriaethau go iawn—partneriaethau da a gwerthfawr—angen buddsoddiad o amser ac arian gan bob un o’r partneriaid sy’n cymryd rhan. Er y gallai hynny fod yn hawdd inni ei ddarparu, gallai fod yn anodd i fenter fach neu sefydliad elusennol bach. Gobeithiaf y byddwch yn edrych ar ffyrdd o gefnogi pobl i ddod yn bartneriaid mewn prosiectau fel hyn lle gallai rhwystrau eu hatal rhag gwneud hynny fel arall.

 

Once again, I am particularly pleased to see the inclusion of private sector representatives on the partnership forum for 2014 to 2020. Our record is not that great. When you look at the number of approved projects as of 1 October 2011, you see that 92.4 per cent of the funding has gone to public sector organisations and just 1.3 per cent to private sector organisations. That is a concern, but I hope that we will be able to overcome that and push in a different direction.

 

Unwaith eto, yr wyf yn arbennig o falch o weld cynrychiolwyr y sector preifat yn cael eu cynnwys yn y fforwm partneriaeth ar gyfer 2014 i 2020. Nid yw ein record cystal â hynny. Pan edrychwch ar nifer y prosiectau a gymeradwywyd ar 1 Hydref 2011, gwelwch fod 92.4 y cant o’r cyllid wedi mynd at sefydliadau yn y sector cyhoeddus ac ond 1.3 y cant at sefydliadau yn y sector preifat. Mae hynny’n bryder, ond gobeithiaf y byddwn yn gallu goresgyn hynny a gwthio mewn cyfeiriad gwahanol.

 

Notwithstanding Mark Drakeford’s unquestionable knowledge and expertise in this area, I am a little disappointed that the forum is to be chaired by him, because it would have been nice to bring in some fresh blood and some fresh ideas. [Interruption.] I would hate to be considered arrogant. I am merely suggesting that, if we want to try to do things differently and collaboratively, and also involve a new group of partners, it might have been interesting to invite some of those partners to nominate their own chair, perhaps from one of the partner organisations rather than from the parent organisation, such as we are.

 

Er gwaethaf gwybodaeth ac arbenigedd diamheuol Mark Drakeford yn y maes hwn, yr wyf braidd yn siomedig mai ef a fydd yn cadeirio’r fforwm, oherwydd byddai wedi bod yn braf i ddod i mewn â gwaed newydd a rhai syniadau newydd. [Torri ar draws.] Byddai’n gas gennyf gael fy ystyried yn drahaus. Yr wyf ond yn awgrymu, os ydym am geisio gwneud pethau’n wahanol ac ar y cyd, a hefyd cynnwys grŵp newydd o bartneriaid, y gallai fod wedi bod yn ddiddorol i wahodd rhai o’r partneriaid hynny i enwebu eu cadeirydd eu hunain, efallai o un o’r sefydliadau partner yn hytrach na’r rhiant-sefydliad, fel yr ydym ni.

 

I have two other queries relating to your statement. In the final paragraph, you state that you believe that our approach is working well. According to the Welsh European Funding Office’s interim reports, we are missing our targets by a considerable percentage. For some, we have achieved only 27 per cent of the interim target at the review date, yet the forecasts say that we will not only hit those targets, but pass them. I wonder how you came to such an optimistic appraisal of the situation.

 

Mae gennyf ddau ymholiad arall ynglŷn â’ch datganiad. Yn y paragraff olaf, yr ydych yn dweud eich bod yn credu bod ein hagwedd yn gweithio’n dda. Yn ôl adroddiadau dros dro Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yr ydym yn colli ein targedau o ganran sylweddol. Ar rai, yr ydym wedi cyflawni ond 27 y cant o’r targed dros dro ar ddyddiad yr adolygiad, ac eto mae’r rhagolygon yn dweud y byddwn nid yn unig yn taro’r targedau hynny, ond yn eu goddiweddyd. Tybed sut y daethoch i arfarniad mor optimistaidd am y sefyllfa.

 

When you came to the Enterprise and Business Committee recently, you described gross value added and gross domestic product as ‘blunt tools’. Can you specify what sharp tools you will be using to measure success in the future?

 

Pan ddaethoch i’r Pwyllgor Menter a Busnes yn ddiweddar, disgrifiasoch werth ychwanegol crynswth a chynnyrch mewnwladol crynswth fel arfau di-awch.  A allwch amlinellu pa arfau miniog y byddwch yn eu defnyddio i fesur llwyddiant yn y dyfodol?

 

Alun Davies: Thank you for those warm words. [Laughter.]

 

Alun Davies: Diolch am y geiriau cynnes hynny.  [Chwerthin.]

 

I disagree with you. To be fair, Mark has been here only six months. I am sure that the Deputy Presiding Officer would not want me to make any comments about people who have been here since 1999. It is a bit unworthy of you to make such comments, Eluned. The parent organisation here is the Assembly, not the Government. Mark—how shall I put it—has a great sense of his independence from Government, and I do not believe for one moment that the forum is either a part of Government or being led by Government in the way that you suggest. Therefore, you might wish to reflect on those remarks.

 

Yr wyf yn anghytuno â chi. I fod yn deg, mae Mark wedi bod yma am ond chwe mis. Yr wyf yn siŵr na fyddai’r Dirprwy Lywydd am imi wneud unrhyw sylwadau am bobl sydd wedi bod yma ers 1999. Mae tipyn yn annheilwng ohonoch i wneud sylwadau o’r fath, Eluned. Y rhiant-sefydliad yma yw’r Cynulliad, nid y Llywodraeth. Mae gan Mark—sut allaf ei eirio?—ymdeimlad cryf o’i annibyniaeth oddi wrth y Llywodraeth, ac nid wyf yn credu am funud bod y fforwm naill ai’n rhan o’r Llywodraeth neu’n cael ei arwain gan y Llywodraeth yn y ffordd yr ydych yn awgrymu. Felly, efallai y byddech yn dymuno ystyried y sylwadau hynny.

 

With regard to ensuring that people are able not only to attend meetings but also to have the resources available to them to participate fully in the discussions that will take place over the next few years, I hope that I have already made it clear to Members this afternoon that we will ensure that as much information as possible is published and we will ensure that people have early and full access to that to enable them to participate fully in the discussions that take place. We will provide all of the support we can to enable people to participate in this process.

 

O ran sicrhau bod pobl nid yn unig yn gallu mynychu cyfarfodydd, ond hefyd yn meddu ar yr adnoddau i gymryd rhan lawn yn y trafodaethau a fydd yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf, yr wyf yn gobeithio fy mod eisoes wedi ei gwneud yn glir i Aelodau’r prynhawn yma y byddwn yn sicrhau bod cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl yn cael ei chyhoeddi, a byddwn yn sicrhau bod pobl yn cael mynediad cynnar a llawn i hynny er mwyn eu galluogi i gymryd rhan lawn yn y trafodaethau sy’n cael eu cynnal. Byddwn yn darparu’r holl gymorth a allwn i alluogi pobl i gymryd rhan yn y broses hon.

 

On your wider points, I will not allow myself to be drawn too far into some of your comments this afternoon, but I explained to the spokesperson for the Welsh Liberal Democrats at the time that my comments were based upon meetings with the European Commission, in this case with Commissioner Hahn, who referred time and again to the excellent way in which Wales is implementing and delivering these European programmes. I have met a number of directors-general in Brussels, and without exception they have all commented on how well Wales manages, administers and delivers European programmes.

 

O ran eich pwyntiau ehangach, ni wnaf ganiatáu fy hun i gael fy nhynnu yn rhy bell i mewn i rai o’ch sylwadau’r prynhawn yma, ond esboniais wrth lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y pryd fod fy sylwadau yn seiliedig ar gyfarfodydd gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, yn yr achos hwn gyda’r Comisiynydd Hahn, a gyfeiriodd dro ar ôl tro at y ffordd ardderchog y mae Cymru’n gweithredu a chyflwyno’r rhaglenni Ewropeaidd hyn. Yr wyf wedi cwrdd â nifer o gyfarwyddwyr-cyffredinol ym Mrwsel, ac yn ddieithriad maent i gyd wedi gwneud sylwadau ar ba mor dda mae Cymru yn rheoli, gweinyddu a chyflwyno rhaglenni Ewropeaidd.

 

I understand some of the points that you were trying to make on the involvement of the private sector. I repeat that Wales is second in Europe when it comes to the involvement of the private sector; only the Netherlands has a better record. The Government that you support across Offa’s Dyke does not even allow the private sector to become involved in structural programmes in the way that we do in Wales. So, I would reject your comments on that.

 

Yr wyf yn deall rhai o’r pwyntiau yr oeddech yn ceisio eu gwneud ar gyfranogiad y sector preifat. Dywedaf eto fod Cymru’n ail yn Ewrop o ran cyfranogiad y sector preifat;  dim ond yr Iseldiroedd sydd wedi bod yn well. Nid yw’r Llywodraeth yr ydych yn ei chefnogi ar ochr arall Clawdd Offa hyd yn oed yn caniatáu i’r sector preifat gymryd rhan mewn rhaglenni strwythurol yn y modd yr ydym yn ei wneud yng Nghymru. Felly, byddwn yn gwrthod eich sylwadau ar hynny.

 

We have discussed previously our ability to meet our targets, and I repeat that I am confident that the targets will be met for ESF and ERDF. Those targets were set before the 2008 economic storm, in entirely different economic times, yet our levels of commitment to spend on these programmes remain far ahead of where the levels were at the same time in the previous round, and I believe that we are on target to meet the targets that were set for us in this round of European funding programmes. 

 

Yr ydym wedi trafod o’r blaen ein gallu i gyrraedd ein targedau, a dywedaf eto fy mod yn hyderus y caiff y targedau eu cyrraedd ar gyfer cronfa gymdeithasol Ewrop a’r ERDF. Gosodwyd y targedau hynny cyn y storm economaidd yn 2008, ar adeg economaidd hollol wahanol, ond eto mae ein lefelau o ymrwymiad i wario ar y rhaglenni hyn yn parhau i fod yn llawer gwell na’r lefelau ar yr un pryd yn y rownd flaenorol, a chredaf ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd y targedau a osodwyd ar ein cyfer yn y rownd hon o raglenni ariannu Ewropeaidd.

 

So, there is a good story to come out of Wales and a positive story to tell about Wales. The fact that we are having this debate and that a forum has been set up many years in advance of this funding coming on-stream yet again demonstrates that Wales is leading the debate and, I hope, becoming an exemplar region for the administration and management of these funds across the European Union.

 

Felly, mae yna stori dda i ddod allan o Gymru a stori gadarnhaol i’w hadrodd am Gymru. Mae’r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon, a bod fforwm wedi cael ei sefydlu ers nifer o flynyddoedd cyn i’r cyllid hwn ddod ar gael yn dangos unwaith eto fod Cymru yn arwain y ddadl a, gobeithiaf, y daw yn rhanbarth enghreifftiol ar gyfer gweinyddu a rheoli’r cronfeydd hyn ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth
Supplementary Legislative Consent Motion on the Localism Bill

 

Cynnig NDM4808 Carl Sargeant

 

Motion NDM4808 Carl Sargeant

 

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722 ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt Werth Cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

That the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 29.6, agrees that, in addition to the provisions referred to in motions NNDM4642, NNDM4722 and NNDM4785, those further provisions which have been brought forward in the Localism Bill relating to Compulsory Purchase Order Planning Assumptions, Ground 16 of Schedule 2 to the Housing Act 1985 and Assets of Community Value in so far as they fall within the legislative competence of the National Assembly for Wales, should be considered by the UK Parliament.

 

The Minister for Local Government and Communities (Carl Sargeant): I move the motion.

 

Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau (Carl Sargeant): Cynigiaf y cynnig.

Mick Antoniw: I have a few points to raise on this that are quite important. This is a substantial document that deals with a number of areas arising from the Localism Bill. I am a little concerned about where UK legislation is going and what lessons we may learn from that, because there are some worrying aspects to the Bill. For example, there is a clear commitment in the Localism Bill to the abolition of local authorities’ duty to promote local democracy. We do not want to go down that route. It seems that the UK Government is saying to local authorities—and I hope we do not follow its example—that it is not important for people to vote or to be on the electoral register.

 

Mick Antoniw: Mae gennyf ychydig o bwyntiau i’w codi ar hyn sydd yn eithaf pwysig. Mae hon yn ddogfen sylweddol sy’n delio â nifer o feysydd sy’n deillio o’r Bil Lleoliaeth. Yr wyf ychydig yn bryderus ynghylch ble mae deddfwriaeth y DU yn mynd a pha wersi y gallwn ddysgu oddi wrth hynny, oherwydd mae rhai agweddau o’r Bil sy’n peri pryder. Er enghraifft, mae ymrwymiad clir yn y Bil Lleoliaeth i ddiddymu dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo democratiaeth leol. Nid ydym am i fynd i lawr y llwybr hwnnw. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn dweud wrth awdurdodau lleol—ac yr wyf yn gobeithio nad ydym yn dilyn ei hesiampl—nad yw’n bwysig i bobl bleidleisio neu fod ar y gofrestr etholiadol.

 

I have just picked out two items, and there is a series of others that concern me. For example, there is a right for those in priority need for housing who are made unintentionally homeless not to be pushed into private accommodation. However, there seems to be a move in the Localism Bill to shift provision for the homeless into the private sector. There is also a proposal, which, again, I hope that we do not adopt when we consider our own legislation, that is clearly an attempt to privatise the fire service, insofar as there is a provision in the Bill that fire and rescue services should have the power to charge for the services that they provide. Once you open that door, you are going down the route of privatising the fire service. Therefore, what lessons can we learn from this, and how can we ensure that our proposals do not go down this particular road and that we adopt civilised and decent standards?

 

Yr wyf newydd ddewis dwy eitem, ac mae cyfres o eitemau eraill sy’n peri pryder i mi. Er enghraifft, mae hawl gan y sawl sydd ag angen blaenoriaethol am dai sy’n cael eu gwneud yn anfwriadol ddigartref i beidio â chael eu gwthio i mewn i lety preifat. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod bwriad yn y Bil Lleoliaeth i symud y ddarpariaeth ar gyfer y digartref i’r sector preifat. Mae yna hefyd gynnig—ac unwaith eto, yr wyf yn gobeithio nad ydym yn ei fabwysiadu pan ystyriwn ein deddfwriaeth ein hunain—sydd yn amlwg yn ymgais i breifateiddio’r gwasanaeth tân, i’r graddau’r mae darpariaeth yn y Bil y dylai fod gan y gwasanaethau tân ac achub y pŵer i godi tâl am y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Unwaith yr agorwch y drws hwnnw, yr ydych yn mynd i lawr y llwybr o breifateiddio’r gwasanaeth tân. Felly, pa wersi a allwn eu dysgu o hyn, a sut allwn sicrhau nad yw ein cynigion yn dilyn y ffordd benodol hon a’n bod yn mabwysiadu safonau gwâr a gweddus?

 

Peter Black: You will be aware that a road accident victim going to hospital could be charged for the service provided. Is that going down the route of privatising the health service?

 

Peter Black: Byddwch yn ymwybodol y gellir codi pris ar ddioddefwr damwain ffordd sy’n mynd i’r ysbyty am y gwasanaeth a ddarperir. A yw hynny’n mynd i lawr y llwybr o breifateiddio’r gwasanaeth iechyd?

 

Mick Antoniw: That was something introduced a long time ago to ensure that the NHS recouped money instead of insurance companies gaining benefit from NHS provision. This is a totally different provision: it goes so far in opening the door to services to make charges as to allow the man who calls at your door when your house is on fire to charge you. That is not excluded. That is the door that is being opened by this piece of legislation. Once you open that door, that is where you are going. This Bill really is not a Bill about localism: it is a Bill that opens the door to speculators and exploiters and to handing over whole sections of our public services not only to privateers but to property developers.

 

Mick Antoniw: Yr oedd hynny’n rhywbeth a gyflwynwyd amser maith yn ôl er mwyn sicrhau bod y GIG yn adennill arian yn hytrach na bod cwmnïau yswiriant yn elwa o ddarpariaeth y GIG. Mae hon yn ddarpariaeth hollol wahanol: mae’n mynd cyn belled ag agor y drws i fod gwasanaethau yn codi pris fel y gall y dyn sy’n galw wrth eich drws pan fo’ch tŷ ar dân yn gallu gofyn am bris gennych. Nid yw hynny wedi’i heithrio. Dyna’r drws sy’n cael ei agor gan y darn hwn o ddeddfwriaeth. Unwaith y byddwch yn agor y drws hwnnw, dyna ble’r ydych yn mynd. Nid yw’r Bil hwn wir yn Fil am leoliaeth: mae’n Fil sy’n agor y drws i hapfasnachwyr ac ecsbloetwyr ac yn trosglwyddo adrannau cyfan o’n gwasanaethau cyhoeddus nid yn unig i breifatiriaid ond i ddatblygwyr eiddo.

 

The Minister for Local Government and Communities (Carl Sargeant): I thank the Member for his contribution. We are talking about three sections of the Localism Bill in terms of the legislative consent motion. The first is in relation to the compulsory purchase order scheme, where it is proposed to amend sections 14 to 21 of the Land Compensation Act 1961. The second is ground 16 of Schedule 2 to the Housing Act 1985, and the amendment is to address a defect that is currently in the legislation. Finally, in relation to assets of community value, we are seeking to put the provision on the face of the Bill as opposed to it being drafted in regulations. I hope Members can support that today. However, I recognise the concerns that Mick Antoniw has raised. I am the lead Minister from the Assembly Government on the Localism Bill; there are elements of this Bill that fall within the remit of other Welsh Government Ministers. I would welcome a conversation with Mick Antoniw, at an opportune time, to discuss his concerns around the Localism Bill. However, I commend the motion to Members.  

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (Carl Sargeant): Diolch i’r Aelod am ei gyfraniad. Yr ydym yn sôn am dair adran o’r Bil Lleoliaeth o ran y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mae’r cyntaf mewn perthynas â’r cynllun gorchymyn prynu gorfodol, lle cynigir gwella adrannau 14 i 21 Deddf Iawndal Tir 1961. Yr ail yw sail 16 Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1985, ac mae’r gwelliant er mwyn mynd i’r afael â diffyg yn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd. Yn olaf, mewn perthynas ag asedau o werth cymunedol, yr ydym yn ceisio rhoi’r ddarpariaeth ar wyneb y Bil yn hytrach nag ei drafftio mewn rheoliadau. Yr wyf yn gobeithio y gall Aelodau gefnogi hynny heddiw. Fodd bynnag, yr wyf yn cydnabod y pryderon a godwyd gan Mick Antoniw. Fi yw’r Gweinidog arweiniol yn Llywodraeth y Cynulliad ar y Bil Lleoliaeth; mae yna elfennau o’r Bil hwn sy’n dod o fewn cylch gwaith Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru. Byddwn yn croesawu sgwrs gyda Mick Antoniw, ar adeg amserol, i drafod ei bryderon ynghylch y Bil Lleoliaeth. Fodd bynnag, cymeradwyaf y cynnig i’r Aelodau.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Does any Member object? I see there are no objections. The proposal is therefore agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw wrthwynebiad?  Gwelaf nad oes gwrthwynebiad. Felly, mae’r cynnig wedi cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd y cynnig.

Motion agreed.

 

Yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy
The Sustainable Development Annual Report

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendments 1, 2 3 and 4 in the name of William Graham, and amendments 5, 6, 7 and 8 in the name of Peter Black.

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1, 2, 3 a 4 yn enw William Graham, a gwelliannau 5, 6, 7 ac 8 yn enw Peter Black.

 

Cynnig NDM4813 Jane Hutt

 

Motion NDM4813 Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar ddatblygu cynaliadwy yn 2010-11, fel y nodir yn Adroddiad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Medi 2011.

 

Notes the progress made on sustainable development in 2010-11, as set out in the Welsh Government’s Annual Report of the Sustainable Development Scheme, which was laid before the National Assembly for Wales on 22 September 2011.

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I move the motion.

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Cynigiaf y cynnig.

At the heart of this Government is our commitment to support the development of a fairer society with an emphasis on social, economic and environmental wellbeing for people and communities. This report is our account of sustainable development as a central organising principle and I am delighted to welcome the publication of the annual report of the Welsh Government’s sustainable development scheme for the financial year 2010-11. This is my first annual report since I became Minister for Environment and Sustainable Development, and I am pleased to report on the progress that we have made. 

 

Mae ein hymrwymiad i gefnogi datblygu cymdeithas decach gyda phwyslais ar les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i bobl a chymunedau yn hanfodol i’r Llywodraeth hon. Yr adroddiad hwn yw ein cofnod o ddatblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol ac yr wyf wrth fy modd yn croesawu cyhoeddi adroddiad blynyddol cynllun datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-11.  Dyma fy adroddiad blynyddol cyntaf ers i mi ddod yn Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ac yr wyf yn falch o adrodd ar y cynnydd a wnaed gennym.

 

The report demonstrates the action taken across all ministerial portfolios to deliver on behalf of the people of Wales. It is a comprehensive account of how we use sustainable development principles across Government to inform all our policies and programmes. I am also happy to have included an independent commentary on our progress from our commissioner for sustainable futures, Peter Davies. We are the only country in the UK to invite an independent commentary on progress and, following the UK Government’s closure of the Sustainable Development Commission, the only administration in the UK to continue to have an independent commissioner to advise us.

 

Mae’r adroddiad yn dangos y camau a gymerwyd ar draws pob portffolio gweinidogol i gyflawni ar ran pobl Cymru.  Mae’n ddisgrifiad cynhwysfawr o’r modd yr ydym yn defnyddio egwyddorion datblygu cynaliadwy ar draws y Llywodraeth i lywio ein holl bolisïau a rhaglenni. Yr wyf hefyd yn falch ein bod wedi cynnwys sylwebaeth annibynnol ar ein cynnydd gan ein comisiynydd dyfodol cynaliadwy, Peter Davies. Ni yw’r unig wlad yn y DU i wahodd sylwebaeth annibynnol ar gynnydd ac, yn dilyn camau Llywodraeth y DU i ddirwyn y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy i ben, ni yw’r unig weinyddiaeth yn y DU i barhau i fod â chomisiynydd annibynnol yn ein cynghori.

 

The commissioner has recognised that there is ‘no doubt’ that progress has been made in addressing how sustainable development, as our central organising principle, is understood and applied. That is why we will oppose amendment 1. The commissioner also notes that more work is needed, and we agree. He has made a number of recommendations, which we will follow up. Therefore, I am pleased that we are able to support amendment 4 in the name of William Graham.

 

Mae’r comisiynydd wedi cydnabod nad oes dim amheuaeth bod cynnydd wedi’i wneud wrth ystyried sut mae datblygu cynaliadwy, fel ein prif egwyddor drefniadol, yn cael ei ddeall a’i gymhwyso. Dyna pam y byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 1. Mae’r comisiynydd hefyd yn nodi bod angen mwy o waith, ac yr ydym yn cytuno. Mae wedi gwneud nifer o argymhellion, a byddwn yn eu dilyn i fyny. Felly, yr wyf yn falch ein bod yn gallu cefnogi gwelliant 4 yn enw William Graham.

 

We have made progress on becoming a sustainable nation, as measured by our suite of sustainable development indicators. These were published in August and I am pleased that 19 of the 44 indicators show a clear improvement, compared with only 17 a year before. I also welcome the latest data on our greenhouse gas emissions, which were published too late to include in the annual report. These figures show that emissions in Wales decreased by 14 per cent between 2008 and 2009.

 

Yr ydym wedi gwneud cynnydd ar ddod yn genedl gynaliadwy, fel y caiff ei fesur gan ein cyfres o ddangosyddion datblygu cynaliadwy. Cyhoeddwyd y rhain ym mis Awst ac yr wyf yn falch bod 19 o’r 44 dangosydd yn dangos gwelliant clir, o’i gymharu â dim ond 17 y flwyddyn o’r blaen.  Croesawaf hefyd y data diweddaraf ar ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, a gyhoeddwyd yn rhy hwyr i’w cynnwys yn yr adroddiad blynyddol. Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 14 y cant rhwng 2008 a 2009.

 

4.45 p.m.

 

Simon Thomas: I am grateful to the Minister for giving way. On the question of greenhouse gas emissions, the report makes it clear that the climate change strategy will address emissions in the transport sector in particular and that there has been an improvement there. Bearing in mind that raising the speed limit to 80 mph on our motorways would increase emissions 20 per cent, is it his Government’s intention to keep the limit to 70 mph in Wales, because sticking to 70 mph will assist his strategy enormously?

 

Simon Thomas: Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ildio. O ran cwestiwn allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir y bydd y strategaeth newid yn yr hinsawdd yn mynd i’r afael ag allyriadau yn y sector trafnidiaeth yn benodol ac y bu gwelliant yno. O gofio y byddai codi’r terfyn cyflymder i 80 milltir yr awr ar ein traffyrdd yn cynyddu allyriadau 20 y cant, a yw’n fwriad gan ei Lywodraeth i gadw’r terfyn i 70 milltir yr awr yng Nghymru, oherwydd bydd cadw at 70 milltir yr awr yn cynorthwyo ei strategaeth yn fawr iawn?

John Griffiths: All I can say at this stage is that I very much understand and share the environmental concerns at a possible raise in the motorway speed limit. There are many other considerations, not least of which are road safety matters. Therefore, we will look carefully at what we can do.

 

John Griffiths: Y cyfan y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd yw fy mod yn deall yn llwyr ac yn rhannu’r pryderon amgylcheddol o ran codi, o bosibl, y terfyn cyflymder ar y draffordd. Mae nifer o ystyriaethau eraill, nid yn lleiaf mater diogelwch ar y ffyrdd. Felly, byddwn yn edrych yn ofalus ar yr hyn y gallwn ei wneud.

 

We have in place a comprehensive climate change strategy and an emissions reduction delivery plan that set out the measures by which we contribute to our target to reduce greenhouse gas emissions by 3 per cent per year in areas of devolved competence. This approach has included phase 1 of Arbed, which provided £30 million of funding for homes, skills and green jobs. This funding upgraded the energy efficiency of existing housing stock in some of the most deprived areas of Wales, tackling fuel poverty and also providing a boost to jobs, skills and regeneration. Phase 2 of Arbed is already under development, and that is why we will oppose amendment 6. Similarly, on the other sustainable development indicators, we already have in place programmes to respond to these trends, and for this reason, we will oppose amendments 3 and 5.

Mae gennym ar waith strategaeth newid yn yr hinsawdd gynhwysfawr a chynllun cyflawni lleihau allyriadau sy’n nodi’r mesurau a ddefnyddiwn i gyfrannu at ein targed i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3 y cant y flwyddyn mewn meysydd lle mae’r pwerau wedi’u datganoli. Mae’r dull hwn wedi cynnwys cam 1 o Arbed, a oedd yn darparu £30 miliwn o gyllid ar gyfer cartrefi, sgiliau a swyddi gwyrdd. Mae’r cyllid hwn wedi uwchraddio effeithlonrwydd ynni’r stoc dai bresennol yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan fynd i’r afael â thlodi tanwydd, a hefyd rhoi hwb i swyddi, sgiliau ac adfywio. Mae Cam 2 Arbed eisoes yn cael ei ddatblygu, a dyna pam y byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 6. Yn yr un modd, ar y dangosyddion datblygu cynaliadwy eraill, mae gennym eisoes rhaglenni ar waith i ymateb i’r tueddiadau hyn, ac am y rheswm hwn, byddwn yn gwrthwynebu gwelliannau 3 a 5.

 

It is encouraging that the waste recycling indicator continues to show good progress, and that is why we are pleased to accept amendment 8 from Peter Black. I have agreed to an independent review of the effectiveness of our sustainable development scheme, in line with our statutory duty. I will receive this review in December, and will lay a copy before the Assembly in the new year. We will therefore oppose amendments 2 and 7.

Mae’n galonogol bod y dangosydd ailgylchu gwastraff yn parhau i ddangos cynnydd da, a dyna pam yr ydym yn falch o dderbyn gwelliant 8 gan Peter Black. Yr wyf wedi cytuno i adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd ein cynllun datblygu cynaliadwy, yn unol â’n dyletswydd statudol. Byddaf yn derbyn yr adolygiad hwn ym mis Rhagfyr, a byddaf yn gosod copi gerbron y Cynulliad yn y flwyddyn newydd. Felly, byddwn yn gwrthwynebu gwelliannau 2 a 7.

 

Finally, I am pleased that our sustainable development duty has always attracted support from all the parties in the Assembly. Our annual report notes the work that has been carried out following the launch of ‘One Wales: One Planet’. It represents a solid body of work that demonstrates how our commitment to sustainable development is making a long-term difference to the quality of life of people and communities throughout Wales. Thank you very much for listening. Diolch yn fawr.

 

Yn olaf, yr wyf yn falch bod ein dyletswydd datblygu cynaliadwy bob amser wedi denu cefnogaeth gan yr holl bleidiau yn y Cynulliad. Mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi’r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn dilyn lansiad ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’. Mae’n cynrychioli corff cadarn o waith sy’n dangos sut y mae ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn gwneud gwahaniaeth hirdymor i ansawdd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru. Diolch yn fawr am wrando. Diolch yn fawr.

Gwelliant 1 William Graham

Amendment 1 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add new point at end of the motion:

 

Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru byth wedi prif ffrydio datblygu cynaliadwy yn llawn yn y ffordd mae’n gweithio ac yn datblygu polisïau.

Expresses concern that the Welsh Government has still not fully mainstreamed sustainable development in the way that it works and develops policy.

 

Gwelliant 2 William Graham

Amendment 2 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add new point at end of the motion:

 

Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu gweledigaeth strategol well o sut caiff datblygu cynaliadwy ei wreiddio ar draws strategaethau, polisïau a chynlluniau unigol a sut maent yn cyfuno i gyfrannu at gynnydd mesuradwy yn erbyn y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy.

 

Believes that the Welsh Government must provide a better strategic vision of how sustainable development is embedded across individual strategies, policies and initiatives and how they combine to contribute towards measureable progress against the Sustainable Development Indicators.

 

Gwelliant 3 William Graham

Amendment 3 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add new point at end of the motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno camau cywiro ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2011 sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella.

 

Calls on the Welsh Government to bring forward urgent remedial actions to resolve the 22 Sustainable Development Indicators for 2011 that have deteriorated or shown no improvement.

 

Gwelliant 4 William Graham

Amendment 4 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add new point at end of the motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adroddiad Blynyddol gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Cynnal Cymru.

 

Calls on the Welsh Government to implement fully the recommendations made in the Annual Report by the Commissioner for Sustainable Futures and Cynnal Cymru.

Russell George: I move amendments 1, 2, 3 and 4 in the name of William Graham.

 

Russell George: Cynigiaf welliannau 1, 2, 3 a 4 yn enw William Graham.

 

First, I welcome the report and the opportunity to comment on the Welsh Government’s sustainable development aspirations. Sustainable development must be the overarching strategy across all policies and programmes and it must run across all areas and portfolios of Government. We support amendments 5, 6, 7 and 8 tabled in the name of Peter Black.

Yn gyntaf, croesawaf yr adroddiad a’r cyfle i wneud sylwadau ar ddyheadau datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i ddatblygu cynaliadwy fod yn strategaeth gyffredinol ar draws yr holl bolisïau a rhaglenni a rhaid iddo redeg ar draws pob maes a phortffolio yn y Llywodraeth. Rydym yn cefnogi gwelliannau 5, 6, 7 ac 8 a gyflwynwyd yn enw Peter Black.

 

The Welsh Government has still not fully mainstreamed sustainable development in the way that it works and develops policy. This is reflected in Peter Davies’s comments in the introduction of the report. He said that

Nid yw Llywodraeth Cymru eto wedi prif ffrydio datblygu cynaliadwy yn llawn yn y ffordd y mae’n gweithio ac yn datblygu polisi. Adlewyrchir hyn yn sylwadau Peter Davies yn y cyflwyniad i’r adroddiad. Dywedodd

 

‘while some progress has been made, there is still a long way to go before we can truly claim that sustainable development is effective as the central organising principle.’

er y gwnaed rhywfaint o gynnydd, mae ffordd bell i fynd cyn y gallwn wir honni bod datblygu cynaliadwy yn effeithiol fel y brif egwyddor drefniadol.

 

He also highlighted procurement as a particular area of concern. He said that stakeholders have concerns and recommends

 

Tynnodd sylw hefyd at gaffael fel maes sy’n peri pryder. Dywedodd fod gan randdeiliaid bryderon ac yr oedd yn argymell

‘remedial actions to achieve the target.’

 

camau gweithredu adferol i gyrraedd y targed.

 

In addition, the Welsh Government must provide a better strategic vision of how sustainable development is embedded across individual strategies, policies and initiatives and of how they combine to contribute towards measurable progress against the sustainable development indicators.

 

Yn ogystal, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu gweledigaeth strategol well o sut y mae datblygu cynaliadwy yn rhan annatod ar draws strategaethau unigol, polisïau a mentrau a sut maent yn cyfuno i gyfrannu tuag at cynnydd mesuradwy yn erbyn y dangosyddion datblygu cynaliadwy.

John Osmond, director of the Institute of Welsh Affairs, said on the IWA blog that last week’s programme for government did not spell out how sustainable development would be achieved in practice. He also asked what would be in the sustainable development Bill when it is brought forward and, more to the point, when that will be. The answer, I am told, is the autumn of 2013—timing that does not seem to fit the alleged centrality of the idea. The sustainable development Bill stands alone from the rest of the legislation programme, distanced from the environmental, local government, highways and transport Bills. Anyone can see, however, that all of these are closely related. If it is not to present the Welsh Government’s central organisation principles, will the contents of the sustainable development Bill inform the rest of the legislative programme? If it were to do so, should it not be the first Bill to be enacted, with everything else following it?

Dywedodd John Osmond, cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, ar flog y Sefydliad Materion Cymreig, nad oedd y rhaglen lywodraethu, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn amlinellu sut y byddai datblygu cynaliadwy yn cael ei gyflawni yn ymarferol. Gofynnodd hefyd beth fyddai yn y Bil datblygu cynaliadwy pan gaiff ei ddwyn gerbron ac, yn fwy perthnasol, pryd fyddai hynny. Yr ateb, dywedir wrthyf, yw hydref 2013—amseru nad yw’n ymddangos i gyd-fynd â chanologrwydd honedig y syniad. Mae’r Bil datblygu cynaliadwy yn sefyll yn annibynnol ar weddill y rhaglen ddeddfwriaeth, yn bell oddi wrth y Biliau amgylcheddol, llywodraeth leol, priffyrdd a chludiant. Gall unrhyw un weld, fodd bynnag, fod y rhain yn gysylltiedig agos. Os nad yw’n cyflwyno egwyddorion trefniadaeth ganolog Llywodraeth Cymru, a fydd cynnwys y Bil datblygu cynaliadwy yn hysbysu gweddill y rhaglen ddeddfwriaethol? Pe buasai’n gwneud hynny, oni ddylai fod y Bil cyntaf i gael ei ddeddfu, gyda phopeth arall yn ei  ddilyn?

 

I call on the Welsh Government to bring forward immediate remedial action to resolve the 22 sustainable development indicators for 2011 that have deteriorated or shown no improvement. With regard to greenhouse gas emissions, in the Welsh Conservatives’ manifesto, we pledged to increase independent monitoring of these gases; to achieve at least 3 per cent annual reductions in Welsh-sourced greenhouse gas emissions in the areas of devolved competence and to establish an independent mechanism to monitor and evaluate climate change targets. I should also mention, separately from the sustainable development evaluation process, the previous Government watered down the previous greenhouse gas emission targets.

 

Galwaf ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno camau unioni brys i ddatrys y 22 dangosydd datblygu cynaliadwy ar gyfer 2011 sydd wedi dirywio neu sydd wedi methu â dangos unrhyw welliant. O ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, ym maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, bu inni addo cynyddu monitro annibynnol o’r nwyon hyn; i gyflawni gostyngiadau blynyddol o o leiaf 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau Cymreig yn y meysydd sydd wedi’u datganoli ac i sefydlu mecanwaith annibynnol i fonitro a gwerthuso targedau newid yn yr hinsawdd. Dylwn grybwyll hefyd, ar wahân i broses werthuso datblygu cynaliadwy, fod y Llywodraeth flaenorol wedi glastwreiddio’r targedau blaenorol ar gyfer allyriadau nwy tŷ gwydr.

 

This report should be the scorecard for the programme for government, with respect to its contribution to sustainable development. I do not think that it does this job. It is more of a collection of reports from different departments collated as a sustainable development report. I call on the Welsh Government to implement fully the recommendations made in the annual report by the commissioner for sustainable futures at Cynnal Cymru.

 

Dylai’r adroddiad hwn fod yn gerdyn sgorio ar gyfer y rhaglen lywodraethu, o ran ei gyfraniad at ddatblygu cynaliadwy. Ni chredaf ei fod yn gwneud y gwaith hwn. Mae’n fwy o gasgliad o adroddiadau gan wahanol adrannau a gasglwyd fel adroddiad datblygu cynaliadwy. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad blynyddol gan y Comisiynydd dyfodol cynaliadwy yn Cynnal Cymru.

Gwelliant 5 Peter Black

Amendment 5 Peter Black

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn nodi bod y ddogfen ‘Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011’ yn dangos bod y Llywodraeth wedi symud ymlaen gydag oddeutu hanner ei dangosyddion ond yn gresynu ei bod yn dangos y bu dirywiad clir mewn dangosyddion ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr a newidiadau tymor byr mewn poblogaeth adar.

 

Notes that the document ‘Sustainable Development Indicators 2011’ shows that the government has made progress on around half of its indicators but regrets that it shows that there has been a ‘clear deterioration’ in indicators for greenhouse gas emissions and short-term changes in bird population.

 

Gwelliant 6 Peter Black

Amendment 6 Peter Black

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn credu bod yn rhaid i ddatblygu cynaliadwy gynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau domestig, ac yn galw am gynnydd yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

 

Believes that sustainable development must include the reduction of greenhouse gas emissions from domestic sources, and calls for an increase in capital funding available to tackle fuel poverty.

 

Gwelliant 7 Peter Black

Amendment 7 Peter Black

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn galw ar y Llywodraeth i gomisiynu archwiliad annibynnol o’i pholisïau i hybu datblygu cynaliadwy.

 

Calls on the Government to commission an independent audit of its policies to promote sustainable development.

 

Gwelliant 8 Peter Black

Amendment 8 Peter Black

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol tuag at dargedau ailgylchu.

Welcomes the progress made by local authorities towards recycling targets.

 

 

William Powell: I move amendments 5, 6 7 and 8 in the name of Peter Black.

William Powell: Cynigiaf welliannau 5, 6 7 ac 8 yn enw Peter Black.

 

I thank the Minister for presenting the first report since taking over the portfolio. I would also pay tribute to his predecessor, who presided over the development of sustainable development in recent years and is recognised widely as having made a major contribution in this area.

Yr wyf yn diolch i’r Gweinidog am gyflwyno’r adroddiad cyntaf ers cymryd drosodd y portffolio. Rhof deyrnged hefyd i’w ragflaenydd, a oedd yn llywyddu dros y gwaith o ddatblygu cynaliadwy yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n cael ei gydnabod yn eang fel un sydd wedi gwneud cyfraniad mawr yn yr ardal hon.

 

Nearly two years ago, the Wales Audit Office raised some concerns that sustainable development is seen as one of a number of competing priorities, rather than the means by which the Welsh Assembly Government, as it was then styled, managed its competing priorities. This annual report shows that progress in some areas has been patchy in achieving sustainable development during 2010-11. The figures demonstrate this clearly. For example, there has been progress according to the Welsh Government’s sustainability indicators, as the Minister has said, in 19 of the 44 indicators, which is just under half, and there is not sufficient data available for three of them to be appropriately measured. However, it is deeply concerning that four indicators have risen, particularly those for greenhouse emissions, which the report notes have risen by 4.7 per cent since the previous year. These concerns around patchy progress are the reason why I am moving amendment 7, which calls for an independent audit of these policies. It was last year’s Wales Audit Office report that concentrated minds on whether sustainable development was the Government’s central organising principle. Two years should be enough time to assess the impact of its response. That should inform the Minister of what needs to be at the heart of the proposed sustainable development Bill during 2013, on which information is as yet unavailable. Whether it is the Wales Audit Office that undertakes that function is a matter for the Welsh Government to decide.

Bron ddwy flynedd yn ôl, cododd Swyddfa Archwilio Cymru rai pryderon bod datblygu cynaliadwy yn cael ei ystyried yn un o blith nifer o flaenoriaethau croes, yn hytrach na’r ffordd yr oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel yr oedd bryd hynny, yn rheoli ei blaenoriaethau croes. Dengys yr adroddiad blynyddol hwn bod cynnydd mewn rhai meysydd wedi bod yn anghyson wrth gyflawni datblygiad cynaliadwy yn ystod 2010-11. Mae’r ffigurau’n dangos hyn yn glir. Er enghraifft, bu cynnydd yn unol â dangosyddion cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, fel mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, mewn 19 o’r 44 dangosydd, sef ychydig yn llai na hanner, ac nid oes digon o ddata ar gael ar gyfer tri ohonynt er mwyn eu mesur yn briodol. Fodd bynnag, mae’n peri gofid fod pedwar dangosydd wedi codi, yn enwedig y rhai ar gyfer allyriadau tŷ gwydr, y mae’r adroddiad yn nodi sydd wedi codi 4.7 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Y pryderon ynghylch y cynnydd anghyson hwn yw’r rheswm pam yr wyf yn symud gwelliant 7, sy’n galw am archwiliad annibynnol o’r polisïau hyn. Roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru y llynedd yn gwneud i bobl ystyried ai datblygu cynaliadwy oedd prif egwyddor drefniadol y Llywodraeth. Dylai dwy flynedd fod yn ddigon o amser i asesu effaith ei hymateb. Dylai hynny hysbysu’r Gweinidog am yr hyn sydd angen fod wrth wraidd y Mesur datblygu cynaliadwy arfaethedig yn ystod 2013, ac nid yw’r wybodaeth ar hwn ar gael hyd yn hyn. Mae’n fater i Lywodraeth Cymru benderfynu ai Swyddfa Archwilio Cymru sy’n ymgymryd â’r swyddogaeth honno.

 

There are two issues that I want to focus on where the Welsh Government can and must raise its game in sustainable development. The first is to do with recycling, and the second is fuel poverty. There are obviously many more issues that could be addressed, but my time is limited.

 

Mae dau fater yr wyf am ganolbwyntio arnynt lle gall Llywodraeth Cymru a lle mae’n rhaid iddi godi ei gêm yn natblygu cynaliadwy. Mae’r cyntaf yn ymwneud ag ailgylchu, a’r ail yw tlodi tanwydd. Mae’n amlwg bod llawer mwy o faterion y gellid mynd i’r afael â hwy, ond mae fy amser yn brin.

 

Amendment 6 calls for an expansion of the fuel poverty scheme to reduce the number of people in Wales who live in fuel poverty. In Wales, a record number of 332,000 people are living in fuel poverty, which is defined as those who spend 10 per cent and above of their income on fuel bills. As fuel prices are expected to rise further, we will see more people affected in this way. Some 25 per cent of the damage done to the Welsh environment is from domestic emissions, according to research by the World Wildlife Fund. We have also recently seen a round of hikes in fuel prices from some of the big energy companies. Now is the time to invest in this, to tackle two of the sustainable development annual report’s key targets: sustainable resource use and a sustainable society.

Mae gwelliant 6 yn galw am ymestyn y cynllun tlodi tanwydd i leihau nifer y bobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi tanwydd. Yng Nghymru, mae’r nifer uchaf erioed, sef 332,000 o bobl, yn byw mewn tlodi tanwydd, a ddiffinnir fel rhai sy’n gwario 10 y cant a mwy o’u hincwm ar filiau tanwydd. Gan fod disgwyl i brisiau tanwydd godi ymhellach, byddwn yn gweld mwy o bobl yr effeithir arnynt yn y ffordd hon. Mae tua 25 y cant o’r difrod a wnaed i’r amgylchedd yng Nghymru yn dod o allyriadau domestig, yn ôl ymchwil gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd. Rydym hefyd yn ddiweddar wedi gweld cylch o godiadau ym mhrisiau tanwydd gan rai o’r cwmnïau ynni mawr. Nawr yw’r amser i fuddsoddi yn hyn, i fynd i’r afael â dau o’r targedau allweddol yn adroddiad blynyddol datblygu cynaliadwy: defnyddio adnoddau cynaliadwy a chymdeithas gynaliadwy.

 

Secondly, reducing waste through increasing recycling will help us to achieve our sustainable resource use. I congratulate local authorities across Wales for the work that they have undertaken to improve recycling rates. I mention in particular the communities of Presteigne and Norton in my region, which the Minister visited recently, where a partnership between the Cwm Harry Land Trust and Powys County Council has managed to turn 74 per cent of their waste into recycling. If that is possible, it is possible for communities across Wales to massively reduce the amount of waste that they produce. I would like to see the Minister and his department learn further from these examples of good practice. To be fair, it is appropriate to welcome the announcement made in today’s budget that we will have an additional investment of £0.5 million, rising to £5.6 million, in the coming years to support the treatment of domestic recycling. This will bear down further on the quantity of biodegradable waste going to landfill, which is in accordance with our European Union commitments. However, I look forward to monitoring this closely during the coming year and to holding the Government to account on the delivery of its further targets in this vital area.

Yn ail, bydd lleihau gwastraff drwy ailgylchu cynyddol yn ein helpu i gyflawni ein defnydd o adnoddau cynaliadwy. Rwy’n llongyfarch awdurdodau lleol ar draws Cymru am y gwaith y maent wedi’i wneud i wella cyfraddau ailgylchu. Soniaf yn benodol am gymunedau Llanandras a Norton yn fy rhanbarth i, yr ymwelodd y Gweinidog â hwy yn ddiweddar, lle mae partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry a Chyngor Sir Powys wedi llwyddo i droi 74 y cant o’u gwastraff yn ddefnydd a gaiff ei ailgylchu. Os yw hynny’n bosibl iddyn nhw, mae’n bosibl i gymunedau ledled Cymru leihau faint o wastraff y maent yn ei gynhyrchu. Hoffwn weld y Gweinidog a’i adran yn dysgu ymhellach o’r enghreifftiau hyn o arfer da. I fod yn deg, mae’n briodol i groesawu’r cyhoeddiad a wnaed yn y gyllideb heddiw, sef y bydd gennym fuddsoddiad ychwanegol o £0.5 miliwn, yn codi i £5.6 miliwn, yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi’r gwaith o drin ailgylchu yn y cartref. Bydd hyn yn cael effaith bellach ar faint o wastraff pydradwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, sydd yn unol â’n hymrwymiadau Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at fonitro hyn yn ofalus yn ystod y flwyddyn sydd i ddod ac i ddal y Llywodraeth i gyfrif am gyflawni ei thargedau pellach yn y maes hanfodol hwn.

 

Julie James: I welcome the production of this report and the Welsh Government’s continued commitment to independent advice in this important area of any country’s development. I echo the sentiments expressed by the previous speakers, namely that time is short, so I will only pick out a few areas, although I would like to mention many more.

 

Julie James: Croesawaf yr adroddiad hwn ac ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gyngor annibynnol mewn maes sy’n bwysig yn natblygiad unrhyw wlad. Ategaf y farn a fynegwyd gan y siaradwyr blaenorol, sef bod amser yn brin, felly byddaf ond yn dewis rhai meysydd, er yr hoffwn sôn am lawer mwy.

 

The two areas that I would particularly like to mention today are the area of public procurement and its relationship with sustainability, and I would also like to say a few things about waste. If time permits, I would also like to say something about microgeneration, but I suspect that I shall be stopped before I get there.

Y ddau faes y byddwn yn enwedig yn hoffi sôn amdanynt heddiw yw maes caffael cyhoeddus a’i berthynas â chynaliadwyedd, a hoffwn hefyd ddweud ychydig o bethau am wastraff. Os bydd amser yn caniatáu, hoffwn hefyd ddweud rhywbeth am ficrogynhyrchu, ond yr wyf yn amau ​​y byddaf yn cael fy stopio cyn i mi gyrraedd yno.

 

With regard to public procurement, I am pleased to see the progress on the sustainable procurement action framework, with the score going from 2 to 3.5, but it is worrying that we have not met our target. However, I pay tribute to the professionals working in this field; I am familiar with their work. The considerable extent to which some of the frameworks that we have put in place for procurement over the last few years have assisted in this area—things such as supporting businesses, and I would like to mention Remploy in particular. I know that many of us have concerns about the Remploy factories in our areas and the current proposals to close them. However, sustainable procurement can really assist with that sort of economic regeneration, as well as assisting by ensuring that factories such as Remploy, where there is supported employment for very disabled people in our communities, also have supply chains attached to them that support our economy in a big way and which continue to allow us to have a sustainably resourced supply chain. For example, we can use Welsh forests to supply renewable wood that can be locally sourced. It has a low carbon footprint in delivering it to Remploy factories, which produce excellent quality products in supported employment environments. That completes a nice virtual circle that we all would like to see, of economic activity along with sustainable development and a supply chain that supports many more jobs than those apparent in the factories. It is an absolute tragedy that it looks as though we may lose that supported employment, and I want to take this opportunity to say that, in the current economic climate, the chance of disabled people being able to compete in the marketplace is a suggestion that is beyond all common sense.

O ran caffael cyhoeddus, yr wyf yn falch o weld y cynnydd ar fframwaith gweithredu caffael cynaliadwy, gyda’r sgôr yn mynd o 2 i 3.5, ond mae’n destun pryder nad ydym wedi cyrraedd ein targed. Fodd bynnag, rhof deyrnged i’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes hwn; yr wyf yn gyfarwydd â’u gwaith. Mae’r graddau sylweddol y mae rhai o’r fframweithiau yr ydym wedi’u rhoi ar waith ar gyfer caffael yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cynorthwyo yn y maes hwn—pethau megis busnesau ategol, a hoffwn sôn am Remploy yn benodol. Gwn fod llawer ohonom yn pryderu am ffatrïoedd Remploy yn ein hardaloedd a’r cynigion presennol i’w cau. Fodd bynnag, gall caffael cynaliadwy wir helpu gyda’r math hwnnw o adfywio economaidd, yn ogystal â helpu drwy sicrhau bod gan ffatrïoedd megis Remploy, lle mae cyflogaeth wedi’i gefnogi ar gyfer pobl anabl iawn yn ein cymunedau, â chadwyni cyflenwi ynghlwm wrthynt sy’n cefnogi ein heconomi yn sylweddol ac sy’n parhau i’n galluogi i gael cadwyn gyflenwi adnoddau mewn modd cynaliadwy. Er enghraifft, gallwn ddefnyddio coedwigoedd Cymru i gyflenwi pren adnewyddadwy y gellir ei gael yn lleol. Mae ganddo ôl-troed carbon isel wrth ei ddanfon i ffatrïoedd Remploy, sy’n cynhyrchu cynnyrch o ansawdd rhagorol mewn amgylcheddau cyflogaeth dan gymorth. Mae hynny’n cwblhau’r cylch braf y byddem i gyd yn hoffi ei weld, sef gweithgarwch economaidd ynghyd â datblygu cynaliadwy a chadwyn gyflenwi sy’n cefnogi llawer mwy o swyddi na’r rheini sy’n amlwg yn y ffatrïoedd. Mae’n drasiedi lwyr ei bod yn ymddangos y gallem golli’r gyflogaeth dan gymorth, ac yr wyf am gymryd y cyfle hwn i ddweud, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, bod tebygolrwydd pobl anabl yn cystadlu yn y farchnad yn awgrym y tu hwnt i bob synnwyr cyffredin.

 

5.00 p.m.

 

I will return to the public procurement points that I wanted to make. We have had real success with community benefit clauses and I urge the Welsh Government to consider extending those to the absolute edge, while still complying with European procurement rules. I also urge the Welsh Government to consider training our procurement professionals in specifying the use of things like local products, such as locally sourced food, economically and environmentally sustainable products, products that are sustainable from a community point of view, and to include an element of fair trade products when those products cannot be produced locally. Fair trade products, shipped by sea and not by plane, that contribute to communities that may be even more disadvantaged than our own, can also be included in those community benefits, because they enhance local supply chains. A lot of fair trade products can then be used in locally produced foods, thus completing another virtuous circle. Therefore, I urge the Government to consider that if it can.

 

Dychwelaf at y pwyntiau caffael cyhoeddus yr oeddwn am eu gwneud. Rydym wedi cael llwyddiant go iawn gyda chymalau budd cymunedol ac yr wyf yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried ymestyn y rhain i’r ymyl absoliwt, wrth barhau i gydymffurfio â rheolau caffael Ewropeaidd. Yr wyf hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried hyfforddi ein gweithwyr caffael proffesiynol wrth nodi’r defnydd o bethau fel cynnyrch lleol, megis bwyd o ffynonellau lleol, cynhyrchion sy’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol, cynnyrch sy'n gynaliadwy o safbwynt cymunedol, ac i gynnwys elfen o gynnyrch masnach deg pan na allant gynhyrchu’r cynhyrchion hynny’n lleol. Gall cynnyrch masnach deg, wedi’i gludo ar y môr ac nid gan awyren, sy'n cyfrannu at gymunedau a all fod o dan hyd yn oed mwy o anfantais nag ein hunain, hefyd gael ei gynnwys yn y buddion cymunedol hynny, oherwydd eu bod yn gwella cadwyni cyflenwi lleol. Yna, gellir defnyddio llawer o gynhyrchion masnach deg mewn bwydydd a gynhyrchir yn lleol, gan gwblhau cylch rhinweddol arall. Felly, yr wyf yn annog y Llywodraeth i ystyried hynny, os yw’n bosibl.

 

Another thing that I want to say about public procurement is that I am convinced that there are even more savings to be made with more joined-up working across regions in terms of Government procurement. I want to put that statement out there, because I know that Welsh Ministers agree with me on that point.

Peth arall yr wyf am ei ddweud am gaffael cyhoeddus yw fy mod yn argyhoeddedig bod yna hyd yn oed mwy o arbedion i'w gwneud gyda gweithio mwy cydgysylltiedig ar draws rhanbarthau o ran caffael y Llywodraeth. Rwyf am wneud y datganiad hwnnw  oherwydd gwn fod Gweinidogion Cymru yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw.

 

I will turn quickly to waste before I run out of time altogether. I welcome the additional funding on waste management. I feel obliged to say in this Chamber that I abhor the useless millions spent by the Conservatives on black bags, which is a really retrograde step in waste collection. The idea that a man like Eric Pickles can say that it is every Englishman’s right to throw his chicken tikka masala in a black bin bag and to stick it in a landfill where it produces methane for God knows how long—

Trof yn gyflym at wastraff cyn i mi redeg allan o amser yn gyfan gwbl. Croesawaf yr arian ychwanegol ar reoli gwastraff. Rwy'n teimlo bod rhaid dweud yn y Siambr hon fy mod yn ffieiddio’r miliynau diwerth a wariwyd gan y Ceidwadwyr ar fagiau du, sy’n gam sylweddol yn ôl o ran casglu gwastraff. Mae’r syniad y gall dyn fel Eric Pickles ddweud fod hawl gan bob Sais i daflu ei chicken tikka masala mewn bag bin du a’i roi mewn safle tirlenwi lle mae’n cynhyrchu methan am Duw a ŵyr pa mor hir

 

Andrew R.T. Davies: Will you take an intervention?

 

Andrew R. T. Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

 

Julie James: I am already out of time, sorry, otherwise I would have allowed you an intervention. To return to my last remark, in contrast to the opinion expressed by Eric Pickles, the Welsh Government is pursuing a really good policy of separate food waste collections and anaerobic digestion, which is another virtuous circle, on which I congratulate it.

Julie James: Yr wyf eisoes allan o amser, mae'n ddrwg gennyf, fel arall byddwn wedi caniatáu i chi ymyrryd. I ddychwelyd at fy sylw olaf, yn wahanol i'r farn a fynegwyd gan Eric Pickles, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd polisi gwirioneddol dda o gasglu gwastraff bwyd ar wahân a threulio anaerobig, sef cylch rhinweddol arall, ac fe’i llongyfarchaf.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Mae’n bleser gennyf gyfrannu, fel Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, i’r drafodaeth hon ar yr adroddiad blynyddol ar ddatblygu cynaliadwy, oherwydd mae hwn yn adroddiad ar y cyfnod o Ebrill 2010 hyd Fawrth 2011, ac felly’n rhan o gyfnod Llywodraeth Cymru’n Un. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei arweiniad a’i gydweithrediad â mi fel Cadeirydd y pwyllgor yn ystod y cyfnod byr yr wyf wedi bod yn gwneud y gwaith. Hoffwn hefyd ddiolch am y cydweithrediad agos sydd wedi bod rhyngom a Peter Davies, y comisiynydd, a Chynnal Cymru, er enghraifft yn ystod y drafodaeth ragorol a gawsom ynghylch Cymru yn y cyd-destun rhyngwladol ddoe yn Nhŷ Hywel.

 

Lord Elis-Thomas: It is a pleasure to contribute, as Chair of the Environment and Sustainability Committee, to this debate on the sustainable development annual report, because this report covers the period between April 2010 and March 2011, covering, therefore, a part of the One Wales Government. I would like to thank the Minister for his guidance and co-operation during the short time that I have been chairing the committee. I would also like to express my gratitude for the close co-operation that there has been between us and Peter Davies, the commissioner, and Sustain Wales, for example during the excellent debate on Wales in the international context held yesterday in Tŷ Hywel.

Yr wyf yn croesawu’r adroddiad a’r fframwaith newydd, gan gynnwys sylwadau’r comisiynydd. Felly, mewn ysbryd caredig yr wyf yn nodi’n gwbl glir i’r ddwy blaid arall sydd wedi gosod gwelliannau i’r cynnig fod ganddynt wynebau fel talcen tŷ yn gosod unrhyw welliant ynghylch materion cynaliadwyedd, gan mai eu pleidiau hwy yn San Steffan sy’n gyfrifol am ddileu’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy. Felly, yn lle pregethu wrthym ni ynglŷn â methiant Llywodraeth Cymru’n Un i osod cynaliadwyedd yn ganolog i bolisi’r Llywodraeth, dylech edrych yn nes at adref ar y modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi taflu datblygu cynaliadwy allan drwy’r ffenestr. Os ydych am draethu ar y pwnc hwn eto, edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd ym mhen arall y rheilffordd yn San Steffan. Fodd bynnag, dyna ddigon o bregethu.

 

I welcome the report and the new framework, including the commissioner’s comments. Therefore, it is in a spirit of kindness that I point out clearly to the other two parties that have tabled amendments today that they have quite a front in tabling any amendments on sustainability when it is their parties in Westminster that have abolished the Sustainable Development Commission. So, rather than preaching to us on the failings of the One Wales Government to set sustainability at the heart of Government policy, look closer to home, at how the UK Government has thrown sustainable development out of the window. If you want to preach on this issue again, look at what is happening at the other end of the railway line in Westminster. However, that is enough preaching from me.

Mae’r pwynt eisoes wedi’i wneud fod angen inni wneud datblygu cynaliadwy yn llawer mwy canolog, ac mae adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ac, yn wir, adroddiadau’r pwyllgor blaenorol i’n pwyllgor ni ar brif-ffrydio cynaliadwyedd wedi pwysleisio’r materion hyn; nid oes raid imi ailadrodd bod yn rhaid inni symud ymlaen at weld mwy o gysondeb a chynnydd.

The point has already been made that we need to make sustainable development a far more central plank, and the reports of the Wales Audit Office and, indeed, the reports of the predecessor committee to our own on mainstreaming sustainability have emphasised these issues; I do not need to reiterate the fact that we need to move forward to get greater consistency and progress.

 

Mae hwn nid yn unig yn fater i Lywodraeth, ond yn fater i bob plaid. Mae’n rhaid i’r agenda werdd a’r economi werdd fod yn ganolog i bolisi pob plaid os ydym am fod yn llwyddiannus. Mae’r cwestiwn hwn yn un sy’n cael ei drafod nid yn unig yma yn y Cynulliad ond ym mhob Senedd debyg ac ym mhob Cynulliad deddfwriaethol tebyg yn Ewrop, oherwydd mai ar ein lefel ni y mae dros 80 y cant o’r penderfynaidau pwysig ynglŷn â’r blaned gynaliadwy hon yn cael eu gwneud. Mae’n ddiddorol bod y thema sy’n datblygu ar gyfer Rio 20 mlynedd yn ddiweddarach yn thema sy’n pwysleisio’r angen i gael strwythur i ddilyn datblygu cynaliadwy yn iawn ar lefel ranbarthol—gyda’r Undeb Ewropeaidd fel rhanbarth, ond hefyd yn rhanbarthol yn yr ystyr ein bod ni yn rhanbarth o Ewrop. Mae’r ymgais hon i gael fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy yn un sy’n cael ei hedmygu o’r tu allan, er y byddaf, bob tro yr wyf yn siarad ar y pwnc hwn, yn pwyntio at ddiffygion yr hyn a wnaethom yn 1998 a 2006 yn ein deddfwriaeth, drwy osod dyletswydd heb fframwaith clir ar sut i’w gweithredu. Dyna pam y croesawaf yn fawr iawn yr arweiniad y mae’r Gweinidog wedi’i ddangos ar gyfer yr adolygiad o sut mae datblygu cynaliadwy yn gweithio. Yn sicr, yr wyf yn siarad ar ran aelodau eraill o’r pwyllgor sydd eisoes wedi siarad y prynhawn yma, ac eraill, wrth ddweud y byddwn yn chwarae ein rhan fel pwyllgor yn glir yn y datblygiad hwn.

 

This is not only an issue for Government; it is a matter for every party. The green agenda and the green economy must be central to the policies of all parties if we are to be successful. This question is debated not just here in this Assembly, but in every other similar Parliament or legislative Assembly in Europe, because it is at our level that over 80 per cent of the important decisions regarding this sustainable planet are taken. It is interesting that the emerging theme from Rio 20 years on is an emphasis on the need for a structure to ensure that sustainable development is implemented properly at a regional level—with the European Union as a region of the world, but also regional in the sense that we are a region of Europe. This effort to create a framework for sustainability is one that is admired outwith this place, although, every time I speak on this issue, I point to the deficiencies of what we did back in 1998 and 2006 in our legislation in placing a duty without also creating a clear framework for how that duty was to be exercised. That is why I very much welcome the leadership that our Minister has shown in producing this review of how sustainable development works. Certainly, I speak on behalf of other members of the committee who have already spoken this afternoon, as well as others, in saying that we will play our full part as a committee in this development.

 

Wrth imi ddod â’m sylwadau i ben, yr wyf am sôn am un peth yn yr adroddiad a achosodd i’m calon gynhesu. Flynyddoedd maith yn ôl, yr oeddwn yn gwirfoddoli ym maes yr amgylchedd fel cadeirydd di-dâl Cadwch Gymru’n Daclus. Un o’r pethau mwyaf hyfryd y cefais y fraint o’i wneud oedd codi’r faner yn eco-ysgol gyntaf Cymru—yn y gogledd-ddwyrain, fel yr oedd yn digwydd. Yr wyf yn darllen yn yr astudiaeth achos yn yr adroddiad hwn am y cyfraniad nodedig y mae eco-ysgolion yn ei wneud i gynnal ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn ysgolion yn y Cymoedd, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr, Rhondda Cynon Taf ac yn y blaen. Mae hynny’n dyrchafu dinasyddiaeth y disgyblion hynny. Llwyddiant arall—diolch amdano.

 

As I draw my comments to a close, I want to mention one thing in this report that gives me great encouragement. Years ago I was an environmental volunteer as unpaid chair of Keep Wales Tidy. One of the most wonderful things that I had the privilege of doing was to raise the banner in the first eco-school in Wales—in north-east Wales as it happens. I read in the case study in this report about the notable contribution made by eco-schools in maintaining awareness of environmental matters in schools in the Valleys, Bridgend, Merthyr, Rhondda Cynon Taf and so on. That encourages citizenship among pupils. It is another success, and I am grateful for it.

Mick Antoniw: I have a few comments that I want to add. First, I support the comments made by Mr Simon Thomas in respect of proposals to increase the speed limit on motorways. It is an insane idea and one that can only contribute to pollution and increase the number of road deaths. Any powers that we have to adopt an alternative course—

Mick Antoniw: Mae gennyf rai sylwadau yr hoffwn eu hychwanegu. Yn gyntaf, cefnogaf y sylwadau a wnaed gan Mr Simon Thomas mewn perthynas â’r cynigion i gynyddu terfyn cyflymder ar draffyrdd. Mae'n syniad gwallgof ac yn un a all ond cyfrannu at lygredd a chynyddu nifer y marwolaethau ar y ffyrdd. Unrhyw bwerau sydd gennym i fabwysiadu cwrs amgen—

 

Darren Millar: Thank you for taking this intervention. It is a bit rich of you to criticise that, given that your Government is spending £1.2 million a year on a north-south air link that spews out far more damaging fumes into the environment than an increase in the speed limit ever would.

Darren Millar: Diolch am dderbyn yr ymyriad hwn. Mae ychydig yn hyf i feirniadu hynny, o gofio bod eich Llywodraeth yn gwario £1.2 miliwn y flwyddyn ar gyswllt awyr gogledd-de sy'n poeri allan mygdarth llawer mwy niweidiol i'r amgylchedd na fyddai’r cynnydd yn y terfyn cyflymder.

 

Mick Antoniw: The Government has admitted that its proposal to increase the speed limit on motorways to 80 mph would lead to more pollution and increase the risk of road deaths. It seems to me that if we have the powers to maintain an alternative course, then within our own programme, it seems perfectly sensible that that is what we should do.

Mick Antoniw: Mae'r Llywodraeth wedi cyfaddef y byddai ei chynnig i gynyddu'r terfyn cyflymder ar draffyrdd i 80 mya yn arwain at fwy o lygredd ac yn cynyddu'r perygl o farwolaethau ar y ffyrdd. Mae'n ymddangos i mi, os oes gennym y pwerau i gynnal cwrs arall, yna o fewn ein rhaglen ein hunain, mae'n ymddangos yn gwbl synhwyrol mai dyna y dylem ei wneud.

 

The one area on which I have some concerns regarding what the Minister said—and perhaps he could comment on this—is that the report is very positive, and very honest, in identifying the areas where we are failing and some of the spots that are crucially sensitive for delivery, but I am concerned that the policy does not extend to the areas of major contracts and planning that we are actually involved in and that these are things that we will have to look at, first in terms of procurement and secondly in terms of planning legislation. I will give you two examples. We had a wonderful award of £10.5 million for the regeneration of Pontypridd town centre. That is already beginning to look fantastic and will no doubt make a massive difference. However, the fact of the matter is that, within that procurement, although our own policy includes the objective of purchasing locally, we have no doubt imported thousands of tonnes of Chinese granite to the town. That seems illogical and contradictory when you look at the mechanics of bringing that in. I cannot believe that there are not suitable alternative types of material. Somewhere along the way, it seems that there were failures within the contract system.

Yr un maes y mae gennyf rai pryderon yn ei gylch o ran yr hyn a ddywedodd y Gweinidog—ac efallai y gallai wneud sylwadau ar hyn—yw bod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn, ac yn onest iawn, o ran nodi'r meysydd lle rydym yn methu a  rhai o'r mannau sy’n sensitif o ran eu cyflawni, ond yr wyf yn pryderu nad yw’r polisi yn ymestyn i ardaloedd contractau a chynllunio mawr yr ydym yn ymwneud â hwy a bod y rhain yn bethau y bydd rhaid inni edrych arnynt, yn gyntaf o ran caffael ac yn ail o ran telerau ddeddfwriaeth cynllunio. Rhoddaf ddwy enghraifft i chi. Cawsom ddyfarniad gwych, sef £10.5 miliwn ar gyfer adfywio canol tref Pontypridd. Mae hynny eisoes yn dechrau edrych yn wych a bydd, heb unrhyw amheuaeth, yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Fodd bynnag, y ffaith amdani yw, o fewn y caffael, er bod ein polisi ein hunain yn cynnwys yr amcan o brynu’n lleol, rydym wedi, heb unrhyw amheuaeth, mewnforio miloedd o dunelli o wenithfaen Tseiniaidd i’r dref. Mae hynny’n ymddangos yn afresymegol ac yn anghyson pan edrychwch ar y fecaneg o gyflwyno hynny. Ni allaf gredu nad oes mathau addas eraill o ddeunydd. Rhywle ar hyd y ffordd, mae'n ymddangos bod methiannau yn y system contract.

 

Another example of something massive happening, which, again, is quite exciting economically and which may create lots of jobs and so on, is the proposal for a new town in Talbot Green. In fact, it is not a new town; it is actually just an enormous retail shopping centre. However, it may nevertheless achieve benefits for the local community. There may also be disadvantages. One aspect that concerns me is something on which we may be powerless. Whereas our policy is about reducing the use of cars to access facilities and resources and so on, this development includes a plan for 3,000 car parking spaces. It seems to me that what you will get out of this is a massive development that might tick a whole number of boxes economically and satisfy some of our economic development objectives, but which aims to ensure that thousands of cars will travel a distance to attend a retail site and that does not satisfy our sustainable development objectives. That is aside from the impact on local community retail.

Enghraifft arall o rywbeth enfawr yn digwydd, sydd, unwaith eto, yn eithaf cyffrous yn economaidd ac a allai greu llawer o swyddi ac yn y blaen, yw’r cynnig ar gyfer tref newydd yn Nhonysguboriau. Mewn gwirionedd, nid yw'n dref newydd; mewn gwirionedd canolfan siopa manwerthu enfawr yn unig ydyw. Fodd bynnag, gall, serch hynny, sicrhau manteision i'r gymuned leol. Efallai hefyd y bydd anfanteision. Un agwedd sy'n peri pryder i mi yw rhywbeth y gallwn fod yn ddi-rym yn ei gylch. Tra bod ein polisi yn ymwneud â lleihau'r defnydd o geir i gael mynediad at gyfleusterau ac adnoddau ac yn y blaen, mae’r datblygiad hwn yn cynnwys cynllun ar gyfer 3,000 o lefydd parcio. Mae'n ymddangos i mi mai'r hyn y byddwch yn ei gael allan o hyn yw ddatblygiad enfawr a allai dicio llawer o flychau yn economaidd a bodloni rhai o'n hamcanion datblygu economaidd, ond sy'n ceisio sicrhau y bydd miloedd o geir yn teithio pellter i fynychu safle manwerthu ac nid yw hynny’n bodloni ein hamcanion datblygu cynaliadwy. Mae hynny ar wahân i'r effaith ar fanwerthu yn y gymuned leol.

 

Somewhere along the way, we have to get to grips with the joining up of our planning process, our procurement process and our sustainable development objectives. Somewhere along the way, the connection between these is breaking down. If we can tie those together, we can achieve massive successes. However, at the moment, there seems to be a significant break between these when it comes to mega-scale developments.

Rhywle ar hyd y ffordd, rhaid i ni fynd i'r afael ag uno ein proses gynllunio, ein proses gaffael a’n hamcanion datblygu cynaliadwy. Rhywle ar hyd y ffordd, mai’r cysylltiad rhwng y rhain yn torri i lawr. Os gallwn glymu'r rheini at ei gilydd, gallwn gyflawni llwyddiannau enfawr. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod toriad sylweddol rhwng y rhain pan ddaw i ddatblygiadau ar raddfa enfawr.

 

Rebecca Evans: I was pleased to see reference in the report to the Wales for Africa programme that seeks to support Welsh efforts to help deliver the UN development goals to tackle global poverty. The United Nations has acknowledged that Wales is leading the world by example through our 166 community-based Wales for Africa projects. On the ground, our health projects are providing essential and lifesaving training to healthcare workers in Africa and motorbike ambulances to transport people in the most remote rural areas to the clinics and hospitals. It can be all too easy to be inward-looking in Wales. However, our links with Africa are a clear reminder that we are global citizens and that our actions and choices have repercussions well beyond our own borders.

Rebecca Evans: Yr oeddwn yn falch o weld cyfeiriad yn yr adroddiad at y rhaglen Cymru o blaid Affrica sy'n ceisio cefnogi ymdrechion Cymru i helpu i gyflawni nodau datblygu'r Cenhedloedd Unedig i fynd i'r afael â thlodi byd-eang. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi cydnabod bod Cymru yn arwain y byd drwy esiampl trwy ein 166 prosiect cymunedol ar gyfer prosiectau Cymru o blaid Affrica. Ar lawr gwlad, mae ein prosiectau iechyd yn darparu hyfforddiant hanfodol ac achub bywyd i weithwyr gofal iechyd yn Affrica ac ambiwlansys beic modur i gludo pobl yn yr ardaloedd gwledig mwyaf anghysbell i'r clinigau ac ysbytai. Gall fod yn rhy hawdd i fod yn fewnblyg yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ein cysylltiadau ag Affrica yn ein hatgoffa’n glir ein bod yn ddinasyddion byd-eang a bod ein gweithredoedd a'n penderfyniadau’n cael ôl-effeithiau ymhell y tu hwnt i'n ffiniau ni.

 

For this reason, I wholeheartedly share the Welsh Government’s vision that we should seek to use only our fair share of the world’s resources. We are making some important progress. As the Minister has already stated, overall, since 1980, Welsh greenhouse gas emissions have declined by 23 per cent. However, our reliance on fossil fuels is still concerning. Wales’s industrial sector is very carbon-intensive. I would be grateful if the Minister would further outline how the Welsh Government is working in partnership with industry to help reduce its carbon footprint and how major industrial employers can be encouraged to help their workforces to live and work more sustainably.

Am y rheswm hwn, yr wyf yn llwyr rannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru y dylem geisio defnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau'r byd. Rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd pwysig. Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi’i ddatgan, ar y cyfan, ers 1980, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru wedi gostwng 23 y cant. Fodd bynnag, mae ein dibyniaeth ar danwydd ffosil yn parhau i fod yn bryder. Mae sector diwydiannol Cymru yn ddwys iawn o ran carbon. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn amlinellu ymhellach sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r diwydiant i helpu i leihau ei hôl-troed carbon a sut y gall cyflogwyr mawr diwydiannol cael eu hannog i helpu eu gweithluoedd i fyw a gweithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

 

Of course, there are many things that we can do as individuals to reduce our own carbon footprint, and the Welsh Government has a key role to play in enabling that. We have all taken a small but important step forward this week through the introduction of the carrier bag charge, and levels of household recycling are improving.

Wrth gwrs, mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud fel unigolion i leihau ein hôl-troed carbon ni, ac mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i'w chwarae wrth alluogi hynny. Rydym i gyd wedi cymryd cam bach ond pwysig ymlaen yr wythnos hon drwy gyflwyno'r tâl am fagiau siopa, ac y mae lefelau ailgylchu gwastraff y cartref yn gwella.

 

I am pleased that 12 schools in Pembrokeshire have joined the Bike It project, which gives children the knowledge, skills and confidence to travel by bike. Significantly, the project has been funded by a pooled budget across Government departments, with contributions from the health, transport and environment budgets.

Rwy’n falch bod 12 o ysgolion yn sir Benfro wedi ymuno â'r prosiect Bike It, sy'n rhoi i blant y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i deithio ar feic. Yn arwyddocaol, mae'r prosiect wedi cael ei ariannu gan gyfuno cyllidebau ar draws adrannau’r Llywodraeth, gyda chyfraniadau gan y cyllidebau iechyd, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

 

When it comes to our homes, I welcome the Government’s commitment to continuing to address the barriers to the installation of microgeneration in domestic properties. It is the world’s poorest who will pay most severely if we do not act quickly to address these issues of climate change. The report describes the devastating effect that climate change is already having on Mbale in Uganda, where, last year, heavy rain coupled with deforestation led to mudslides that killed around 300 people from poor farming communities. Work has now begun to plant up to 1 million trees in the region as part of the Size of Wales project. However, this tragedy and many others just like it compel us to redouble our efforts to embed sustainable development in the very core of all we do. I welcome the Welsh Government’s commitment to doing this.

Pan ddaw i’n cartrefi, croesawaf ymrwymiad y Llywodraeth i barhau i fynd i'r afael â'r rhwystrau i osod microgynhyrchu mewn eiddo domestig. Rhai tlotaf y byd a fydd yn talu fwyaf os nad ydym yn gweithredu'n gyflym i fynd i'r afael â'r materion hyn o newid yn yr hinsawdd. Mae'r adroddiad yn disgrifio’r effaith ddinistriol a gafodd newid yn yr hinsawdd eisoes ar Mbale yn Uganda, lle, y llynedd, roedd glaw trwm, ynghyd â datgoedwigo, wedi arwain at lithriadau mwd a laddodd tua 300 o bobl o gymunedau ffermio tlawd. Mae gwaith bellach wedi dechrau i blannu hyd at 1 miliwn o goed yn y rhanbarth fel rhan o brosiect Maint Cymru. Fodd bynnag, mae’r drasiedi hon a llawer tebyg yn ein gorfodi i ddyblu ein hymdrechion i roi datblygu cynaliadwy wrth graidd popeth a wnawn. Yr wyf yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn.

 

5.15 p.m.

 

Vaughan Gething: I welcome the opportunity to speak in this debate, particularly as it is accompanied not only by a Government report, but commentary from the sustainable futures commissioner that recognises the progress that the Government has made. Importantly, for me, it is a balanced report with some praise but also some criticism and notes for improvement. That sort of objective analysis is to welcomed, both for scrutiny of the Government and for an honest refresh for us all about how much progress we are making as a body and as a Government. The report highlighted a number of areas where progress has been made and highlighted some of that best practice. However, I agree with the points made by Julie James and Mick Antoniw about the potential to do even more in our public procurement on a whole range of issues, including embedding sustainable development as a real and living practice, not just an eventual endgame.

Vaughan Gething: Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl hon, yn enwedig gan ei fod yn cyd-fynd, nid yn unig gydag adroddiad y Llywodraeth, ond sylwadau gan y comisiynydd dyfodol cynaliadwy sy’n cydnabod y cynnydd y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud.  Yn bwysig, i mi, mae’n adroddiad cytbwys gyda rhywfaint o ganmoliaeth, ond hefyd rhywfaint o feirniadaeth a nodiadau ar gyfer gwella. Mae’r math hwnnw o ddadansoddiad gwrthrychol i’w groesawu, o ran craffu ar y Llywodraeth ac o ran atgoffâd onest i ni i gyd am faint o gynnydd yr ydym yn ei wneud fel corff ac fel Llywodraeth. Tynnodd yr adroddiad sylw at nifer o feysydd lle mae cynnydd wedi cael ei wneud ac yn tynnu sylw at rai o’r arferion gorau. Fodd bynnag, cytunaf â’r pwyntiau a wnaed gan Julie James a Mick Antoniw ynghylch y potensial i wneud mwy fyth yn ein caffael cyhoeddus ar ystod eang o faterion, gan gynnwys ymgorffori datblygu cynaliadwy fel arfer real a byw ac nid dim ond pen draw’r daith.

 

I am particularly pleased to see that there has been more progress on recycling and composting. I remember, when I was really a young man, that Wales and the rest of the United Kingdom were particularly poor at recycling and composting. I had a number of friends in jobs that I did, particularly in the catering industry, who were from Australia and New Zealand and were amazed at people’s attitudes, even a few decades ago, to recycling and composting. They could not believe how much we threw away and said that we were creating a big problem for ourselves. Now, we realise that it was all true. I am pleased to note that recycling rates have now gone up to an average rate of 48 per cent this year, with a number of local authorities improving significantly. However, I am disappointed that my own local authorities of Cardiff and the Vale of Glamorgan are disappointingly below average. It is important that the Welsh Government continues to provide leadership and incentives, as well as markers to where those local authorities do not meet their own targets.

Yr wyf yn arbennig o falch o weld y bu mwy o gynnydd ar ailgylchu a chompostio. Yr wyf yn cofio, pan oeddwn yn ddyn ifanc, bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn arbennig o wael yn ailgylchu a chompostio. Roedd gennyf nifer o ffrindiau mewn swyddi a wneuthum, yn enwedig yn y diwydiant arlwyo, a oedd yn dod o Awstralia a Seland Newydd ac yn rhyfeddu at agweddau pobl, hyd yn oed ychydig ddegawdau yn ôl, at ailgylchu a chompostio. Ni allent gredu faint yr oeddem yn taflu i ffwrdd ac roeddent yn dweud ein bod yn creu problem fawr i’n hunain. Nawr, rydym yn sylweddoli fod y cyfan yn wir. Yr wyf yn falch o nodi bod cyfraddau ailgylchu bellach wedi codi i gyfradd gyfartalog o 48 y cant eleni, gyda nifer o awdurdodau lleol yn gwella yn sylweddol. Fodd bynnag, yr wyf yn siomedig bod fy awdurdodau lleol i, sef Caerdydd a Bro Morgannwg, yn siomedig yn is na’r cyfartaledd. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu arweinyddiaeth a chymhellion, yn ogystal â marcwyr o ran lle nad yw’r awdurdodau lleol hynny’n bodloni eu targedau eu hunain.

 

 

I am also delighted to see that the Welsh Government is promoting and encouraging a push to greater use of anaerobic digestion. The First Minister recently opened a significant facility in my own constituency in Tremorfa that will, after capital investment, go on to save a significant amount of money in power generation, and produce an appreciably better form of low-carbon energy production. That is to be encouraged throughout the rest of Wales, as it is much more commonplace in other parts of Europe. It is disappointing to note that, in contrast, the Department for Environment, Food and Rural Affairs, after the current Cameron administration came in, ditched seven significant anaerobic digestion projects, which would have produced much cleaner and more efficient energy production, including one project just over the border in Cheshire for which they got down to the final two bidders. 

Rwyf wrth fy modd o weld bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ac yn annog ymdrech i wneud mwy o ddefnydd o dreulio anaerobig hefyd. Yn ddiweddar, agorodd y Prif Weinidog cyfleuster sylweddol yn fy etholaeth i yn Nhremorfa a fydd, ar ôl buddsoddiad cyfalaf, yn mynd ymlaen i arbed swm sylweddol o arian o ran cynhyrchu ynni, ac yn cynhyrchu ynni carbon-isel mewn ffordd sylweddol well. Mae hynny i’w hannog ledled gweddill Cymru, gan ei fod yn llawer mwy cyffredin mewn rhannau eraill o Ewrop. Mae’n siomedig nodi, mewn cyferbyniad, bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ar ôl dyfodiad gweinyddiaeth bresennol Cameron, wedi gwaredu ar saith prosiect treuliad anaerobig sylweddol, a fyddai wedi cynhyrchu ynni llawer glanach a mwy effeithlon, gan gynnwys un prosiect ychydig dros y ffin yn Swydd Gaer yr oedd ddau gynigydd terfynol ar ei gyfer. 

 

One of the committees on which I sit is looking at energy policy and planning and how we need to try to do more to promote renewable energy, as well as some of the more political points about how we actually try to devolve and make sense of the consents regime and planning policy. Within that, I hope that we will have some more time to talk about Severn tidal power. One of my continuing disappointments is the way in which the UK Government, at an early stage, decided to end the feasibility study there. I know that a number of people in the private sector are still interested in how we might make use of power from the Severn. It is important that that continues. I hope that, with the encouragement that Welsh Government Ministers have given for those projects to continue, those discussions will continue. We all know that, with the potential to produce at least 5 per cent of the UK’s energy needs—equivalent to two nuclear power stations—gaining power from the Severn is not an option, but a matter of when, not if. The sooner that we encourage people to do that, the better for us. There are obviously environmental concerns about any form of power production, but I am pleased to see that our Government is moving in the right direction in Wales.

Y mae un o’r pwyllgorau yr wyf yn eistedd arno yn edrych ar bolisi ynni a chynllunio, a sut y mae angen i ni geisio gwneud mwy i hyrwyddo ynni adnewyddadwy, yn ogystal â rhai o’r pwyntiau mwy gwleidyddol am sut rydym mewn gwirionedd yn ceisio datganoli a gwneud synnwyr o’r gyfundrefn caniatadau a’r polisi cynllunio. O fewn hynny, yr wyf yn gobeithio y bydd gennym ychydig mwy o amser i siarad am ynni’r llanw ar afon Hafren. Un o’m siomedigaethau parhaus yw’r ffordd y penderfynodd Llywodraeth y DU, yn gynnar, i roi terfyn ar yr astudiaeth ddichonoldeb yno. Gwn fod nifer o bobl yn y sector preifat yn dal i fod â diddordeb mewn sut y gallem ddefnyddio’r pŵer o’r afon Hafren. Mae’n bwysig bod hynny’n parhau. Yr wyf yn gobeithio y bydd y trafodaethau hynny, gyda’r anogaeth a roddwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru i’r prosiectau hynny barhau, yn parhau. Rydym i gyd yn gwybod, gyda’r potensial i gynhyrchu o leiaf 5 y cant o anghenion ynni Prydain—cyfwerth â dwy orsaf pŵer niwclear—nad yw ennill ynni o afon Hafren yn opsiwn, ond yn fater o bryd, nid os. Gorau po gyntaf ein bod yn annog pobl i wneud hynny, i ni i gyd. Ceir pryderon amgylcheddol amlwg ynghylch unrhyw fath o gynhyrchu pŵer, ond yr wyf yn falch o weld bod ein Llywodraeth yn symud i’r cyfeiriad cywir yng Nghymru.

 

There is a real contrast, of course. I spoke earlier about the sustainable futures commissioner providing objective and, at times, critical analysis of what this Government is doing, and that is perfectly right. It is not just disappointing that the UK Government withdrew funding for the Sustainable Development Commission, but it tells you just how honest and real the boast was that the UK Government would be the greenest in history. So, I am pleased with the comments that have been made on the sustainable futures commissioner. I welcome the fact that the Government has already indicated that it will address the concerns that have been raised with that action plan. I believe that the progress is genuine and worthwhile and I look forward to hearing of more progress in a more consistent manner over the years to come.

Mae cyferbyniad go iawn, wrth gwrs. Siaradais yn gynharach am y comisiynydd dyfodol cynaliadwy sy’n darparu dadansoddiad gwrthrychol ac, ar adegau, beirniadol o’r hyn y mae’r Llywodraeth hon yn ei wneud, ac mae hynny’n berffaith gywir. Nid yn unig ydyw’n siomedig bod Llywodraeth y DU wedi tynnu cyllid ar gyfer y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, ond mae’n dweud wrthych yn union pa mor onest a real oedd y brolio mai Llywodraeth y DU fyddai’r mwyaf gwyrdd mewn hanes. Felly, yr wyf yn falch â’r sylwadau a wnaed ar y comisiynydd dyfodol cynaliadwy. Croesawaf y ffaith fod y Llywodraeth eisoes wedi nodi y bydd yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd o ran y cynllun gweithredu hwnnw. Credaf fod y cynnydd yn ddilys ac yn werth chweil, ac edrychaf ymlaen at glywed am fwy o gynnydd mewn modd mwy cyson dros y blynyddoedd i ddod.

 

Ann Jones: I want to look at page 9 and page 14 of the report and then come back to page 6. I am sorry if that is a bit wrong, but it is the only way that I will fit this in.

 

Ann Jones: Yr wyf am edrych ar dudalen 9 a thudalen 14 o’r adroddiad ac wedyn dod yn ôl at dudalen 6. Mae’n ddrwg gennyf os mai ychydig yn anghywir, ond dyna’r unig ffordd y gallaf gynnwys hwn.

 

Page 9 talks about wellbeing and page 14 is about housing. If houses were now being built with sprinklers fitted, as they should under legislation passed in the last Assembly, the sustainability element resulting from that means that you will never have to rebuild a home. The sustainability resulting from preventing someone’s home from being burned down means that there is less of an impact on social services’ emergency budgets and less of an impact on the health service because fewer people will suffer serious burns. Therefore, that has to be better for the public purse.

 

Mae tudalen 9 yn sôn am les a thudalen 14 yn ymwneud â thai. Pe bai tai bellach yn cael eu hadeiladu gyda systemau chwistrellu, fel y dylent o dan ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Cynulliad diwethaf, byddai’r elfen cynaliadwyedd yn deillio o hynny yn golygu na fyddai rhaid i chi ail-adeiladu cartrefi. Mae cynaliadwyedd yn deillio o atal cartref rhywun rhag cael ei losgi i lawr yn golygu bod llai o effaith ar gyllidebau argyfwng gwasanaethau cymdeithasol a llai o effaith ar y gwasanaeth iechyd gan y bydd llai o bobl yn dioddef llosgiadau difrifol. Felly, rhaid i hynny fod yn well ar gyfer y pwrs cyhoeddus.

 

As to the impact on the environment, the amount of contaminated water is reduced greatly with the use of sprinklers. Our friends in the fire service will turn up and pump 3,209 gallons at a fire as opposed to the 209 gallons used by a sprinkler system. That means that there is a great reduction in the amount of contaminated water going down the drains.

 

O ran yr effaith ar yr amgylchedd, gostyngir y swm o ddŵr wedi’i halogi yn sylweddol drwy ddefnyddio systemau chwistrellu. Bydd ein cyfeillion yn y gwasanaeth tân yn troi i fyny a phwmpio 3,209 galwyn at y tân yn hytrach na’r 209 galwyn a ddefnyddir gan system chwistrellu. Mae hynny’n golygu bod gostyngiad mawr yn y swm o ddŵr wedi’i halogi sy’n mynd i lawr y draeniau.

 

On page 6 of your report, you state that

 

Ar dudalen 6 eich adroddiad, yr ydych yn dweud bod

 

‘Previous effectiveness reviews of the Sustainable Development Scheme have highlighted the pride felt by politicians of all parties and civil servants in Wales’ sustainable development duty.’

 

Adolygiadau effeithiolrwydd blaenorol y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi tynnu sylw at y balchder a deimlir gan wleidyddion o bob plaid a gweision sifil yn nyletswydd datblygu cynaliadwy Cymru.

 

Imagine your pride when you sign the regulations to allow sprinklers to be fitted in all new homes. Imagine your pride when, sooner, rather than later, you know that you have put pen to paper to ensure that no-one will die needlessly in a fire in Wales because, in Wales, I hope, homes will be built next year with sprinklers fitted.

 

Dychmygwch eich balchder pan fyddwch yn llofnodi’r rheoliadau i ganiatáu i systemau chwistrellu gael eu gosod ym mhob cartref newydd. Dychmygwch eich balchder pan, yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, y byddwch yn gwybod eich bod wedi rhoi pen i bapur er mwyn sicrhau na fydd unrhyw un yn marw yn ddiangen mewn tân yng Nghymru oherwydd, yng Nghymru, rwy’n gobeithio, bydd cartrefi yn cael eu hadeiladu y flwyddyn nesaf gyda systemau chwistrellu wedi’u gosod.

 

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I am very grateful to the Members who have contributed to today’s debate. We continue to see widespread support across the political parties for our commitment in Wales to sustainable development. It is clear to me that that support remains in place.

 

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Yr wyf yn ddiolchgar iawn i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Rydym yn parhau i weld cefnogaeth eang ar draws y pleidiau gwleidyddol ar gyfer ein hymrwymiad yng Nghymru i ddatblygu cynaliadwy. Mae’n amlwg i mi fod y gefnogaeth honno’n parhau i fod mewn grym.

 

We are clear, as a Government, that sustainable development is our central organising principle. I take on board what Members have said regarding the need to continue to work to ensure that that is consistently the case. I was very pleased that the First Minister confirmed this in his foreword to the programme for government, and sustainable development is threaded throughout that document.

 

Rydym yn glir, fel Llywodraeth, mai datblygu cynaliadwy yw ein prif egwyddor drefniadol. Yr wyf yn derbyn yr hyn y mae Aelodau wedi’i ddweud ynghylch yr angen i barhau i weithio i sicrhau bod hynny’n gyson wir. Roeddwn yn falch iawn bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau hyn yn ei rhagair i’r rhaglen lywodraethu, ac y mae datblygu cynaliadwy yn treiddio trwy’r ddogfen honno.

 

A number of issues have been raised by Members, and it may not be possible to deal with them all in the time available, but I will certainly attempt to do so. A number of Members raised issues relating to procurement, which is a very important matter in relation to Government activity and activity in the wider public sector in Wales. Value Wales has been clear in stating the degree of importance that it attached to sustainable development in relation to procurement policy. Procurement tools and principles embody sustainable development principles. Therefore, that is a very good platform on which to build. In addition, the sustainable procurement action framework, which was mentioned by Members, is very important in ensuring that we get the sort of policy that we need and which Members have called for. 

Mae nifer o faterion wedi cael eu codi gan Aelodau, ac efallai na fydd yn bosibl i ddelio â nhw i gyd yn yr amser sydd ar gael, ond byddaf yn sicr yn ceisio gwneud hynny. Mae nifer o Aelodau yn codi materion yn ymwneud â chaffael, sy’n fater pwysig iawn mewn perthynas â gweithgarwch y Llywodraeth a gweithgarwch yn y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae Gwerth Cymru wedi bod yn glir yn datgan y radd o bwysigrwydd y mae’n ei gysylltu â datblygu cynaliadwy mewn perthynas â pholisi caffael. Y mae offer ac egwyddorion caffael yn ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy. Felly, mae hynny’n sylfaen dda iawn i adeiladu arni. Yn ogystal, mae’r fframwaith gweithredu caffael cynaliadwy, a grybwyllwyd gan yr Aelodau, yn bwysig iawn o ran sicrhau ein bod yn cael y math o bolisi y mae ei angen arnom ac y mae’r Aelodau wedi galw amdano.

 

Our sustainable development charter encourages organisations in Wales to sign up to make sustainable development a central commitment. A good range of organisations has signed up, and these number over 100. We are linking that charter with the sustainable procurement action framework. In order to get to level 3 on that framework, there will be a requirement to be a part of the charter. Therefore, we are trying to make important links in order to recognise the importance of procurement. I agree that it is an important part of this agenda.

 

Mae ein siarter datblygu cynaliadwy yn annog sefydliadau yng Nghymru i ymrwymo i wneud datblygu cynaliadwy yn ymrwymiad canolog. Mae ystod dda o sefydliadau wedi ymuno, ac mae’r nifer dros 100. Rydym yn cysylltu’r siarter hwnnw â’r fframwaith gweithredu caffael cynaliadwy. Er mwyn cyrraedd lefel 3 ar y fframwaith hwnnw, bydd yn ofynnol i fod yn rhan o’r siarter. Felly, rydym yn ceisio gwneud cysylltiadau pwysig er mwyn cydnabod pwysigrwydd caffael. Cytunaf ei bod yn rhan bwysig o’r agenda hon.

 

William Powell was very kind to mention Jane Davidson as being widely recognised for the work that she did as the Minister for the environment. That recognition was well deserved and Jane is very well regarded, not just in Wales, but further afield. Therefore, I thank you for those comments.

 

Roedd William Powell yn garedig iawn i sôn am Jane Davidson yn cael ei chydnabod yn eang am y gwaith a wnaeth fel y Gweinidog amgylchedd. Roedd y  gydnabyddiaeth hynny’n haeddiannol ac y mae parch mawr tuag at Jane, nid yn unig yng Nghymru, ond yn bellach i ffwrdd. Felly, yr wyf yn diolch i chi am y sylwadau hynny.

 

William and others mentioned greenhouse gas emissions and the fact that, for the period covered by the report, we saw those emissions as an indicator that there had been deterioration. As I said in my opening speech, it is pleasing that we saw a 14 per cent reduction in the following year, but for the particular year covered it was a deteriorating indicator. Much of that was attributable to the reactivation of Aberthaw coal-fired power station. That puts it into some context. However, we must continue to make progress in driving down emissions.

 

Soniodd William ac eraill am allyriadau nwyon tŷ gwydr a’r ffaith, ar gyfer y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad, y gwelsom yr allyriadau hynny fel dangosydd y bu dirywiad. Fel y dywedais yn fy araith agoriadol, mae’n braf ein bod yn gweld gostyngiad o 14 y cant yn y flwyddyn ganlynol, ond ar gyfer y flwyddyn benodol dan sylw, yr oedd yn ddangosydd a oedd yn dangos dirywiad. Roedd llawer o hynny i’w briodoli i ail-gynnu gorsaf bŵer glo Aberddawan. Mae hynny’n ei rhoi mewn rhywfaint o gyd-destun. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni barhau i wneud cynnydd o ran lleihau allyriadau.

 

I was also pleased that William mentioned Presteigne and Norton, which I was pleased to visit, and which are showing a great example. Their engagement with the community and the buy-in that they have from local people in terms of driving forward recycling is impressive. That is why they have reached 70 per cent plus in terms of household waste recycling.

 

Roeddwn hefyd yn falch bod William wedi crybwyll Llanandras a Norton, yr oeddwn yn falch o ymweld â nhw, ac sy’n dangos enghraifft wych. Mae eu hymwneud â’r gymuned a’r ymrwymiad gan bobl leol o ran gyrru ymlaen ailgylchu yn drawiadol. Dyna pam y maent wedi cyrraedd 70 y cant a mwy o ran ailgylchu gwastraff y cartref.

 

A number of Members mentioned UK Government policy, and it is always tempting to make comparisons with other parts of the UK. I share the concerns mentioned. For example, the money that has been made available for weekly collections of landfill waste will not help the UK recycling rate, and we are already well in advance of where it currently stands. The abolition of the Sustainable Development Commission was a retrograde step, sending entirely the wrong signal. The idea of raising the motorway speed limit to 80mph also raises great environmental concerns. Therefore, if you look at the examples that Members mentioned and other matters, the boast of being the greenest ever UK Government does not hold water.    

 

Soniodd nifer o Aelodau am bolisi Llywodraeth y DU, ac mae bob amser yn demtasiwn i wneud cymariaethau â rhannau eraill o’r DU. Rhannaf y pryderon a grybwyllwyd. Er enghraifft, ni fydd yr arian sydd ar gael ar gyfer casgliadau wythnosol o wastraff tirlenwi yn helpu’r gyfradd ailgylchu yn y DU, ac yr ydym eisoes ymhell o flaen lle mae ar hyn o bryd. Mae diddymu’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn gam yn ôl, gan anfon y signal anghywir yn gyfan gwbl. Mae’r syniad o godi’r terfyn cyflymder i 80 mya draffordd hefyd yn codi pryderon amgylcheddol mawr. Felly, os edrychwch ar yr enghreifftiau y mae Aelodau wedi’u crybwyll a materion eraill, nid yw’r brolio mai Llywodraeth y DU yw’r mwyaf gwyrdd erioed yn dal dŵr.      

 

On the worldwide challenges that Dafydd Elis-Thomas and Rebecca Evans mentioned, we have done some important things in Wales on sustainable development. Among those are our programme for Africa and our membership of networks such as the Network of Regional Governments for Sustainable Development. So, we are playing our part in international efforts to deal with the challenges of climate change, and I agree that that shows us in a positive light, as we are reaching out to the rest of the world in understanding the challenges of climate change, and being part of the effort to tackle them.

 

Ar yr heriau byd-eang a grybwyllwyd gan Dafydd Elis-Thomas a Rebecca Evans, rydym wedi gwneud rhai pethau pwysig yng Nghymru ar ddatblygu cynaliadwy. Ymhlith y rhain mae ein rhaglen ar gyfer Affrica a’n haelodaeth o rwydweithiau megis Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy. Felly, yr ydym yn chwarae ein rhan mewn ymdrechion rhyngwladol i fynd i’r afael â heriau newid yn yr hinsawdd, ac yr wyf yn cytuno bod hynny’n rhoi darlun ffafriol ohonom, gan ein bod yn estyn allan at weddill y byd o ran deall yr heriau newid yn yr hinsawdd, a bod yn rhan o’r ymdrech i fynd i’r afael â hwy.

 

Emissions from industry are an issue, as I mentioned earlier, and the Carbon Trust and EU directives are useful in driving necessary progress. That will be a big part of future policy in Wales.

Mae allyriadau o ddiwydiant yn broblem, fel y soniais yn gynharach, ac y mae’r Ymddiriedolaeth Garbon a’r cyfarwyddebau UE yn ddefnyddiol i yrru cynnydd angenrheidiol. Bydd hynny’n rhan fawr o bolisi yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Finally, on the points raised, Ann Jones mentioned the advantages of fire sprinklers in new homes in terms of sustainable development. As Ann knows, work is ongoing in the Welsh Government on this matter. I understand your need to see urgent progress.

Yn olaf, ar y pwyntiau a godwyd, soniodd Ann Jones am fanteision systemau chwistrellu mewn cartrefi newydd o ran datblygu cynaliadwy. Fel y gŵyr Ann, mae gwaith yn mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Yr wyf yn deall eich angen i weld cynnydd ar frys.

 

Members also mentioned the effectiveness review. We are clear about the scale of our ambition to make Wales a truly sustainable nation, and the annual report will be part of the evidence that feeds into that statutory review of effectiveness. A number of Members mentioned that we do have an independent commentary and an honest assessment of where we are, and that is very much the spirit with which we will continue. 

 

Soniodd Aelodau hefyd am yr adolygiad effeithiolrwydd. Yr ydym yn glir ynghylch maint ein huchelgais i wneud Cymru yn genedl wirioneddol gynaliadwy, a bydd yr adroddiad blynyddol yn rhan o’r dystiolaeth sy’n bwydo i mewn i’r adolygiad statudol o effeithiolrwydd. Soniodd nifer o Aelodau bod gennym sylwebaeth annibynnol ac asesiad gonest o le’r ydym, a byddwn yn parhau yn yr ysbryd hwnnw.

 

Members also mentioned the sustainable development Bill. It is important that we proceed with it in a timely way, but it is also important that we get it right and that we allow for a wide feeding in to the process. That is why we have the timetable that we have set out.

 

Soniodd Aelodau hefyd am y Bil datblygu cynaliadwy. Mae’n bwysig ein bod yn bwrw ymlaen ag ef mewn ffordd amserol, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn ei gael yn iawn a’n bod yn caniatáu proses eang o fwydo i mewn iddo. Dyna pam y mae gennym yr amserlen yr ydym wedi’i osod allan.

 

In conclusion, I am grateful to Members for their largely—

 

I gloi, yr wyf yn ddiolchgar i’r Aelodau am eu—

 

Lord Elis-Thomas: Just for further confirmation as to the nature of the Bill, the whole point about the timescale is that it allows time for pre-legislative scrutiny, not just by the Assembly but also by the people of Wales and wider, is it not?

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Er mwyn cael cadarnhad pellach ynghylch natur y Bil, yr holl bwynt ynghylch yr amserlen yw ei fod yn rhoi amser ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu, nid yn unig gan y Cynulliad ond hefyd gan bobl Cymru ac yn ehangach, onid ydyw?

 

John Griffiths: Absolutely, and when I was in my previous position as Counsel General, I was keen to do some work to ensure that we take that approach to legislation here with our new powers following the referendum. We very much want to open up the process of government and I think that is a very healthy thing indeed.

John Griffiths: Yn hollol, a phan oeddwn yn fy swydd flaenorol fel Cwnsler Cyffredinol, yr oeddwn yn awyddus i wneud ychydig o waith i sicrhau ein bod yn cymryd y dull hwnnw o ddeddfu yma gyda’n pwerau newydd yn dilyn y refferendwm. Rydym yn awyddus iawn i agor y broses o lywodraeth a chredaf fod hynny’n beth iach iawn yn wir.

 

5.30 p.m.

 

As I said, I am grateful to Members for their largely positive contributions. We will continue to promote sustainable development in all that we do. It provides the best path to develop Wales as a nation and to provide for the economic, social and environmental wellbeing of our people now and into the future.

 

Fel y dywedais, yr wyf yn ddiolchgar i’r Aelodau am eu cyfraniadau cadarnhaol ar y cyfan. Byddwn yn parhau i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wnawn. Mae’n darparu’r llwybr gorau i ddatblygu Cymru fel cenedl ac i ddarparu ar gyfer lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein pobl yn awr ac yn y dyfodol.

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree amendment 1. Is there any objection? I see that there is. Therefore, voting on this item will be deferred until voting time. Do three Members want the bell to be rung? I see that no-one does, so we will proceed to voting time.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cwestiwn yw a ddylid cytuno gwelliant 1. A oes gwrthwynebiad? Gwelaf fod. Felly, gohirir pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. A oes tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu? Gwelaf nad oes, felly symudwn ymlaen at y cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

 

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

 

Gwelliant 1 i NDM4813: O blaid 15, Ymatal 0, Yn erbyn 38.
Amendment 1 to NDM4813: For 15, Abstain 0, Against 38.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Paul
Drakeford, Mark
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 2 i NDM4813: O blaid 15, Ymatal 0, Yn erbyn 38.
Amendment 2 to NDM4813: For 15, Abstain 0, Against 38.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Paul
Drakeford, Mark
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 3 i NDM4813: O blaid 15, Ymatal 0, Yn erbyn 38.
Amendment 3 to NDM4813: For 15, Abstain 0, Against 38.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Paul
Drakeford, Mark
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 4 i NDM4813: O blaid 43, Ymatal 0, Yn erbyn 10.
Amendment 4 to NDM4813: For 43, Abstain 0, Against 10.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Andrew R.T.
Davies, Keith
Davies, Paul
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce
Williams, Kirsty

Davies, Jocelyn
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Gruffydd, Llyr Huws
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Gwelliant 5 i NDM4813: O blaid 13, Ymatal 1, Yn erbyn 39.
Amendment 5 to NDM4813: For 13, Abstain 1, Against 39.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Paul
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Ymataliodd yr Aelod canlynol:
The following Member abstained:

 

 

Millar, Darren

 

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 6 i NDM4813: O blaid 13, Ymatal 0, Yn erbyn 39.
Amendment 6 to NDM4813: For 13, Abstain 0, Against 39.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Paul
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 7 i NDM4813: O blaid 14, Ymatal 0, Yn erbyn 39.
Amendment 7 to NDM4813: For 14, Abstain 0, Against 39.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Paul
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 8 i NDM4813: O blaid 43, Ymatal 0, Yn erbyn 10.
Amendment 8 to NDM4813: For 43, Abstain 0, Against 10.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Andrew R.T.
Davies, Keith
Davies, Paul
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce
Williams, Kirsty

Davies, Jocelyn
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Gruffydd, Llyr Huws
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Cynnig NDM4813 fel y’i diwygiwyd:

 

Motion NDM4813 as amended:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar ddatblygu cynaliadwy yn 2010-11, fel y nodir yn Adroddiad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Medi 2011.

Notes the progress made on sustainable development in 2010-11, as set out in the Welsh Government’s Annual Report of the Sustainable Development Scheme, which was laid before the National Assembly for Wales on 22 September 2011.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adroddiad Blynyddol gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Cynnal Cymru.

 

Calls on the Welsh Government to implement fully the recommendations made in the Annual Report by the Commissioner for Sustainable Futures and Cynnal Cymru.

Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol tuag at dargedau ailgylchu.

 

Welcomes the progress made by local authorities towards recycling targets.

 

Cynnig NDM4813 fel y’i diwygiwyd: O blaid 53, Ymatal 0, Yn erbyn 0.

Motion NDM4813 as amended: For 53, Abstain 0, Against 0.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Andrew R.T.
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Davies, Paul
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

 

 

Derbyniwyd cynnig NDM4813 fel y’i diwygiwyd.
Motion NDM4813 as amended agreed.

 

Y Dirprwy Lywydd: Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw.

The Deputy Presiding Officer: That concludes our proceedings for today.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.33 p.m.
The meeting ended at 5.33 p.m.

 

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

 

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)
Antoniw, Mick (Llafur – Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur – Labour)
Chapman, Christine (Llafur – Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)
Davies, Alun (Llafur – Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur – Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur – Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur – Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur – Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur – Labour)
Griffiths, John (Llafur – Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur – Labour)
Hedges, Mike (Llafur – Labour)
Hutt, Jane (Llafur – Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur – Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur – Labour)
Jones, Carwyn (Llafur – Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur – Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur – Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur – Labour)
Neagle, Lynne (Llafur – Labour)

Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur – Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur – Labour)
Rees, David (Llafur – Labour)

Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur – Labour)
Skates, Kenneth (Llafur – Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur – Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Williams, Kirsty
(Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)